PEDR FARDD YN Y GLORIAN ~
Dadansoddiad E.Wyn James
GELLIR cytuno'n galonnog â chasgliad y diweddar Emrys Jones ar ddiwedd ei ysgrif ar Pedr Fardd yn rhifyn Awst 1984 o'r Casglwr mai ef yw 'un o'r, mwyaf o Emynwyr y Diwygiad Mawr'. Yn ôl Syr Thomas Parry, mae ef 'gyda'r mwyaf cymeradwy o emynwyr Cymru'.
Byddai cefnder Syr Thomas, Robert Williams Parry, yn arfer ei osod yn y trydydd dosbarth fel emynydd – dau yn unig sydd yn y dosbarth cyntaf, sef Williams Pantycelyn ac Ann Griffiths; neb yn yr ail; Morgan Rhys, Pedr Fardd a Ieuan Glan Geirionydd yn y trydydd, a phawb arall yn y pedwerydd dosbarth.
Mae mawr angen arnom am gyfrol newydd o holl emynau Pedr Fardd, gan na chafodd yr un casgliad o'i emynau ei gyhoeddi oddi ar gyhoeddi ei Crynoad o Hymnau yn 1830, cyfrol sy'n eithriadol brin erbyn hyn. Mae'n hwyr bryd i gorff megis Bwrdd y Gwybodau Celtaidd neu Gyngor y Celfyddydau noddi cyfres o argraffiadau safonol o waith ein hemynwyr.
Dywed Mr Emrys Jones yn ei erthygl fod Crynoad 1830 wedi rhoi inni emynau Pedr Fardd 'fel y cawsant eu cyfansoddi' ganddo, h.y., yn rhydd o ymyrraeth y cyfnewidwyr emynau. Ond i fod yn fanwl gywir, y mae angen amodi rhywfaint ar osodiad moel Mr Jones, oherwydd fe geir fersiynau eraill ar emynau Pedr Fardd 'fel y cawsant eu cyfansoddi' ganddo heblaw y rhai yn y Crynoad.
***
YMDDANGOSODD llawer o emynau Pedr Fardd cyn 1830, mewn cylchgronau megis Goleuad Cymru ac mewn casgliadau emynau (gweler, er enghraifft, y nodiadau ar emynau Pedr Fardd yn argraffiad 1961 Emynau a'u Hawduriaid John Thickens, lle yr awgrymir hefyd mai ef oedd y 'Peter' y cyhoeddwyd rhai emynau cenhadol Saesneg o'i eiddo ar dudalennau'r Evangelical Magazine).
Fel yr awgryma'r teitl, crynhoi ynghyd emynau a ymddangosasai ynghynt ar wasgar mewn cyhoeddiadau eraill oedd un o ddibenion cyhoeddi Crynoad o Hymnau 1830.
Ceir rhai gwahaniaethau o ran geiriad, ac yn nifer a threfn y penillion, rhwng y fersiynau cynharach hyn ar yr emynau a'r ffurf sydd arnynt erbyn cyrraedd y Crynoad, ac felly y dull cywiraf o ddisgrifio testun y Crynoad, mae'n debyg, fyddai dweud ei fod yn cynrychioli ffurf derfynol Pedr Fardd ar lawer o'i emynau – ar lawer ohonynt, oherwydd rhaid cofio nad yw'r Crynoad yn cynnwys ei holl emynau, er bod y rhan fwyaf o'i gynnyrch emynyddol yn y gyfrol honno.
Heb sôn am yr emynau Saesneg y cyfeiriwyd atynt eisoes, ceir sawl emyn Cymraeg arall nas cynhwyswyd ynddi, megis ei emynau dirwestol yn Yr Athraw a'r Dirwestydd yn 1839, ei emyn enwog 'Dywedwyd ganwaith na chawn fyw' a ymddangosodd gyntaf yn Yr Athraw yn 1838, a'i gyfieithiad o emyn cenhadol Reginald Heber, 'From Greenland's icy mountains'.
***
YN EI flynyddoedd cynnar wedi iddo symud o Eifionydd i Lerpwl, dilyn ei grefft fel teiliwr a wnaeth Pedr Fardd. Dywedir iddo fod wedi hynny yn glerc mewn rhyw swyddfa yn y ddinas ac mai yno y meistrolodd Saesneg. Ond yn 1807, ar anogaeth Thomas Charles, sefydlwyd ysgolion dyddiol i blant y Cymry yn gysylltiedig â'r ddau gapel o eiddo'r Methodistiaid Calfinaidd a oedd yn Lerpwl ar y pryd, sef Pall Mall a Bedford Street, a phenodwyd Pedr Fardd yn athro'r ysgol yn Pall Mall.
Er nad oes sicrwydd iddo aros yn athro yn Pall Mall am yr holl amser, ymddengys iddo barhau yn athro o 1807 hyd 1830, blwyddyn a fu'n gryn drobwynt yn hanes Pedr Fardd – blwyddyn newid o fod yn athro i fod yn siopwr, blwyddyn claddu ei wraig, a blwyddyn cyhoeddi ei Crynoad o Hymnau, casgliad sydd yn goron ac yn derfyn cyfnod hynod gynhyrchiol iddo fel emynydd.
Yn ogystal â bod yn weithgar yn yr ysgol ddyddiol, bu Pedr Fardd yn amlwg gyda gwaith yr Ysgol Sul yn Lerpwl, sy'n bwysig iawn cyn belled ag y mae ei emynau yn y cwestiwn.
Soniwyd uchod fod llawer o emynau Pedr Fardd wedi ymddangos mewn casgliadau emynau cyn cyhoeddi Crynoad 1830. Ymddangosodd rhai mewn casgliadau cyffredinol – er enghraifft, ceir penillion o'i eiddo yng nghasgliad arloesol Robert Jones, Rhos-Ian, Grawn-syppiau Canaan (1795), a dau emyn yn yr atodiad i gasgliad David Jones, Treffynnon (1810) – ond rhwng 1819 a chyhoeddi Crynoad 1830 lluniodd Pedr Fardd ei hun nifer o gasgliadau bychain o emynau, yn bennaf ar gyfer ysgolion Sul Methodistiaid Lerpwl.
Cynrychioli penllanw deng mlynedd o gyfansoddi diwyd ar gyfer yr ysgolion Sul a wna Crynoad 1830.
***
YR YSGOGIAD i'r cyfansoddi oedd y cymanfaoedd ar gyfer yr ysgolion Sul a oedd mewn cymaint bri yn Lerpwl yn y cyfnod hwnnw. Mewn traethawd pwysig ar Pedr Fardd yn y Llyfrgell Genedlaethol (Archifau'r Methodistiaid Calfinaidd 8699), dywed R.W. Roberts ('Arfonog') – brodor o'r Garn a blaenor yn Eglwys Douglas Road, Lerpwl, a fu farw ym Mawrth 1924 yn fuan wedi iddo orffen ei draethawd – mai 'Pedr Fardd oedd cychwynnydd y Gymdeithasfa Ysgolion (yn 1819), a bu yn un o'i phrif golofnau hyd ddiwedd ei oes'.
Mewn cofiant i'r Parch Thomas Hughes (1758-1828), gweinidog gyda'r Methodistiaid yn Lerpwl, edrydd John Jones, Castle Street, fel a ganlyn am y gwaith gyda'r ieuenctid yn y cyfnod dan sylw:
- Yn y flwyddyn 1817, dechreuwyd cynnal cyfarfod gyda yn plant a'r ieuenctyd, ar ôl
darfod yr oedfa nos Sabboth, yn yr ysgoldy o dan gapel Pall Mall, a gwnaed yr un modd,
yn fuan wedi hynny, yn nghapel Bedford-street. Ni chafwyd nemawr o gysur o fod gyda hwynt,
hyd yn agos i ddiwedd y flwyddyn 1819, pryd y disgynnodd dylanwadau grymus ac effeithiol
yr Ysbryd Glan, ar lawer o honynt; - yn yr ysgoldy a enwyd yn gyntaf, a gwedi
hynny yn y pen arall i'r dref; - ac fe chwanegwyd nifer mawr o honynt at yr
eglwys mewn canlyniad i'r ymweliad hwn. Ac nid ar yr ieuenctyd yn unig yr oedd
y gweithrediadau grasol hynny, ond hefyd ar henaint a chanol-oed: fe, bu yn
adfywiad cyffredinol i'r eglwys.
Dywedir i'r adfywiad hwn ddechrau wrth i un o henuriaid yr eglwys, William Evans, weddïo am dywalltiad yr Ysbryd Glân ar ddiwedd y cyfarfod un nos Sul.
***
CODODD J.H. Morris ddisgrifiad R.H. Williams (Corfanydd; 1805-76) o William Evans fel codwr canu i'w Hanes Methodistiaeth Liverpool (cyf. I, tt.87-8). Daw'r disgrifiad o erthygl o atgofion gan Corfanydd yn Y Tyst Cymreig am 1869, ac mewn erthygl arall yn yr un gyfres (12.8.1870) dyma sydd ganddo i'w ddweud am y cymanfaoedd ysgolion Sul y cyfeiriwyd atynt uchod:
- SASSIWN Y PLANT - Gwyl flynyddol oedd hon a gedwid ar Sabboth y Pasg, pryd yr ymgynullai
plant ysgol Pall Mall a Bedford i gael ei holwyddori ar ryw bwnc, naill ai o'r Beibl neu
o Hyfforddwr Mr Charles o'r Bala. Gwyl ardderchog fyddai hon yn ngolwg deiliaid yr Ysgol
Sabbothol, a llawer o ymbaratoi fyddai ar ei chyfer am fisoedd yn flaenorol er
ei chael yn berffaith lwyddiannus, ac ni fyddent byth yn ôl yn hynny. Ymbaratoent gyda'r
canu. Pedr Fardd hefyd fyddai yn cyfansoddi emynau newydd a phriodol ar y pynciau, a hyny
yn flynyddol, nes erbyn y flwyddyn 1830, cafwyd digonedd i argraphu cyfrol o emynau i'r
Ysgol Sabbothol.
Ni wn faint o gopïau o'r casgliadau blynyddol hyn a argraffwyd. Roedd gwaith yr ysgol Sul yn bur lewyrchus ymhlith Methodistiaid Lerpwl erbyn 1819. Yn y flwyddyn honno, er enghraifft, yr oedd Ysgol Sul Pall Mall â 238 o blant a 150 o rai mewn oed ar y llyfrau, o dan 44 o athrawon. Erbyn Medi 1820 roedd 600 yn Ysgol Pall Mall, a'r cynnydd i'w briodoli yn ddiau i'r adfywiad a grybwyllwyd uchod.
Ond pa nifer bynnag o bob llyfryn a argraffwyd, erbyn hyn mae'r casgliadau bychain yma yn brin eithriadol. Ni wn ychwaith sawl gwahanol gasgliad a gyhoeddwyd. Os oeddynt yn gyhoeddiadau blynyddol, fel yr awgryma Corfanydd, yna dylai fod deg ohonynt i gyd.
Pedwar sydd i'w cael yn y Llyfrgell Genedlaethol. Ceir tri o'r pedwar yn Llyfrgell Salisbury, ond er chwilio yno ac yn y Llyfrgell Ganol yng Nghaerdydd, ac ymgynghori â chatalog y Llyfrgell Brydeinig, methais ag ychwanegu yr un llyfryn arall at y pedwar. Ni welais ychwaith gyfeiriad at lyfryn arall o'r fath mewn ymdriniaethau ar Pedr Fardd.
Mae'n bur sicr fod mwy na’r pedwar casgliad hyn wedi gweld golau dydd oherwydd yn Hanes Methodistiaeth Liverpool (cyf. I, t.122) rhestra J.H. Morris saith o emynau fel enghreifftiau o'r rhai a geid mewn llyfrynnau bychain rhwng 1819 a 1830, a dim ond dau o'r saith a welir yn y pedwar casgliad y deuthum ar eu traws.
Tybed a ŵyr rhai o ddarllenwyr Y Casglwr am ragor o'r casgliadau yma? Dyma'r pedwar a welais, ynghyd â'r manylion llawn am Crynoad 1830:
- Hymnau i'w canu yn y Gymdeithasfa, a gynnelir Tachwedd 7, 1819, gan Ysgolion Sabbothol
y Methodistiaid Calfinaidd, yn Pall Mall a Bedford Street, Liverpool. A
gyfansoddwyd gan P. Jones. Argraffedig gan Nevetts, Liverpool. 8 tudalen; 8
emyn ac un anthem. Mae'r pedwar emyn cyntaf i'w canu yn Pall Mall, a'r emynau
eraill a'r anthem i'w canu yn Bedford Street.
- Hymnau i'w canu yn y Gymdeithasfa, a gynnelir ar Sul Y Pasg, Ebrill 2, 1820, gan
Ysgolion Sabbothol y Trefnyddion Calfinaidd, yn Lerpwl. A gyfansoddwyd gan P.
Jones. Argraffedig gan J. Nevett & Co. Heol y Castell. 8 tudalen; 5 emyn ac
un anthem.
- Hymnau newyddion; a gyfansoddwyd gan Peter Jones, LIynlleifiad. Argraffedig gan D.
Marples, Heol y Circus. 1825. 12 tudalen; 9 emyn. Er nad ef a fathodd yr enw, ymddengys
mai Pedr Fardd trwy ei ysgrifeniadau a fu'n gyfrifol am ddwyn yr enw hwn ar Lerpwl i
arferiad gweddol gyffredin.
- Emynau, i'w canu yn nghyfarfodydd yr ieuenctid, yn Nghappelau, Bedford-Street, a
Pall Mall, ar Ddydd Gwener y Croglith, Ebrill 4ydd, 1828. By Peter Jones. Llynlleifiad:
argraffedig gan D. Marples, Heol Paradise. 1828. 8 tudalen; 5 emyn.
- Crynoad o hymnau: sef, cydymaith i'r Ysgol Sabbothol; yn dair rhan. I. Hymnau ar
amrywiol destunau. II. Hymnau ar benodau yr, Hyfforddwyr, sef catecism y Parch. T.
Charles. III. Hymnau cenhadol. Gan Peter Jones, Liverpool ... Liverpool: argraffedig
gan J. Nevett & Co. 1830. 84 tudalen; ceir 28 emyn (gan gynnwys un Saesneg) ac un
anthem yn rhan un, 26 emyn yn rhan dau, ac 8 yn rhan tri, cyfanswm o 62 emyn.
(Yn ei Hanes Emynwyr Cymru disgrifia W.A. Griffiths ryw Crynhoad o Hymnau a gyhoeddwyd gan Pedr Fardd yn 1800, ond camgymeriad yw'r dyddiad hwn am 1830.)
***
CEIR rhagymadrodd i'r Crynoad gan Pedr Fardd a chyflwyniadau cymeradwyol gan John Elias a John Jones, Tal-y-sarn, y tri wedi'u dyddio 16 Chwefror 1830.
Fel y gellir casglu o'r cyflwyniadau roedd y ddau bregethwr mawr yn Lerpwl ar y dyddiad hwnnw. Bu John Jones yn pregethu yn Pall Mall ar nos Fawrth, 16 Chwefror, cyn ymadael am Runcorn, Manceinion a Chaer yn ystod ail hanner mis Chwefror (Cofiant John Jones, Talsarn, t.210).
Yn Y Drysorfa am 1832 (t.220) rhoddir manylion am 'drefn sefydledig y Pregethwŷr yn eu hymweliad â Threfydd Lloegr, sef Liverpool, Manchester, a Chaerlleon, fel y cytunwyd mewn Cymdeithasfa Chwarterol'.
Hanfod y drefn oedd fod dau bregethwr o bob sir yn y gogledd i aros yn y trefi hyn am fis ddwywaith y flwyddyn, gydag un o'r ddau yn aros yn Lerpwl am ddau Sul cyn mynd ymlaen i Fanceinion a Chaer am weddill y mis, a'r pregethwr arall yn symud i'r gwrthwyneb.
Ni ddywedir yn Y Drysorfa pa bryd y dechreuodd y drefn hon, Ond gan mai dyna union symudiadau John Jones yn Ystod Chwefror 1830 ac mai Pregethwyr o sir Gaernarfon oedd i gael eu hanfon i'r trefydd hyn ym misoedd Chwefror yn ôl y drefn, ymddengys iddi fod mewn grym am o leiaf ddwy flynedd cyn y cyhoeddiad yn Y Drysorfa.
Mae presenoldeb John Elias yn Lerpwl yr un adeg yn cadarnhau hynny oherwydd yn ôl y drefn sefydledig 'anfonir un Gweinidog cynorthwyol yn ychwaneg i Liverpool, oherwydd fod yno dri Chapel i bregethu ynddynt', a thro sir Fôn ydoedd i anfon y gweinidog ychwanegol yn ystod mis Chwefror.
Ond roedd gan John Elias reswm pellach - rheswm cyfrinachol - dros fod yn Lerpwl yn Chwefror 1830. Yn ei hunangofiant ceir y cyfeiriad cynnil hwn gan John Elias at ei ail briodas, 'Chwefror 10, 1830, priodais Lady Bulkeley, gweddw'r diweddar Syr John Bulkeley, Presaddfed (Hunangofiant John Elias, gol. Goronwy P. Owen, t.66, a gw. tt.23-5). Roedd Lady Bulkeley wedi symud o sir Fôn i Lerpwl, gan ymaelodi â'r achos Methodistaidd yn Bedford Street yn 1828, ac yn Eglwys Dewi Sant, Lerpwl, y priodwyd y ddau.
***
FEL YR awgrymwyd eisoes, crynhoi ynghyd o gylchgronau a chasgliadau emynau oedd rhan o waith Pedr Fardd wrth baratoi Crynoad 1830, ac yn unol â'r disgwyl ceir yr oll o emynau'r pedwar casgliad a nodir uchod yn y Crynoad – ond nid bob amser yn y ffurf eiriol na'r drefn penillion a welir erbyn 1830. Ar ben hynny, hepgorir rhai penillion yn gyfan gwbl erbyn 1830 ac ychwanegu rhai newydd.
Mae'r casgliadau bychain yn cynnwys rhai emynau a gyhoeddwyd ynghynt mewn cylchgronau, etc., ac felly gyda rhai o'i emynau ceir tri neu bedwar fersiwn cyhoeddedig ohonynt gan Pedr Fardd ei hun, i gyd â gwahaniaethau, mân neu fawr, rhyngddynt.
Yn ei ragymadrodd i Crynoad 1830, dywed Pedr Fardd yn bendant iawn mai ef biau pob pennill yn y casgliad. Ond dylid nodi, ar waethaf honiad y wyneb-ddalennau, nad yw hynny'n wir am bob pennill yn y casgliadau llai – er enghraifft, mae pennill cyntaf Emyn II yng nghasgliad 1828 (a hepgorir erbyn casgliad 1830) yn gyfieithiad gan Dafydd Jones o Gaeo o bennill gan Isaac Watts.
Ceir hefyd adleisiau o emynwyr eraill yng ngwaith Pedr Fardd o bryd i'w gilydd – er enghraifft, erbyn cyrraedd y Crynoad cafodd Emyn VII casgliad 1819 bennill ychwanegol, ond pennill sy'n bur debyg i bennill gan Bantycelyn yn ei emyn 'Mae'r graig mae f’enaid arni'n byw'.
Dylid nodi hefyd y ceir nifer o gyfieithiadau yn y casgliadau yma, er nad ydynt bob amser yn cael eu cydnabod felly. Cyfieithiad o emyn gan Isaac Watts, er enghraifft, yw emyn cyntaf casgliad 1819.
***
MAE AR glawr adroddiad am y gymanfa ysgol Sul gyntaf y soniwyd amdani uchod, a gynhaliwyd yn Nhachwedd 1819. Er cael blas ar y math o sefyllfa y cyfansoddwyd cyfran dda o emynau Pedr Fardd ar ei chyfer ac y'u canwyd gyntaf ynddi, mae'n werth wrth derfynu ddyfynnu'n lled helaeth o'r adroddiad:
- Cynnaliwyd y Gymdeithasfa hon ar ddydd Sabboth y Seithfed o Tachwedd diweddaf.
Daeth Ysgol Ebenezer (Bedford Street) i Gapel Pall Mall erbyn 10 o'r gloch.
Gosodwyd holl blant y ddwy Ysgol yn rhesau i eistedd yn llofft-rodfa'r Capel.
Adroddodd Athrawon Ysgol Pall Mall y Ved. ben. o Rhuf. ag un llais. Yna holwyd
Plant yr Ysgol honno yn y Ved. ben. o'r Egwyddorion (Hyfforddwr Charles); ac
Ysgol Ebenezer yn y VIIfed. bennod. Yn gyffelyb daeth Ysgol Pall Mall i Gapel
Ebenezer am 2 o'r gloch ... Yr oedd P. Jones wedi cyfansoddi Hymnau i'r perwyl,
a'u hargraffu hwynt, y rhai a ganwyd oll yn y ddau Gyfarfod. Diwrnod gogoneddus
oedd hwn, ac y mae yn anhawdd iawn anghofio y sobrwydd, y gweddeidd-dra, a'r
hawddgarwch oedd yn ymddangos yn yr ieuengctyd yn y Cyfarfod hwn. Yr oedd arwyddion
tra boddhaol o foddlonrwydd Duw ar y gwaith ar hyd y dydd. Yr oedd yno amryw
ugeiniau o ieuengctyd yn wylo wrth gael eu holi gyda manylrwydd yn mhethau mawrion
yr Efengyl, ac wrth wasgu crefydd brofiadol ac ymarferol at eu meddyliau. Mae
effeithiau daionus yn dilyn llafur y dydd hwn. Dydd y bydd melus gofio am dano
ydoedd. Gwnaed Casgliad helaeth yn y ddau Gapel, tu ag at gael llyfrau i blant
tlodion.
(Goleuad Gwynedd, Rhag. 1819, t.220.)
Wrth chwilio am lyfrynnau emynau Pedr Fardd, deuthum ar draws nifer o lyfrau a llyfrynnau eraill o'i eiddo, yn farddoniaeth ac yn rhyddiaith, ac os byw ac iach (a'r Golygydd yn caniatáu!), dychwelaf atynt hwy a'u hargraffwyr mewn ysgrif arall.