YNYS Y SAINT - A'R LORD ~ Elis Gwyn ar Ynys Enlli

YR WYF newydd agor llyfr nad oeddwn wedi edrych arno ers hanner can mlynedd. Cofiais am y cyfeiriad, pan ddarllenem Cymru a'i Phobl Iorwerth Peate yn y chweched dosbarth, sydd ynddo at dai ffermydd Ynys Enlli, ac yn arbennig y frawddeg 'O gwmpas y buarth, bron yn ddieithriad, cyfodwyd mur cadarn ac uchel yn ymestyn tros y llidiart iddo, hyd yn oed . . .'

Cynnyrch stad Glynllifon wrth gwrs oedd yr adeiladau hyn, a'u pryd a'u gwedd yn gyfarwydd iawn inni yn Arfon a glannau Eifionydd.

Un o'r ffermydd nodweddiadol hyn yw Abercin, neu'r Bercin, Llanystumdwy.

Wrth sgrifennu hyn yn y tŷ yr wyf o fewn degllath i fedd George Jones (1815-1875) o'r Bercin, ac Elizabeth ei wraig, a bedd ei rieni John a Jane Jones. Brawd i George oedd Robert, mab hynaf y teulu, y cafwyd ysgrif amdano gan R.T. Jenkins ar sail ei lyfr cyfrifon fel Porthmon defaid a moch rhwng 1832 ac 1837 (Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon Cyf. 6, 1945). 0 Robert Jones y porthmon yr ymestyn llinach adnabyddus (erbyn hyn) Armstrong Jones.

***

RAI blynyddoedd yn ôl, daeth copi o lythyr i'r golwg a anfonwyd gan John Jones at yr enwog Thomas Maughan (pensaer y Lôn Goed), yn 1824. (Cefais gopi ffoto o'r llythyr gan Mr Dewi Williams, pennaeth Hanes yn ysgol Pwllheli, ac y mae'n amlwg na wyddai John Jones mo enw cyntaf yr asiant. - Maughan Esq. sydd ganddo.)

Newydd ei gwerthu ar y pryd i stad Glynllifon, cyn i'r ail Newborough ddyfod i'w oed, a chyn ail-wneud y tŷ, yr oedd Abercin, ac efallai fod hynny'n anesmwythyd i'r tenant. Prun bynnag, ni chafodd fynd i'r Plas Hen, ac yn Abercin y ffurfiodd y teulu ei wead cysylltiadau gyda bywyd y fro ac â bywyd Cymru.

Bu farw John Jones yn 1832, a cheisir cyfleu ei hynodrwydd yn y cwpled anhyblyg ar garreg ei fedd:

George Jones, dyn llawen a ffraeth, oedd ffarmwr Abercin ar ôl ei dad, ac yn ôl William George yn ei lyfr ar Richard Lloyd, tafarn y 'Feathers' oedd stondin George gyda'r nos.

Un o feibion George ac Elizabeth oedd John Jones, 1837-1906, neu'r Parchedig John Jones, FRGS i roi iddo ei deitl cyhoeddus. Yr oedd yn deithiwr ac yn llenor, ond yn y nodyn amdano yn y Bywgraffiadur nid oes gyfeiriad at ei gofiant difyr i'w ewythr, y Capten Hugh Hughes, llyfr o 175 tudalen a gyhoeddwyd gan E. W. Evans, Dolgellau yn 1878.

Cyn mynd yn fugail am gyfnod ar eglwys y Graig, Bangor, ac wedyn yn gofalu am fanc preifat ym Methesda, bu John Jones yn amlwg ynglŷn â Chapel Penmownt, Pwllheli (a'r achosion Seisnig), ac mae'n debyg mai ar ôl dychwelyd i fyw i Bwllheli y sgrifennodd ei erthyglau ar Ynys Enlli yng nghyfrol 1885 Y Traethodydd.

***

YMYSG ysgrifau nodweddiadol y cylchgrawn hwnnw ar bynciau fel athroniaeth crefydd ac ati, mae erthyglau John Jones yn amlwg wahanol, ac yn cynnwys ystadegau am yr ynys.

Rhoddir enwau'r holl dai, a pwy oedd yn byw ym mhob un, ac nid heb reswm yr oedd yr awdur yn FRGS; mae'n rhestru'r holl ogofâu, 44 ohonynt (Ogo'r hen Ffrindiau, Ogo Pwll Tarw) a 26 o dyllau crancod 'pa rai a ystyrir yn sefydliadau pwysig gan y brodorion' (Twll y tair Crances, Twll ar ei ben); naw o ffynhonnau, pedair porthfa gan gynnwys y swynol 'Heigiol Borth Newydd', a phedwar o'r 'prif gychod' a hwyliai rhwng Enlli a Lerpwl. Chwe thunnell oedd y llwyth mwyaf y gallent ei gario.

0 bapurau'r hen weinidog Robert Williams cododd y cyfrif hwn:

Bardsey Island, July, 1824. Account of all the expenses of what I paid to bury the Body That I catch out of Bardsey.

£  s  d
To go to Carnarvon 1  1  0
For catch it 0  5  0
For send it across and back home 0 10  0
The Clark 0  2  6
For liquor and ale 0  3  0
For coffin 1  1  0

£


3  2  6
Settled July 1824
 
ROBERT WILLIAMS

Ac ynghylch arferion darllen:

'Y mae amryw o newyddiaduron yn medru eu ffordd yn bresennol drosodd i'r Ynys, megys Y Goleuad, Y Genedl ac hefyd rai o'r papyrau Seisonig. Hefyd y mae y ddwy Drysorfa yn croesi drosodd i'w plith, ac amryw gylchgronau eraill.'

Yn 1875 penodwyd W.T. Jones o'r Ceunant, Llanrug yn `genhadwr' ac ysgolfeistr ar yr ynys, a dyfynnir yn yr ysgrifau ei ddisgrifiad manwl ef o'r capel newydd a godwyd yr un flwyddyn, eithriad o ddisgrifiad cyfoes Cymraeg o adeilad yn 1875.