JOHN JONES, SYR JOHN, A'R LLEUAD gan R.Elwyn Hughes

MAE'N debyg mai'r gyfres digwyddiadau a gofnodwyd ar dudalennau The Sun (Efrog , Newydd) ar Awst 25-31, 1835 fu'r ysmaldwyll (a defnyddio gair Caerfallwch am 'hoax') enwocaf a mwyaf llwyddiannus yn holl hanes gwyddoniaeth.

Ar y pryd roedd Syr John Herschel, y seryddwr adnabyddus, yn gweithio yn Ne Affrica, a'r hyn a gafwyd yn The Sun oedd nifer o 'adroddiadau' yn disgrifio rhai o'i ddarganfyddiadau diweddaraf am natur y lleuad. Honnwyd fod gan Herschel delesgop cryf newydd a'i galluogai i weld ar y lleuad bethau nas gwelwyd yno gan neb cyn hynny.

Cafwyd disgrifiadau manwl am fynyddoedd a llynnoedd y lleuad, am y llysdyfiant a dyfai yno, am greaduriaid 'lloerawl' (mamolion ac adar yn bennaf; doedd dim sôn am na physgod na phryfed), ac yn fwyaf diddorol efallai, am y bodau 'dynol' asgellog a drigai yno. Derbyniwyd y cyfan yn ddi-gwestiwn gan ddarllenwyr hygoelus y cyfnod, gan gynnwys nifer o wyddonwyr tra adnabyddus.

Gwyddys bellach mai newyddiadurwr o'r enw Richard Adams Locke oedd yn bennaf gyfrifol am yr ysmaldwyll - er i Augustus de Morgan awgrymu yn ei Budget of Paradoxes fod gan un Jean-Nicolas Nicollet, seryddwr o Ffrancwr, law yn y twyll hefyd.

Clywodd Herschel ei hun am yr helynt pan ymwelodd newyddiadurwr ag ef yn Ne Affrica a dangos iddo gopi o'r 'adroddiadau'. Dywedir fod Herschel yn 'uncontrollably amused' gan y cyfan.

Nid felly'r cyhoedd yn gyffredinol. Bu prynu gwyllt ar The Sun. Ac er i'r ysmaldwyll gael ei ddinoethi ar dudalennau'r Journal of Commerce yn fuan wedyn, nid amharodd hyn ddim ar ail-gyhoeddi'r 'adroddiadau' yn llyfryn hwylus yn Lloegr a'r Taleithiau Unedig sawl gwaith rhwng 1836 a 1859; bu hefyd fersiynau Almaeneg, Ffrangeg ac Eidaleg.

***

CYHOEDDWYD fersiwn Cymraeg (yn ddi-ddyddiad a chan hepgor rhai o'r manylion technegol) gan John Jones, Llanrwst tua chanol y ganrif ddiwethaf. Mae Hanes y Lleuad...Syr John Herschel yn llyfr cymharol brin erbyn hyn. Y mae'n ddiddorol am o leiaf ddau reswm.

Yn gyntaf, y mae'n anodd dirnad paham yr aethpwyd ati i gyhoeddi yn y Gymraeg, a hyn o dan gochl y gwirionedd, hanesyn yr oedd ei natur ffug bellach yn hysbys i bawb. Mae ansawdd y cyfieithu yn awgrymu fod y cyfieithydd dienw yn deall o leiaf rywfaint am faterion seryddol; prin felly ei fod yn anwybodus o ffalsedd y stori.

Ond yn fwy diddorol byth, cynhwysai'r fersiwn Cymraeg ddarlun yn portreadu trigolion honedig y lleuad. Ni lwyddais i leoli'r darlun hwn yn yr un o'r tri fersiwn Saesneg sydd yn y Llyfrgell Brydeinig (Llundain, 1836, Efrog Newydd 1852, Efrog Newydd 1859) nac yn y cyfieithiad Almaeneg (Hambwrg, 1836) ychwaith.

  
O bamffledyn Saesneg 1836 (cyhoeddwr anhysbys) O lyfr John Jones, Llanrwst

Ond fe ymddangosodd llun tebyg i'r un 'Cymraeg' mewn erthygl The Great Moon Hoax a gyhoeddwyd gan Yr Athro David S. Evans o Brifysgol Tecsas (ac sy'n hanu o Riwbeina, Caerdydd) yn Sky and Telescope, Medi 1981.

Yn ôl y cyhoeddwyr codwyd y llun hwn yn ei dro o erthygl gynharach gan W.H. Barton (The Sky, Chwefror 1936) lle dywedir mai pamffledyn Saesneg (1836) gan 'gyhoeddwr anhysbys' oedd y ffynhonnell. Yn anffodus, ni fu'n bosibl dilyn y trywydd hwn ymhellach.

***

GRESYN hyn am y byddai cael dysgu mwy am ffynhonnell wreiddiol y darlun `Saesneg' yn ddiddorol. 0 graffu'n fanwl ar fersiwn John Jones fe welir fod cnewyllyn y llun (hynny yw, y goeden a'r bodau asgellog) yn ddrychddelwedd perffaith i'r fersiwn 'Saesneg' a bod rhywun wedi ychwanegu adar, wedi newid rhywfaint ar safle'r mamolion ac wedi gosod tŷ traddodiadol (Cymreig?) yn lle'r bythynnod cyntefig sydd yn y fersiwn `Saesneg'.

Pwy a wnaeth y llun Cymraeg ni wyddys er y ceir awgrym gan Gerald Morgan ('Y Dyn a wnaeth Argraff', Llanrwst 1982) mai dyn o'r enw Cape fu'n gyfrifol.

Paham yr ymyrrwyd â'r llun gwreiddiol yn y modd hwn sy'n ddirgelwch. Ai ceisio osgoi problemau tybiedig yr hawlfraint neu gyhuddiad o lên-ladrad yr oedd John Jones?

Neu a oedd hyn yn ymgais i gryfhau'r argraff mai gwaith gwreiddiol Cymraeg oedd y llyfr? (Ni ddywedir yn unman ynddo mai cyfieithiad yw) Anodd dweud. Efallai bod gan rai o ddarllenwyr 'Y Casglwr' esboniad.