DIRGELION Y DARLUN O DWM O'R NANT
gan Gareth Haulfryn
Gwobr am atebion gan Archifdy, Gwynedd
MAE'N DEBYG y byddai unrhyw archifydd yn gallu dyfynnu enghreifftiau o ddogfennau a lluniau sydd wedi dod i olau dydd yn y lleoedd rhyfeddaf.
Er enghraifft, pam fod un o ddogfennau pwysicaf am reolaeth ystâd Gwydir wedi cael ei chadw'n ddiogel ar hap ynghanol archifau ystâd Mostyn, a'r ddwy ystâd heb fawr o gysylltiad? Sut yn y byd y daeth Llyfr Cynseiliau (Precedent Book) clerc yr heddwch Swydd Donegal i feddiant Llys Chwarter Sir Gaernarfon yn yr ail ganrif ar bymtheg? A phwy a osododd holl gofnodion swyddfa deligraff Caernarfon o'r 1850au ynghanol trawstiau gorsaf rheilffordd y dre: adeilad nas codwyd tan 1910?
Sut mae esbonio, wedyn, presenoldeb portread Twm o'r Nant (gweler isod) ymysg yr eiddo a drosglwyddwyd o Gyngor Bwrdeistref Caernarfon i'r Archifdy yn ôl yn 1974? Nid yw pobl yn cysylltu'r hen Domas Edwards â Chaernarfon fel arfer, ac mae'n debyg felly fod rhywun wedi rhoi'r llun i gyngor y dref rywbryd yn y gorffennol fel crair ddiddorol - cofier bod 'na amgueddfa yn y dre gan mlynedd yn ôl a does neb yn gwybod beth oedd i'w weld yno.
Mae'r casgliadau wedi 'hen ddiflannu, ond efallai mai dyma un eitem nad aeth i ddifancoll.
***
OND PAM oedd y llun yng Nghaernarfon yn y lle cyntaf? Un theori yw fod un o artistiaid y lithograffydd Hugh Humphreys wedi paentio'r llun; yn sicr, mae'n llun o safon, a chan nad yw wedi'i arwyddo, ni ellid gwrthod y syniad hwn. Ar y llaw arall, be wnewch chi o'r dyfyniad canlynol (o lyfr a gyhoeddwyd yn ystod y ganrif hon, gyda llaw):
"Dywedodd ei fod ef wedi cario Tomos Edwards o'r Nant ar ei gefn yr holl ffordd o Ddeheudir Cymru, ac fe a'i rhoddodd yn anrheg i Mr Williams, Castle Hotel, Caernarfon, sef darlun o Twm o'r Nant, ac yno bu am rai blynyddoedd."
Tybed ai sôn am y llun sydd erbyn hyn yng ngofal Gwasanaeth Archifau Gwynedd y mae'r uchod? Pwy a wnaeth gario Twm ar ei gefn yr holl ffordd o'r De i Gaernarfon ac o ble y daeth y dyfyniad uchod? Bydd yr ateb cywir yn rhifyn nesaf y Casglwr.
Yn y cyfamser, cynigir pecyn o gyhoeddiadau Gwasanaeth Archifau Gwynedd gwerth tua £10 am yr ateb cywir cyntaf i'w dynnu o'r het .
Un cliw bach arall? Codwyd colofn ar ei fedd gan 'ei gyfeillion a'i edmygwyr', ac arno englynion pwrpasol o eiddo Clwydfardd, ynghyd ag englyn o'i eiddo fo ei hun:
- 'Cael llonydd mewn cell unig - yn fy nydd,
Yw fy nef arbennig,
A byw yn dda heb neb yn ddig,
Na noddi dim anniddig.'