Y COPI CYNTAF O HEN GYLCHGRAWN YN DOD I'R FEI
Hwyl yn y dyddiau gynt ~ Llawenydd R.Maldwyn Thomas
'PA BETH sydd yn gofidio tad tyner, yn nghanol y nos, yn fwy na chlywed baban yn llefain? Clywed efeilliaid yn llefain, wrth gwrs.'
Un o ffraethebion tudalen flaen Briwsion I Bawb, yr wythnosolyn a gyhoeddwyd gan W.H. Jones yn ei swyddfa yng Nghaernarfon rhwng 12 Rhagfyr 1885 a 6 Chwefror 1886, cylchgrawn a fu'n gwerthu 10,000 o gopïau y rhifyn, (HC 25 Mai 1955).
Wel ydi, mae'r teitl yn datgelu'r pwrpas – cynnig Titbits Cymraeg oedd bwriad y cyhoeddwr. Mae'r cynnwys yn datgelu mwy, erthyglau a straeon a cherddi a phethau digri ar gyfer y teulu sydd yn y Briwsion, ac mae ynddo dudalen ar gyfer y merched, gyda chynghorion ar 'Dynu Ystaen Gwer Neu Olew', a chynghorion ar y modd o gadw serch gŵr.
Mae ynddo hefyd ddwy stori ar gyfer merched – un ohonyn nhw am 'Y Gŵr A'i Wraig Anffyddlawn.'
Ar ôl blynyddoedd hir, gwrywaidd a difrifol Yr Herald Cymraeg a'r Genedl Gymreig yr oedd y wasg yng Nghaernarfon wedi cydnabod yn y Briwsion fod y ferch yn rhan allweddol – mai'r ferch o bosib oedd y mwyaf niferus – yn rhengoedd y darllenwyr Cymraeg.
Roedd hyn yn hwyr yn y dydd, ond yn fuan wedyn fe gyhoeddwyd Papur Pawb yn y dref, ac ym mlynyddoedd cynnar y ganrif fe aeth Morgan Humphreys ati i sgwennu nofelau antur ar gyfer bechgyn, nofelau a oedd mewn gwirionedd yn nofelau i'r teulu cyfan.
***
DYMA beth o gefndir y cylchrawn Hwyl a sefydlwyd gan yr argraffydd a'r cyhoeddwr J.R. Edwards yng Nghaernarfon ym mis Rhagfyr 1883. Newydd ddod i'r fei y mae Hwyl, ac mae fy nyled yn fawr i Richard Lewis yn y Llyfrgell Genedlaethol ac i olygydd Y Casglwr am y cyfle i gael gweld copïau o rannau o'r deryn prin yma.
Roedd J.R. Edwards yn argraffydd a chyhoeddwr ar ei liwt ei hun yng Nghaernarfon erbyn 1878; roedd hefyd yn cynnal busnes llyfrwerthwr a llyfr-rwymwr. Yn ei swyddfa – yr 'Arvonia Printing Works', 35 Stryd Fawr – yr oedd J.R. Edwards yn adnabyddus fel gwerthwr papurau newydd a chylchgronau, ac yn brolio ei fod yn derbyn pecyn o gyhoeddiadau Saesneg o Lundain ddwywaith yr wythnos. (Archifau Gwynedd, llsgfau. Capel Moriah, bil, 2 Medi 1878.)
Ar ddechrau'r wythdegau roedd yna gasgliad o ddynion ifanc, a chanol oed ifanc, yn ymhél â newyddiaduriaeth ddadlennol yn y dref - roedd rhai ohonyn nhw fel 'Anthropos' a David Edwards yn gyflogedig gan yr Herald neu'r Genedl, eraill fel 'Llew Llwyfo' a'r Parchedig Evan Jones, Moriah, yn ddwfn yng nghyfrinach papurau newydd y dref, ac ambell un fel E. Hevin Jones, 'Hefin', yn llenor a oedd yn gweithio yn y siopau lleol.
Mae'n wir bod y criw yma yn rhan o sefydliad y wasg yn y dref, ac yn aelodau blaenllaw iawn yng Nghymdeithas Caernarfon, ond yr oedd yna hefyd ysfa gref yn natur pob un ohonyn nhw am gynhyrfu'r dyfroedd, am bysgota'n ddwfn am stori o dan yr wyneb.
Eu bwriad yn ôl yr hysbysiad, oedd cyhoeddi wythnosolyn ceiniog o'r enw Hwyl a fyddai'n cynnwys 'Ystoriau ... llythyrau ... ynghyd a sylwadau ar bersonau', (G.G., 24 Tach., 5 Rhag. 1883). Mae'n debyg mai D.W. Davies, argraffydd Y Genedl Gymreig a oedd i argraffu'r Hwyl.
Ar 12 Rhagfyr fe gyhoeddwyd hysbysiad arall yn Y Genedl yn dileu'r bwriad o sefydlu Hwyl ac yn addo lansio cylchgrawn arall yn ei le. Yr wythnos ganlynol fe enwyd y cylchgrawn hwn, sef 'Y Wyntyll Yr Hwn A Fwriadwyd Ei Gyhoeddi 0 Dan Yr Enw "Hwyl".' (G.G., 19 Rhag., 1883.)
D.W. Davies a argraffodd Y Wyntyll, pythefnosolyn pigog, Private Eye Caernarfon, o 20 Rhagfyr 1883 hyd y rhifyn olaf ar 3 Gorffennaf 1884.
`Hefin', y llenor ar staff emporium y 'Nelson' oedd y golygydd, ac mae dylanwad y Parch. Evan (Pwnsh Cymreig) Jones ac 'Anthropos' i'w weld rhwng y llinellau.
***
A DYNA fel yr oedd pethau nes i Hwyl ddod i'r fei. Mae yna gyfeiriadau ato yn rhestr cylchgronau'r Cymru, 3, 135, ac yn Yr Herald Cymraeg, 25 Mai 1955, ond anodd oedd peidio â meddwl iddo lithro i fytholeg y wasg yn y dref gyda'r blynyddoedd.
Mae hanes ei gyhoeddi fel hyn. Fe aeth J.R. Edwards ati, yn ddisymwth, dan drwynau'r enw, a chyhoeddi cylchgrawn o dan y teitl Hwyl cyn i Anthropos a'r gweddill sylweddoli beth oedd yn digwydd. Ymddangosodd y rhifyn cyntaf o Hwyl ar 8 Rhagfyr 1883, ac ymddengys i dri rhifyn arall wythnosol ddod allan ar ôl hyn. (Rhifau 1-4 yn LI.G.C.)
Nid rhyfedd felly bod erthygl olygyddol gyntaf Y Wyntyll, 'At Ein Darllenwyr', (20 Rhag 1883), yn cyfeirio'n glwyfus at ddichellwaith chwyrn J.R. Edwards. Roedd Hwyl '.... wedi ei argraffu a'i gofrestru yn frysiog, ond mor bell ag y gwyddom ni, heb ei hysbysu yn mlaenllaw mewn unrhyw newyddiadur, fel ag y gwnaethom ni. Tyned darllenydd y casgliad.'
Roedd cynnwys Hwyl yn debyg i gynnwys Briwsion Bawb, (1885-6), hyd y gwelaf:
'Tybiasant glywed sŵn lladron yn y tŷ rai nosweithiau yn ôl, ac wrth fyned i lawr y grisiau i chwilio, meddai Williams wrth ei wraig, "Mary, ewch chwi'n gyntaf: dyn gwael fyddai hwnnw a saethai ddynes." ', (Hwyl, 29 Rhag. 1883), 1.
Mae diwyg y ddau gylchgrawn yn eitha tebyg hefyd, ond yr oedd golygydd Y Wyntyll yn llygad ei le, mae yna olwg dlodaidd a brysiog ar yr Hwyl, mae ôl gwaith yr argraffydd ar yr wyneb ddalen yn bur gyntefig, yn llai graenus na'r Wyntyll.
Wn i ddim am gylchrediad Hwyl ar hyn o bryd, fe ymddengys fod Y Wyntyll yn gwerthu bron i bum mil o gopïau y rhifyn, (G.G. 8 Mai 1900).
Mi fu J. R. Edwards yn parhau i argraffu yng Nghaernarfon am flynyddoedd, ac roedd yn bleidiol i sefydlu cangen o undeb yr argraffwyr yn y dref yn 1891, (G.G., 18 Mawrth 1891). Erbyn troad y ganrif roedd J.R. Edwards yn cadw swyddfa argraffu yng Nghaergybi, (Traethodydd, 1901, 283).