DEHONGLI BREUDDWYDION gyda Huw Edwards

MAE'N siŵr fod yr arfer o geisio dehongli ystyr ac arwyddocâd breuddwydion mor hen â'r ddynoliaeth. Yn sicr ceir digon o gyfeiriadau at hyn yn yr Hen Destament ac, yn ôl y chwedl, gwnaeth un freuddwyd arbennig y fath argraff ar Macsen Wledig, yr Ymerawdr Rhufeinig, nes iddo ddanfon dynion i bob cornel o'r byd i chwilio am y ferch deg a ymddangosodd iddo yn ei gwsg.

Dengys astudiaethau ar ein Llên Gwerin gan bobl fel Myrddin Fardd, T. Gwynn Jones a Jonathan Ceredig Davies faint o sylw a roddid i freuddwydion gynt. Credid fod arwyddocâd arbennig iddynt wrth ragfynegi digwyddiadau pwysig bywyd, gydag arwyddion ynglŷn â serch, afiechyd a marwolaeth yn uchel ar y rhestr.

Mae Jonathan Ceredig Davies yn ei lyfr Folk-lore of West and Mid Wales (a gyhoeddwyd yn 1911) yn mynnu cynnwys rhai o'i freuddwydion ei hun.

Ni cheir y nodyn lleiaf o anghrediniaeth yn ei drafodaeth ef ar ystyr breuddwydion ond mae'n sylwi fod rhai pobl yn cael breuddwydion dibynadwy tra bod eraill yn cael breuddwydion nas gellir dibynnu arnynt o gwbl. Dywed gyda phendantrwydd fod breuddwyd sy'n digwydd fwy nag unwaith yn fwy tebyg o gael ei gwireddu.

Ysywaeth, fel y dengys yr hanesyn canlynol a roddir gan Gerallt Gymro, ni ellir dibynnu hyd yn oed ar freuddwyd sy'n digwydd dair gwaith:

'Yn amser y brenin Harri I, digwyddodd i ryw ŵr cyfoethog a chanddo drigfan ar ochr ogleddol mynyddoedd Preselau, gael ei rybuddio yn ei gwsg dair noswaith yn olynol, y tynnai allan oddi yno dorch aur os dodai ei law tan y llech a ymgodai uwchben tarddle'r ffrwd yn y ffynnon gyfagos, a elwid Ffynnon Sant Byrnach. Wrth ufuddhau ar y trydydd dydd, i'r rhybuddion cafodd bigiad angheuol ar ei fys trwy ei frathu yno gan neidr.'

***

ERBYN diwedd y ganrif ddiwethaf cyhoeddwyd nifer o lyfrynnau a oedd yn cynnwys cyfarwyddiadau ar sut i ddehongli breuddwydion. Mae gennyf dri llyfryn o'r fath a mwy na thebyg fod rhagor ar gael.

Cyhoeddwyd y cyntaf, Gweledigaethau Dirnadwy sef dehongliad i Freuddwydion ... (tud.36) yng Nghaerfyrddin (argraffwyd ac ar werth gan S. Jones, Heol Prior) yn 1872. Cyhoeddwyd yr ail lyfryn, Deonglydd Breuddwydion, a gymerwyd allan o ysgrifeniadau yr Hen Gymry ... (tud 24) ym Mangor yn 1889. Byddai wedi bod yn gywirach i ddweud 'a gymerwyd allan O Gweledigaethau Dirnadwy' yn hytrach nag 'ysgrifeniadau'r Hen Gymry' gan mai aralleiriad o'r gwaith cyntaf a nodais yw'r 'Deonglydd'.

Catalog o wrthrychau a sefyllfaoedd a allai ymddangos mewn breuddwyd ynghyd â'r ystyr neu arwyddocâd honedig yw cynnwys y ddau lyfryn.

Mae geiriad yr ail ychydig yn fwy parchus na'r cyntaf, er nad yw'r aralleiriad bob amser yn gwbl gyson ag ystyr y gwreiddiol, e.e. try 'gweled dy fod yn piso, amlder (sic) o dda ydyw hynny' yn 'gweled dy fod yn gwneyd dŵr, anamlder o dda ydyw hynny'.

Mae'r ddau'n cynnwys perlau anfarwol o ddoethineb megis y canlynol: 'Gweled i ti drwyn mawr helaeth, sydd dda i bawb. Gweled dy fod heb un trwyn, arwydd llwyddiant yw. Gweled gennyt ddau drwyn, ymddadlau, anghydfod, ymgecru, neu ddarfod arwyddocâ.'

***

CYHOEDDWYD y Dehonglydd Breuddwydion (tud 47) yng Nghaernarfon gan Gwmni'r Cyhoeddwyr Cymreig; nid oes dyddiad ond tybiaf ei fod yn perthyn i ddegawd cynta'r ganrif hon.

Mae'r gwaith hwn yn fwy trefnus ac yn fwy uchelgeisiol na'r ddau gyntaf. Mae'n rhestru'r gwahanol wrthrychau neu sefyllfaoedd yn nhrefn yr wyddor ac yn cynnig brawddeg neu baragraff o eglurhad, gan ddechrau gydag 'Absenol' ('Breuddwydio am gyfeillion absennol a ddynoda y cewch glywed oddiwrthynt') a gorffen gydag 'YstIum' ('Gweled ystlum yn ehedeg yn yr awyr a arwydda fod gennych elyn. Os gwelwch ef yn hedfan yn y dydd, ni raid i chwi ofni, ond os yn y nos, yr ydych mewn perygl. Nid yw hwn yn freuddwyd da i gariadau').

Mae'r awdur yn cynnwys ambell gyngor buddiol ac amserol, megis `Myrtwydd - a arwydda ddynes anllad, gofalwch gan hynny gyda phwy y cymdeithaswch'.

***

NID YW awduron y ddau lyfryn cyntaf a nodais yn cyfyngu'u hunain i ddehongli breuddwydion. Yn y Dehonglydd (1889) ceir ystyriaeth o arwyddocâd siâp a maint gwahanol rannau o'r corff.

Dyma'r hyn a ddywed am y clustiau: 'Os bydd y clustiau yn agored, dengys ddyn heb reswm a deall. Clustiau mawr, annoeth; bychain, ynfyd. Clustiau onglog, a chanolig o faint, dysgedig a doeth’.

Ysywaeth, gan fod awdur yr erthygl hon yn feddiannol ar glustiau go fawr, heb iddynt gymaint ag un ongl, mae hyn, yn anorfod, yn tanseilio'i ffydd yn nilysrwydd y dadansoddiad uchod, er mor fanwl ydynt.

Yn y Gweledigaethau (1873), wedyn, ceir 'ychydig o reolau, perthynol i gariad a phriodas, i bobl ieuangc' ac efallai y bydd y cyngor canlynol ar sut 'I wybod pa un a fydd merch yn wyryf ai peidio` yn werthfawr ac yn fodd i osgoi siom a gofid i rai o ddarllenwyr Y Casglwr:

'Cymerwch wns o alabaster (sef maen mynor o siop yr apothecari) a llosgwch yn tân fel y galloch ei wneuthur yn bowdwr, a flwriwch ef trwy ddernyn o lawn yn ffein, ac yna ei guddio nes caffoch gyfleusdra, a rhoddi cymaint ag a godoch ar ffyrling mewn diod glaiar, ac os bydd iddi ei yfed heb grynu na gwasfeuon, y mae hi yn ferch ieuangc bur', ond 'os digwydd un o'r ddau beth hyn ...' yna rhaid i'r darllenydd dynnu'i gasgliadau ei hun.

***

YN ddiweddarach yn y ganrif hon daeth breuddwydion yn destun astudiaeth a myfyrdod dwys i Sigmund Freud a C.G. Jung. Erbyn hyn mae pob agwedd ar gwsg, gan gynnwys breuddwydio, o ddiddordeb mawr i wyddonwyr.

Onid ydynt bob amser yn cytuno â chasgliadau awdur y Gweledigaethau Dirnadwy - na gyda rhai Sigmund Freud, o ran hynny - prin y byddai neb yn anghytuno ag ef pan ddywed fod ystyried ein breuddwydion yn dangos 'pa fath ofal a ddylem ni gymmeryd i gyfeirio ac i gysylltu ein meddyliau anhrefnus y dydd yn nghyd, ac ymegnio gorwedd i lawr y nos gydag ymbiliau a deisyfiadau perthynol i ewyllys y Duw mawr'.