TEITHI CYMRO YN Y DWYRAIN CANOL A PHELL ~
Sgwrs a ddaeth i'r fei o waith y diweddar John Watkins
PAN oeddwn i'n ifanc ac yn fy nyddiau gwyrddion (ys dywedodd Shakespeare), ond pan nad oeddwn i cyn wynned â'r carlwm chwaith, fe es i astudio'r ieithoedd modern yn y Coleg ar y Bryn ym Mangor. Ffrangeg ac Almaeneg oedd fy mhrif bynciau, gyda Saesneg ac Athroniaeth fel rhyw fath o atodiad parchus.
Yr Athro Osbert Henry Fynes-Clinton oedd yr Athro Ffrangeg ym Mangor bryd hynny, ac mi ges i'r fraint fawr o fod yn ei ddosbarth Anrhydedd olaf yn ystod y tair blynedd o 1934 hyd 1937.
Fe gefais lwc fawr hefyd, sef gradd Anrhydedd yn y dosbarth cyntaf. Ym Mhenybanc, Rhydaman y ces i fy ngeni a'm magu, a brawd i bobol oedd yn gweithio yng nglofeydd y glo caled oeddwn i, a'm tad a'm brodyr yn gweithio yng ngwaith Pantyffynnon, ger Rhydaman.
Roedd yna gymeriadau diddorol yn byw yn y pentre a'r cyffiniau bryd hynny, pobol ag iddyn nhw lysenwau rhyfeddol – e.e. Magi a Rwthi tŷ top, Wil Bigit ('bigitio' yn ein tafodiaith ni yw 'cythruddo, cyffroi'); Wil y Gof, mab i Dan y Gof, Sami Cwmfferws, Meri Anna Dan (Dan oedd enw ei thad hi), Dai Loshin ('loshin' yw 'sweets' neu 'da-da'), a hyd yn oed Sioni Cachwr.
Fe ddarganfu Sioni mai'r ffordd ore i gael cnwd da o lysiau yn ei 'allotment' oedd y ffordd Sineaidd, sef casglu tail pobol y pentre a'i daenu ar y cae. Does dim eisiau dweud wrthych fod Sioni'n cael cnwd ardderchog o lysiau blasus bob blwyddyn, fel y cloc.
Ar ôl cael fy ngradd yn 1937 fe ddilynais gyrsiau ym Mangor er mwyn cael trwydded yn 'The Theory and Practice of Education' (Theori ac ymarfer dysgu mewn ysgolion). Dadi Archer oedd Deon Cyfadran y Celfyddydau bryd hynny – dyn rhyfeddol gyda 'glass eye'. Ei unig ddiddordeb oedd rygbi a chathod.
E. T. Davies (mae canmlwyddiant ei eni wedi ei ddathlu) oedd y dyn a ddysgodd i mi'r 'Theory and Practice of Music'; E.T. Davies, cyfansoddwr 'Ynys y Plant' a llawer o ddarnau enwog eraill.
***
OND FE ddaeth yr Ail Ryfel Byd yn 1939, a finne'n gwneud ymchwil yn y Ffrangeg ym Mharis ar y pryd, ymchwil ar ryw lenor o'r bymthegfed ganrif na wydde neb fawr amdano – `Michault Taillevent, poete bourguignon du 15e siècle' (Michault Taillevent, bardd o Fwrgwyn).
Ces lwc ryfeddol a darganfod stwff diddorol i'w ryfeddu, stwff newydd sbon yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Llundain, yn y Bibliothèque Nationale Paris, ac yn y Bibliothèque de l'Arsenal Paris hefyd. Ond rhaid oedd dod yn ôl i Gymru a pharatoi ar gyfer cael fy ngalw i'r Lluoedd Arfog.
Ces y notis yn 1940 a gorchymyn i fynd i ymuno â'r 145 Field Regiment, Royal Artillery, neu'r Berkshire Yeomanry (jockies o Epsom oedd y rhan fwyaf o'r bechgyn), yn y Rhyl o bob man, i letya yn y Rhyl o bob man, i letya yn `chalets' y Sunnyvale Camp bondigrybwyll.
Roedd gaeaf 1940 yn un ofnadwy ac roedd hi'n sgyfyllus o ôr (fel y bydd pobol Dyffryn Aman yn ei ddweud).
Fe ddanfonwyd y gatrawd o'r Rhyl i Antrim (yng Ngogledd Iwerddon, lle bu 'na gymaint o helynt yn ein dyddiau ni), ac oddiyno ces orchymyn i fynd i Lundain er mwyn cael cyfweliad. Pwrpas y cyfweliad oedd dewis dynion ifainc i fynd ar gwrs mewn Siapaneg yn yr S.A.O.S. (School of African and Oriental Languages in the University of London).
Rhyfedd yw ffyrdd y Lluoedd Arfog Prydeinig! Gan fod gen i radd mewn Ffrangeg ac Almaeneg fe'm dewiswyd i ddysgu Siapaneg, a dyna sut y cefais gyfle i fynd i Lundain ac wedyn i'r Dwyrain Canol a'r Dwyrain Pell, i Alexandria, Bombay, Delhi, Bwrma, Malaia, Swmatra, ac ati.
'Six feet of earth will make us all the same', medd cymdoges i mi – Mrs Glynne Owen a fu dair gwaith yn Faeres Bangor. Diolch i'r drefn, fe ddes i'n ôl o faes y gad heb nam ar fy nghorff ac eithrio fy mod i o hyd yn cael pwl o wynegon – canlyniad y cysgu ar ddaear wlyb Gogledd Iwerddon.
Mae gen i gofion dwys am y bechgyn o Gymru ac o Loegr sydd wedi eu claddu yn India, Bwrma, Malaia, Swmatra, ac yn y blaen. Fe gladdwyd un yn y Môr Canoldir (fe gawsom ni ein bomio gan un o beilotiaid didrugaredd yr Almaen, a chafodd yr unig ddyn a oedd yn y lle iawn ar y pryd - 'below decks' - yn lle ar y 'deck' yn edrych ar y siew fawreddog uwch ein pennau, ei ladd.
Cyraeddasom o'r diwedd lannau'r India bell, hynny yw, Bombay, ac o fanna aethom, bawb yn ei dro, (fi gyda'r cynta) i Bwrma).
***
ROEDD llawer iawn o Gymry yn ein plith. Wel mae gan y Cymro dwyieithog gymwysterau arbennig at ddysgu'r ieithoedd tramor. Peidied neb â difrfo dwyieithrwydd!
Gorau i gyd bo fwyaf o ieithoedd y medrwch chi eu siarad yn y byd 'amlhiliol' sydd ohoni, ar waethaf yr hen helynt yn Sir Fôn wrth fynd i'r tŷ bach.
Yn 1946 cefais fy rhyddhau o'r Fyddin – y Dimob rhyfedd yna – a dod yn ôl i Gymru. Ailgydiais yn fy nhestun ymchwil, ond cefais hefyd wahoddiad i gynnig am swydd yn yr Adran Ffrangeg ym Mangor, gan yr enwog Percy Mansell Jones (gŵr o'r hen Sir Gaerfyrddin ac o dras yr Uchelwyr, y Manseliaid, rwy'n meddwl), cymeriad rhyfeddol, hen lanc o ddyn a oedd yn hoff iawn o gwmni merched, serch hynny.
Dyn od o'r radd flaenaf. Aeth allan un nos, pan oedd hi'n arllwys y glaw, ar ôl derbyn gwahoddiad i goffi, i ddweud wrth ei westeiwyr fod yn well ganddo de na choffi! Un o hen ffrindiau mynwesol Saunders Lewis.
Roedd Bangor yn Goleg bach yn 1936 – rhyw 400 o fyfyrwyr oedd yno rwy'n meddwl, a phawb yn nabod ei gilydd. Ymhlith fy nghyd-fyfyrwyr yr oedd (Yr Arglwydd) Goronwy Roberts, (Syr) Idris Foster, Yr Athro Huw Morris-Jones, yr Athro John Elis Caerwyn Williams, a John Roberts Williams, a lysenwyd yn 'John Bun' am ryw reswm na fedra i yn fy myw ei ddarganfod. Ys gwn i a oedd ganddo glustiau mawr, buns o glustiau? Ond roeddwn i'n hoff iawn o edrych ar wyneb John Roberts Williams, dyn piwr neu ffeind ofnadwy a chymeriad diddorol dros ben fel y gwyddoch i gyd.
Ond efalle fy mod i wedi dweud digon. Felly, i orffen – beth yw'r gwahaniaeth rhwng merch ifanc a menyw briod, gofynnodd Arholwr yn y Ffrangeg i ferch fach yn ceisio pasio'i lefel O. 'Dyn', atebodd hithau!.
NODYN. Oes, fy hen gyfaill marw, y mae ganddo glustiau mawr. — Gol.