DENG MLYNEDD ~ Y Golygydd
DDENG mlynedd yn ôl ym Mhrifwyl Aberteifi fe benderfynwyd sefydlu dau gylchgrawn newydd - Y Casglwr a Barddas. Y mae'r ddau yn fyw ac iach ac yn wynebu ar eu degfed mlynedd y flwyddyn nesa. Ac yn hytrach na diodde o'r ddarfodedigaeth, fel a ddigwyddodd i ormod o'n cyfnodolion, ni bu'r naill gyhoeddiad na'r llall yn gryfach - Y Casglwr gyda'i gylchrediad o fwy na mil a Barddas wedi pasio’r saith cant. Cytunodd y ddau gyhoeddiad i gyfnewid hysbysebion i'w gilydd.
Mae'n arwyddocaol mai dau gyhoeddiad arbenigol yw'r ddau, ac yn wir mae llu o gyhoeddiadau newydd megis Cynefin yn ffynnu’n rhyfeddol am mai arbenigol ydynt hwythau - ar gyfer pobl ddeallus a diwylliedig sy'n cael y cyfle i bori yn eu dewisol feysydd.
Nid yw'r wasg newyddiadurol mor loyw. Mae'r hen asbri o'r dyddiau pan gyhoeddwyd Baner Cymru wedi cilio - dyddiau hamddenol a rhy amleiriog i olygydd Y Faner newydd fedru crynhoi apêl y newydd anedig i un dudalen, fel y gwelwch os edrychwch isod.
Nid yw cyfnodolion poblogaidd cyffredinol yn blodeuo chwaith erbyn hyn - yng Nghymru na Lloegr. Arbenigo, fe ymddengys a'i piau hi.
A dyma ninnau, gan mlynedd wedi geni Bob Owen, yn medru parhau i gynnig papur ei Gymdeithas i chwi'r ffyddloniaid am y degfed tro heb godi'r un ddimai yn y pris. Ofnwn na fedrwn wneud hynny ar ôl y flwyddyn nesa - oni ddigwyddwn ychwanegu'n helaeth eto at y cylchrediad. Os medrwch helpu - diolch i chi.
Mae'r tâl aelodaeth o ddwy bunt am y flwyddyn nesaf yn ddyledus ar y cyntaf o Ionawr - i Richard Lewis, *********, Penrhiw, Bow Street, Dyfed, ond caiff aelodau newydd y rhifyn presennol am ddim.
Hefyd y mae mynegai o waith yr Athro Brynley Roberts, ein Llyfrgellydd Cenedlaethol newydd, i wyth mlynedd gyntaf Y Casglwr ar gael am dair punt - ac fe'i postir ganol Ionawr.
Croesewir pob cyfraniad i'r Casglwr - a Nadolig Llawen i bawb sydd â llai na dwy flynedd o ddyled arno. A blwyddyn well na'r llynedd i bawb.
PWY A GARIODD TWM O'R NANT?
BYDD darllenwyr yn cofio i Wasanaeth Archifau Gwynedd gynnig gwobr am yr ateb cyntaf i'w dynnu o'r het i'r cwestiwn: Pwy a wnaeth gario Twm o'r nant ar ei gefn yr holl ffordd o'r De i Gaernarfon?
Dyma'r ateb: Owain Williams, Y Waunfawr, Arfon, sef Owain Gwyrfai (1790-1874).
Ceir yr hanes ar d.49 o Gemau Gwyrfai, casgliad o atgofion, ffraethebion a gweithiau llenyddol, a olygwyd gan ei fab Thomas Williams (Ap Gwyrfai) ac a gyhoeddwyd yn y Bala yn 1904.
Llongyfarchiadau i enillydd y gystadleuaeth, Mr Meurig Owen, 115 **** Park, Lewisham. Mae'r pecyn o gyhoeddiadau'r Archifdy ar ei ffordd iddo.