ARGRAFFWYR PEDR FARDD ~
E.Wyn James a'r cyfrolau prin
YN rhifynnau Awst a Nadolig 1985 o'r Casglwr, rhestrais lyfrau a llyfrynnau Pedr Fardd - rhyw 15 ohonynt i gyd, heb gyfrif adargraffiadau a chyfieithiadau ohonynt, a'r cyfan erbyn hyn yn bur brin. Yn Lerpwl yr argraffwyd y cwbl, ac eithrio dau a argraffwyd yng Nghaer; ac o edrych yn fanylach, fe welir fod patrwm eitha’ pendant i ddefnydd Pedr Fardd o argraffwyr.
Os iawn y dyfalu yn fy ysgrif yn rhifyn y Nadolig, yng Nghaer yr argraffwyd ei gyfrol gyntaf - Catecism Ysgrythurol - rywbryd rhwng 1809 ac 1812, ac fe'i hadargraffwyd yno tua 1820. Cysylltiad John Parry â'r gyfrol yn ddiau a barodd iddi gael ei hargraffu yng Nghaer.
Ond pan ddechreuodd Pedr Fardd gyhoeddi llyfrau o ddifrif yn 1819, troi at argraffydd lleol yn Lerpwl a wnaeth. Tua 1819-20 cyhoeddwyd pum eitem ganddo, a'r cyfan wedi'u hargraffu gan J. Nevett & Co., Castle Street, gyda dau ohonynt yn nodi'n benodol iddynt gael eu hargraffu yn swyddfa Nevett gan John Jones.
Er nad oes argraffnod, diau hefyd mai o'r swyddfa honno y daeth y cylchgrawn bychan, Y Cymro, yn 1822, dan olygyddiaeth Pedr Fardd a John Jones, Castle Street
Yn fy ysgrif ym mis Awst, rhestrais bedwar o'r casgliadau emynau bychain a baratowyd gan Pedr Fardd ar gyfer cymanfaoedd blynyddol ysgolion Sul y Methodistiaid yn Lerpwl rhwng 1819 ac 1829 (sef rhai 1819, 1820, 1825 ac 1828).
Adeg llunio'r ysgrif nid oeddwn wedi llwyddo i ddod o hyd i ragor o'r rhain. Ond ar ddamwain yn ddiweddar yn Llyfrgell Salisbury yng Ngholeg Caerdydd, digwyddais ddod ar draws y casgliad ar gyfer 1823, a hwnnw (yn wahanol i'r pedwar arall) wedi'i gyhoeddi heb enw Pedr wrtho.
Dyma'r manylion llawn amdano: Ysgolion Sabbothol y Trefnyddion Calfinaidd. Hymnau i'w canu yn y Cyfarfod Blynyddol a gynnelir Sul y Pasg, Mawrth 30, 1823. (4 tudalen; 8 emyn). Mae'r pedwar emyn cyntaf i'w canu yn Pall Mall, a'r lleill i'w canu yn Bedford Street.
Yn wahanol i'r casgliadau eraill, mae bron y cwbl o gynnwys y casgliad bach hwn i'w weld mewn rhai o'r casgliadau a'i blaenorodd. O'r wyth emyn, gwelir pob un ond yr olaf yng nghasgliadau 1819 ac 1820.
***
FEL coloffon ar ddiwedd y casgliad ceir 'Argraffedig gan Nevetts' Ond yn 1823 gwelwn Pedr Fardd yn newid argraffydd, gan fynd o Nevett at Thomas Thomas yn Tithebarn Street ar gyfer argraffu ei Mel Awen.
Yna, ar gyfer yr eitemau a welais rhwng hynny ac 1830, rhyw hanner dwsin ohonynt, defnyddiodd Pedr Fardd un David Marples, yr oedd ei swyddfa argraffu yn 'Heol y Circus' yn 1825 ond yn 'Heol Paradise' erbyn 1828.
Dychwelodd at swyddfa Nevett ar gyfer argraffu ei Crynoad o Hymnau yn 1830, a John Jones, Castle Street, hefyd a argraffodd y gwahanol argraffiadau o'i Duw yn amddiffynfa i'w bobl yn 1833 a'i lyfryn dirwestol yn 1836.
Ond Robert Lloyd Morris, Dale Street, a argraffodd y gyfrol sy'n cynnwys ei awdlau ef ac Eben Fardd ar Job yn 1840, ac at Gaer a John Parry y dychwelodd ar gyfer ei gyfrol olaf, sef yr argraffiad o'i awdl ar Job a ddaeth o swyddfa J. & J. Parry yn 1841.
Beth am yr argraffwyr hyn? Y peth cyntaf yr hoffwn ei wneud yw cofnodi fy niolch i Miss Eiluned Rees a Mr. Huw Walters o'r Llyfrgell Genedlaethol, Mr. Philip Henry Jones o Goleg Llyfrgellwyr Cymru, Mr. M.R. Perkin o Gymdeithas Lyfryddol Lerpwl, a staff Archifdy Lerpwl, am eu cymorth parod wrth imi geisio dod o hyd i fanylion am y gwahanol argraffwyr.
Y peth arall y mae'n werth ei nodi ar y dechrau, hwyrach, yw bod y strydoedd a nodir uchod i gyd yn yr ardal o gwmpas Neuadd y Dref yng nghanol Lerpwl, ac o fewn tafliad carreg i Pall Mall.
O droi at yr argraffwyr yn unigol, dechreuwn gyda David Marples (1796-1881). Brodor o Baslow ger Chatsworth yn Swydd Derby ydoedd. Bu'n gweithio fel argraffydd yn Sheffield am gyfnod, ond symudodd i Lerpwl tua 1820, ac erbyn 1822 roedd ganddo ei fusnes argraffu ei hun yn Circus Street.
Symudodd oddi yno i Paradise Street, ac yna i Lord Street yn 1828. Daeth yn argraffydd a llyfrwerthwr adnabyddus iawn yn y cylch (gweler y marwgoffa iddo yn y Liverpool Mercury, 4 Ebrill 1881). Ei grefydd, yn ddiau, a'i dug i gysylltiad â Phedr Fardd.
Yr oedd yn asiant, er enghraifft, ar gyfer Cymdeithas y Traethodau Crefyddol, yr Ysgol Sabothol Undebol (y 'Sunday School Union') a'r 'Dissenters and General Fire and Life Assurance Company'. Pwysicach yn y cyd-destun presennol yw ei fod yn aelod amlwg yn yr eglwys Gynulleidfaol Saesneg yn Great George Street, eglwys yr oedd Dr. Thomas Raffles yn weinidog arni.
A phrin ei bod yn gyd-ddigwyddiad mai'r eitem cyntaf o waith Pedr y gwyddys i Marples eu hargraffu yw'r cyfieithiad Saesneg o'i Catecism a'i lyfrynnau Cymraeg a Saesneg ar hanes Methodistiaeth yn Lerpwl, gweithiau y bu gan Thomas Raffles ran yn eu cyhoeddi.
***
NID UN rhwydd cael gafael ar ei hanes mo Robert Lloyd Morris. Awgryma ei ffugenw, sef 'Rhufoniawc', mai gŵr o'r hen sir Ddinbych ydoedd. Fe'i ganed ar 14 Awst 1808. Mewn llythyr yn 1855, sonia iddo ddod ar draws llythyr ymhlith ei lawysgrifau yn nhŷ ei dad yn y Rhyl, a ysgrifennwyd ato yn 1840 gan Ieuan Glan Geirionydd.
Daeth y pumed argraffiad o'r cyfieithiad Cymraeg o lyfr dylanwadol Elisha Coles, Traethawd Ymarferol ar Benarglwyddiaeth Duw, o wasg R.Ll. Morris yn 1842. Nodir ynddo fod y llyfr ar werth hefyd gan 'Mr. John Morris, Rhyl, ger Llanelwy', ac mae'n ymddangos fod John Morris yn berthynas agos iddo - dywed un ffynhonnell mai mab R.Ll. Morris ydoedd. (Tybed a oedd yn perthyn hefyd i'r William Morris a fu'n argraffydd yn Nhreffynnon a Dinbych yng nghanol y ganrif ddiwethaf?)
Erbyn 1827 yr oedd R.Ll. Morris yn gweithio fel argraffydd yn Ninbych, oherwydd rhestrir 'Mr. Robert Lloyd Morris, printer, Denbigh' ymhlith tanysgrifwyr Diliau Barddas Bardd Nantglyn, a gyhoeddwyd y flwyddyn honno.
Ond erbyn 1830 yr oedd yn Nhreffynnon. Gadawodd Thomas Lloyd Jones ('Gwenffrwd'; 1810-34) Dreffynnon am Ddinbych yn 1830, ac yn Rhagfyr 1830 anfonodd lythyr i Dreffynnon at R. Ll. Morris (fe'i ceir yn Adgof uwch Anghof Myrddin Fardd, tt 226-8). Yn y llythyr cyfeiria Gwenffrwd at Thomas Gee fel hen feistr Morris. Roedd Gwenffrwd wedi dweud wrth Gee ei fod 'am roddi y Ceinion yn y Wasg wyliau Nadolig'. Mae'n amlwg ei bod yn argyfwng ar Gee ar y pryd oherwydd ymadawiad cysodydd o'r enw Robert Jones am yr Wyddgrug.
Bu Gwenffrwd yn canu clodydd Morris fel cysodydd wrth Gee, a dywed yn ei lythyr at Morris, 'yr wyv yn lled hyderus y bydd eich dwylaw yn brysur iawn gyda Chymraeg diledryw yn y Clwydwasg; ac y ceif y "Ceinion" y fraint o'ch bysedd'.
Ac felly y bu, mae'n ymddangos, canys pan ymddangosodd Ceinion Awen y Cymry Gwenffrwd o wasg Thomas Gee yn 1831, cafwyd enw 'Mr. Robert Lloyd Morris, Denbigh', ymhlith y tanysgrifwyr.
Erbyn 1833 yr oedd gan Morris ei fusnes argraffu ei hun yn Mason Street/Villars Street, Lerpwl, gan symud oddi yno i Tithebarn Street erbyn 1836; ac erbyn Awst 1840 yr oedd wedi symud i Dale Street.
Argraffodd Hymnau a Salmau Richard a Joseph Williams ar ran Methodistiaid Calfinaidd Lerpwl yn 1840, er fy mod yn amau oddi wrth ei gysylltiadau yn gyffredinol mai Eglwyswr ydoedd Morris ei hun.
***
DECHREUWYD cyhoeddi'r cylchgrawn Y Gwladgarwr yng Nghaer dan olygyddiaeth Ieuan Glan Geirionydd yn 1833. Prynwyd y cylchgrawn gan Edward Parry, Caer, yn 1836, a'i olygu gan Hugh Jones ('Erfyl') hyd 1840. Yn niwedd Y flwyddyn honno, gwelwyd trosglwyddo'r cylchgrawn 0 Gaer i Lerpwl, trwy i Robert Lloyd Morris ddod yn berchennog ac yn olygydd iddo.
Dywed taflen rydd y tu mewn i rifyn Rhagfyr 1840 o'r cylchgrawn y bydd i'r Gwladgarwr 'o hyn rhaglaw, gael ei ddwyn ymlaen ar draul a than gyfarwyddyd Mr. ROBERT LLWYD MORRIS, Printiwr a Llyfrwerthwr Cymreig, Dale-street, Liverpool. Y mae dyhëwyd a brwdfrydedd Mr. Morris dros ei wlad a'i genedl yn dra hysbys i'r rhan fwyaf o'n Llenyddion Cymreig...'
Mynd ar i lawr yr oedd Y Gwladgarwr pan brynwyd ef gan Morris. Gwnaeth ymdrech i roi bywyd newydd ynddo. Y tu mewn i amlen-bapur flaen rhifyn Ionawr 1841, er enghraifft, rhestrir nifer o welliannau i ddiwyg y papur.
Roedd y papur yn well, 'Y tudalennau yn ddestlusach, a'r print yn llawer amgenach', a dywed fod newidiadau yn y teip a lled y golofn yn golygu bod y darllenwyr yn cael 15,104 o lythrennau yn fwy ymhob rhifyn a oedd yn gyfystyr â chael yn agos at bedwar tudalen ychwanegol. Ond er gwaethaf pob ymdrech, dod i ben a wnaeth Y Gwladgarwr gyda rhifyn Mehefin 1841, a hynny heb rybudd.
Mewn casgliad llawysgrifau yn y Llyfrgell Genedlaethol (L1GC 1807 E), ceir pump o lythyrau yn llaw R. Ll. Morris. Un at John Jones ('Tegid') yng Ngorffennaf 1839 yw'r cynharaf ohonynt.
Roedd Tegid yn un o `aelodau gohebol' Cymreigyddion Lerpwl, a phwrpas llythyr Morris oedd anfon ato broflen o gyhoeddiad swyddogol a rhestr testunau eisteddfod y bwriadai'r Cymreigyddion ei chynnal yn Lerpwl ym Mehefin 1840, sef y 'Liverpool Grand Gordovigion Eisteddfod'.
Mae'n amlwg o'r broflen mai R.Ll. Morris oedd ysgrifennydd Cymreigyddion Lerpwl ar y Pryd, ac ato ef yr oedd yn rhaid anfon yr holl gyfansoddiadau ar gyfer yr eisteddfod. (Roedd Morris yntau'n barddoni: gwelais gyfeiriadau at gerddi o'i eiddo yn Y Gwladgarwr a Goleuad Cymru.)
Yn rhifyn Awst 1840 o'r Gwladgarwr, dywedir bod cyfrol o weithiau arobryn yr eisteddfod, dan y teitl Y Gordofigion, yn y wasg. Dyma'r eisteddfod, wrth gwrs, y daeth Pedr Fardd yn ail ynddi i Eben Fardd ar yr awdl, a'r wobr gyntaf yn £21 ynghyd â medal - swm anrhydeddus iawn y dyddiau hynny.
Fel y nodwyd o'r blaen, dywed Bob Owen Croesor, i awdlau'r ddau fardd gael eu hargraffu gyda'i gilydd mewn cyfrol a ddaeth o wasg R.Ll. Morris yn 1840. Ar gloriau rhifyn Ebrill 1841 o'r Gwladgarwr, ceir hysbyseb sy'n dweud bod rhan gyntaf Y Gordofigion, sef awdlau Eben a Phedr Fardd, newydd ddod o wasg Morris. Tybed ai dyma'r gyfrol a oedd gan Bob Owen mewn golwg?
***
NI WN am faint yn hollol y bu R. Ll. Morris yn Lerpwl. Awgrym Rhestr o Ffugenwau y Llyfrgell Genedlaethol yw ei fod yn yr Wyddgrug erbyn 1852. Ond yn y casgliad llawysgrifau y cyfeiriwyd ato uchod, ceir tri llythyr o'i eiddo a ysgrifennwyd yn ail hanner 1855, a 27 High Street, Everton, Lerpwl, yw ei gyfeiriad ynddynt.
Mae'r olaf o'r pum llythyr, dyddiedig 23 Medi 1857, wedi'i ysgrifennu o Dremadog. Dywed ynddo: 'I have been in this town since St. Patrick's day of 1856 - conducting the Printing Establishment of Mr. R.I. Jones, Madoc Office. We have it in contemplation to commence a Weekly Welsh Newspaper at Xmas. Its name is not finally settled, - but a Conservative paper. Some will have it called Cloch Eryri; others Gwladwr; and some Teithiwr. The first named is my favourite.'
Swyddfa Robert Isaac Jones ('Alltud Eifion') oedd hon, wrth gwrs, a'r Brython, mae'n debyg, oedd y papur newydd arfaethedig. Ni lwyddais hyd yma i olrhain dim o hanes Robert Lloyd Morris wedi 1857.
Mae tipyn i'w ddweud am Thomas Thomas, ond dychwelwn ato yn nes ymlaen wrth drafod argraffwyr Caer. Mae hynny'n gadael un argraffydd o Lerpwl ar ôl, sef John Jones, Castle Street, un y tâl yn sicr inni oedi gydag ef am ychydig yng nghyd-destun hanes Pedr Fardd a Methodistiaeth Lerpwl.