HWYLIO'R TRÊN TUA HARBWR PORTINLLAEN ~
Ioan Mai Evans yn cofio hen freuddwyd
MAE HANES maith i'r bwriad o gael rheilffordd i Bortinllaen. Ymddangosodd sawl adroddiad o dro i dro ar y priodoldeb o ddewis Portinllaen yn hytrach na Chaergybi fel Pacedborth. Hyd y gwn i, nid oes neb wedi crynhoi holl hanes yr ymgiprys a fu, er bod yna ddefnyddiau digon diddorol ar gael.
Beth a feddyliai'r baledwr am gael relwe i Ben Llŷn wrth iddo ganu fel hyn yn ffeiriau Nefyn a Phwllheli ganol y ganrif o'r blaen:-
- O Fangor, cainc o'r relwe hon
Drwy dre Caernarfon wnânt,
At Portinllaen 'does dim a'i teifl
Drwy greigiau'r Eifl yr ânt,
Gall gŵr frecwasta'n Mhortinllaen,
Neu Nefyn gartre cu,
A bwyta swper cynnar iawn
Yn Llundain gyda'r llu.
Mae'n amlwg yn yr adroddiadau hefyd fod dyfodiad y relwe i Bortinllaen i fod yn foddion adennill rhyw fyd gwell i fasnach ar dir a môr, ac mi roedd y baledwr yntau yn barod iawn i leisio hyn:-
- Daw aur ac arian eto i'w cael
I'n gafael megis cynt,
Te'n rhad a choffi, a brandi brwd
I chwalu'r gwaew gwynt.
Cyflwynai rhai o gefnogwyr Portinllaen achos cryf o blaid yr hafan deg a chysgodol hon yn Llŷn. Yn wir bu'n borthladd i Ddulyn wedi'r Rhyfel Cartref am dymor byr, ac eto yn 1846 cyhoeddodd y 'Times' fod y byd i gyd yn addef mai Portinllaen oedd y lle hwylusaf.
***
YMYSG yr unigolion, mae'n debyg mai William Alexander Maddocks oedd y mwyaf blaengar, y gŵr a fu mor amlwg yn hanes y Traeth Mawr ym Morthmadog. Roedd capteiniaid a pherchenogion llongau hefyd yn fyw iawn i'r posibiliadau, ac fe arwyddwyd deiseb gan yn agos i gant ohonynt. Swyddog y Doll ym Mhwllheli wedi cyfrif 656 o longau wedi cysgodi ym Mhortinllaen yn 1805.
Un arall selog oedd y Gwyddel Henry Archer, y gwyddys orau amdano efallai fel yr un a ddyfeisiodd y peiriant i dorri tyllau rhwng stampiau. Dangosai hwn ddiddordeb mawr yn rheilffyrdd y Gogledd yn gyffredinol, a byddai'n aros mewn tafarnau fel 'Y Stag' yng Nghaernarfon, a thafarn 'Y Madog' yn Nhremadog, a diau mai yno y daeth i wybod am fwriadau Alexander Maddocks.
Roedd ganddo ddigon o lygaid i fynd ati i baratoi cynlluniau i'r relwe o Lundain i Bortinllaen, a digon o hyder hefyd i alw cyfarfod cyhoeddus yn Nulyn i ystyried y lein, a hefyd i ymgynghori â thad Syr Isambard Owen, oedd yn byw yng Nghaernarfon ac yn brif beiriannydd y G.W.R.
Roedd yna gefnogaeth gref o Ddulyn a Chaernarfon. Ond tra oedd hyn oll yn mynd ymlaen roedd Robert Stephenson, yn dyfalu sut i groesi'r Fenai am Gaergybi a hyn wrth gwrs a drodd y fantol, ac erbyn 1848 roedd y lein o Gaergybi i Gaer wedi agor, ac fe bontiwyd afon Menai.
***
BEDAIR blynedd yn ddiweddarach fe'i hestynnwyd i Gaernarfon, ac erbyn 1867 cydiodd lein y Cambrian dref Caernarfon a Phwllheli, ac yna am y Bermo. A wir, fe godwyd enw Portinllaen i'r gwynt unwaith eto, a hynny gan y Cyrnol Love Jones Parry, oedd newydd ennill etholiad Seneddol 1868 fel ymgeisydd Rhyddfrydol.
Yr un bwriad oedd gan ei daid drigain mlynedd yn gynt, pan gododd y 'Madryn Arms' yn Chwilog. Ond roedd yn rhy hwyr i feddwl am Bortinllaen mwyach, gan fod gormod wedi ei wario yng Nghaergybi eisoes, ac erbyn chwarter olaf y ganrif roedd y fasnach longau wedi arafu ym Mhortinllaen, Nefyn a Phwllheli, a'r relwe fel moddion trafnidiaeth yn dechrau cydio.
Aeth dyddiau rhamantus goets fawr heibio hefyd yn ei chysgod. Ni wireddwyd breuddwyd y baledwr ychwaith pan ganodd:-
- A'r briffordd haearn fyddo'n rhwydd
O ddirfawr lwydd i ddod,
A bydded pob rhyw weithiwr gwan
Ag arian yn ei gôd.