BLE MAE'R GYFROL AR LYSENWAU Y CYMRY?
gan D.Ben Rees
CEFAIS fy ngeni a'm magu mewn ardal lle'r oedd llysenwau yn rhan annatod o'n bywyd beunyddiol. Nid oedd hi'n ffasiynol i ddefnyddio syrnâm. Yr arferiad bron yn ddieithriad oedd rhoi enw'r fferm ar ôl y person; neu weithiau yn fwy sbeitlyd, rhoddid enw'r fam ar ôl enw'r mab. Weithiau rhoddid enw'r wraig fel syrnâm i ambell rabscaliwn.
Y mae'n rhyfeddod yn wir, na chawsom hyd yn hyn eiriadur o ffugenwau yn Gymraeg. Fodd bynnag, yn nechrau Tachwedd 1984, cyhoeddwyd casgliad yn Saesneg o lysenwau, a hynny gan yr awdur toreithiog – Leslie Gilbert Pine (1907-)*
Yn ei ragair fe ddywed L.G. Pine fod yr arferiad o ddisgrifio person trwy ei lysenwi neu dadogi ffugenw arno yn hen iawn. Mae cyn hyned â'r ffynonellau a ddiogelwyd o oes gwareiddiad Sumer; hynny yw, fe â yn ôl rhyw dair mil a hanner o flynyddoedd cyn Crist.
Yr oedd y mwyafrif o'r llysenwau a ddefnyddid yn llysenwau a ddewiswyd gan y bobl eu hunain. Ond gyda threigl y canrifoedd fe dyfodd yr arferiad i bobl yn y gymdeithas leol roddi llysenwau ar rai o'i thrigolion.
Ni ellir am foment faentumio fod y casgliad hwn o eiddo L.G. Pine yn un cyflawn. Ond y mae yn werth ei ddarllen am ei fod yn ddrych o'n gwareiddiad, ac yn egluro llawer iawn o'r llysenwau ddaeth yn gymaint rhan o'n geirfa.
***
GALLASEM awgrymu rhai ffugenwau pwrpasol ar gyfer yr egin-feirdd a'r llenorion sydd â'u llygaid ar Orsedd y Beirdd. Nid oes neb hyd y gwn i yn perthyn i Orsedd y Beirdd heddiw a'r llysenwau canlynol ganddynt:
(I) Absalom. Yr ystyr gwreiddiol yw 'tad heddwch'. Defnyddiwyd y gair gan Geoffrey Chaucer fel llysenw ar ddyn sydd â thrwch o wallt ganddo.
(II) Bardd y Cof ar ôl y banciwr Samuel Rogers (1763-1855) a hoffai byncio yn ôl ysbrydoliaeth yr awen.
(III) Pensyfrdan (Dizzy). Hwn oedd y llysenw a roddwyd gan edmygwyr a gelynion Benjamin Disraeli (1804-1881), nofelydd a Phrif Weinidog Prydain Fawr ar ddau amgylchiad.
(IV) Galileo. Enw bedydd yr astronomydd o'r Eidal a anwyd yn 1564 ac a fu farw yn 1642.
(V) Gloriana. Llysenw er cof am y Frenhines Elisabeth y Gyntaf (1558-1603), a thestun Edmund Spenser yr hwn a'i galwodd yn 'Faerie Queen' neu yn syml fel Glory.
(VI) Braun. Gair o lysenw sydd yn deilliaw o'r Gaeleg a'r Gymraeg am yr aderyn 'bran'. Y gair yn yr hen Ffrangeg am yr un aderyn yw – 'corp'.
(VII) Jeremeia Cymru. Llysenw Gildas o'r bedwaredd ganrif, yr ysgrifennwr a alwyd yn gwbl gamarweiniol yn hanesydd. Pregethwr oedd ond un a gymerai ddiddordeb mewn materion hanesyddol.
***
OND YN anffodus ychydig o lysenwau gwirioneddol a gawn yng nghasgliad L.G. Pine. Nodaf bedwar ohonynt i ddangos yr hyn sydd gennyf mewn golwg. Dyna Bechgyn Brylcream, llysenw a ddefnyddiwyd am aelodau o'r Llu Awyr, yn arbennig y bechgyn nad oedd yn hedfan, am fod eu dillad yn cyferbynnu yn ffafriol â dillad milwyr y Fyddin.
Pwy glywodd am y llysenw – 'Bachgen Bryste'? Dyna'r llysenw a roddwyd ar un o feirdd amlycaf dinas Bryste, sef Thomas Chatterton (1752-70). Y bardd talentog arall sy'n gysylltiedig â'r ddinas yw – Robert Southey.
Sylwais ar y llysenw – 'Y Dewraf o'r Dewrion' am un o filwyr Napoleon Bonaparte, sef – Michel Ney (1769-1815). Pan alltudiwyd Napoleon yn 1814, aeth Ney i wasanaeth y Brenin Louis XVIII. Ond wedi i Napoleon ddod yn ôl i Ffrainc o Ynys Elba, ymunodd Michel Ney ag ef drachefn a'i gefnogi'n drwyadl.
Ymladdodd Ney ym Mrwydr Waterloo gyda dewrder mawr. Fe'i daliwyd gan y Prydeinwyr ac fe gafodd ei ddedfrydu i farwolaeth, er i Wellington wneud ei orau i arbed ei groen.
Ond i mi, y llysenw sy'n ffitio fy syniad o lysenwau yw'r un a roddwyd ar y pregethwr efengylaidd a fu'n gaplan poblogaidd iawn i gannoedd o filwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, sef C.A. Studdert Kennedy. Fe'i galwyd yn Woodbine Willie am iddo rannu sigarennau Woodbine gyda'r milwyr yn y llaid a'r llaca.
***
DIDDOROL fuasai cael Geiriadur o Ffugenwau a Llysenwau Cymreig. Yn adran y ffugenwau fe geid enwau fel: 'Asaph'; 'Bardd Bryncroes'; 'Carnhuanawc'; 'Dai'r Cantwr'; 'Lewsyn yr Heliwr'; 'Sion y Potiau'; 'Teiliwr Llawen'; 'Wil Awst' ac 'Ysgafell'.
Fe gawsem enghreifftiau lawer o lysenwau o blith y Werin Gymreig yn adran y llysenwau. Y mae un peth yn sicr, gellid cael cyfrol mwy diddorol na'r hon a gyhoeddwyd yn Saesneg yr wythnosau diwethaf hyn.
*L.G. Pine. A Dictionary of Nicknames. Llundain, Routledge & Kegan Paul, 1984, tt.1-207 + VII. Pris £9.95. (Clawr Caled.)