HOLL LYFRAU A LLYFRYNNAU PEDR FARDD ~
Ffrwyth ymchwil E.Wyn James
DECHREUODD Pedr Fardd gyhoeddi ei waith llenyddol o ddifrif tua 1815. Ei faes cyntaf oedd y cyfnodolion, a bu'n cyfrannu'n gyson iddynt ar hyd ei oes – gwelais gyfeiriadau at gyfraniadau o'i eiddo yn y cylchgronau canlynol: Yr Athraw, Y Brud a Sylwydd, Y Dirwestydd, Y Drysorfa, Goleuad Cymru, Goleuad Gwynedd, Y Gwladgarwr, Y Gwyliedydd a Seren Gomer. Ond yn fuan trodd at gyhoeddi llyfrau a llyfrynnau yn ogystal.
Yn rhifyn diwetha'r Casglwr rhestrwyd pum casgliad o emynau Pedr Fardd. Wrth chwilota am y casgliadau hyn deuthum ar draws nifer o'i lyfrynnau eraill, neu gyfeiriadau atynt – cryn ddwsin ohonynt i gyd (a chyfrif cyfieithiadau) – yn llyfrau rhyddiaith a barddoniaeth.
***
A BARNU o ddaliadau'r llyfrgelloedd y bûm yn ymgynghori â'u catalogau (sef y Llyfrgell Genedlaethol, y Llyfrgell Ganol a Llyfrgell Salisbury yng Nghaerdydd, y Llyfrgell Brydeinig a Llyfrgell Dinas Lerpwl), y mae llyfrau Pedr Fardd oll yn rhai digon prin, ac eithrio ei gasgliad o farddoniaeth gaeth Mel Awen (Llynlleifiad: 'Argraffwyd dros yr Awdwr, gan T. Thomas, Tithebarn-Street', 1823), cyfrol o 96 tudalen i gyd.
Fel yn achos ei Crynoad o Hymnau yn ddiweddarach, crynhoi yw un o nodweddion y gyfrol hon, gyda'r rhan fwyaf o'r cynnwys wedi ymddangos o'r blaen ar wasgar mewn cyfnodolion.
Fel emynydd y mae Pedr Fardd yn adnabyddus i ni erbyn heddiw, ac nid oes bellach lawer o olwg arno fel bardd, ond yn ei ddydd roedd iddo safle uchel fel bardd cynganeddol. Bu'n bur amlwg yn eisteddfodau'r cyfnod ac yn aelod blaenllaw o Gymreigyddion Lerpwl.
Ceir adroddiad amdano'n codi mewn cyfarfod o Gymreigyddion Lerpwl ar 6 Ionawr 1823 a, thrwy gyfrwng englynion, annog ei gyd-aelodau i danysgrifio i Mel Awen, 'yr hwn a amcana ei argraffu yn y Gwanwyn nesaf, (pris 2s. 6ch.); a chafodd gefnogiad gwresog gan bawb' (Seren Gomer, Chwefror 1823, t.58). Diddorol hefyd yw gweld Cymdeithas Cymreigaidd Corwen yn rhoi Mel Awen fel gwobr yn eu cyfarfod Gŵyl Ddewi yn 1824 (Y Gwyliedydd, Mawrth 1824, t.94).
Ceir wyneb-ddarlun ar ddechrau Mel Awen, sef llun o Pedr Fardd wedi'i dynnu ar bren gan William Daniels (c. 1812-1880), brodor o Lerpwl a oedd ar y pryd yn brentis 16 oed i'r arlunydd adnabyddus o Lerpwl, Alexander Mosses 1793-1837).
Maes o law daeth Daniels yn arlunydd o gryn fri yn y dref. 'He might have risen to eminence in his art but for his fondness for drink and for jovial company' yw dyfarniad Bryan's Dictionary of Painters and Engravers (1903) arno (cyf. II, t.9).
***
GWELAIS bum cyfrol arall o farddoniaeth gan Pedr Fardd, pedair Cymraeg ac un Saesneg. Dyma restr ohonynt:
Awdl ar rodiad y ddeddf ar fynydd Sinai (Llynlleifiad: argraffwyd gan D. Marples, 1826), 36 tudalen. Dyma awdl fuddugol Eisteddfod Aberhonddu, Medi 1826.
Awdl ar gystuddiau, amynedd, ac adferiad Job, ail argraffiad 'yn nghyd a llaweroedd o chwanegiadau' (Caerlleon: argraffwyd gan J. & J. Parry, 1841), 48 tudalen. Gan mai awdl ail-orau Eisteddfod Gadeiriol y Gordofigion yn Lerpwl ym Mehefin 1840 oedd yr awdl hon, rhaid ei bod wedi mynd i ailargraffiad yn bur sydyn. Bardd arall o Eifionydd, Eben Fardd, oedd awdur yr awdl fuddugol.
Yn ei draethawd ar Pedr Fardd a gedwir bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol (LlGC 19268 B) dywed Bob Owen, Croesor, i awdlau'r ddau fardd gael eu hargraffu gyda'i gilydd mewn un gyfrol yn dwyn yr un teitl â'r gyfrol a nodir yma, gan Robert Lloyd Morris, Dale Street, Lerpwl, yn 1840.
Dyna, o bosibl, yr argraffiad cyntaf o awdl Pedr Fardd, y cyfeirir ati ar wyneb-ddalen argraffiad Parry; ond methais â tharo ar gopi ohoni. (Prynodd E. Vincent Evans y fedal a gafodd Pedr Fardd ar ei awdl ail-orau yn Eisteddfod y Gordofigion oddi wrth ŵyr iddo, a chyhoeddwyd geiriad y fedal yn Y Brython 4/11/1920, t.3.)
Crynodeb o hanes y Gymdeithasfa a gynnaliwyd yn y Bala, yn 13 a'r 14 o fis Mehefin, yn y flwyddyn 1820 (Liverpool: argraffedig gan J. Jones, yn Swyddfa Nevetts, (1820?), 8 tudalen. Sylw Bob Owen, Croesor, arno yw: 'Ar gân y mae'r Hanes uchod. O ddim swyn sydd ynddo, ni fuasai waeth iddo fod mewn rhyddiaith noeth. Derllyn, ran hynny fel rhyddiaith serch ei fod ar ffurf penillion.'
Duw yn amddiffynfa i'w bobl, ail argraffiad ( (Liverpool): argraffedig gan J. Jones, 9 , Castle St., 1833). Deuddeg tudalen yw hyd yr ail argraffiad hwn, ond ceir hefyd 'ail argraffiad, gyda chwanegiad' o'r un argraffdy yn yr un flwyddyn, a hwnnw'n 16 tudalen o ran hyd. Cafwyd dau drydydd argraffiad o'r gân hon, hefyd yn yr un flwyddyn, sef 1861, y naill gan P.M. Evans, Treffynnon, a'r llall gan R. Jones, Bethesda, y naill yn 16 tudalen o ran hyd a'r llall yn 12. Cynhwyswyd y gân hon hefyd ym mlodeugerdd Thomas Hughes (1803-98), Y Garnedd Arian (Llanidloes, (1857) ).
Methais â tharo ar yr argraffiad cyntaf, ond dywed Arfonog mai 22 pennill oedd i'r gerdd yn yr argraffiad hwnnw. Ceir 38 pennill yn yr ail argraffiad a 52 yn yr 'ail argraffiad, gyda chwanegiad'. Cerdd ar fesur 'Ar hyd y nos' ydyw, ac yn ôl ei nai, Nicander, barn Pedr Fardd ei hun oedd mai'r gerdd hon oedd 'ei orchestwaith barddol' (Myrddin Fardd, Adgof uwch angof, t.230).
God the defence of his people (Liverpool: printed by J. Jones, 9, Castle Street, 1833), 16 tudalen. Cyfieithiad Saesneg o Duw yn amddiffynfa i'w bobl yw hon, fel yr awgryma'r teitl.
Nodir mewn rhagair ar y dechrau i'r argraffiad Cymraeg cyntaf werthu i gyd mewn ychydig wythnosau ac iddo gyhoeddi'r fersiwn Saesneg hon 'with considerable additions' ar gais nifer o gyfeillion. Ceir 52 pennill yn y gerdd Saesneg, sef yr un nifer ag sydd yn yr 'ail argraffiad, gyda chwanegiad' o'r gerdd Gymraeg.
***
CYHOEDDODD Pedr Fardd sawl llyfr rhyddiaith yn ogystal (er bod cerddi ganddo wrth gwt amryw o'r rhain hefyd). Ei waith rhyddiaith pwysicaf, mae'n debyg, yw ei holwyddoreg gynhwysfawr, Catecism ysgrythyrol ar ddull corph o dduwinyddiaeth (Caerlleon: argraffwyd gan M. Monk, heb ddyddiad), 98 tudalen.
Mae hwn yn waith pur gelfydd am fod yr atebion wedi'u llunio bron yn gyfan gwbl o union eiriau'r Beibl ei hun. Mewn erthygl goffa i Pedr Fardd cyfeirir at y gyfrol hon fel 'y dernyn cywreiniaf yn yr iaith gymraeg' (Y Drysorfa 1845, t.122). Yn ôl Isaac Foulkes yn ei Enwogion Cymru, fe'i cyfansoddwyd 'at wasanaeth yr Ysgol Sabbothol' a bu `mewn cryn fri am lawer o amser'.
Cafwyd cyfieithiad Saesneg o'r gyfrol hon, A Scripture catechism; forming a compendium of divinity, ail argraffiad (Liverpool: 'Printed by D. Marples and Sold by him, and by the Author, 25, Edmund-street', 1835), 130 tudalen. Ceir y dyddiad 30 Awst 1825 wrth y rhagair. Methais a tharo ar argraffiad cyntaf y cyfieithiad Saesneg.
Dywed Corfanydd (Y Tyst Cymreig 28/10/1870) i Pedr Fardd gyhoeddi ei gyfieithiad 'tua'r un amser' â Mel Awen, ac er mai braidd yn benagored yw'r ymadrodd hwnnw, gellir casglu o'r cyd-destun ei fod yn golygu yr un flwyddyn â Mel Awen, sef 1823. Ond ceir nodyn cymeradwyol o dan y rhagair gan Thomas Raffles, LL.D., a John Stewart, D.D., wedi'i ddyddio 'Liverpool, August 27th, 1825'.
Awgryma hynny, ynghyd â'r ffaith fod y rhagair ei hun wedi'i ddyddio dri diwrnod yn ddiweddarach na'r nodyn, mai dyma yw dyddiadau gwreiddiol yr argraffiad cyntaf. Os felly, golyga fod yr argraffiad cyntaf wedi ymddangos yn ail hanner 1825, gyda'r ail argraffiad yn ei ddilyn cyn diwedd y flwyddyn.
Nid oes ddyddiad o gwbl wrth yr argraffiad Cymraeg, ond yn rhagair y cyfieithiad Saesneg dywedir i'r gwaith gael ei gyfansoddi a'i gyhoeddi yn Gymraeg 'many years ago'. Eto, rhaid bod yr argraffiad Cymraeg y'i cofnodir yma wedi ymddangos rywbryd o ganol 1817 ymlaen.
Un o hen deulu o argraffwyr yng Nghaer oedd John Monk. Bu farw ei frawd yn 1800 ac ef a gymerodd ei le yn swyddfa’r Chester Courant.
Yn y flwyddyn ddilynol priododd Miss Margaret Harrison o Aldford. Cafodd ei daro'n wael ychydig flynyddoedd wedi priodi, a bu farw yn 1817. Er iddo farw ar ddechrau Mai y flwyddyn honno, parhawyd i ddefnyddio ei argraffnod ef hyd 19 Awst 1817. Yr adeg honno newidiwyd yr enw i enw Margaret Monk ac fe barhaodd felly hyd ddiwedd 1832.
Awgrym cerdyn y Llyfrgell Genedlaethol o ddyddiad ar gyfer y Catecism ysgrythyrol yw: c. 1820, gyda cherdyn Llyfrgell Salisbury yn awgrymu c.1823; yn ôl Myrddin Fardd, yn 1822 y cyhoeddwyd ef. Ac y mae dyddiad o'r fath yn sicr yn cyd-fynd â dyddiadau Margaret Monk ac arddull argraffu'r llyfr.
***
OND SUT mae cysoni’r dyddiad hwnnw a thystiolaeth rhagair y cyfieithiad Saesneg? Wedi'r cwbl nid yw 1822 'many years ago'. Nid yw ychwaith yn cyd-fynd â thystiolaeth Corfanydd yn Y Tyst Cymreig, 21/10/1870.
Yno dywed Corfanydd i Pedr Fardd gyfansoddi'r emynau ‘Daeth ffrydiau melys iawn' a 'Trwy Iesu Grist a'i werthfawr waed' pan nad oedd braidd bymtheng mlwydd oed, ac iddo yn nes ymlaen gyfansoddi ei gywyddau 'Dyn yn ei gyflwr o ddiniweidrwydd' a 'Rhagoriaethau cariad'.
Yna â ymlaen: 'Ar ôl hyn, bu'r awen yn dawel am yspaid o amser; ond yn y cyfamser, bu efe yn brysur yn crynhoi yn nghyd Gatecism Ysgrythyrol ar brif bynciau crefydd, yr hwn a argraphwyd gan Mr Parry, Caer. Hefyd, arolygodd ail argraphiad o lyfr Saesneg a elwid y Protestant ... Yn y flwyddyn 1812, ymddadebrodd yr awen drachefn, a deffrodd o ddifri.'
Dyddiadau Arfonog ar gyfer y ddau gywydd y cyfeirir atynt gan Corfanydd yw 'tua 1807' a 'thua 1809', a chytuna yntau i'r holwyddoreg Gymraeg gael ei chyhoeddi 'cyn 1812'. Y casgliad amlwg felly yw i argraffiad Cymraeg cyntaf yr holwyddoreg ymddangos rywbryd rhwng 1809 a 1812 ac (er na nodir hynny) mai ail argraffiad yw argraffiad Monk ar ddechrau’r ugeiniau.
Fel y gŵyr y cyfarwydd, y mae Miss Eiluned Rees o’r Llyfrgell Genedlaethol wedi paratoi llyfryddiaeth drylwyr o’r holl lyfrau Cymraeg a gyhoeddwyd hyd 1820, ond dywed wrthyf nad oes dim byd yn ei chatalog sy'n amlwg yn cyfateb i argraffiad cynharach o'r holwyddoreg. (Dymunaf ddiolch i Miss Rees am ei chymorth parod wrth imi grynhoi defnyddiau’r erthygl hon.)
Yn y dyfyniad uchod dywed Corfanydd mai 'Mr Parry, Caer' a argraffodd argraffiad Cymraeg cynta'r holwyddoreg hon. Ond rhaid cywiro'r gosodiad hwnnw. John Parry (1775-1846), y gweinidog dylanwadol gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, sydd dan sylw yma wrth gwrs. Ymsefydlodd yng Nghaer yn 1806.
Ond wedi cadw siop dillad yno am ryw bedair blynedd, rhoddodd y gorau i hynny a chanolbwyntio ar werthu llyfrau. Roedd John Parry, felly, wedi dechrau yn y fasnach lyfrau yn yr union gyfnod y gellir casglu i argraffiad Cymraeg cyntaf holwyddoreg Pedr Fardd ymddangos o'r wasg. Ac o gofio brwdfrydedd John Parry dros waith yr Ysgol Sul (heb sôn am ei gysylltiadau enwadol â Phedr Fardd), ni fyddai'n anodd credu y byddai ganddo ddiddordeb mewn holwyddoreg o'r fath – cyhoeddwyd ei Rhodd Mam enwog ef ei hun, er enghraifft, yn 1811.
Ond nid fel argraffydd y byddai ei gysylltiad â chyhoeddiad a ymddangosasai rywbryd rhwng 1809 ac 1812, ond fel cyhoeddwr. Ni ddechreuodd argraffu ei hun hyd 1826 (nid 1818 fel y dywed y Bywgraffiadur).
Cyn hynny byddai'n defnyddio argraffwyr eraill ar gyfer ei waith, megis Margaret Monk a John Fletcher (1756-1835), argraffydd arall yng Nghaer. Ac yn sicr bu gan John Parry gysylltiad ag argraffiad Monk o holwyddoreg Pedr Fardd a gofnodwyd uchod, oherwydd ceir y geiriau 'Ar werth gan I. Parry' mewn print bras ar wyneb-ddalen yr argraffiad hwnnw.
***
GWELAIS ddau gyfieithiad gan Pedr Fardd o waith awduron eraill, y naill i'r Saesneg a'r llall i'r Gymraeg. Cyfieithiad o bregeth gyhoeddedig ar Galarnad 3:27 gan John Elias – Buddioldeb yr iau (Trefriw: J. Jones, 1818) – yw'r naill, sef The advantage of the yoke to young people (Liverpool: 'printed by Nevetts, Castle Street', heb ddyddiad – c.1820 yn ôl cerdyn y Llyfrgell Genedlaethol), 24 tudalen.
Y llall yw Manteision ac anfanteision ystâd priodas (Liverpool: argraffedig yn argraffdy Nevetts, gan John Jones, 1819), 40 tudalen. Cyfieithiad yw hwn o waith gweinidog bedyddiedig o Lerpwl, John Johnson (1706-91), The advantages and disadvantages of the marriage-state, cyfrol a adargraffwyd droeon yn y Saesneg gwreiddiol yn Lloegr ac America yn ail hanner y ddeunawfed ganrif a hanner cynta'r ganrif ddiwethaf.
Gwelais ddau gyfieithiad Cymraeg arall yn ychwanegol at un Pedr Fardd,, sef cyfieithiad William Richards (1749-1818), Lynn, Manteision ac anfanteision y cyflwr priodasol (Caerfyrddin: I. Ross, 1773), ac un Evan Griffiths (1795-1873), Abertawe, Traethawd ar fanteision ac anfanteision y cyflwr priodasol (Abertawe: E. Griffiths, 1831).
Yn ei Enwogion Cymru dywed Isaac Foulkes fel a ganlyn yn ei gofnod ar Pedr Fardd: 'Ar gais Dr. Raffles, ysgrifennodd hanes byr o'r Trefnyddion Calfinaidd, yr hwn a argraffwyd, ac a fawr ganmolid oblegid ei arddull Seisnig bur a chyfoethog.'
Thomas Raffles oedd hwn, gweinidog cynulleidfaol amlwg iawn a fu'n gweinidogaethu yn Lerpwl o 1812 hyd 1862. (Sylwais ar ddau emyn o eiddo Raffles yn yr atodiad i gasgliad Dafydd Jones, Treffynnon, 1810, rhifau 646 a 647, wedi'u cyfieithu gan Dafydd Jones ei hun.)
Methais â dod o hyd i gopi o'r argraffiad Saesneg o'r hanes hwn, ond fe argraffwyd fersiwn Gymraeg hefyd, a hynny (fe ymddengys) cyn yr argraffiad Saesneg, oherwydd dywed Arfonog i Pedr Fardd ddwyn allan argraffiad Saesneg o'r hanes yn yr un flwyddyn â'r un Cymraeg ar gais Dr Raffles - h.y. gwneud cais am gael cyfieithiad Saesneg o'r hanes ac nid am ei ysgrifennu yn y lle cyntaf a wnaeth Dr Raffles yn ôl Arfonog. (Cafodd Arfonog fenthyg copïau o'r argraffiadau Cymraeg a Saesneg gan John Evans, Crosshall St., Lerpwl, a'r rheiny wedi'u cyd-rwymo.)
Cyhoeddwyd y fersiwn Cymraeg, beth bynnag am y Saesneg, yn ddienw - Crynodeb o hanes dechreuad a chynnydd y Trefnyddion Calfinaidd Cymreig yn Llynlleifiad (Llynlleifiad: argraffedig gan D. Marples, 1826), 16 tudalen. (Fe gofir i Dr Raffles ysgrifennu nodyn cymeradwyol ar gyfer yr argraffiad Saesneg o holwyddoreg Pedr Fardd yn Awst 1825.)
Ar dudalen gefn y copïau o'r Crynodeb a welais i, ceir emyn gan Pedr Fardd, sef 'Angau ac eiriolaeth Crist yw 'ngorfoledd', ond dywed Arfonog i'r argraffiad a welodd ef, a hwnnw hefyd wedi'i ddyddio 1826, gynnwys emyn gwahanol o eiddo Pedr Fardd ar y tudalen gefn, sef 'Daeth ffrydiau melys iawn'.
Ar ben hynny, dywed Corfanydd (Y Tyst Cymreig, 28/10/1870) mai yn 1824 y cyhoeddwyd y Crynodeb. Felly y mae'n bosibl fod o leiaf dri argraffiad o'r hanes yn y Gymraeg, un yn 1824 a dau yn 1826.
***
YN EI draethawd ar Pedr Fardd sydd bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol, priodola Arfonog ddau lyfryn dienw arall iddo ar awdurdod ymchwil y Parch O.J. Owen, Rock Ferry, sef pamffledyn ar weinyddiad yr ordinhadau Methodistaidd a argraffwyd gan D. Marples yn 1826 a llyfryn dirwestol a argraffwyd gan John Jones, Castle Street, yn 1836.
Dywed Arfonog hefyd y tybir i Pedr Fardd gydolygu cylchgrawn bychan o'r enw Y Cymro gyda John Jones, Castle Street – cylchgrawn yr ymddangosodd tri rhifyn ohono'n unig. Ni lwyddais i olrhain y ddau lyfryn a nodwyd, ond gwelais gopi o rifyn cynta'r Cymro, wedi ei ddyddio Mehefin 1822 ac yn 16 tudalen o ran hyd.
Nid oes nac enw golygydd na nod argraffydd wrtho, ond y mae'r englyn agoriadol mewn cyfres gan ryw 'C. Llynlleifiad' yn annerch y cylchgrawn newydd, yn cadarnhau'r dybiaeth ynghylch y golygyddion:
- Cymro glwys â'r camau glân, – aur wisgiad
O'r wasg a ddaeth allan;
O Pedr e gair cywair cân
Unodd, ieuodd â Ioan.
A dysgwn o'r englyn olaf mai yn fisol y bwriadwyd ei gyhoeddi, a phris pob rhifyn yn 'bedair ceiniogan'. Ceir cerdd gan dad Pedr Fardd ar y testun `Galarnad Henaint' yn y rhifyn cyntaf hwn o'r Cymro.
Dyna'r cyfan o lyfrau a llyfrynnau Pedr Fardd y llwyddais i'r gweld neu y sylwais ar gyfeiriadau atynt. Tybed a all rhai o ddarllenwyr Y Casglwr ychwanegu at y rhestr hon neu lenwi rhai o'r bylchau yn y wybodaeth a geir yma?
Fel y gwelir, rhwng y cwbl defnyddiodd Pedr Fardd tua hanner dwsin o argraffwyr yn Lerpwl a Chaer i argraffu ei waith, y rhan fwyaf ohonynt yn hanu o Gymru. Yn rhan ola'r ymdriniaeth hon, gobeithiaf roi peth sylw i argraffwyr Pedr Fardd, ac yn enwedig John Jones, Castle Street.