TAIR GYRFA'R YSGOLHAIG MAWR ~
Brynley F.Roberts yn cofio Syr Thomas Parry
NI CHEFAIS y fraint o fod yn ddisgybl i Syr Thomas Parry, ond i'r graddau ein bod ni bob un sy'n ymwneud ag agweddau ar hanes ein llenyddiaeth yn ddisgyblion iddo. Y mae'r cof am y llais cadarn, yr osgo ddi-syfl, y traethu awdurdodol gorffenedig, a hyfrydwch ei Gymraeg, yn sicrhau'r rheini ohonom na fu yn ei ddosbarthiadau inni gael colled, fel y tystia'i ddisgyblion yn ddieithriad, oblegid ysbrydolwyd hwy gan rin ei bersonoliaeth yn ogystal.
Er hynny, bu'n Bennaeth arnaf, a hynny ar adeg pan allai prifathro coleg yn hawdd fod yn ffigwr pell, anghyffwrdd i ddarlithydd ifanc nad oedd yn sicr pa mor eofn y beiddiai fod ar ei Athro ei hun heb sôn am ei Brifathro.
Mae'n amlwg fod Syr Thomas yn fyw iawn i beryglon ymddieithrio oddi wrth ei staff, a'i fod wedi gwneud ymdrech i'w cyfarfod yn gyson ac yn anffurfiol. Deuai i'r Ystafell Gyffredin am ei goffi boreol, a chynhaliai'n flynyddol noson gymdeithasol lle y gallai holl staff y coleg gwrdd â'i gilydd a lle y gallai ef a'i briod geisio dod i ryw radd o adnabyddiaeth â phawb.
Daeth Plas Pen-glais yn fan ymgynnull ac nid anghyffredin fyddai gweld y Prifathro yn rhai o gyfarfodydd amryfal gymdeithasau adrannol y coleg.
***
FEL Y cofir, pan aeth Syr Thomas Parry yn Brifathro Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1958, aeth i ganol coleg a oedd wedi ymrannu'n chwerw ac yn drwyadl ansicr o'i swyddogaeth yng Nghymru: aelodau'r staff yn edliw eu safonau a'u hymddygiad i'w gilydd, rhai'n ddilornus iawn o ymagwedd 'provincial' tref fach glan-y-môr, eraill yn ffyrnig am ymwadu â phopeth ond didwyll laeth Cymreictod pur.
Nid oedd coleg Aberystwyth yn lle hapus i ddod iddo yr adeg honno, ac nid pawb a groesawai'r syniad mai Cymro diedifar a fyddai'n llywio buddiannau'r sefydliad. Llwyddodd Syr Thomas, gyda chyfuniad rhyfeddol o gadernid a graslonrwydd, doethineb ac awdurdod, i alluogi coleg Aberystwyth i droi'i gefn ar ysbaid anffodus yn ei hanes ac i ailennill hunan-barch a hunan hyder.
Nid na chafodd yntau'i broblemau ar y ffrynt Gymraeg: myfyrwyr yn meddiannu ystafelloedd, yr ymprydio, y myfyrwyr tywysogaidd a'i Arwisgiad, ond trwy ddangos ei ochr yn glir a gwneud yn eglur yr un pryd mai lles y coleg nid ei ragfarnau ei hun a lywiai'i weithredoedd, perchid ef gan bawb yn ddiwahân.
***
MAE'N SIWR gennyf i Syr Thomas Parry fod yn un o brifathrawon mwyaf llwyddiannus prifysgolion Prydain. Bu'n Llyfrgellydd Cenedlaethol effeithiol hefyd, a rhwng 1963 a 1967, tra bu'n gadeirydd Gweithgor Pwyllgor Grantiau'r Prifysgolion ar lyfrgelloedd, cafodd gyfuno'i brofiad yn y ddau faes hyn.
Y mae Adroddiad Pwyllgor Parry wedi bod yn un o ddogfennau sylfaenol pob llyfrgellydd prifysgol hyd yn ddiweddar. Gweithredwyd llawer o'i argymhellion trefniadol a syniadol a rhagwelodd ddatblygiadau diweddar yn nhechnegau llyfrgellyddiaeth; ond lluniwyd yr Adroddiad mewn dyddiau pan ddisgwyliai'r prifysgolion gael arian ac adnoddau i ehangu, ac nid oes dim tristach na gweld fel y mae prifysgolion heddiw yn gorfod, neu'n dewis, diraddio a llwgu'u llyfrgelloedd fel nad yw delfryd Pwyllgor Parry o sicrhau adnoddau digonol iddynt ac o sefydlu is-bwyllgor i warchod eu buddiannau yn debyg o gael ei gwireddu bellach.
***
GŴR a gafodd dair gyrfa lewyrchus o lwyddiannus oedd Syr Thomas, ond nid oes amheuaeth nad yn ei yrfa gyntaf ac olaf fel ysgolhaig Cymraeg y bu ei bennaf ddifyrrwch a'i gyfraniad arhosol. Pan geir rhestr gyflawn o'i gyhoeddiadau, yr hyn a fydd yn ein syfrdanu wrth bori ynddi fydd eu nifer a'u hamrywiaeth.
Yr oedd Syr Thomas, fel eraill o'i genhedlaeth, yn ysgolhaig crwn. Dywedodd wrthyf, mewn cyfarfod tyngedfennol yn fy hanes, nad oedd ganddo amynedd â'r ysgolheigion hynny a gerddai yn eu rhigolau cyfyng eu hunain heb godi pen i weld beth a wneid gan eu cymrodyr.
Yr oedd ei ddysg ef ei hun yn sylweddol yn ogystal ag yn eang, fel y tystia swm ei gyhoeddiadau yn holl gyfnodau'n llên, o Siôn Dafydd Rhys yn y 16g. hyd y trafodaethau ar ysgolheictod y 19g. a llenorion y ganrif hon. Hyn a wnaeth gampweithiau Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 a'r Oxford Book of Welsh Verse yn bosibl.
Ond yr oedd yn arbenigwr manwl hefyd, yn y gyfrol arloesol Baledi'r Ddeunawfed Ganrif, ac yn anad yr un man arall yn Gwaith Dafydd ap Gwilym a'r lliaws trafodaethau a ddaeth yn sgil yr ymchwil fawr honno, ar y bardd a'i gerddi, ar ramadeg y beirdd, datblygiad y cywydd a thwf y gynghanedd.
Yng ngwaith Syr Thomas gwelir cyflawnder ysgolheictod yn ei nodweddion praffaf, a'r farn aeddfed, wreiddiol a diflewyn ar dafod yn dod i'r amlwg yma megis ymhob maes arall y bu ynglŷn ag ef. Caiff eraill sôn am y bardd a'r beirniad llenyddol, er y nodweddid ei holl ysgrifennu, fel ei lefaru, gan urddas coeth fel mai mwy chwithig yn ei hanes ef nag odid neb arall yw ceisio tynnu llinell ffug rhwng ysgolheictod ac 'ysgrifennu creadigol'.
***
PRIODOL yma yw cofio ei fod nid yn unig yn ddyn llyfrau ond yn llyfryddwr hefyd. Y mae trylwyredd trefnus Llyfryddiaeth Llenyddiaeth Gymraeg (a olygwyd ganddo ef a Merfyn Morgan) yn gwneud y gyfrol yn gymorth diogel, ond yn ei gyfraniadau i Y Casglwr – a bu'n gefn mawr i'r cylchgrawn hwn o'r rhifyn cyntaf oll – y synhwyrir orau ei ddileit mewn llyfrau.
Cawsom ganddo restri o gyfresi megis Cyfres Gŵyl Ddewi, Cyfres y Brifysgol a'r Werin, a chyhoeddiadau W. Gilbert Williams; aeth ar ôl hanes Huw Jones o Langwm a geiriadur Thomas Roberts; arweiniodd ni ar hyd llwybrau diarffordd Seren y Mynydd a Gwybod; ac agorodd ambell gyfrol inni gael gweld y nodiadau ymyl y ddalen.
Mae Dr. Geraint Gruffydd, yn ei ysgrif gynnes yn Y Faner (3 Mai 1985), wedi nodi troeon gyrfa Syr Thomas Parry ac nid oes rhaid ailadrodd yma.
Mae'r swyddi a ddaliai a'r anrhydeddau a dderbyniodd yn arwydd o ymddiriedaeth ei genedl ynddo. Y tu ôl i'r cyfan yr oedd personoliaeth fawr, yn unplyg ac onest ymhob peth a wnâi yn broffesiynol ac yn bersonol, ond yr oedd y nodweddion a allasai fod yn oeraidd a mawreddog mewn eraill yn cael eu tymheru ynddo ef gan garedigrwydd a chydymdeimlad. I bawb a'i hadwaenai diolch cywir sy'n gweddu er gwaethaf y bwlch mawr a erys.
Cyflwynwn i'r Fonesig Parry ein cydymdeimlad cywir yn ei cholled bersonol hi.