SYFRDANOL FARGEINION DYDDIAU A FU ~
David E.Hughes yn tynnu dŵr o'r dannedd

Rhybudd i'r rhai o gyfansoddiad nerfus.

Mae yn yr ysgrif isod gyfeiriadau at brisiau llyfrau ail-law yn nechrau'r ganrif.

CESGLAIS dros y blynyddoedd nifer o hen gatalogau o lyfrau ail-law a meddyliais y gallasai ychydig sylwadau arnynt fod o ddiddordeb i ddarllenwyr Y Casglwr.

Perthyn y mwyafrif ohonynt i'r cyfnod rhwng y ddau ryfel byd, cyfnod a ystyrir gyda'r prysuraf yn hanes gwerthu llyfrau ail-law yng Nghymru drwy gyfrwng catalogau. Chaiff y sawl fyn gasglu llyfrau heddiw fawr o drafferth i ymweld â'r siopau i chwilio am y ‘perl gwerthfawr' drostynt eu hunain eithr yn y cyfnod cymharol ddi-drafnidiaeth sy' dan sylw roedd mwy o reidrwydd i fynd â'r llyfrau i'r prynwyr.

Fe bwysai'r llyfrwerthwyr yn drwm ar y catalog i'r pwrpas hwnnw. Dyma'r ddolen- gydiol rhyngddo a'i ddarpar-gwsmeriaid; cludent gynnwys ei silffoedd, neu o leiaf fanylion amdanynt, i gasglwyr eiddgar a disgwylgar ymhob cwr o'r wlad; cynhwysent y danteithion melysaf oedd ganddo i'w cynnig, ac os bu'n ddigon ffodus i brynu llyfrgell bwysig neu gasgliad arbennig o lyfrau, wel, dyna gyfle gwych iddo frolio ef ei hun a'r llyfrau 'run pryd.

Pan gofiwn mai'r ymateb a gawsai i'w gatalog a'i cynhaliai bron yn gyfan gwbl gallwn ddychmygu'r ymdrech a wnâi i ddod o hyd i ddeunydd diddorol i'w gynnwys ynddo a'r gofal a gymerai i'w arlwyo'n ddeniadol gerbron y llyfr-bryfaid.

Roedd hi'n adeg pan oedd Cymru'n frith o lyfrwerthwyr prysur a phrofiadol. Dyma rai o hoelion wyth – bron na ddywedem wythplyg y cyfnod – Wyn Edwards, Morris & Co, Lerpwl; Frank Crowe, Gwrecsam; Kyrle Fletcher, Casnewydd; Goronwy Williams, The Cymric Bookstore, Rhuthun a J.R. MOrris (sef y Morris yn Wyn Edwards, Morris & Co), Caernarfon.

Yn ychwanegol at y rhain fe ddanfonid allan gatalogau ag ynddynt gyfran teilwng o lyfrau Cymraeg a Chymreig gan Harry Jones o Gaer a chan George's o Fryste, heb sôn am y catalogau sylweddol a ddaethai'r holl ffordd o'r Bible Bookroom, Efrog Newydd oddi wrth yr enwog Henry Blackwell.

Trysoraf fy nghasglaid o gatalogau, nid am eu gwerth ariannol ond am eu bod yn ddogfen bwysig a diddorol o'r fasnach lyfrau ail-law mewn cyfnod pan oedd y llyfrau prinion hynny nas gwelsom ni, druain, ond yn ein cwsg ac nas gwelir yn unman heddiw ond yn y Llyfrgell Genedlaethol – ac o bosib yn yr adrannau allanol ohoni ym Modedern a Betws Gwerfyl Goch! – yn anweddus o gyffredin.

***

AWN ATI'N awr i fanylu ychydig gan gyfeirio'n gyntaf at gatalog a baratowyd yn 1931 gan Wyn-Edwards, Morris & CO, Lerpwl. Ceir y pennill hwn ar y clawr uchaf:

ac o'r 'llawlyfr bychan' hwn caech ddewis o nifer o 'greiriau llen prin a gwerthfawr', yn eu plith Feibl y Doctor Parry, 1620, mewn lledr am ddecpunt, dau, ie, dau gopi o'r argraffiad cyntaf o Plans and Harbours gan Lewis Morris, 1748, copi cyffredin am seithbunt a hanner a 'proof copy' am deirpunt ar ddeg yn ychwanegol.

Gofynnid dwy bunt a deg swllt am gopi mewn lledr o Archaelogia Brittaniia, Edward Lhuyd, hynny'n bumswllt yn llai – yn llai sylwer – na'r hyn a ofynnid am Pilgrimages to old homes on the Welsh Border 1938. Fe gaech am ddegpunt gopi o The Historie of Cambria 1584, copi wedi'i drwsio a'i `gyflawni' (beth bynnag a olygai hynny) gan Lew Tegid.

Temtiwyd rhai casglwyr mae'n siŵr gan gopi o Gweithiau Pantycelyn 1811, oedd i'w gael am bymtheg swllt ond fod hwn eto 'gydag ychwanegiadau' (emyn neu ddau efallai?) gan Lew Tegid. Methodd yr amryddawn ŵr hwnnw â chyflawni copi o Blodeugerdd Cymry, yr ail argraffiad, 1779, a rhaid oedd i'r sawl a'i prynai fodloni ar gopi gyda saith o dudalennau yn eisiau. Ei bris oedd dau swllt ar bymtheg.

Roedd wyth o dudalennau'n fyr yn y copi o Diddanwch Teuluaidd, yr ail argraffiad, 1817. Gofynnid saith a chwech am hwn.

Sut, tybed, mae esbonio fod copïau mor anghyflawn â’r rhain yn cael eu cynnwys mewn catalog o gwbl, heb sôn am godi crocbris amdanynt? Ni chawsem anhawster i ddeall pe cynhwysid copïau amherffaith o'r argraffiad cyntaf o'r casgliadau enwog hyn gan fod copïau cyflawn o'r rheini mor brin nes peri inni amau a'u cyhoeddwyd o gwbl.

Ffarweliwn â'r catalog hwn drwy gyfeirio at gopi perffaith o Barddoniaeth Dafydd ap Gwilym 1789, oedd i'w gael am bedair punt a chweugain. Roedd i hwn hefyd ei 'ychwanegiadau' ac fe aeth yr athro G.J. Williams i gryn drafferth yn ddiweddarach i brofi nad Llew Tegid oedd yn gyfrifol am y rheini!

***

DYW'R catalog arall sydd gennyf o stabl Wyn-Edwards, Morris & Co., ddim mor ddiddorol ei gynnwys. Rhestr ydyw o gofiannau Cymraeg gyda'r broliant canlynol – 'Y mae cofiannau yn llenyddiaeth werthfawr ac nid yn fynych y ceir rhestr o dros 350 o rai gwahanol gan lyfrwerthwyr Cymraeg.' Digon gwir, mae'n siŵr.

Fel y disgwyliem, y catalogau a baratowyd gan J.R. Morris ar ei liwt ei hun yng Nghaernarfon yw'r rhai mwyaf cynhwysfawr o'r cwbl sydd gennyf. (Gyda llaw, o siop y Bont Bridd, yng nghyfnod Eric Jones, y daeth llawer o'm catalogau ac mae lle i gredu mai copiau personol J.R. Morris oeddynt.)

Nid yw'n bosibl mewn ysgrif fel hon wneud cyfiawnder â hwynt; brithir eu dalennau â llyfrau prin a dethol, yr oll wedi'u dosbarthu'n daclus dan benawdau megis, 'Llyfrau prin a gwerthfawr', 'Clasuron', 'Cylchgronau', 'Cyfrolau Amryw', 'Geiriaduron', ac yn y blaen.

Caiff llyfrau o lyfrgell Pedrog sylw arbennig mewn un catalog; rhoddir mewn catalog arall y lle blaenaf i lyfrau fu unwaith yn eiddo i Ieuan Gwyllt, llyfrau yn ymwneud â cherddoriaeth yn bennaf.

Dyma rai ffrwythau o berllan J.R. Morris: Cyfreithiau Hywel Dda, £2.2.0; Myvyrian Archiology, tair cyfrol, £6.6.0; Recorde's Arithmetic, or the grounds of Arts, 1673, £2.0.0; Heraldic Visitation of Wales, Lewis Dwnn, 1846, £2.2.0; Cell Callestr, William Edwards, (‘Prin iawn’ yn ôl J.R. Morris), £1.0.0; Geiriadur John Davies, Mallwyd, 1632, £1.00.

Gallem ychwanegu dwsinau o eitemau cyffelyb – hyd at syrffed yn wir. I mi, beth bynnag, maent yn llyfrau surion iawn!

***

FY FFEFRYNNAU o blith fy nghatalogau, a hynny am reswm personol, yw'r rhai a ddarparwyd gan Goronwy Williams.

Fe'm gwahoddwyd gan ei weddw yn 1972 i brynu gweddill ei stoc a orweddai dan haen o lwch mewn croglofft yn Rhuthun. Mae ei gatalog, rhif 56, Ebrill 1915, 'comprising the libraries of the late Dr Ellis Edwards, Bala and the Rev. E. Evans, Llansadwrn Rectory' gyda mil a hanner o eitemau, ymhlith y rhai cynharaf sydd gennyf.

Er nad yw'n enw cyfarwydd bu i Goronwy Williams chwarae rhan bwysig yn hanes gwerthu llyfrau ail-law yng Nghymru; roedd yn un o'r rhai cyntaf, os nad y cyntaf, i ddanfon allan gatalogau yn rheolaidd ac ni ddaeth Wyn-Edwards. Frank Crowe na J. R. Morris i'r drin am rai blynyddoedd ar ei ôl.

Dyma farn Bob Owen amdano, 'Un da am gatalogau o gywreinion betheuach a llyfrynnau oedd Goronwy Williams'. Dyna ganmoliaeth yn wir.

***

NI CHANIATA gofod imi roddi'r sylw dyladwy i gatalogau yr hynod Henry Blackwell o Efrog Newydd. Haedda ef ysgrif iddo'i hun a hynny'n bennaf ar sail ei sylwadau anfwriadol ddoniol ar ei lyfrau. Dyma ichwi ddarn i aros pryd.

OWENS (sic) Goronwy. Poetical Works with his life and correspondance. 2 vols, 1876. 'Beautifully printed edition of the noblest poet Wales has had; who ended his days in Virginia and of whose death exeedingly little is known.'

PARRY (Edward) The Railway Companion from Chester to Holyhead. 'A Welshman from North Wales with this book in his hand his thoughts would wander andgladlypass his meals too.'

NEWELL (E.J.) A history of the Welsh Church. 1895. 'These days we hear so much about the Church in Wales. In the past the brainy men of Wales did things: what the Nonconformists of today never have done. The Welsh Church is a power and always will be.'

Dyma'r ffordd i werthu llyfrau yn siŵr i chwi.