Y PERLAU CYMREIG O WLEDYDD TRAMOR
gan William Linnard

NID PAWB sy'n dewis gorwedd ar draethau tramor bob dydd yn ystod ei wyliau. Wrth ymweld â gwledydd tramor, y mae'n demtasiwn gref ac yn hen arfer gen i i fanteisio ar y cyfle o bori ar silffoedd llyfrau ail-law mewn siopau dieithr, er fy mod i'n gwybod yn iawn cyn cychwyn, wrth gwrs, mai ychydig iawn o obaith sydd gennyf i ddarganfod llyfr Cymraeg, neu Gymreig hyd yn oed.

Ond, pwy a ŵyr? – o dro i dro mae ffawd yn gwenu ar gasglwr brwd, a deuir o hyd i ambell drysor weithiau mewn man annisgwyl.

Gadewch' i mi roi tair enghraifft fach o ddarganfod pethau diddorol mewn gwledydd mor wahanol a mor bell o Gymru ag India, Norwy ac Awstria.

INDIA
MAE gennyf gopi o'r llyfr hynod hwnnw Dosparth Edeyrn Davod Aur, sef yr hen ramadeg Cymraeg a gyfieithwyd gan ab Ithel ac a gyhoeddwyd gan y Welsh MSS Society yn Llanymddyfri yn 1856. Ar wynebddalen fy llyfr gwelir stamp llyfrwerthwr, sef 'K.P. Mistry, Bookseller/Publisher, Kalbada Rd. Bombay.'

Ond nawr mae'r hen lyfr hwn wedi dod yn ôl i Gymru, gyda pheth llwydni ar rai tudalennau.

NORWY
'ANTIKVARIAT' yw'r enw am siop lyfrau ail-law yn Norwy, ac mewn 'antikvariat' yn Oslo y deuthum ar draws cyfrol ddifyr y llynedd, sef The Oxonian in Norway (Llundain, 1856), gan y Parch F. Metcalfe, cymrawd o Goleg Lincoln, Rhydychen.

Hanes teithiau yn Norwy gan offeiriad a oedd yn dipyn o bysgotwr a saethwr yw'r llyfr, ac mae'r cynnwys yn ddiddorol iawn ynddo'i hun fel teithlyfr o'r cyfnod, sef canol y ganrif ddiwethaf.

Ond y prif reswm a'm sbardunodd i'w brynu, serch y pris uchel a chyflwr gwael y rhwymiad, oedd y cysylltiad Cymreig annisgwyl ynddo, sef y plat perchnogaeth.

Ar un adeg, mae'n amlwg, roedd y llyfr yn perthyn i Gymro gwlatgar, sef LI.R. Jones o Goleg Iesu, Caergrawnt, a aeth â'r llyfr gydag ef rywdro ar daith bysgota i Norwy. Mewn gwirionedd glynodd Mr Jones ddau beth ymarferol yn ei lyfr, yn gyntaf – ei blât perchnogaeth gyda'r arwyddair balch 'Cas ni charo y wlad a'i mago', tu fewn y clawr blaen, ac yn ail – rhestr abwyd ar gyfer pysgota, tu fewn y clawr cefn.

Ar ôl dod adref o Norwy gyda'r llyfr, euthum i dipyn o drafferth i hel achau'r cyn-berchennog. Ganed Llewellyn Rhys Jones yn 1857, ac yr oedd yn fyfyriwr yng Nghaergrawnt o 1877 tan 1885, lle enillodd ei ‘las' ddwywaith am rwyfo dros ei brifysgol.

Treuliodd ei yrfa wedyn fel athro yn yr ysgol fonedd enwog, Oundle, ac ar ôl iddo ymddeol, daeth yn ôl i Gymru a phreswylio am gyfnod ym Meddgelert. Bu farw yn Harlech yn 1943.

Roedd yn rhaid i mi ailrwymo'r gyfrol, ond erys yr hen blat perchnogaeth (a'r rhestr abwyd!) yn y llyfr fel rhan annatod o'i hanes, ac fel atgof melys o'm taith i Norwy.

AWSTRIA
OND FY llwyddiant pennaf o ddigon oedd yn Vienna, prifddinas ramantus Awstria. Manteisiais ar fy ymweliad i'r ddinas hardd honno i chwilio am hen lyfr arbennig ar Gymru, sef llyfr Almaeneg gyda'r teitl Ein Herbst in Wales (h.y. Hydref yng Nghymru) gan Julius Rodenberg (Hannover, 1858, tt.326).

Mae'r llyfr hwn, gyda'i is-deitl 'Y Wlad a'i Phobl, Chwedlau a Chaneuon', yn disgrifio hanes ymweliad â Chymru yn 1856 gan Almaenwr ifanc a daeth yn enwog wedi hynny fel awdur a golygydd yn ei wlad ei hun.

Y mae'r gyfrol hon yn enghraifft brin iawn, onid unigryw, o lyfr cyfan ar Gymru gan dramorwr a ddaeth 'er mwyn cael adnabod y wlad a'i phobl, ei harferion a'i thraddodiadau'. Prin iawn yw'r llyfr heddiw yn y gwledydd lle siaredir Almaeneg, ond prinnach fyth yng Nghymru, wrth gwrs.

Dychmygwch fy llawenydd yn Vienna pan lwyddais i ddod o hyd i gopi o'r llyfr, a hynny ar ôl chwilio'n ddyfal am oriau ac yn y chweched siop lyfrau ail-law, funudau yn unig cyn i'r siop gau am chwech o'r gloch. (Gyda llaw, mae'r chweched siop hon yn batrwm o'i bath – siop lân a threfnus, gyda staff wasanaethgar a chatalogau manwl i'r holl stoc ar gardiau wedi'u trefnu yn ôl enw'r awduron.)

A chopi glân a graenus ydoedd hefyd, gyda choron rhyw deulu nobl Canol Ewrob mewn aur ar y meingefn, ac ar ben popeth, roedd ei bris yn rhesymol iawn, tua chwe phunt. Nid oes galw mawr am hen lyfrau ar Gymru yn Vienna heddiw!

Darllenais y rhan fwyaf o'r llyfr prin yn ystod y daith hir ar y trên o Vienna yn ôl i Gaerdydd, gan fwynhau pob tudalen. A chan fod y llyfr hwn, mae’n fwy na thebyg, yn gwbl anhysbys i ddarllenwyr yng Nghymru (gan gynnwys darllenwyr Y Casglwr hyd yn oed!), hoffwn ddweud rhywbeth amdano ef a’i awdur.

***

YN YSTOD ei ymweliad â Chymru yn hydref 1856, arhosodd Julius Rodenberg am gyfnod gyda theulu Cymreig ar fferm fach rhwng Aber a Llanfairfechan, er mwyn dod i adnabod y bobl a dysgu rhywfaint o'r iaith Gymraeg.

Yno daeth yn gyfaill i'r bardd Meurig Idris (Morris Jones), a oedd yn ysgolfeistr yn Llanfairfechan ar y pryd. Gydag ef, ymwelodd Rodenberg a Chonwy a Llandudno, yr un hen a hanesyddol, y llall newydd a ffasiynol.

Wedyn, teithiodd Rodenberg o gwmpas Gogledd Cymru ar droed ac yn y goits fawr, gan nodi ei argraffiadau craff a doniol am lefydd a phobl, a chasglu storiau a thraddodiadau, a chyfansoddi ei farddoniaeth ei hun.

Y mae llyfr Rodenberg Ein Herbst in Wales yn waith hudol ac atyniadol, a ysgrifennwyd o safbwynt gwahanol iawn i'r mwyafrif o gyfrolau gan dwristiaid Seisnig o'r un cyfnod. Heblaw hanes ei daith, a'i ddisgrifiadau o'r wlad, yr hynafion a'r rhyfeddodau newydd fel chwareli, pontydd a rheilffyrdd, ceir ei sylwadau caredig ar y Cymry a rhai miniog ar y Saeson.

Yn ogystal, mae'r llyfr yn cynnwys pump a thrigain o storiau a chwedlau Cymreig a gasglwyd gan Rodenberg o amrywiol ffynonellau.

Yn anffodus, pan gyhoeddwyd y llyfr Almaeneg yn Hannover yn 1858, ni chafwyd cyfieithiad ohono i'r Saesneg nac i'r Gymraeg, ac o'r herwydd mae'r llyfr hyfryd hwn wedi cael ei esgeuluso'n llwyr yng Nghymru.

Erbyn hyn, prin iawn yw'r gobaith o gael hyd i gopi o'r gwreiddiol yn y wlad hon, ac mae'r iaith Almaeneg yn faen tramgwydd anorchfygol i'r mwyafrif ohonom.

Felly, penderfynais achub yr hen lyfr o'i ebargofiant anhaeddiannol, ac er mwyn galluogi cylch eang o ddarllenwyr yng Nghymru i fwynhau cyfrol Rodenberg o'r diwedd, ac am y tro cyntaf, cyfieithais y llyfr cyflawn o'r Almaeneg i'r Saesneg.

Ymddengys cyfrol Julius Rodenberg nawr mewn iaith newydd o dan y teitl An Autumn in Wales (1856): Country and People, Tales and Songs; y cyhoeddwyr: Brown & Sons Ltd., Pen-y-bont a'r Bont-faen, 1985, tt. 176. Pris £6.50. (ISBN 0 905928 31 8.)