MRS GLADSTONE AR BLÂT ~
Trysor a gornelodd Mary Wiliam

PAN AWN i dŷ ffrindiau, a oedd yn llawn celfi a llestri hardd ni theimlwn yn hapus yn dod oddi yno heb weld un plât yn arbennig. Yn anffodus, doedd y plât ddim ar wal y parlwr ond llechai ar wal y cwtsh dan star a bu'n rhaid imi ddyfeisio aml i esgus er mwyn ei weld. Y peth hynod amdano oedd bod llun gwraig arno oherwydd ar wahân i'r teulu brenhinol, nid oeddwn erioed wedi gweld llun gwraig ar blât.

Yn naturiol, yr oedd yn un o bâr, ac ar y llall yr oedd llun o'i gŵr ond y wraig a âi â'm bryd i yn ddi-feth ac odani'r geiriau MRS GLADSTONE. Wrth holi ble cawson nhw'r plât, yr ateb oedd, 'mewn garet yn sir Feirionnydd'.

Yr oedd sawl un yn gwybod fy mod yn chwennych y plât ac ym mhen misoedd lawer meddai ffrind wrthyf, 'Wyt ti'n gwbod y plât 'na wyt ti mor hoff ohono? Mae un ar gael yn y siop a'r siop yn y pentre a'r pentre yn sir Feirionnydd'. '0 diar,' meddwn i, 'a ninnau byth yn mynd i'r cyfeiriad yna.' 'Aiff Mam i brynu'r plât drostat ti os wyt ti am ei gael,' meddai ef. Ac felly y bu. Aeth Mrs Hughes i brynu'r plât ac fe anfonais i £7 trwy'r post.

Ac yn awr, mae gen innau blât o wneuthuriad digon tila mae'n wir ond sy'n darlunio gwraig sy'n edrych fel ein Mamgu ni oll. Mae'r plât o liw hufen, ei ymyl fel cragen a llinell dreuliedig o aur o'i amgylch.

Yn y canol, mae transffer sepia o wraig y prif weinidog yn gwisgo'r dillad a wisgai yn y tŷ, capan gwyn a rhubanau duon yn ei addurno, ffrog a chêp brodedig, a loced hirgrwn â chroes arni am ei gwddwg.

Ac i mi, mae rhyw lonyddwch a sirioldeb yn ei hwyneb. Bwriadwyd i'r platiau hongian gan fod pâr o dyllau yn y cefn i ddal y llinyn.

***

TROAIS at y llyfrau hen bethau i gael tipyn o hanes y platiau, pryd y'u bathwyd a pham, a hwyrach dipyn o hanes merched yn ôl y gwneuthurwyr llestri. Ond ofer fu'r chwilio. Ni chefais unrhyw wybodaeth am y platiau eu hunain, a phrin yw'r merched y gwnaeth crochendai Swydd Stafford fodelau cefn gwastad ohonynt i'w rhoi ar y silff ben tân.

Merched a gipiai benawdau'r newyddion ar y pryd a anfarwolwyd ganddynt. Grace Darling oedd un. Merch ceidwad goleudy Outer Farne oddi ar arfordir Northumberland a fentrodd ei bywyd mewn moroedd mawr ac achub nifer o bobl oddi ar long a ddrylliwyd ar y creigiau gerllaw oedd hi. Actoresau a pherfformwragedd syrcas oedd y lleill gan fwyaf.

Modelwyd ambell bâr hefyd ond byddai'r ferch yn y rhain naill ai wedi ei llofruddio gan y gŵr neu wedi'i fradychu ef â'i thystiolaeth.

O'r holl wleidyddion a fodelwyd megis Disraeli, Syr Robert Peel a Richard Cobden, Mrs Gladstone oedd yr unig un o blith eu gwragedd a gafodd ei modelu. Ceir nifer o bortreadau o Gladstone ei hunan, delwau cefn gwastad yn bennaf.

Fel arfer dangosir ef mewn ffroc-côt dywyll, ei law chwith ar ei forddwyd ac araith yn ei law dde. Ond mae'r model sy'n ei ddangos a'i law dde yn pwyso ar bedestal yn un o bâr ac mae'r llall yn dwyn y teitl, Mrs Gladstone.

***

BU'N rhaid imi droi at y llyfrau hanes i weld pam y cafodd y foneddiges yma'r fath fraint. Ganed Miss Catherine Glynne yng Nghastell Penarlâg yn 1812, ac yno y priododd â William Ewart ar Orffennaf 25ain, 1839. Ac am yr hanner can mlynedd nesaf, yno y treuliasant chwe mis o bob blwyddyn bron.

Yn ôl yr hanesydd Philip Magnus, 'Gladstone had secured a great prize in every sense, for the Glynnes belonged to a historic Whig clan,' ac amdani hi Catherine, 'she had long reigned at Hawarden Castle like a princess'.

Bu farw ei thad pan oedd hi'n blentyn ac roedd ei mam, ei dau frawd a'i chwaer yn ei haddoli. Mae'n ymddangos i'w gŵr wneud yr un peth.

Yn ddi-os, yr oedd yn ferch landeg, hwyliog a chanddi wallt brown tlws a llygaid gleision, a hoffai wisgo rhosyn er mwyn codi lliw ei hwyneb (yr un fath â Mrs Thatcher a'i pherlau heddiw).

Pâr gosgeiddig a chariadlawn oeddynt yn ôl yr hanesydd a hithau bob amser yn cefnogi'i gŵr ac yntau bob amser yn gwrando ar ei chyngor. Pâr rhinweddol yn wir!

Yr oedd hynny yn cyfateb yn union ag anian yr oes pan oedd parchusrwydd ymddangosiadol a bywyd teuluol allanol gadarn yn holl bwysig.

Yr oeddynt hefyd yn bar crefyddol iawn. Bore trannoeth y briodas, darllenodd y ddau y Beibl gyda'i gilydd a phenderfynasant wneud hynny am weddill eu hoes.

Ar hyd ei fywyd, yr oedd ef wedi ymgodymu â'r alwad i gysegru ei hunan i'r Eglwys. Dywedir i'w waith gyda phuteiniaid roi cyfle iddo droi ei ffydd yn weithredoedd.

***

YR OEDD sicrwydd eu priodas a'u gweithredoedd da wedi gwneud Mr a Mrs W.E.Gladstone yn enghraifft ddisglair o foesoldeb y cyfnod. Yr oedd yn naturiol felly fod y cwmnïau llestri wedi dewis tanlinellu'r ffaith fod y pâr nodedig yma yn dathlu eu priodas aur a hithau'n 77 oed ac yntau'n 80 oed.

Bu Gladstone yn brif weinidog bedair gwaith rhwng 1868 ac 1894. Yng Nghymru yn yr un cyfnod, T.E. Ellis, a ddaeth wedyn yn brif chwip y Rhyddfrydwyr, oedd yr aelod seneddol dros sir Feirionnydd. Pa ryfedd felly i bobl Meirionnydd uno yn nathliadau'r Briodas a phrynu pâr o blatiau er i'r genhedlaeth ar eu hôl eu cuddio yn yr atig.