Y PORTREAD CYMREIG O'R INDIAID gan Dafydd Guto Ifan
GYDA'R blynyddoedd yn unig y tyfodd fy niddordeb mewn casglu deunydd a ffynonellau gan mwyaf yn ymwneud ag Indiaid Cochion De a Gogledd America. Mae'n wir imi fynd ati ar y cychwyn yn hollol anhrefnus heb roddi llawer o sylw i gatalogau awduron a theitlau mewn llyfrgelloedd nac ychwaith i rif dosbarth Dewey ar y testun. Ond buan y deuthum at fy nghoed.
Yr hyn a ryfeddais ato'n anad dim byd arall oedd bod deunydd diddorol ar gael yn y Gymraeg.
Carwn ddweud cyn cyfeirio at ddau lyfr a dau safbwynt gwahanol, fy mod wedi canolbwyntio ar ddeunydd sy'n addas i oedolion.
GOGLEDD AMERICAHUMPHREYS, Hugh. Brad yr Indiaid Cochion. Llyfrau Ceiniog. Gwybodaeth Gyffredinol. Yr ail gyfres. Caernarfon. H. Humphreys, 18-- *
*rhywdro ar ôl y flwyddyn 1863.
LLYFR hynod ydyw hwn ar un ystyr oherwydd fe geir ynddo hanes brad yr Indiaid Cochion, sef llwythau o 'genedl fawr' (sylwer) 'y sioux', a chelanedd ofnadwy Americaniaid, Cymry a Saeson yn Minnesota yn 1862-63. Mae'n amlwg fod yr awdur yn tueddu i ochri gyda'r Indiaid Coch.
Achosion yr anghydfod yn ei ôl ef oedd i'r dyn gwyn wneud yr Indiaid 'yn ddarostyngedig' iddo, 'wedi gwerthu eu tiroedd', a newid bywyd a threfn llwyth.
Llyfr ffeithiol sy'n dangos trasiedi fwyaf y cyfnod dan sylw, - yr estron yn ecsploetio a dwyn tiroedd gwir-frodyr Gogledd America.
DE AMERICA:PATAGONIA BOURNE, Benjamin Franklin. Y carcharor yn Mhatagonia neu fywyd yn mysg y cawri. Caernarfon: Roberts ac Evans, Eastgate d.d.;
DIGWYDDIAD ar arfordir Patagonia rhywdro yn y blynyddoedd 1848-49 a gynhwysir yn y llyfr hwn, sy'n adrodd hanes dyn gwyn yn cael ei herwgipio gan lwyth o Indiaid Cochion. Dan orfodaeth fe'i tywysir o fan i fan. Nid yw'r Indiaid ond 'bwystfilod' yng ngolwg yr awdur. Fel hyn y disgrifir yr Indiaid:
- ...mae y dynion megis cewri; rhai yn hynod o fawr, a gall dyn cyffredin sefyll o
dan eu ceseiliau.' 4.24)
Er bod arlliw Americanaidd-Seisnig i'r llyfr, fe'i cefais yn un tra diddorol am fod ei gynnwys mor gamarweiniol! Stamp yr ymherodr sydd arno - y ni a nhw. Yn sicr, mae iddo'i le ar y silff am ei werth fel enghraifft o gyflwyno hanes America hanner cynta'r ganrif ddiwethaf yn hollol unllygeidiog.
Gyda llaw, cefais fodd i fyw yn ddiweddar pan anfonodd Brian Lile, Llyfrgellydd Cynorthwyol yn Adran Llyfrau Printiedig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, y pwt canlynol mewn ateb i ymholiad o'm heiddo:
'.....cyfieithiad yw Y Carcharor yn Mhatagonia o The Giants of Patagonia: Captain Bourne's account of his captivity amongst the extraordinary savages of Patagonia. Arg. Yn Saesneg yn Llundain a Boston (Mass.) yn 1853; ail-brintiwyd yn Boston 1858, 1874 ac yr 1880au. Cyhoeddwyd yr argraffiad Cymraeg ar ôl 1873, mwy na thebyg yn yr 1870au. Disgynnydd o Benjamin Bourne (1775-1808), aelod Cyngres gyntaf yr Unol Daleithiau oedd Capten Bourne.
A rhag ofn fod yr ysfa ynoch chwithau i gael cip ar yr Indiaid Coch trwy lygaid Cymreig, wele gyfeiriad at ffynhonnell neu ddwy.
- Barddoniaeth
ROBERTS, Emrys. Gair yn y Glaw. Tŷ ar y Graig, 1978. Ceir yn y gyfrol ddeuddeg cerdd yn ymwneud â'r Indiaid Cochion.
WILLIAMS, Waldo. Sequoya (1769-1843) (yn) Bro, Calan Mai 1981 t.2. O Gylchgronau
BREWER, George W. Indiaid Cochion. Byw 3/1 Ionawr 1966 t.20. Astudiaeth pur gynhwysfawr o gefndir yr Indiaid Cochion.
EDWARDS, Alun R. Yr Indiaid olaf. Barn Ionawr 1968 t.70.
MORGAN, Gerald. Yr Indiaid Cochion heddiw. Mabon Gaeaf 1975-76. tt.12-17. Yr Indiaid a Madog
EDWARDS, Charles. Y ffydd ddiffuant. Arg. 1af 1676; 6ed arg., d.d. Dolgellau; R. Jones tt.278-79.
HOCKEN WAELDER, John. Y Madogiaid. Cymru'r Plant Mai 1915 tt.147-48. Erthygl a ymddangosodd yn y Methodist Magazine, Ebrill 1817.
WILLIAMS, David. John Evans, Waunfawr (1770-99). Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940. Llundain, 1953. tt.227-28.
GWYLFA. John Evans o'r Waunfawr. Y Geninen. Gŵyl Ddewi 1907. tt.46-47.
JONES, William Vaughan. Yr Hen Waun. Darlith, 1978 tt.24-26.
JONES, Emyr. Grym y lli. Llandysul, Gomer 1969. Cyfrol y Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol y Fflint 1969; dyddiadur Siôn Ifan/John Evans Waunfawr 1792-97.
WILLIAMS, David. John Evans a Chwedl Madog 1770-1799. Caerdydd, GPC 1963. Cyfres ddwyieithog Gŵyl Ddewi.
WILLIAMS, R. Bryn. John Evans a'r Indiaid. Bro. Chwefror - Mawrth 1979, 5 td. i gyd. De America
Bedd Malacara. Cymru'r Plant. Gorffennaf 1949 t.177. Ffotograff du a gwyn o'r bedd, a hanes y ceffyl a achubodd ei feistr yn 1884 yn Nyffryn y Merthyron tra'n cael eu herlid gan haid o Indiaid Cochion.
WILLIAMS, R. Bryn. Straeon Patagonia. Aberystwyth. Gwasg Aberystwyth 1946; gw. tt.49-55.
WILLIAMS, R. Bryn. Cariad Creulon. Llandybïe: Llyfrau'r Dryw, 1970. a.a. Ch. Davies, 1973; drama. Newyddiaduron
HELEN: Llythyr o'r America ynghylch y Nafaho. Llanw Llŷn Mawrth 1984 t.9.
Indiad Coch yn Ynys Môn. Yr Herald Cymraeg a'r Genedl. Mai 15fed, 1984. t.1. Ffotograff du a gwyn a hanes Margaret Tosie a ddarlithiodd ym Môn am ei phobl ac etifeddiaeth y Nafaho.
IFANS, D. Tecwyn. 'Yma o hyd' yw hanes y Nafaho, er yr holl erlid. Y Faner. Medi 14eg, 1984. t.18.