AR Y COSTA DEL SOLOMON ANDREWS YN LLŶN ~
CARTRE CELFYDDYD YN ATGYFODI gan Trebor Evans

AR CHWEFROR 1af 1853 cludwyd corff Syr Love Jones Parry o gastell Madrun i'w gladdu gyda'i gyndadau ger Eglwys Llanbedrog. Gadawodd ar ei ôl ystâd o dros bedair mil ar ddeg o erwau yn ymestyn dros ugain o blwyfi Llŷn ac Eifionydd, yn ogystal â chyfoeth o lestri aur ac arian a chasgliad o ddarluniau gan feistri fel Joshua Reynolds, Hans Holbein a Van Dyke.

Etifeddwyd yr ystâd yn rhannol gan weddw Syr Love, sef Lady Margaret Jones Parry a'i fab Thomas Love Duncombe Jones Parry. Yn 1854 penderfynodd y weddw godi plas iddi ei hun ger traeth Llanbedrog nepell o'r man lle cafodd ei magu sef plasdy bychan y Cottage.

0 Holton Hall swydd Lincoln y deuai Margaret Jones Parry yn wreiddiol ac yn 1810 y daeth i fyw i Lanbedrog gyda'i mam sef Sara Caldicot, ei dau frawd a'i llysdad William Lloyd Caldicot. Mab Hafodydd Brithion, Beddgelert oedd William a aeth i Bath ar anogaeth William Alexander Maddocks i chwilio am wraig a chyfoeth ac a fabwysiadodd gyfenw ei wraig.

Bwriad Margaret Jones Parry oedd cael tŷ cyfleus iddi ei hun ger ei chartref a thraeth cysgodol Llanbedrog. Ei gobaith oedd y byddai ei mab yn priodi'n lled fuan ac yn magu teulu ym Madrun. Rhaid cofio hefyd mai lle oer iawn oedd Madrun yn wynebu'r gogledd a thawch y Gors Geirch.

Comisiynwyd Henry Kennedy, un o benseiri eglwysig amlycaf ei gyfnod i gynllunio plasdy yn y glyn wrth droed mynydd Tir y Cwmwd ar barc y Cottage, Llanbedrog. Rhwng 1854 a 1857 adeiladwyd y plasdy ffug gothig a chostiodd £7,000. Yn ychwanegol gwariwyd £12,000 i'w ddodrefnu ac i greu gerddi, lawntiau a rhodfeydd.

Gwraig eithriadol o gybyddlyd oedd Margaret ond am ryw reswm nid oedd ball ar ei gwario ar y plas. Gan fod y plasdy wedi ei godi mewn glyn cysgodol gan wraig weddw fe'i galwyd yn Glyn y Weddw.

***

HYD y gwyddys ni chysgodd Margaret yr un noson yn ei Glyn. Cyflogodd dri garddwr i ofalu am y gerddi a 'house keeper' a morwyn yn y tŷ. Rhwng 1857 a 1883 byddai'n ymweld yn wythnosol â'r Glyn gan gael ei chludo o Gastell Madrun mewn cerbyd hardd dan ofal Siarl ei gyrrwr ffyddlon a wisgai lifrai'r teulu bob amser gyda balchder.

Yn ystod y cyfnod hwn teithiodd y weddw a'r mab i sawl gwlad dramor gan ddychwelyd bob amser yn llwythog o ddodrefn gwerthfawr a phlanhigion ar gyfer eu plasdy yn Llanbedrog.

Pan fu farw Margaret Jones Parry yn 1883 yn 89 oed gosodwyd Glyn y Weddw i deulu bonheddig o'r Alban. Roedd yr Angusteins wedi cymryd hawliau hela'r ystâd ac yn ystod y deng mlynedd y buont yn byw yn Llanbedrog cafwyd llawer cwyn am eu hagwedd drahaus tuag at y tenantiaid cyffredin.

Yn ystod y cyfnod yma ymwelodd amryw o'r pendefigion â Glyn y Weddw ac yn eu mysg roedd y Dug Wellington a Thywysog Cymru. Roedd sgweiar ifanc Madrun a'r tywysog yn gyfeillion gyda'r un diddordebau yn ôl yr hanes.

Dim ond 59 oed oedd Thomas Love Duncombe Jones Parry pan fu farw'n ddisymwth gan adael dyledion anferth ar ei ôl oherwydd iddo fyw'n hynod o afradus gan ganolbwyntio llawer o'i ymdrechion ar yfed Port, dilyn ceffylau a mwynhau cwmni rhai o ferched Llundain.

Yn 1896 bu raid gwerthu rhan helaeth o'r ystâd i dalu'r dyledion. Gwerthwyd bron i bedair mil o erwau ym mhlwyf Llanbedrog yn unig. Prynwyd Plas Glyn y Weddw a'r holl dir o Lanbedrog i Bwllheli (pellter o 4½ milltir) am £12,000 gan ŵr busnes llwyddiannus o Gaerdydd. Roedd Solomon Andrews newydd ddechrau adeiladu ym Mhwllheli yn 1895 ac wrthi'n brysur yn datblygu'r 'West End'.

Erbyn Hydref 1896 ymestynnwyd y rheilffordd fechan a redai o'r 'West End' Pwllheli i chwarel gerrig fechan Garreg y Defaid yr holl ffordd i fynedfa Plas Glyn y Weddw. Mewn dim o dro addaswyd prif ystafelloedd y Plas yn oriel ddarluniau a daethpwyd â rhyw bedwar cant o ddarluniau a dodrefn o Gaerdydd, y cwbl o safon a chwaeth aruchel.

***

TEITHIAI lluoedd bob haf o Bwllheli i'r oriel yn y tramiau a dynnid gan ferlod. Pris y daith ar hyd yr arfordir oedd 4 ceiniog (hen arian). Yna byddai'r ymwelwyr yn mynd drwy glwydi'r 'Refreshments' a cherdded i weld gwychder y gerddi a'r trysorau cain yn yr ystafelloedd ysblennydd.

Ceid yn yr oriel waith arlunwyr megis J.M. Turner, E. Landseer, J. Phillip, Clarkson Stanfield a P. de Wint. Amcangyfrifid gwerth yr holl luniau yn 1900 yn £1,500. Wedi eu gosod yn chwaethus o gwmpas yr ystafelloedd ceid llawer o ddodrefn cain a llestri gwerthfawr o'r dwyrain pell a hefyd lestri Dresden, Spode, Crown Derby, Chelsea, Worcester, Abertawe a Nant Garw.

Yn ystod misoedd yr haf ceid cerddorfa yn chwarae ar lawnt y Plas yn ystod y prynhawniau a gyda'r nos cynhelid dawnsfeydd ar gyfer ymwelwyr yn yr ystafell ddawnsio eang.

Ar ôl marwolaeth Solomon Andrews yn 1908 ni welwyd ychwanegu nemor ddim at yr atyniadau yng Nglyn y Weddw. Graddol grebachu 'roedd pethau; câi ysgutorion Solomon Andrews waith caled i gadw dau ben llinyn ynghyd. Lleihaodd nifer teithiau'r tram ac erbyn 1920 roedd nifer y teithiau wedi eu gostwng i hanner yr hyn oeddynt yn 1912. Er y cyni medrwyd cadw safon uchel yr oriel gan arddangos amrywiaeth o luniau a amrywiai o flwyddyn i flwyddyn.

Cafodd teulu Solomon Andrews golled enbyd yn Hydref 1927 pan ddinistriwyd rhan helaeth o wely'r rheiliau'r tram ger Carreg y Defaid gan storm arw. Roedd y gost o adnewyddu y rheiliau yn ormod i'r teulu a chynigiwyd y tramiau a'r rheilffordd i Gyngor tref Pwllheli. Ni chafwyd neb i gymryd diddordeb yn y rheilffordd a daeth gwasanaeth y tramiau i ben. Codwyd y rheiliau a'u gwerthu i Robert Parry yr arwerthwr o Bwllheli i wneud corlannau ym mart Pwllheli.

Rhyw rygnu mynd fu pethau yng Nglyn y Weddw ac ar ystâd Solomon Andrews yn gyffredinol trwy'r tridegau. Cyfnod oedd o geisio cwblhau talu'r morgeisi anferth a sicrhaodd Solomon i wireddu ei freuddwydion. Ni chafwyd llawer o lewyrch yn yr oriel oherwydd yn bennaf ddiffyg arian ac i ryw raddau diffyg diddordeb.

***

PAN ddechreuodd yr ail ryfel byd yn 1939 caewyd yr oriel. Daeth merched y 'Land Army' i fyw i ran o'r tŷ ac yn ôl yr hanes gwnaed llawer o ddifrod i'r Plasty a'i gynnwys ganddynt. Storiwyd y darluniau a hefyd daethpwyd â darluniau o'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd i'w diogelu dros gyfnod y rhyfel. Roedd gan rai aelodau o deulu Andrews gysylltiadau agos â'r arddangosfa.

Erbyn diwedd 1944 roedd ysgutorion Solomon Andrews wedi gallu sicrhau rhydd daliad ar y rhan fwyaf o'r ystad. Pan ddarfu'r rhyfel fe ddechreuwyd gwerthu rhannau helaeth. Ar Awst 16 a 17 1945 cynhaliodd cwmni Robert Parry a'i Feibion, Pwllheli arwerthiant ar holl gynnwys Plas Glyn y Weddw.

Gwerthwyd y dodrefn, llestri a'r lluniau am brisiau afresymol o isel yn ôl ein safonau ni heddiw. Rhaid cofio fod arian yn llawer prinnach ac na welai'r rhelyw o bobl lawer o werth yng nghynnwys y plas.

Pump o bobl leol a brynodd yn yr arwerthiant. Cafodd ffarmwr o Lanbedrog gloc mawr a dau ddarlun olew am £7. Aeth casgliad o ddrylliau am £1.16.0. Cafwyd £22 am aderyn mecanyddol mewn cas; £1 a gafwyd am lun o Madam Patti.

Aeth un o luniau Turner am £48 (y darlun enwog Storm at Sea sy'n werth ffortiwn heddiw). Aeth y rhelyw o gynnwys y Plas i Loegr a 'dealers' oedd y rhan fwyaf o'r prynwyr. Fe ddywedir i lawer o luniau gael eu prynu er mwyn yr aur oedd ar y fframiau ac i'r lluniau gael eu dinistrio.

***

AR ÔL chwalu cynnwys yr oriel gwerthwyd y plasty a holl eiddo teulu Andrews yn Llanbedrog a daeth cysylltiad hanner canrif i ben. Prynwyd Glyn y Weddw gan ran o gwmni Butlins.

Addaswyd y plasty yn fflatiau gan greu mwy o ddinistr na'r hyn a wnaeth y 'Land Army'. Rhannwyd y prif ystafelloedd ac wrth wneud dinistriwyd amryw o'r gratiau hardd, y gwaith coed a'r gwaith plaster cain.

Erbyn diwedd y saithdegau roedd cyflwr y plas wedi dirywio'n enbyd. Y fflatiau yn wag a'r cyntedd hardd yn cael ei ddefnyddio yn storfa dodrefn a llawer o'r ystafelloedd yn llaith gan fod to yr adeilad wedi mynd i ollwng yn bur ddrwg.

Ond yn 1979 prynwyd y plas gan Gymry sef Dafydd a Gwyneth ap Tomos ac maent wedi ymlafnio ers hynny i adnewyddu rhannau helaeth o'r plasty. Erbyn heddiw mae rhan helaeth o'r plasty wedi ei adnewyddu i'w gyflwr gwreiddiol a cheir arddangosfeydd o luniau unwaith eto ym mhlas Glyn y Weddw, sy'n agored i'r cyhoedd.

O.N. A ŵyr un o'r darllenwyr pwy oedd Gwilym Llywelyn a ysgrifennodd nofel wedi ei lleoli yng Nglyn y Weddw? Y ddau brif gymeriad yw Lady Jones Parry a'i mab. Cyhoeddwyd yn y Wyddgrug yn 1909 gan ddwyn y teitl 'Gwledydd y Glyn'.