BLAS Y GORFFENNOL AR YR HEN GYFROLAU ~
gan W.J.Edwards

AR ÔL darllen llith Huw Williams yn rhifyn Pasg '85 a sylwi ar nodyn y golygydd ynglŷn â chyfrolau a fu'n perthyn i rywrai diddorol dyma fwrw golwg ar rai o'r llyfrau sydd gennyf yn dwyn enwau y cyn-berchnogion.

Pan oedd Gwilym Tudur newydd agor Siop y Pethe yn Aberystwyth cafodd hyd i nifer fawr o lyfrau ail-law ac yn eu plith yr oedd cyfrolau o lyfrgell y Cyrnol Richard Ruck. Gŵr a'i wreiddiau yn Aberdyfi oedd Ruck ac un o'i hynafiaid oedd y cyntaf i ymlid y bêl fach wen galed ar lain o dir ger y môr yno ganrif yn ôl.

Fe ddaeth y Cyrnol Ruck yn adnabyddus am iddo gyfieithu nofelau T. Rowland Hughes i Saesneg. Trosodd O Law i Law cyn i'r nofelydd farw yn 1949 ac aeth ati wedyn i gyfieithu Chwalfa, William Jones, a Yr Ogof.

Ymhlith y llyfrau a brynais o lyfrgell y Cyrnol y mae setiau cyflawn o ddau gylchgrawn diddorol a gyhoeddwyd yn y tridegau. Bu tipyn o sôn adeg marw John Eilian am ei gymwynas fawr yn cyhoeddi'r Ford Gron, y cylchgrawn gorau o'i fath a ymddangosodd erioed yn y Gymraeg.

Cyhoeddwyd trigain rhifyn a gan i'r Cyrnol Ruck brynu pob un y mae'r set gyfan ar un o'm silffoedd. Rwy'n falch ohonynt yn enwedig am fod ewythr fy ngwraig, y cerddor W. Albert Williams (brawd hynaf ei thad, Harri Williams) a fu farw'n 37 oed yn 1946 wedi cyfrannu'n gyson iddo.

***

Y CYLCHGRAWN arall o'r tridegau yw Gwybod, Llyfr y Bachgen a'r Eneth, a ymddangosodd gyntaf yn Rhagfyr 1938 ac a werthid yn fisol am naw ceiniog. Y golygyddion oedd y Parchedig E. Curig Davies a Syr Thomas Parry, a cheir hanes sefydlu'r cylchgrawn gan Syr Thomas yn rhifyn Awst 1980, Y Casglwr.

Gresyn i'r rhyfel ddrysu cynlluniau'r golygyddion a'u rhwystro rhag dal i gyhoeddi'r misolyn. Rhwymwyd y rhifynnau a ymddangosodd yn gyfrol hardd 572 tudalen a phunt a delais am y cyfoeth a ddaeth yma o lyfrgell y Cyrnol Ruck. Torrodd ei enw y tu mewn i'r clawr.

***

NID FI yw'r Edwards cyntaf i ddod i weinidogaethu ym Mhenllyn o Geredigion oherwydd gŵr o ogledd Sir Aberteifi fel finnau oedd Lewis Edwards, sefydlydd a phrifathro cyntaf Coleg y Methodistiaid Calfinaidd yn y Bala. Fe'i cofiwn fel sefydlydd Y Traethodydd ac fel un a roes ddimensiwn newydd i'r weinidogaeth.

O'm blaen yn awr y mae copi o Mynegeir Ysgrythyrol Peter Williams a "argraphwyd, a chyhoeddwyd, gan Richard Jones, drosto ei hun a Griffith Williams", yn Nolgellau yn 1820. Y tu mewn i'r clawr cefn ysgrifennwyd Lewis Edwards Pwllcenawon, ac fe ŵyr y cyfarwydd mai mab fferm Pwllcenawon yn nyffryn Rheidol ger pentref Penllwyn/Capel Bangor, oedd Lewis Edwards.

Y mae pob pregethwr yn troi'n gyson i Fynegair Peter Williams a chaf wefr wrth feddwl fod mab disglair Pwllcenawon wedi bod yn bodio'r gyfrol o'm blaen.

Yn 1855 cyhoeddwyd Llyfr y Diarhebion a Llyfr y Psalmau wedi eu Cyfieithu o Newydd a'u Trefnu (cyn agosed ag y dichon) yn ôl yr Hebraeg gan y Parchedig Thomas Briscoe, S.T.B. is-lywydd, ac athraw hynaf, Coleg yr Iesu, Rhydychain. A'r tu mewn i glawr blaen y gyfrol ceir y geiriau Rev. Lewis Edwards from Briscoe.

Y mae'n rhaid fod Prifathro'r Bala a'r mab i fferyllydd o Wrecsam a oedd yn ysgolhaig yn yr ieithoedd clasurol a Hebraeg yn gyfeillion.

***

YR OEDD Lewis Edwards yn adnabod teulu'r Cynlas yn dda a byddai'n pregethu'n gyson yng Nghapel Cefnddwysarn lle'r oedd Thomas Ellis a'i fab Thomas Edward Ellis yr Aelod Seneddol yn flaenoriaid.

Un o'r cyfrolau gwerthfawr sydd gennyf yw The British History Translated into English from the Latin of Jeffrey of Monmouth, wedi'i chyhoeddi yn Llundain yn 1718. Y tu mewn i'r clawr blaen ysgrifennwyd Ellis Roberts From Mr Thos Ellis 1891.

Mae'r sgrifen yn debyg ryfeddol i lofnod T.E. Ellis o dan y llun ohono sy'n hongian o hyd mewn llawer cartref yng Nghymru. Y tu mewn i'r clawr cefn ysgrifennwyd fel hyn: William Primrose his book given him by The Right Hon: Mrs Ursula Windsor at Stratford 1730.

***

YN 1854 cyhoeddodd William Spurrell, Caerfyrddin Gwirionedd y Grefydd Gristionogol o waith Hugo Grotius a gyfieithwyd gan Edward Samuel, y Trydydd Argraffiad, gyda Chrybwyllion am yr Awdwr a'r Cyfieithydd, gan D. Silvan Evans. Y tu mewn i glawr blaen fy nghopi i ceir y geiriau: The Gift of D. Silvan Evans to Gwen Edwards Minffordd.

Gwyddom am Silvan Evans fel offeiriad a geiriadurwr ac Athro Cymraeg cyntaf Prifysgol Cymru. Brodor o Lanarth Ceredigion ydoedd a chyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth yn ifanc, Blodau Ieuainc (1843) a Telynegion (1846).

Dywed Syr Thomas Parry yn Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900, mai "dyma'r tro cyntaf y defnyddiwyd y gair 'telyneg', ac ymddengys mai Silvan Evans a'i creodd, fel cyfieithiad o'r enw Saesneg 'lyric'."

***

BYDD RAID ymatal am y tro er bod nifer o gyfrolau yn dwyn arysgrifen ddiddorol heblaw'r rhai a enwais gennyf. Ond cyn gorffen dyma ddau nodyn y tu mewn i gloriau blaen dwy gyfrol fach. Yn Cronicl y Cymdeithasau Crefyddol am y Flwyddyn 1851 dan olygiaeth Samuel Roberts, Llanbrynmair, dywedir mai Thomas Morgans, Prestatyn, yw gwir berchennog y llyfr hwn, Gorphenaf 2il, B.A. 1853.

Ac fe ychwanegwyd y rhybudd hwn: Gwybydder mai, dig a fydd os dygi fi.

Y gyfrol arall yw The First Part of an Equal Check to Pharisaism and Anti-nomianism, ail argraffiad a gyhoeddwyd ym Mryste yn 1774 am swllt a chwecheiniog. A dyma sgrifennwyd y tu mewn i'r clawr blaen: Willm Franklands Book Feby 1793. Brought at Auliton. The Wicked borroweth and payeth not again, 37 Psalm 21. Ac os trowch i'r Salm a nodir fe ddarllenwch yn Gymraeg, Yr annuwiol a echwynna, ac ni thâl adref.

Ond y mae'r ystyr yn gliriach yn y cyfieithiad newydd a gawsom yn 1979, Y mae'r drygionus yn benthyca heb dalu'n ôl.

NODYN.
Beth am ychwaneg am gyfrolau diddorol sydd gennych ond a fu'n eiddo i rywrai diddorol eraill. - Gol,