UN O HEN GYFROLAU'R YSGOL SUL gan D.Ben Rees

YM MLWYDDYN dathlu dau-ganmlwyddiant yr Ysgol Sul yng Nghymru, priodol yw rhoddi sylw i'r swm aruthrol o lenyddiaeth a gynhyrchwyd yn y Gymraeg yn enw'r sefydliad hwnnw. Ym myd y cylchgronau, y mae'r rhestr yn faith, er mai cylchgronau byrhoedlog oedd llawer ohonynt.

Eithriad oedd y Lladmerydd sy'n llawn o wybodaeth ddiddorol am y blynyddoedd cynnar (1885-1895), pan olygwyd y cylchgrawn gan y Parchedigion John Morgan Jones, Caerdydd ac Evan Jones, Trefriw. Daeth allan yn fisol hyd y dauddegau. Sonia T.M. Jones (Gwenallt) mai cylchgrawn ar ei dyfiant ydoedd. Cynyddodd yn ei rif o ddwy fil a hanner yn 1885 i chwe mil erbyn 1892.

Seren wib oedd y mwyafrif o'r cylchgronau, megis Cydymaith yr Ysgol Sabothol a barhaodd am y flwyddyn 1852 yn unig; er bod R.O. Rees, Dolgellau (gŵr a digonedd o ynni yn perthyn iddo) y tu ôl i'r fenter. Dyna hefyd fu hanes cylchgrawn arall, sef yr Esboniwr. Gan i mi ddarllen y gyfrol gyfan, yr wyf mewn sefyllfa i ddweud gair amdani.

Lewis Edwards o'r Bala oedd golygydd y cylchgrawn yma. Yr oedd ef yn ddyn llawn o benderfyniad ac yn weithiwr diarbed dros gylchgronau a phob math o lenyddiaeth sylweddol. Argraffwyd y cylchgrawn yng Nghaer gan T. Thomas, a'i gyhoeddi ar y cyd gan J.Phillips, St. Anne Street, Caer (neu Caerlleon fel y nodid) a R Hughes, Wrecsam. Dim ond blwyddyn y ar dir y byw.

Ac y mae dau beth i'w ddweud am y cylchgrawn hwn. Yn gyntaf, yr oedd yn gylchgrawn ar gyfer y mwyaf deallus o'r oedolion a fynychai'r Ysgolion Sul. Tameidiau blasus a geir amlaf ynddo, a'r cwbl bron yn waith Lewis Edwards ei hun. Defnyddir weithiau eiriau Groeg yn y nodiadau. Ond rhaid peidio credu mai 'ffad' Lewis Edwards oedd hyn. Gwnaeth mwy nag un o bregethwyr Cymru feistroli Hebraeg a Groeg er mai prin iawn fu eu manteision addysg.

Heddiw y mae'n bosibl gwneud B.D., Prifysgol Cymru heb grap ar y llythrennau hynny, a Lewis Edwards yn troi yn ei fedd ym mynwent Llanycil. Ac Yn wir ar dudalennau 22-23 o'r gyfrol Esboniwr, mae ganddo bwt o gyngor i ddysgu yr ieithoedd gwreiddiol. "Na ddiogwch", meddai, "ac na ddigalonnwch, wrth ei gweld hi'n anodd i feistroli'r Hebraeg a'r Groeg, yr ieithoedd gwreiddiol yr ysgrifennwyd yr Ysgrythurau ynddynt."

***

AMCANION yr Esboniwr yn ôl y golygydd oedd arlwyo gwledd Ysgrythurol ar gyfer pobl oedd yn analluog i brynu cyhoeddiadau mwy drudfawr. Yr oedd ieuenctid yr Ysgol Sul ymysg y rhain. Yr angen oedd cael gwŷr a gwragedd awyddus.

Pwysleisiai'r Golygydd – "Ni chyhoeddir ond yr hyn sydd yn safonol", gan led awgrymu mai ef ei hun oedd i benderfynu pwy oedd i arlwyo bwrdd. Ni chafwyd neb ond Lewis Edwards ei hun, ac eithrio anerchiad y Parchedig Jenkin Davies yng nghyfarfod blynyddol Ysgolion Sul Sir Aberteifi.

Ac y mae nag un tamaid o waith Lewis Edwards yn ddim amgen na chyfieithiadau o'r hyn a ymddangosodd eisoes yn Saesneg; ac yn arbennig o gylchgronau yr Alban, fel Scottish Christian Herald. Dangosir dylanwad Eglwys Rydd yr Alban yn glir ar ddiwinydd o Gymro fel Lewis Edwards.

Bai y cylchgrawn yn fy nhyb i, yw ei fod heb gynllun clir. Ceir lobscows yn rhy aml er fod darnau ohono yn werth astudiaeth lwyrach; er enghraifft, ceir darn gwerthfawr iawn ar Jerusalem a'i hamgylchoedd (tt.6-11), sy'n trafod mangre Calfaria – darn sy'n goroesi i'n cyfnod ni ac yn atgoffa'r diwinydd o waith ysgolhaig fel George Adam Smith hanner canrif yn ddiweddarach.

Yn ail, gellir deall pam y daeth y cylchgrawn i ben mor fuan. Mae tri rheswm. Yn gyntaf, anghofiodd Lewis Edwards reol euraid golygyddiaeth unrhyw bapur neu gylchgrawn. Mae'n gwbl angenrheidiol i bob golygydd gael amrywiaeth o gyfranwyr. Ni all un dyn, boed hwnnw'n athrylith o newyddiadurwr neu o ysgolhaig, gadw cylchgrawn (sy'n dibynnu ar y cyhoedd) yn fyw heb gymorth cyfranwyr eraill.

Yn ail, credaf i Lewis Edwards golli ei ddiddordeb yn y fenter, am iddo ymdaflu ei hun i gynllun arall, sef cyhoeddi cylchgrawn safonol o'r enw Y Traethodydd. Gwelodd Thomas Gee fod gan olygydd yr Esboniwr yr adnoddau angenrheidiol ar gyfer cylchgrawn llawer mwy uchelgeisiol, a pherswadiodd ef i'w gydolygu gyda Roger Edwards o'r Wyddgrug.

Taniwyd Lewis Edwards. Ceir hanes amdano, pan oedd yr Esboniwr ar ei blât, yn ymgynghori â chyfeillion ynghylch "dwyn allan gyhoeddiad tri-misol Cymraeg o nodwedd uwch na dim oedd gennym yn ein hiaith cyn hynny, at wasanaeth llenyddiaeth a chrefydd - cyhoeddiad yn ymgeisio at ymgystadlu â'r rhai uwchaf ymhlith y Saeson".

Llwyddodd gyda'r Traethodydd ond methodd gyda'r Esboniwr. Gellid dadlau i'r Esboniwr roddi cyfle iddo fwrw'i brentisiaeth, a rhoi profiad gwerthfawr iddo o'r anghenion i sicrhau llwyddiant cylchgrawn.

***

YN DRYDYDD, methodd yr Esboniwr fel llawer arall o gylchgronau Cymraeg oherwydd problemau cylchrediad a dosbarthu. Sylwais mai dim ond dau ddosbarthwr oedd ar gael ar gyfer y rhifyn cyntaf o'r Esboniwr, sef, Philip Jones o'r Bala a William Hughes, llyfrwerthwr o Lanrwst.

Erbyn yr ail rifyn yn Chwefror ehangwyd y dosbarthwyr i ddeuddeg, sef deg yn ychwanegol. Dyma eu henwau: Samuel Roberts ym Mangor; Griffith Davies, llyfrwerthwr o Fethesda; D. Hughes, Pentre Facha, tyddynwr o Fryneglwys; R. Griffith, llyfrwerthwr o dref Caernarfon; E. Richards, dilledydd o Ffestiniog; Griffith Jones, siopwr o Borthmadog; J.E. Roberts, Postfeistr Tremadoc; D. Williams a W. Hughes, Proscairon, y ddau olaf o Ddinorwig.

Gwelir felly fod y dosbarthu wedi ei ganoli bron i gyd yng Ngwynedd, gydag ychydig yng Nghlwyd. Sylwer nad oedd un dosbarthwr yng Ngorllewin, Canolbarth na Deheudir Cymru. Papur i'r Gogleddwyr oedd yr Esboniwr yn gyfan gwbl.

Mewn geiriau eraill, gwerthiant lleol fu ei dynged gydol blwyddyn ei fodolaeth. Gwelwyd ambell newid bychan, pan drosglwyddwyd y man gwerthiant ym Methesda o siop y llyfrwerthwr (Griffith Jones) i siop Eleazar Jones, y barbwr.

Y mae un peth arall yn werth sylwi arno, sef mai gwŷr ieuanc oedd cyfartaledd uchel o ddosbarthwyr yr Esboniwr. Gŵr ifanc oedd Eleazar Jones, y barbwr o Fethesda. Yr oedd hyn yn wir am R.O. Rees, Dolgellau hefyd, (y gŵr a ddaeth i'r adwy ar gyfer dosbarthu rhifyn Tachwedd). Gwŷr ieuainc hefyd oedd Griffith Jones, Porthmadog a D. Williams, Dinorwig.

Ond yr oedd yr ysgrifen ar y mur a chadarnhawyd hynny yn y rhifyn olaf o'r Esboniwr. Hysbysebid cylchgrawn newydd yn y rhifyn hwnnw, a chyhoeddwyd y buasai'r rhifyn cyntaf yn ymddangos yn Ionawr 1845. Yr oedd yn weddol amlwg hefyd fod y cyhoeddwyr yn profi cryn anhawster i berswadio darllenwyr y cylchgrawn mai Lewis Edwards oedd ei olygydd.

Y rheswm syml am hynny, yn fy nhyb i, oedd fod Lewis Edwards yn gwrthod rhoddi ei enw ar waelod llawer o'i gyfraniadau personol ef ei hun. Yr oedd yn swil iawn i roddi llawer o gyhoeddusrwydd i'w enw ar dudalennau'r Esboniwr.

***

BU RAID i'r cyhoeddwyr gyhoeddi yn y dudalen gefn yn rhifyn mis Mawrth, mai Lewis Edwards oedd y golygydd. Pwysleisiwyd yn y cyhoeddiad,, "Nid oes yr un gair wedi ei gyhoeddi", meddent, "heb iddo fyned dan ei sylw ef". Er hyn oll, y mae'n amlwg na lwyddwyd i argyhoeddi nifer fawr o, ddarllenwyr y cylchgrawn, na chwaith lawer o selogion yr Ysgol Sul.

Teimlodd y cyhoeddwyr fod rheidrwydd arnynt i gyhoeddi unwaith eto yn rhifyn Tachwedd' mai Lewis Edwards oedd y Golygydd. Sonient fod si ar led, mai rhoi benthyg ei enw yn unig a wnâi Lewis Edwards i'r Esboniwr. Yr oedd y dybiaeth honno meddent yn gwbl gyfeiliornus. "Efe yw'r Golygydd", meddent, "nid oes dim wedi ymddangos o'r cychwyn cyntaf, heb iddo ddod o dan ei ysgrafell a'i arolygiad ef, neu o leiaf dderbyn ei gymaradwyaeth ef".

Yn wir hyd y gwelaf fi, ar wahân i anerchiad Jenkin Davies a llythyr gan H. Jones (Erfyl), nid oedd y Golygydd wedi denu neb arall i gyfrannu. Bu'n ystyfnig i ganiatáu i weinidogion ac athrawon yr Ysgol Sul gael cyfle i gyfrannu. Y mae'n amlwg ei fod ef wedi cadw gwyliadwriaeth dynn iawn ar y sefyllfa fel golygydd; yn wir cadwodd wyliadwriaeth rhy dynn i sicrhau llwyddiant y cylchgrawn.

***

AR Y llaw arall, yr oedd y cylchgrawn yn un arbennig iawn. Gellir yn ddibetrus ddweud iddo fwydo meddyliau athrawon ac aelodau diwylliedig yr Ysgol Sul ar gefndir yr Ysgrythurau. Ond y mae yn hollol amlwg i Lewis Edwards anghofio cynllunio. Bu hyn yn fai llawer rhy fynych yn hanes papurau a chylchgronau crefyddol Cymraeg; ac fe fu Lewis Edwards yn euog o'r un bai, sef diffyg cynllunio.

Bu'n rhaid aros i'r Cyfarwyddwr, cylchgrawn arall ar gyfer yr Ysgolion Sul, ymddangos yn y dauddegau cyn canfod y cynllunio manwl. Eto, mae gan yr Esboniwr ei stori fel rhagflaenydd llawer i gylchgrawn a ddaeth i olau dydd ar gyfer yr Ysgol Sul yng Nghymru, ac ym mlwyddyn y dathlu, da yw cael cydnabod ei fodolaeth.