Y LLENOR CYDWLADOL CYMREIG ~
John Gwilym Jones yn cofio Kate Roberts

ENWER unrhyw lenor o werth parhaol yn holl hanes llenyddiaeth y byd i gyd ac fe ellir cynnwys Kate Roberts fel un yn haeddu'r un wrogaeth ac edmygedd. Yn drist, erbyn hyn, dim ond Cymro neu un sy'n darllen Cymraeg a fedrai fentro'r fath haeriad.

'D ŵyr beirniaid o Saeson ddim o gwbl am lenyddiaeth Gymraeg. Oherwydd hyn, tra maent yn cyfeirio'n gymariaethol wybodus at bob llenyddiaeth arall – Ewropeaidd, beth bynnag – ni cheir crybwyll llenorion o Gymry. Nid fel hyn y bu hi bob amser.

Yn niwedd y ddeunawfed ganrif a hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd cymaint o barch at rai fel William Owen Pughe ac Owen Pughe ac Owain Myfyr a Iolo Morganwg – er rhyfedded oeddynt! – gan eu cyfoedion o Saeson yn Llundain nes hudo beirdd fel Robert Blake a Southey i ymddiddori yn llenyddiaeth Cymru.

Pa Gymro erbyn hyn, ysywaeth, sy'n ddigon dylanwadol i fynnu diddordeb llenorion a beirniaid o Saeson? Neb, rwy'n ofni.

Ysgyfarnog i'w hela yw hon'na, rwy'n cydnabod, ond nid yw'n gwbl amherthnasol chwaith. Byddai ei chariad gwleidyddol a'i heiddigedd cenedlaethol i sicrhau enw da ei gwlad yn rhoi Kate Roberts ar gefn ei cheffyl i'w hela.

***

Y NODWEDDION hynny yn ei gwaith sy'n gyffredin iddi a gweithiau llenorion cydnabyddedig fawr sy'n profi ei doniau a'i hymwybod greddfol o angenrheidiau llenyddiaeth o bwys.

Mae pob un ohonynt yn y lle cyntaf yn ei gyfyngu ei hun i'w brofiad o'i amgylchedd a'i gynefin; Wessex i Hardy, Normandi i Maupassant, Llundain i Dickens, Sir Fflint i Ddaniel Owen.

Er i Kate Roberts dreulio blynyddoedd yn y De ac ysgrifennu stori neu ddwy am yr adnabyddiaeth, i bob pwrpas ni chynhyrfwyd hi'n greadigol gan y profiad. Rhosgadfan, ei chynefin cynnar a Dinbych, ei chartref am flynyddoedd lawer yw ei hysbrydoliaeth.

Yn rhyfedd iawn, dau wrthwyneb ydynt – gwlad a thref. Y mae'n ddoniol amlwg ei rhagfarn at dref Caernarfon yn ei straeon cynnar. Fe'i cysylltai â rhodres a Seisnigrwydd. Gwelir hyn yn yr enwau y mae'n eu dewis ar gyfer ei chymeriadau. Llond ceg o Gymreictod i Rosgadfan, Sioned, Twm, Ifan, Betsan ond i Gaernarfon Bertie ac Eric.

Yn Ninbych y mae'n cyfaddawdu. Mae'n gwybod fod yno sylfaen gadarn o'r hen ymwybod Cymreig yn enwedig ym myd crefydd. Enwau Cymraeg fel Gruff a Geraint a Bet i'r rheini. Ond ochr yn ochr daw Melinda a Mr a Mrs Bryn – yr olaf, er ei sŵn Cymreig, yn fursennaidd. Ni cheid neb i arddel yr enw yn nechrau'r ganrif yn Rhosgadfan. (Mae'r oes wedi newid erbyn heddiw, ydi!)

Ond yn Y Byw sy'n Cysgu y ceir hyn amlycaf. Ceir yr argraff o filyn myharen o gymdeithas mewn enwau nad ydynt na Chymraeg na Saesneg – Mrs Amred, Aleth, Esta a Ffennig: Mae digon o'r wlad yn Lora i enwi ei mab yn Rhys ond digon hefyd o'r dref ynddi i enwi ei merch yn Derith.

Gyda synwyrusrwydd anarferol o fain a sylwgarwch fel mynawyd, adnabu Kate Roberts ei chynefin cynnar, yn dyddynwyr a chwarelwyr yn arwrol ystyfnig yn ymgodymu â thlodi a chyda'r un synwyrusrwydd a sylwgarwch adnabu hefyd gymdeithas fwngleraidd tref fechan.

Ymdriniodd â'r ddwy gymdeithas yn wrthrychol oer, a'u hadnabod nid fel drwg a da ond yn frith ac, er ei bod weithiau'n gondemniol, yr argraff gyffredinol yw un o gydymddwyn a goddefgarwch.

***

MAE AIL nodwedd mawredd llenorion yn syml. Maent oll yn feistri geiriau. Cymerir yn ganiataol fod gofyn i feirdd eu mynegi eu hunain yn gynhyrfus, ond, ysywaeth, yn llawer rhy aml, eilbeth yw'r mynegiant i ysgrifenwyr rhyddiaith.

Y gwir yw fod pob nofelydd da yn dethol ei eiriau mor fisi o fanwl a'u plethu'n ymadroddion a brawddegau amrywiol eu rhythmau mor ofalus ag unrhyw fardd.

Mae'r stori fel stori, wrth gwrs yn bwysig ond os gellir darllen nofel drosodd a throsodd mae'n amlwg nad er mwyn y stori y darllenir hi ar ôl y tro cyntaf. Mae'r pleser y troeon hyn yn y mynegiant.

Gellir agor unrhyw un o nofelau Dickens ar unrhyw dudalen a chael pleser mynegiant geiriol. Mae'r un peth yn wir am Kate Roberts. Mae'r mynegiant yn finiog uniongyrchol ddiamwys mewn brawddegau sydd, ar y cyfan, yn hen-destamentaidd syml. Yn gyson ceir mwyniannau fel y disgrifiad o Wil yn Tywyll Heno. "Pan ddaeth trwy'r drws yr oedd fel llong lwythog a'i gorun bron yn trawo'r trawsbost, ei het yn troi i fyny yn y tu blaen, crafat am ei wddw, côt law amdano, ei phocedi'n bochio allan fel pynnau mul gan lyfrau, ac esgidiau uchel am ei draed." Geill lunio beirniadaeth egr ar ddirgelwch anesboniadwy bywyd. "Mae Twm yn ei fedd heno yn ddyn pedwar a deugain oed. Mae'i fam yn fyw yn hen wraig wyth a phedwar ugain."

0 hyd ac o hyd ceir cyffro y gair annisgwyl. "Yn wir, dynes ddibleten oedd Meri Ifans." Lefeinir ei gweithiau gan gyffelyb ogoniannau sy'n cyfareddu darllenydd.

***

MAE POB llenor mawr gyda'i ymateb personol i fywyd a chyflwr dyn. Gweld na ellir osgoi canlyniadau ein gweithredoedd wnaeth Shakespeare. Pypedau yw dynion ar drugaredd pwerau didostur i Thomas Hardy. Mae bywyd yn ddiystyr a dibwrpas i Sartre. A gweld ymhonni anorfod dyn os yw am fyw yn gymharol hapus a pharchus yn ei gymdeithas a wnaeth Daniel Owen.

Eu dawn yw dyfeisio amgylchiadau a sefyllfaoedd, argyfyngau a chymeriadau i ddelweddu eu syniadau. Nid oes gofyn cyd-fynd â'r syniadau i fwynhau'r gweithiau, a hyn eto yn profi nad y safbwyntiau fel y cyfryw sy'n sicrhau mawredd ond y ffordd y'u mynegir.

Ymdrech barhaus a pharhaol yn erbyn caledi creulon a didostur oedd bywyd i Kate Roberts. Mae traed y ddynoliaeth mewn cyffion ac er ymlafnio llafurus a chyson, nid oes rhyddhad nac ymwared. Mae tlodi ac annhegwch cymdeithasol yn camu cefnau dynion.

Ond, a dyma lle mae'r gwahaniaeth rhyngddi a Hardy, mae ymwared i'w gael mewn gobaith. Mae digon o fêr yn esgyrn y ddynoliaeth i ddal ati. Os yw heddiw'n greulon, bydd yfory'n garedicach, ac os nad yfory yna drennydd neu dradwy.

Mae gobaith yn deimlad parhaol gynhaliol sy'n lladd surni ac mor ddygn ystyfnig nes gwneud bywyd, er ei fod mor anhrugarog ac egr, wedi'r cwbl yn rhodd nefol sy'n werth ei fyw – yn wir yn aml iawn yn de yn y grug o fodlonrwydd a llawenydd.

Ydi, mae Kate Roberts yn sicr ei lle yn rhestr y llenorion mawr.