DAUGANMLWYDDIANT YR ARLOESWR O DREFRIW ~
Stan Wiclen ar drywydd Dafydd Jones
Y MAE'N ddau gan mlynedd er pan bu farw Dafydd Jones (Dewi Fardd) o Drefriw, Hydref 20fed, 1785. Gŵr amryddawn a fu'n weithiwr a chrefftwr ymysg llenorion ei oes; cyfaill i'r Morisiaid a llu o fân feirdd ac argraffwyr cynnar Cymru. Dafydd Jones oedd argraffydd cyntaf Dyffryn Conwy a sefydlydd gwasg fasnachol gyntaf Gogledd Cymru.
Yr oedd Dafydd Jones yn argraffydd o 1776 i 1785 yn Nhrefriw dros y ffordd i'r eglwys – y mae tabled lechen wedi ei gosod yn wal Tan-yr-Yw yn cofnodi hyn sef:
- Tan-yr-Yw Cartref Dafydd
Jones (Dewi Fardd)
Bardd, Hynafiaethydd a
Chopïydd Llawysgrifau
Perchennog yr argraffwasg
gyntaf yng Ngogledd Cymru,
ganwyd 1708
Ond nid yw'r wybodaeth yn hollol gywir. Lewis Morris oedd sefydlydd y wasg gyntaf yng Ngogledd Cymru yn Llannerch-y-medd, Ynys Môn, oddeutu 1731 gyda Siôn Rhydderch fel arolygydd y wasg, ond cywirach yw disgrifio'r wasg hon fel gwasg breifat, ac er bod Siôn Rhydderch o'r Amwythig ac eraill o Gaer wedi teithio trwy siroedd Gogledd Cymru gyda'u gweisg – argraffwyr teithiol oedd y rhain.
Dafydd Jones oedd y cyntaf i sefydlu gwasg fasnachol a hynny yn Nhrefriw.
Galwodd Dafydd Jones ei hun yn 'myfyriwr ar hen bethau' ac yn wir casglodd swm gwerthfawr o lawysgrifau Cymraeg, a defnyddiwyd y rhain fel ffynonellau ar gyfer y wasg.
Am gyfnod hir cyn sefydlu gwasg ei hun bu Dafydd Jones yn gyhoeddwr. Dechreuodd yn 1723 trwy ddefnyddio gwasg Siôn Rhydderch at weithiau ysgafn fel baledi - argraffwyd tri phamffled wedi eu dyddio 1723, 1724 a 1727 'o gynulliad Dafydd Jones'. Ar y pryd yr unig argraffwasg o fewn cyrraedd oedd gweisg y gororau - fel Amwythig.
***
DAETH Histori Nicodemus (1745) llyfr wedi ei argraffu gan Richard Marsh, Wrecsam. Gwaedd ynghymru yn wyneb pob cydwybod Euog (1750), y clasur Cymreig gan Morgan Llwyd o Wynedd, y cyhoeddwŷd yr ail argraffiad gan Dafydd Jones. Chwaeth amrywiol iawn oedd gan y cyhoeddwr yn y cyfnod yma; o waith y piwritaniaid hyd at y recusants fel y cyfeiriwyd yn Egluryn Rhyfedd (1750) lle dywed Dafydd Jones ar t.7 ei fod yn ceisio prynu neu fenthyca copi o'r Drych Cristionogol (1585) ac ar t.9 o'r un llyfr copïau o Crynodeb o Addysg Gristnogol (1609) a Theater du Mond sef Gorsedd y Byd (1615).
Efallai y bwriadai ddethol darnau o lyfrau'r 'hen ffydd' i'w cyhoeddi yn y dyfodol.
Thomas Durston oedd ei argraffydd yn Amwythig tua 1750 gyda dau lyfr yn y wasg, Perl mewn Adfyd (1750) a Drych y Cymro (1750) ac apêl ganddo am danysgrifwyr.
Y prysurdeb yma ym myd cyhoeddi a'i harweiniodd at ei waith pwysicaf sef Proposals at gyhoeddi Blodeugerdd Cymry (1759). Er 1757 bu Dafydd Jones yn gohebu â Morisiaid Môn, a Lewis Morris yn arbennig ynglŷn â'r cyhoeddiad yma. Gwaith costus – gofynnodd i Lewis Morris holi ynghylch argraffwyr Llundain am Estimates – ond cyngor Lewis oedd iddo baratoi'r gwaith a'i gyhoeddi ar y gororau a dyna be ddigwyddodd.
Argraffwyd Blodeugerdd Cymry (1759) cyfrol o 500tt. gan Stafford Prys o'r Amwythig dros gyfnod o 1758 tan fis Mai 1759. Cyhoeddwyd llyfr arall gan Dafydd Jones yn yr un flwyddyn Dewisol ganiadau yr Oes Hon.
Dywedodd Mr J.T. Evans mewn llawysgrif yn Llyfrgell Coleg y Brifysgol, Bangor i Dafydd Jones roi'r gorau i gyhoeddi yn y blynyddoedd 1759 i 1763, oherwydd y broblem o werthu copïau o Blodeugerdd Cymry a chael yr arian am y copïau a werthwyd, yn arbennig oddi wrth Richard Morris yn Llundain.
Collwyd £20 gan Dafydd Jones trwy gyhoeddi y llyfr, colled a fu yn faich arno am rai blynyddoedd- Cadarnhawyd hyn gan y cyhoeddwr ei hun yn ei Ragymadrodd i Lyfr arall trwy ei law Cydymaith Diddan (1766) lle dywed 'Ym gael fy ngholledu uwch ugain punt, am Lyfr y Blodeugerdd; a chyda hynny digwydd imi ddirfawr glefyd'.
Ail ddechreuodd gyhoeddi trwy wasg William Roberts, yr argraffydd Cymraeg, yn Llundain gyda Diddanwch Teuluaidd (1763). Argraffodd William Roberts ddau lyfr arall iddo, sef Llais Durtur (1764) gan Daniel Rowlands, Llangeitho a Diferion Gwybodaeth (1764).
Ar ôl ysbaid o argraffu yn Llundain daeth yn ôl at y gororau eto ond y tro yma trowyd oddi wrth argraffwyr Amwythig at rai Caer. Defnyddiwyd gwasg y weddw Adams i argraffu Cydymaith Diddan (1766) - yr argraffeb yn darllen 'Caer Lleon: Argraphwyd gan Elizabeth Adams, tros Dafydd Jones ac a werthir ganddo ef. (Pris swllt yn Rhydd, Pymtheg yn Rhwym)'.
Hwn oedd yr ail gyfres y cyfeiriwyd ati yn y rhagymadrodd i Blodeugerdd Cymry (1759). Fel y dywed G.J. Williams:
- 'Bwriadai Dafydd Jones gyhoeddi amryw gasgliadau o gerddi Cymraeg. Dywed yn y llythyr
annerch sydd ar ddechrau Blodeugerdd Cymry ei fod yn edrych ar y gyfrol honno fel y gyntaf
o'r gyfres. Enw'r ail fyddai Blodeugerdd Duwiol, a'r drydedd Blodeugerdd Diddanol. Yn nes
ymlaen, ceid, efallai gasgliad o gywyddau ac o awdlau. Ni chyhoeddwyd mo'r
ail, er iddo (fel yr eglurwyd yn y rhagymadrodd) drefnu i'w hargraffu, a
chasglu tanysgrifiadau ati, ond daeth y drydedd allan, wedi ei hârgraffu yng
Nghaerlleon, yn 1766. Eithr newidiodd yr enw, ac fe'i galwodd yn Gydymaith
Diddan. Ac ni chyrhaeddodd ei gasgliad o gywyddau ac awdlau, ond diddorol sylwi
mai ei enw ef a roir fel y cyhoeddwr yn y proposals a luniwyd pan drefnwyd i
argraffu Gorchestion Beirdd Cymru (1773). Rhoir enwau Ieuan Fardd a Rhys Jones
fel golygyddion.'
Ar ôl Cydymaith Diddan (1766) trodd Dafydd Jones at weithiau ysgafnach megis cerddi gan ystyried sefydlu gwasg iddo ei hun.
***
RYWBRYD ar ôl marwolaeth Lewis Morris (1765) prynodd wasg oedd ym meddiant y Morysiaid - y wasg bren a ddefnyddwyd i argraffu Tlysau yr Hen Oesoedd (1735) arni. Ychwanegwyd mathau ychwanegol o deip at y fount a gafodd fel anrheg gan Lewis Morris ei hun. Annhebyg yw'r hanes i Dafydd Jones gario'r argraffwasg ar ei gefn o Fôn dros afon Menai a thros y mynyddoedd i Drefriw. Mwy tebyg fel yr awgrymodd J.T. Evans i'r wasg drafaelio ar gwch o Fôn i fyny Afon Conwy gyda'r llwythi o galch i borthladd Trefriw.
Yn gynnar yn 1766 roedd Dafydd Jones yn barod i gychwyn gwaith fel argraffydd a chyhoeddodd hyn trwy Rybudd:
RHYBYDD
- Gwybyddwch fod gennyf fi Dafydd Jones o Drefriw Argraphwasc i Brintio Llyfrau
ac yr wyf yn bwriadu Printio Hanes neu Histori o Brophydoliaeth, Genedigaeth,
Ymdaith, Gwyrthiau, Dioddefaint a Marwolaeth a'n Jachawdwr Jesu Grist: ar Apostolion
Sanctaidd, yn cynnwys ynghylch 168 Tu Dalen, wedi ei winio mewn papur glan, Pris swllt,
ir Rhagdalwyr, Chwe cheiniog ymlaen llaw ar chwech arall pan dderbynier y Llyfr,
fel cynorthwywyr y gwaith ar neb a ragdalo am saith i gael yr wythfed yn rhad.
Enwau y Rhagdalwyr au Arian i gael eu derbyn gennyf i fy hun ar sawl a fo eu
Henw wrth y papur hwn. 0 waith W. Smith, M.A. Cyn gynted ac y gorphenir
Printio'r hwn fe ddechreuir ar y Blodeugerdd.
Mae hefyd newydd gyfiethu or Saesnaeg ac iw gyhoeddi ar frys, Llyfr yn rhoddi Hanes cyflawn or anghydfod rhwng pobl America ar Llywodraeth, or ddechreuad hyd yma.
Pris 2 geiniog.
Dafydd Jones ym gelwir heddyw,
Rwi'n byw mewn man a elwir Trefriw,
Argraphwasc sydd genni i Brintio,
A Llyfrau newydd wyfi'n addo.
Mewn gwirionedd rwyfi'n, dwedyd,
Cyflawn wnâi’i fy holl addewid,
Os byddai byw a Duw yn llwyddo,
Yn ddigelwydd gellwch goelio.
'Those Gentlemen that has Advertisements or Bills, that they would have printed will be served by applying to David Jones at Trefriw, in the Welsh or English Tongue.' — Trefriw 'Argraffwyd gan Dafydd Jones, 1776'.
Ychydig iawn o lyfrau mawr a gyhoeddwyd gan wasg Tan-Yr-Yw. Y mae'n debyg i Dafydd Jones gael y gwaith caled i olygu a pharatoi ar gyfer y wasg, a hefyd gysodi'r teip, tynnu proflenni ar y llaw-wasg, a gwerthu a dosbarthu'r cynnyrch.
***
ARGRAFFIAD cyntaf y wasg oedd y llyfryn Dechreu Cynnyrf ... y dadl rhwng pobl America a'r Llywodraeth (16tt.) a'r ail argraffiad gydag ychwanegiad yn gwneud 32tt. Ar ôl y llyfrynnau hyn daeth Histori yr Iesu mewn dau gant o ddalennau - mwy nag oedd Dafydd Jones wedi ei feddwl pan gyhoeddodd ei gynlluniau.
Crynswth gwaith y wasg oedd pamffled bychan llai trafferthus o wyth tudalen. Eithriad i'r pamffledi bach oedd Interlude (1777) 72tt. o waith Ellis Y Cowper, adargraffwyd yn 1780, gwaith awdur poblogaidd yn Nyffryn Conwy. Ar yr ochr arall Pregeth gan Whitfield (1779) gwaith 60tt.
Ymddengys mai dewis cyfyng o deip oedd ganddo a daw hyn i'r amlwg yn yr amrywiaeth o founts sydd yn ei waith, ac ar ôl Histori yr Iesu ni wnaeth Dafydd Jones ymdrech i argraffu cyfrol a ymestynnai at ddau gant o dudalennau.
Y mae'n bosibl i Dafydd Jones feddwl ailargraffu Blodeugerdd yn Nhrefriw fel y cyfeiriwyd yn ei hysbysiad at y cyhoedd. Ond be ddigwyddodd oedd adargraffiad o Blodeugerdd (1759) gan y wasg wreiddiol yn Amwythig trwy law Stafford Prys. Cydnabu Prys fod y gwaith 'o gynulliad David Jones o Drefriw', felly rhaid bod rhyw drefniant ariannol rhwng y cyhoeddwr a'r argraffydd.
Mae'n annhebygol i argraffydd fel Stafford Prys gadw y 500tt. o deip yn `sefyll' am ugain mlynedd.
***
MAE'N bosibl fod gan Dafydd Jones gynlluniau eraill ar y gweill. 0 fewn nodyn ar ddiwedd Dwy o gerddi Newydd-ion tros Harri Owen (1778), dywed 'I mai gennyf i wyllus i osod Gramer o Waith Beirdd mewn print. I mai gennyf 7 neu 8 o gopïau rhwng Print ag Ysgrifen. Mi wyf Dafydd Jones o Drefriw'.
Awgryma hyn fod Dafydd Jones wedi cysodi nifer o ddalennau rhyw fath o ramadeg neu eirlyfr barddoniaeth a thynnu rhywfaint o broflenni ar yr argraffwasg yn barod. Buasai gwaith o'r maint yma - Gramer y Beirdd yn ddrud ac yn sialens i adnoddau technegol gwasg Dafydd Jones. Tybed a ddaeth gwaith mor uchelgeisiol â hyn allan o'i wasg erioed?
Prun bynnag, daeth i'r golwg rhyw Proposal ar gyfer Gramadeg Cymraeg o fewn hysbysiad wedi dyddio 'Ysgol rad Llanrwst, Medi 19, 1781' yn cyfeirio at John Lewis, Curad Trefriw.
Tybed a gwblhawyd y dasg fawr a chostus yma ac mai dyma uchafbwynt gwasg Tan-yr-Yw? Os felly – sut y diflannodd y Gramadeg Cymraeg hwnnw oddi ar wyneb y ddaear?
Tua diwedd ei oes fel argraffydd ymddengys i Dafydd Jones droi oddi wrth yr hen lawysgrifau at waith cyfoes mânfeirdd a llenorion Dyffryn Conwy. Am i Dafydd Jones ddefnyddio y teitl Dwy o Gerddi Newyddion ar swm helaeth o'i bamffledi y mae'n anodd dweud pa rai yw'r gweithiau gwreiddiol a pha rai yw'r adargraffiadau. Argraffu dros y gymdeithas leol yr oedd. Printio gwaith ei gyfeillion fel Anterliwtiau a baledi Ellis 'y cowper', a hefyd dros Grace Roberts Y Wandering Jew (1788) – mae'n debyg mai hi oedd ail wraig Ellis Roberts. Awduron lleol eraill oedd Harri Owen Ro Wen, Huw Williams, Ro Wen a Thomas Morris, Ysbyty.
***
ROEDD Dafydd Jones dros ei ddeg a thrigain pan sefydlodd ei wasg yn Nhrefriw; dechreuodd fel argraffydd pan oedd eraill yn meddwl am ymddeol. Ond o 1776 tan ei farwolaeth yn 1785 daliodd ati i argraffu hen bethau a phethau newydd.
Un math o anturiaeth newydd oedd argraffu Almanaciau Caergybi (Y Cyfeillion) tros John Roberts (Siôn Rhobert Lewis) o 1782. Y syniad cyffredin yw fod yr Almanaciau, 'Y Cyfeillion' fel yr adnabuwyd hwy, wedi eu printio yn nyddiau mab Dafydd Jones, sef Ishmael Davies, ond wrth gymharu y math o deip sydd yn y pamffledi (24tt.), mae'n hawdd gweld y dechreuwyd eu printio a'u cyhoeddi yn amser Dafydd Jones ei hun.
Yn 1782 ar briodas ei fab Ishmael Davies symudodd y wasg o Dan-yr-Yw dros y ffordd o Eglwys Trefriw i dŷ mwy yn Bryn Pyll Isaf tu allan i'r pentref. Chwyddodd gwaith y wasg o dan yr argraffeb 'David Jones a Ishmael Davies'.
Mwyafrif y cyhoeddiadau yn y dyddiau olaf hyn oedd adargraffiadau o waith cynharach o dan lygad craff Dafydd Jones ei hun tan ddydd ei farwolaeth ar Hydref 20fed, 1785.