HOLL GYFANSODDIADAU SAUNDERS LEWIS ~
Yr ymchwil enfawr gan Bruce Griffiths

MAE mwy o gasglu ar weithiau Saunders Lewis nag ar weithiau odid unrhyw awdur Cymraeg arall – o leiaf, dyna f'argraff i. Cryn gamp yw sicrhau casgliad cyflawn o weithiau awdur toreithiog yr aeth nifer nid yn unig o'i fân bamffledi ond hefyd o'i brif weithiau allan o brint. Diolchaf imi ddechrau casglu a minnau'n hogyn ysgol yn y pumdegau.

Clywswn sôn am SL gan fy Nain, a'i cofiai yn ŵr bychan pengoch yn pledio achos Sinn Fein yn y Blaenau. Yn yr ysgol clywais ganmol Blodeuwedd a Buchedd Garmon yn y gwersi Cymraeg. Ond darllen cyfieithiad D. Myrddin Lloyd o ddarn o Fuchedd Garmon yn ei Book of Wales a'm harweiniodd i chwilio am y gwreiddiol; a chwarae rhan y Tywysog Dafydd yn nrama wych Thomas Parry, Llywelyn Fawr, a'm harweiniodd i ddarllen Siwan.

Yna, yn Siop y Glorian, yn y Blaenau, gwelais gopi o Byd a Betws (1940) mewn cwpwrdd gwydr, lle buasai ers 1940, mae'n debyg, a dyma ei brynu am swlltyn. Yn yr un siop prynais Cnoi Cil Gwenallt eto am swlltyn. A dyna ddechrau casglu. 0! na bai'r fath fargeinion ar gael heddiw! Yn ddiweddar, prynais gopi o drydydd argraffiad Byd a Betws am ddwy bunt yn y Bay Book Shop, Bae Colwyn. A welodd rhywun yr ail argraffiad erioed?

Hwylusir gwaith y casglwr gan y llyfryddiaethau a geir yn Presenting Saunders Lewis Alun R. Jones & Gwyn Thomas (1973), yn fy llyfr i fy hun Saunders Lewis (1979) ac yn Saunders Lewis D. Tecwyn Lloyd a G. Rees Hughes (1975). Yn y llyfr olaf y mae'r llyfryddiaeth fanylaf ond nid yw'n gyflawn ac mae ynddi wallau. Rhestrir llawer o'i bamffledi gwleidyddol ond anghofiwyd am Wales After the War (?1942), cyf. o Cymru Wedi'r Rhyfel: The Party for Wales, cyf. Emyr Humphreys o Plaid Cymru Gyfan (1942); Save Wales by Political Action (?1945) gyda chlawr gan Dewi Prys Thomas.

Prin y meddyliem am SL fel ffarmwr, ond bu'n rhaid iddo droi at amaethu i ymgynnal, a dyna sut y gallai gyhoeddi Cam-Ffarmio Cymru (1943), nas rhestrwyd. Ni restrwyd ychwaith Argyfwng Cymru (?1947) na The Crisis of Wales, cyf. R.O.F. Wynne, Garthewin ohono. Nid oes ar gael lyfryddiaeth gyflawn o'r feirniadaeth ar SL, ond ceir llyfryddiaeth ddethol iawn yn Llyfryddiaeth Llenyddiaeth Gymraeg (1976).

Os iawn y cofiaf, bu adeg pan ellid prynu set gyflawn o bamffledi cynnar y Blaid am bumpunt. Aeth Egwyddorion Cenedlaetholdeb (1926) yn brin ac fe'i ailgyhoeddwyd yn 1975 gyda chyfieithiad Saesneg o'm gwaith i. Yn anffodus ni chefais weld y proflenni ac fe geir gwallau cysodi alaethus ynddo, e.e. ymddengys 'a chan nad oes gennym gymaint gallu ar y llysoedd cyfraith' fel 'and as we do have as much power over the law-courts'.

***

MAE'N wir y pylodd diddordeb pamffledi megis The Case for a Welsh National Development Council (1933) a Local Authorities and Welsh Industry (?1934), ond mae'n werth chwilio am The Banned Wireless Talk on Welsh Nationalism (1931), petai ond er mwyn gweld y fath neges ddiniwed a allai ennyn ofn y BBC 'that the talk was calculated to inflame Welsh national sympathies'! Beth arall a ddisgwylient, mewn difrif!

Ceir gwefr o hyd o ail-fyw helynt y tan yn Llŷn mewn pamffledi megis Paham y Gwrthwynebwn yr Ysgol Fomio o (1936), a werthid am geiniog, a'r dilyniant, Paham y llosgasom yr Ysgol Fomio (1937) a Why We Burnt the Bombing School (1937).

Bydd ar y gwir Saundersydd eisiau copi o'r pamffledyn prin Coelcerth Rhyddid ... Croeso i'r Tri (1937), llyfryn bach clawr pinc llachar, a gyhoeddwyd i groesawu'r tri gwron o garchar, ac sy'n cynnwys dwy gerdd gan R. Williams Parry.

Bydd arno eisiau Tan yn Llŷn Dafydd Jenkins, a ailgyhoeddwyd yn ddiweddar. Cefais gopi o ysgrif gyfoes ddiddorol iawn ar y tri, o waith y newyddiadurwr Hannen Swaffer, dan y teitl 'Will Wales Find a De Valera?' (o John Bull, Ion. 20, 1937).

Ysgrifennwyd hi ar ôl anfon y tri i garchar, ac mae'n annisgwyl o ffafriol iddynt. Gellir priodoli hyn i'r ffaith 'I lunched on the day of the trial with my friend Caradog Pritchard' ac i eiriau gwlatgarol Caradog a ddyfynnir yn helaeth.

Dyddiodd cynnwys Canlyn Arthur (1937) er ei ailgyhoeddi'n ddiweddar. Mae'r ôl llwydni ar fy nghopi yn f'atgoffa o'r tridiau o lafur llychlyd a gostiodd imi ei gael. Bu siop hen bethau ar sgwâr Llanrwst a gedwid gan arlunydd o'r enw Mr Jones. Yr oedd silffaid o lyfrau ail-law ynddi, ond heb ddim at fy nant.

Soniodd yntau wrthyf fod ganddo ragor mewn tŷ yn y dref, a chefais ganddo gennad i fynd yno i durio, gyda chlamp o agoriad yn fy llaw. Tybiwn mai i'w gartref yr awn. Safai'r tŷ mewn stryd dlodaidd; tŷ anghyfannedd oedd, ond yn cartrefu miloedd ar filoedd o lyfrau ym mhob ystafell o'r llawr i'r nenfwd, yn ddau a thri thrwch, a llwch, llwydni a phryfed cop ymhobman.

Pethau Saesneg heb fod o ddiddordeb i mi oedd 99% ohonynt. Bum yn dod bob dydd am dridiau ar y trên o'r Blaenau i durio trwy'r tomenni o lyfrau a chylchgronau, a chael ar y diwedd dri dwsin o lyfrau Cymraeg, am swllt yr un, yn cynnwys Canlyn Arthur a Monica.

Bu fy nghyfaill a'm câr Gwyn Thomas yno hefyd, ond erbyn hynny newidiasai Mr Jones ei feddwl ynghylch gwerthu: 'dw'i am gadw rhein at fy mheriwsal fy hun.'! Beth a ddaeth, tybed, o Mr Jones, a'i haldiad o lyfrau?

Yn yr un modd, cofiaf imi gael fy nghopi o Cymru Wedi'r Rhyfel ar ôl treulio prynhawn cyfan yn mynd trwy holl stoc siop ail-law yn y Bermo, a chael dim ond yr un llyfryn hwnnw.

***

CEIR TORETH o waith SL cyn y rhyfel yn Y Ddraig Goch ac yn The Welsh Nationalist. Gwelir ambell damaid o'i waith yn Colofnau'r Ddraig 1926-1976, gol. Tegwyn Jones (1976) ond o'r braidd y gall hwnnw awgrymu'r cyfoeth dihysbydd a geir yn y rhifynnau gwreiddiol.

Bûm yn ffodus i daro ar domen o rifynnau'r Ddraig o'r cyfnod hwn, yn y siop a elwid Andalusia, ym Mhwllheli – siop arall a beidiodd â bod; ond nid yw fy nghasgliad yn gyflawn.

Lladratawyd cyfrol gyntaf Y Ddraig o lyfrgell Coleg y Gogledd, a phan ysgrifennwn fy llyfr ar SL bûm yn ffodus i gael benthyg ei gopi ef o'r gyfrol gan Mr O.M. Roberts, pleidiwr o'r cychwyn a Chadeirydd Cyngor Gwynedd heddiw.

***

RHWNG 1939 a 1951 cyfrannai SL golofn Cwrs y Byd i'r hen Faner. Y mae'n orchestwaith newyddiadurol, y ceir rhai briwsion ohono yn Ysgrifau Dydd Mercher (1945). Ond mae rhyw 560 o ysgrifau yn y gyfres i gyd, tybed na thalai eu hailgyhoeddi yn eu crynswth? Neu o leiaf ddetholiad go helaeth?

Ac ynglŷn â'r cyfnod hwn, ceisiwch hanes Etholiad y Brifysgol 1943 (a ymladdwyd gan SL) yn ysgrifau Tegwyn Jones yn Y Faner, Medi 2-9-16-23, 1977. Nid oes gennyf, ysywaeth, gopi o'i anerchiad at etholwyr y Brifysgol.

Er i SL encilio o fyd gwleidyddiaeth, daeth yn ôl i'r llwyfan gyda'i ddarlith enwog Tynged yr Iaith (1962); mae'n werth cael yr ail argraffiad (1973) hefyd, gan fod ynddo Ragair diddorol gan SL.

A oes gennych gyfieithiad Saesneg a ddyblygwyd gan Gymdeithas yr Iaith yn 1978? Ac a wyddech chi fod yna gyfieithiad i'r Wyddeleg, sef Bas no Beatha (1973)?

Bu gan SL golofn 'Helbulon y Mis' yn Tafod y Ddraig yn ystod 1969-70 ac ambell gerdd ddychanol e.e. 'Englynion y Clywed'. Dylai'r Gymdeithas ystyried ailgyhoeddi'r ysgrifau misol hyn yn llyfryn: byddai'n ddogfen werthfawr ac fe werthai'n dda.

***

MAE'R RHAN fwyaf o ddramâu SL mewn print, ond ni ailgyhoeddwyd Gwaed yr Uchelwyr (1922) erioed. Bu tri chopi ohoni trwy fy nwylo o bryd i'w gilydd: ni chefais erioed gopi o'i ddrama gyntaf, The Eve of Saint John (1921), y cafodd cyfaill imi gopi ohoni am chwechyn ar stondin ym marchnad Bangor

Hawdd yr anghofir am ei drosiad o Doctor er ei Waethaf Molière (1924) yng Nghyfres y Werin, ac o Wrth Aros Godot Beckett (1970).

Ac os mynnwch destun y ddramodig Yn y Tren, chwiliwch am rifyn Awst 1965 o Barn; ac fe geir Cell y Grog yn Taliesin, Rhagfyr, 1975.

Hyd y gwn i, un stori fer a ysgrifennodd SL yn Gymraeg erioed, sef 'Hen Wragedd'. Fe'i ceir mewn cylchgrawn prin, Llythyr Ceridwen, Rhif 12, Haf 1961, a gyhoeddid i ferched gan Undeb Cymru Fydd.

Cyfieithwyd rhai o'i ddramâu. Ceir fersiwn Saesneg gan H. Idris Bell o Amlyn ac Amig (1940), dan y teitl Amis and Amile yn The Welsh Review, Vol. VII, No.4, 1948, rhifyn y telais ddwy bunt amdano yn stondin Siop y Triban ar faes Eisteddfod Caerdydd.

Ceir cyfieithiad Emyr Humphreys o Siwan yn Plays of the Year, Vol.21 (1961) cyh. gan Elek Books.

Ond y mwyaf ecsotig yw'r cyfieithiad o Siwan i Gatalwneg, dan y teitl La Corda del Penjat, cyf. gan E.T. Lawrence a Perran de Pol, yn 1962. Aeth siop Blackwell i'r drafferth i gael copi imi yr holl ffordd o Barcelona, a chodi dim ond tri a naw arnaf!

Ar y clawr pinc llachar gwelir Llywelyn, Gwilym yn crogi, a Siwan, i gyd yng ngwisgoedd Sbaenwyr o'r canol oesoedd. Pa sawl perfformiad a fu ar y cyfieithiad hwn, tybed?

Honnir yn y rhagymadrodd i'r ddrama gael ei chyfieithu i Saesneg ac i Almaeneg, a'i pherfformio mewn amryw o drefi yn Lloegr ac yn yr Almaen: pa sail sydd i hyn?

Darlledwyd Brad ar deledu'r Almaen, os deallais yn iawn: ai hynny sydd wrth wraidd y camgymeriad? Bellach cyhoeddodd Gwasg Gomer dair cyfrol The Plays of Saunders Lewis, cyf. yr Athro J.P. Clancy.

Bydd yn syn gan lawer glywed yr erys dramâu gan SL heb eu cyhoeddi. Ni chyhoeddwyd mo'i ddrama radio Y Cyrnol Chabert (?1969), addasiad o nofel gan Balzac, y cofiaf SL yn ei darllen yn wefreiddiol iawn mewn Ysgol Lenyddol ar ei waith yng Ngregynog. Ni chyhoeddwyd ychwaith ei ddrama olaf, 1938, drama iasol am Hitler. Trysoraf gopi ffotostat o'r deipysgrif wreiddiol y bu SL mor garedig â'i hanfon ataf cyn ei darlledu, pan oeddwn ar fedr cwblhau fy llyfr arno

***

MAE'N SYN ystyried cymaint o waith beirniadol SL nas ailgyhoeddwyd erioed. Telais ddecswllt am A School of Welsh Augustans yn siop Blackwell yn Rhydychen tua 1960; yr oedd copi arall yno, a bum yn fy nghicio fy hun na phrynais i mohono. Fe'i ailgyhoeddwyd yn gymharol ddiweddar, gan gwmni o Wlad yr Haf, os cofiaf.

Ond erys astudiaethau pwysicach o lawer allan o brint: Ceiriog (1929), Daniel Owen (1936), Williams Pantycelyn (1927) (nac anghofier ateb Moelwyn Mr Saunders Lewis a Williams Pantycelyn (1928); a gresyn nad ailgyhoeddir y Braslun o Hanes Llenyddiaeth Gymraeg: I na welwyd mo'i ail gyfrol erioed.

A dyna Detholion o Waith Ieuan Glan Geirionydd (1931) (Rhif I yng Nghyfres y Clasuron); Straeon Glasynys (1943) a Crefft y Stori Fer (1949), pob un allan o brint.

Llai hysbys efallai yw'r pamffledi An Introduction to Contemporary Welsh Literature (1926), y gyntaf o gyfres Saesneg Traethodau'r Deyrnas: a 'Is there an Anglo-Welsh literature?' (1939), y ddarlith gyntaf mewn cyfres a gyhoeddwyd gan gangen Caerdydd o Urdd y Graddedigion. A fu eraill? Wedyn dyna Gramadegau'r Penceirddiaid (1967), darlith goffa G.J. Williams. Bellach hefyd aeth Merch Gwern Hywel (1964), gem o nofel, allan o brint.

Casglwyd llawer iawn o ysgrifau beirniadol SL yn Meistri'r Canrifoedd (1973) ac yn Meistri a'u Crefft (1981), ond mae llu eto ar chwâl mewn cylchgronau ar wahân i'r rhai a nodais eisoes. Nid oes gennyf ysywaeth set gyflawn o Efrydiau Catholig, y cylchgrawn a lansiwyd ganddo ac sy'n cynnwys llawer o'i waith.

Chwiliwch hefyd am y llyfr prin hwnnw, Catholiciaeth a Chymru (Gee, 1954), un o lyfrau Sulien, (a fu eraill?), sy'n cynnwys ysgrifau gan SL. Tipyn o gamp a fyddai taro ar rifynnau o'r cylchgrawn cyntaf a olygodd, y Liscard High School Magazine lle ceir ei straeon byrion 'Derek's Rescue' a 'The Curse of the Bertrams' – testunau a gefais trwy gymwynas yr hynaws D. Tecwyn Lloyd.

Yn Y Gragen (1971) cylchgrawn Gŵyl Gelfyddyd Coleg y Drindod, Caerfyrddin, ceir holostat o lythyr gan SL yn egluro'r hyn a'i cymhellodd i ysgrifennu Siwan.

Yn Y Gwrandawr, Tachwedd 1964, ceir testun ei sgwrs radio `Dim Gwers i neb yn Brad'. Gan rywun neu'i gilydd cefais doriad o bapur newydd: ysgrif gan SL ar 'Future Issues in Wales: Red Flag or Red Dragon', testun sy'n swnio'n amserol iawn heddiw fel testun trafod ar gyfer y Blaid a sefydlodd ef. Ni welais yr ysgrif mewn unrhyw lyfryddiaeth: gallaf ei dyddio tua 1930, ond methais a chanfod ym mha le yr ymddangosodd.

Sawl ysgrif anhysbys arall sydd ar chwâl yn rhywle? Petai gan rywun yr hamdden i chwilio amdanynt a'u casglu'n un gyfrol ... A bu imi anghofio, bron: bu gan SL gyfres o ysgrifau Cymraeg yn yr hen Empire News, yn ystod 1954-55!

***

NID ysgrifennodd SL, gofiant. Ceir peth defnydd hunangofiannol yn 'By War of Apology' (yn Dock Leaves, Gaeaf 1955), yn Dylanwadau (yn Taliesin, 2, 1961) ac yn 'Holi Saunders Lewis' (yn Mabon, Gaeaf 1974-5). Am ei ddyddiau cynnar gweler ei 'Un Wedd ar Lencyndod' yn Y Llinyn Arian (1947), ac ysgrifau Dr J.P. Brown 'Dylanwad Lerpwl ar Mr Saunders Lewis' yn Y Tyst (Medi 19-16 - Hyd. 3-10-17 1974.

Ni fydd eich casgliad yn gyflawn heb Saunders Lewis, Ei Feddwl a'i Waith, gol. Pennar Davies (1950), Presenting Saunders Lewis gol. A.R. Jones a Gwyn Thomas (1973) – bargen am y £3.75 a gostiodd bryd hynny! – a'm llyfr i fy hun, Saunders Lewis (1979) yn y gyfres Writers of Wales. Mae'r olaf allan o brint a bu'n rhaid imi dalu £3 am gopi ail-law ohono!

Mynnwch hefyd Theatr Saunders Lewis Emyr Humphreys (Astudiaethau Theatr Cymru, 1) (1979); Siwan Saunders Lewis R. Gerallt Jones (1966); 'Saunders Lewis a Thraddodiad y Ddrama Gymraeg' D. Glyn Jones, yn Llwyfan Rhif 9, 1973 – bargen am goron! Ceisier hefyd `Saunders' loan Williams yn Planet, 20, 1973

***

NI CHYHOEDDWYD erioed yr astudiaeth o SL a baratowyd gan Yr Academi Gymreig yn 1971 er mwyn cyflwyno cais am y Wobr Nobel iddo. Meddai ar ddwy fersiwn: yn y gyntaf ceir astudiaeth yn Saesneg o waith a gyrfa SL, gyda llythyrau cefnogol gan R.S. Thomas, Per Denez, Mairtin O'Cadhain, David Jones a Rachel Bromwich, a llyfryddiaeth faith a manwl: yn yr ail ychwanegwyd hanner can tudalen o astudiaeth a llythyr gan Emyr Humphreys. Sawl copi o'r ddau lyfr sylweddol hwn sydd ar gael, tybed?

Ond gemau fy nghasgliad, wrth gwrs, yw fy nghopïau o'i ddramâu y bu SL mor garedig â'u llofnodi yn ystod yr Ysgol Lenyddol ar ei waith yng Ngregynog; a'r llythyrau personol ataf, yn datgelu nifer o ffeithiau ynghylch ei deulu, ac ynghylch y cefndir i'w nofel Monica, a'i deipysgrif o 1938, ei ddrama olaf, pan oeddwn yn paratoi fy llyfr arno. A'r eitem brudd, olaf, taflen gwasanaeth ei angladd.

Erys bylchau: a oes gan rywun The Eve of Saint John neu gopi o'i anerchiad at etholwyr y Brifysgol, neu o Why We Burnt the Bombing School (1937), neu o Y Llinyn Arian (1947)? Os oes, mae gennyf ail gopi o Canlyn Arthur (1937), o Saunders Lewis: Ei Feddwl a'i Waith ac o'm llyfr fy hun, y gallwn fargeinio â hwy amdanynt.