HEN LYFRAU POBL ERAILL gan Elis Gwyn

SAFWN o flaen siop J.R. Morris yn 1941, yn craffu ar feingefn llyfr a ddywedai The Letters of Goronwy Owen 1723-69. Y tu ôl imi safai swyddog milwrol o Sais, ac meddai "I love eighteenth century letters". Cyn iddo gyflawni ei serch gyda'r llyfr hwnnw mi fûm yn fachog am unwaith a phrynu'r gyfrol am bunt.

Mewn pensel ar y ddalen gyntaf mae'r geiriau 'copi Shankland, gyda nodiadau'. Casgliad J.H. Davies o lythyrau Goronwy ydyw wrth gwrs, a gyhoeddwyd yn 1924, argraffiad hardd o wasg William Lewis ar bapur fel papur dyfrliw drudfawr, a'r dyfrnod 'Holbein' ynddo.

Thomas Shankland oedd yr awdurdod ar fywyd Goronwy Owen, ond nid yw'r nodiadau pensel yn dweud fawr mwy na 'fuller' neu 'new' am rai o'r llythyrau.

Rai blynyddoedd wedyn dywedwyd wrthyf yn Llandudno fod y Dr. Madoc Jones eisiau fy ngweld. Prysurais tua'r feddygfa, a'r cyfan a fu rhyngof a'r doctor oedd iddo gyrraedd imi dros ei ddesg gopi o 'Gleanings from God's Acre' Myrddin Fardd. "Dyna chi", meddai. Dwn i ddim a wyddai Madoc Jones ei fod yn rhoi'r llyfr i un a oedd yn byw o fewn troedfeddi i un o'r erwau a ymchwiliwyd gan Myrddin.

Gan Cybi, o'r cwt pren yn ei ardd a oedd yn bochio gan leithder a llyfrau y cefais 'Hynafiaethau Lleyn' Rhabanian ac argraffiad John Jones Llanrwst o Lysieulyfr Culpepper.

***

YN Y copi a gefais yn ddiweddar o Cynfeirdd Lleyn ysgrifennwyd '1928, rhodd Nadolig gan Pedrog i John E. Pritchard', a'r Parch Gomer M. Roberts oedd perchennog yr Enwogion Sir Gaernarfon sydd gennyf. Un cywiriad ymyl y ddalen sydd ganddo ef: 'Nage! Morgan Dafydd o Gaeo biau hwn!' am fod Myrddin yn priodoli emyn i Siarl Marc –

Mae cyn-berchnogion rhai llyfrau'n perthyn i ardal y llyfr ei hun, fel 'John Griffith Murpoeth' ar y llyfr a elwir fel rheol yn 'Cyff Beuno', ac yn 'Gwaith Barddonol Ioan Madog' mae 'Presented to Mr. R.H. Davies, Bodvean Hall by Thomas Evans, Auctioneer Pwllheli, Nov. 19 /88'

Beiliff ar stad Boduan oedd R.H. Davies, ac mae'n debyg bod tueddiadau barddonol ynddo yntau, gan iddo enwi ei feibion yn Gwilym Buan a Robert Gwallter. Tybed a oedd yna gysylltiad yn rhywle â Gwallter Mechain, Walter Davies yntau?

Enw fy athrawes Ladin, P.J.Owen sydd ar y geiriadur Lladin-Saesneg, a thrysoraf anrheg arall, y Penguin cyntaf un, Ariel gan Andre Maurois, a roddwyd imi ym Mhorthmadog gan John Gwilym Jones union hanner canrif i eleni.

Nid yn aml y byddaf yn troi i'r Geiriadur Charles, ac eithrio i edmygu arddull fy hen daid yn ei arysgrif:

'Robert Owen Derwinuchaf yr hwn fu farw Mehefin 12 1810 ei oed 41 yr oedd yn bregethwr ac yn fynuch pregethu pwnc y byddai yr oedd yn frawd im Tad Ellis Owen or un lle'.

Daeth y llyfr yn eiddo fy nhaid, Ellis Owen eto, yn 1898 pan oedd yn cadw tŷ capel Engedi ar y Lôn Goed.