POBL Y GOETS FAWR ~ Derec Llwyd Morgan ar y trywydd

YR YDYM oll yn gyfarwydd â'r ymadrodd 'Y maen nhw'n dweud. . .', ac â'r cwestiwn sy'n rhwym o ddilyn, sef  'A phwy ydyn nhw, ys gwn i? ' Ateb pobl Sir Fôn i'r cwestiwn yw 'PobI y goets fawr'.

Cyfeiriad hanesyddol at y rhai a deithiai ymhell o dref yn yr oesoedd o'r blaen sydd yn yr ateb, wrth gwrs, y rhai a oedd yn ddigon mentrus neu ffodus i gael gweld rhyfeddodau'r byd hwnnw a orweddai y tu draw i Gaer neu Amwythig neu Aberhonddu, y byd a ganolai ar Lundain.

Diau fod y teithwyr hyn yn glustiog yn ogystal ag yn llygadog, a'u bod yn codi cryn swrn o'u gwybodaeth yn y cerbydau eu hunain, wrth wrando ar eu cyd-deithwyr yn ymgomio.

Ychydig fisoedd yn ôl, am fy mod i'n chwilio (yn ddall ac anwybodus) am lyfrau'n ymwneud â dechreuad yr ysgolion Sul, cefais ganiatâd i browla ar hyd silffoedd cefn y Llyfrgell Genedlaethol, ac ar ddamwain deuthum ar draws llyfr y mae ei deitl a'i gynnwys yn gwneud defnydd o'r un genre lenyddol y gallai coets fawr o'r ddeunawfed ganrif ei chynnal, sef y sgwrs.

***

ENW'R llyfr yw A Trip to Holy-head in a Mail Coach with a Churchman and a Dissenter, in the year MDCCXCIII, ac fe'i cyhoeddwyd yn Llundain yn 1793. Nid oes enw awdur wrtho; ac nid oes gennyf y syniad lleiaf paham y dewisodd yr awdur gymryd arno deithio i Gaergybi yn hytrach nag i Fryste neu Bortsmouth.

Y mae'n cynnwys chwe llythyr wedi'u cyfeirio at 'Jack' (sef, yn ddiau, y dyn cyffredin, Pobun), oll yn cofnodi'r ymgom a fu rhwng yr Eglwyswyr a'r Sentar yn ystod y tridiau y bu'r goets ar ei thaith rhwng Llundain a Môn.

Dywedais yn awr mai cymryd arno ei fod yn teithio a ddarfu'r awdur. Gan hynny, rhaid credu mai ymgom ddychmygol yw'r ymgom, – ond nid yw'n llai gwerthfawr am hynny. Roedd ganddo nod yn ei feddwl – a dof ato yn y man.

Nid sgwrsio am y tywydd a geir! 1793 oedd y flwyddyn pan aeth Lloegr unwaith yn rhagor i ryfel yn erbyn Ffrainc; yr oedd y rhyfel am Annibyniaeth America yn dal yn fyw yn y cof; ac yr oedd nifer o bynciau eraill yr oedd eglwys a chapel yn anghytûn arnynt, – er enghraifft, ehangu terfynau Deddf Goddefiad 1689 yn 1779, diwygio'r Senedd, a'r ymgais ddiweddar i ddiwygio'r Deddfau Corfforaeth a Phrawf. Barn yr Eglwyswyr a'r Sentar ar y testunau mawr a phwysig hyn oedd cynnwys y llythyron at Jack.

O gofio pa mor elyniaethus tuag at yr Anghydffurfwyr yr oedd y Sefydliad yn gyffredinol yn chwarter olaf y ddeunawfed ganrif, mae'n naturiol fod yr awdur yn ei bortreadu'i hun fel gwrandäwr a chofnodwr cwbl ddiduedd.

Ond Anghydffurfiwr ydoedd, heb os, Anghydffurfiwr gwir, deallus, cyfrwys, un a wyddai'n dda sut i ddefnyddio'r argraffwasg a'i phŵer er lles ei achos.

Drwodd a thro, yr hyn a geir yn A Trip to Holy-head yw molawd di-fawl i synhwyred tymherus doeth y safbwynt Anghydffurfiol. Ond ynghyd â hynny, dangosir hwnt ac yma, yn glyfar, gyda llaw megis, pa mor anamddiffynadwy yw Anglicaniaeth yn ei hanfod. Pwynt sy'n ychwanegu at glyfrwch yr awdur yw ei fod yn gwneud yr Eglwyswr, serch hynny, yn ŵr hynod hynod resymol.

Ceir ganddo gwestiynau fel 'Pam yr ystyrir y Sentars mewn golau mor anffafriol, gan y Llywodraeth a'r Werin fel ei gilydd?' Etyb yr Anghydffurfiwr trwy ddweud mai Chwigiaid, o raid, yw'r Sentars oll os ydynt yn gweithredu'n unol â'u hegwyddorion a'u lles, – Cyfeillion calonnog. Cyfansoddiad y Wlad ydynt.

***

OND BETH am Dr Price a Dr Priestly? (Gan mor rhesymol yw'r Eglwyswr, yr Anghydffurfiwr ei hun sy'n codi'r cwestiwn hwn am ddau begor mwyaf peryglus Anghydffurfiaeth, ac y mae'n codi'r cwestiwn er mwyn cael ei daro ar ei ben.)

Er eu bod yn boblogaidd ymhlith Cristionogion gwleidyddol ac athronyddol, meddai, y maent ymhell o fod yn boblogaidd ymhlith corff mawr eu pobl eu hunain.

'Wel,' meddai'r Eglwyswr ymhellach, 'yr oeddech chi o blaid Annibyniaeth i America. Ac at hynny croesawyd y Chwyldro yn Ffrainc gennych.'

Nid dyma'r union le i drafod yr ateb yn fanwl, ond mae'n werth nodi y ceir yn y Trydydd Llythyr at Jack ddadansoddiad deallus o achosion y Rhyfel yn America, ac yn y Chweched Llythyr ddarlun teg o stad y genedl Ffrengig yn 1789 a'u hangen am ryddid. Ceir yno hefyd feirniadaeth ddiplomatig o'r ffordd y daeth cyfeillion Rhyddid i roi gormod hyder yn Ysbryd Rhyddfrydol yr amserau.

Gyda'r un doethineb gwybodus a gwastad yr etyb yr Anghydffurfiwr yr holl gwestiynau a deflir ato, nes yn y diwedd y mae'n rhaid i'r Eglwyswr gyfaddef fod ei hen syniad ef am y Sentars, sef eu bod yn bobl ystyfnig, orewyllysgar a direswm, yn syniad cyfeifiornus.

'Yn awr,' meddai, 'yr wyf yn argyhoeddedig eu bod yn bobl a chanddynt farn sicr, a'u bod yn ddynion egwyddorol a chydwybodol.'

A dyna, wrth gwrs, lefaru barn pawb a wrandawodd ar yr ymgom hir yn y goets fawr i Gaergybi: fe wnaeth y propagandydd Anghydffurfiol ei bwynt yn wych!