HELA'R CARDIAU POST gyda Dafydd Guto
O'R ARGIAN, waeth imi gyffesu ddim, oherwydd gyda'r blynyddoedd digon esgeulus y bûm i gyda'm dillad a'm hymddangosiad. Fe'm cyhuddwyd droeon, hyd yn oed gan fy nheulu fy hunan, sydd lawer gwaeth, o fod yn fwgan brain swyddogol Cymru fy henwlad, teitl, gyda llaw, o wynebu'r gwirionedd yn ei holl nerth, yr ymfalchïaf ynddo!
Doeddwn damaid gwell ychwaith gyda'r holl gardiau post a ddeuai o dro i'w gilydd i'r tŷ 'cw. Mae'n wir fy mod i'n mynd ati'n eiddgar i ddarllen pob neges a ysgrifennwyd ar gefn y cerdyn; syllwn braidd yn genfigennus ar olygfeydd a berthynai i Gymru fy ngwlad, ond ochneidiwn yn isel o ganfod mai cwmnïau estronol fu wrth y gwaith o lunio'r rhan fwyaf o'r cardiau.
Diolch byth am rai eithriadau ddweda' i. Ond digon difater oeddwn i wedi dŵad i ben â'r gwaith darllen. Ni wnes i unrhyw ymdrech i ddiogelu rhan o hanes Cymru. Yn bendifaddau, ni feddyliais fod cardiau, o bopeth, yn cynnig tystiolaeth gadarn o'r gorffennol.
***
PAM casglu cardiau post? Yn gryno, mae gwerth iddynt - gwerth hanesyddol; gwerth cymdeithasol. Dylid ystyried hanes a'r astudiaeth ohono o safbwynt dadansoddi lluniau o'r gorffennol. Yn wir, mae llun yn medru adrodd cyfrolau.
Datgelu eu cyfrinachau bychain eu hunain a wna'r lluniau ar hen gardiau post a'r negeseuon a ysgrifennwyd arnynt. Dyna'r cerdyn lliw sydd gennyf o Borthygest. Stamp ½ ceiniog. Dyddiad Chwef 16, 1908. Rhif 22904, ond mae neges Kate at gyfeilles iddi ym Morfa Nefyn yn cyfleu popeth sydd 'na i'w ddweud am ddadansoddi hanes o safbwynt pobl:
'Dyma dipyn o wahaniaeth,' ebe'r Gymraes, 'er pan welsoch chwi y lle hwn.'
Beth am werth cerdyn post o safbwynt y casglwr? Ystyriwn natur y cerdyn.
(a) 'applique' sef defnydd wedi'i ludio at y cerdyn. Un cerdyn o'r math hwn sydd yn fy nghasgliad, sef yr un o'r Crochan Berw, Craig yr Imbill, Pwllheli. Fe'i hargraffwyd mewn lliw. Rhif 3386. Yr argraffwr yw D. Caradog Evans, Gwerthwr Papurau Sgwennu, Pwllheli.
(b) 'cyfansawdd' sef nifer o gardiau bychain sydd o'u gosod wrth ei gilydd yn gwneud un mawr. Ni welais i hwn yn un man hyd yma. Ond dyfal donc piau hi.
(c) 'Boglynnog' sef rhan o'r cerdyn yn codi i fyny;
(ch) 'Cyfarchol'
(d) 'Twll Goleuni': o edrych drwyddo fe ellir gweld goleuni a ffurfiau; hwn eto heb fod o fewn fy nghasgliad;
(dd) 'Rhibidires' : o'i agor yn un rhes, golygfeydd a gynhwysir ran fynychaf, yn enwedig golygfeydd glan y môr. Ni chynhwyswyd hwn chwaith yn fy nghasgliad;
(e) 'Fignet' sef cerdyn a gofod ar y chwith i'r llun lle gellir sgwennu neges fyrfyfyr. Un enghraifft sydd gennyf, sef cerdyn lliw o Fedd Gelert, yr eglwys yn y cefndir. Cyhoeddwyd yn Llundain gan Gwmni Autochrom/Pictorial; stamp 2 ceiniog, marc post 7.45 p.m. Awst 2il, 1904. Hwn yw'r cerdyn hynaf a feddaf. A oes Cymry sy'n ymddiddori yn Y Casglwr hefo cerdyn hŷn na hyn? Tad Ifor Wyn Williams, Bryneithin, Llanllechid a anfonodd y cerdyn, a hynny at ei fab; ar ochr ofodol y llun ceir neges 'Dyma'r lle y cafodd Gelert ei gladdu. Daddie' ,a'r ochr arall ynghyd â'r cyfeiriad ceir, 'Wedi iti dyfu cei dithau weled golygfeydd rhamantus Cymru'.
***
YR HYN sy'n pennu gwerth yw eglurdeb marc post. Fe all stamp roddi mwy o werth i'ch cerdyn post nag a feddyliwch. Gwlad Awstria a ddechreuodd yr arferiad o anfon cardiau drwy'r post, a hynny ar y 1af o Hydref, 1869. Cardiau post di-lun oedd y rhain. Yn 1870 y dechreuodd gwledydd Prydain anfon cardiau o'r fath.
Erbyn 1890 cynhwyswyd lluniau ar y cardiau. Ym mis Ebrill 1907 ehangwyd maint cardiau post yng ngwledydd Prydain o 3¾" x 2½" i 4" x 2¾". Yn 1918 daeth y stamp ceiniog i fodolaeth ar gardiau post. Gesyd y manylion hanesyddol uchod eich cerdyn post mewn dosbarth ar ei ben ei hunan!
Gellir pennu gwerth cerdyn post drwy'r meini prawf canlynol:
per. - perffaith, h.y. nid oes rhwyg, plygiad, staen...;
am. - amherffaith, o ran bod y llun yn aneglur, marc post yn garbwl, rhwyg, plyg, a'r neges wedi'i sgwennu yn garbwl;
d. - defnyddiwyd, h.y. anfonwyd drwy'r post;
n.d. - nis defnyddiwyd ac fe all hynny ostwng gwerth eich cerdyn;
Rhydd enw cyhoeddwr/argraffwr werth i'ch cerdyn. Daliai Cwmni Valentine fonopoli ar un amser ar gyhoeddi cardiau post yng Nghymru, ond roedd cwmnïau eraill wrth y gwaith yn ogystal ac ambell anturwr o Gymro yn y maes.
***
MAES toreithiog ddwedwn i, oherwydd hyd yma bychan yw'r sylw – dim oll mewn gwirionedd a roed i ymdrin â chardiau post drwy gyfrwng y Gymraeg. Digon dibris yw catalogau Saesneg yn eu hymdriniaeth â Chymru, gwlad y cardiau post. Roedd y deunydd yn Picton Priced Catalogue and handbook of postal postcards and their postmarks a oedd yn ymwneud â chardiau post Cymreig, yn ogystal â Stanley Gibbon Postcard Catalogue yn hyll o denau.
Drwy ddweud ar goedd fod gennych ddiddordeb mewn casglu hen gardiau post fe allwch ennyn diddordeb eraill yn yr un maes. Yr unig beth yma yw cofio fod cyfeillion i chwi â diddordeb neilltuol mewn agwedd arall o'r casglu ac felly byddwch barod i brynu cardiau post a fydd o gaffaeliad i'ch cyfeillion ond yn help ffeirio i chwithau.
***
GWN FOD Clybiau Cardiau Post ar gael yng Nghymru, ond hyd yn hyn ni welwyd ffurfio Clybiau o'r fath er mwyn sicrhau trin a thrafod drwy gyfrwng y Gymraeg. Fe all ffurfio Clwb ladd yr awydd, a chladdu am byth yr hen glwy' casglu cardiau post.
Er hynny, y mae gennym gylchgrawn tan gamp, sef Y Casglwr, a chredaf mai ynddo y gellir gwyntyllu rhai materion ynglŷn â chardiau post Cymru. Dyma rai pethau i gnoi cil arnynt:
(i) Yr angen am gatalog i gyfarwyddo'r casglwr beth sydd ar gael yng Nghymru ei wlad. Ond sut fformat ddylid ei gael. Pa wybodaeth i'w gynnwys, disgrifiadau ac yn y blaen?
(ii) Cyfeiriadur: Siopau, marchnadoedd sydd yn gwerthu cardiau post, amseroedd agor a chau; teliffonau ...; cyfeillion sy'n casglu; A oes grant gan rywun yn rhywle ar gyfer cyhoeddiad o'r fath? Beth am gyfuno, sef cynnwys hefyd ddiddordebau eraill fel casglu stampiau, arian, botymau, labeli matsys, poteli ....
(iii) Llyfryn ar y maes sy'n ecsploetio popeth ac yn ymdrin yn gynhwysfawr â chasglu thematig, a sut y gellir cyfyngu eich hunan i gardiau post o'ch bro cyn ehangu gorwelion, a chael casgliad difyr a buddiol, e.e. o drenau yng Nghymru, neu wisgoedd y ganrif diwethaf. Dewadd bach, dyna fi'n ôl at wisgoedd!