WEDI GWELD Y CRACHACH AR YR ORIENT EXPRESS -
Breuddwydion am hen ramant stêm ~
Gorhoffedd Geoff Charles

YR OEDDWN i wedi crwydro cyn belled â Dingle ar draeth orllewinol bell Iwerddon i weld yr hyn oedd ar ôl o'r 'Dingle and Tralee', lein fach enwog y Gwyddelod. Roedd fy mhriod, ei brawd a'i briod yntau'n gwmpeini, ac wrth edrych tros feithder traeth a thywod Inch ar y ffordd adre o drwyn Dingle, meddai fy chwaer yng nghyfraith Gretta – "Mi fydda i'n casglu ac yn cadw atgofion fel hyn. Ym mhen hydoedd fe ddychwelant ac mi fydda i'n sefyll yma unwaith eto, yn fy nychymyg ac ail-flasu'r cyfan."

Byddaf finnau'n casglu a thrysori atgofion – atgofion am drenau. Pan oeddwn i'n lasfyfyriwr yn Llundain fe gesglais sŵn ac arogl o'i gorsafoedd mawr – Waterloo, Victoria, Paddington (dyn y Great Western oeddwn i), Euston. Peiriannau'r London and North Western yn ddu fel blac, y stêm yn chwyrnu ohonynt, a sŵn yr olwynion yn tarfu ar dawelwch King's Cross, Marylebone, Liverpool Street.

Ond yr oedd yna un drên goruwch pob un y bûm ar hyd fy oes yn breuddwydio am gael mynd arni - yr Orient Express. Ac ym mis Gorffennaf 1982 dyma'r cyfle'n dod pan benderfynwyd ail redeg y rhyfeddod goludog yma.

Yr oeddwn newydd ddiodde ergyd deuluol drom iawn, ac yr oeddwn yn rhy falch o'r cyfle i lenwi peth ar fy meddwl gyda meddyliau eraill. Neidio i brynu tocyn mynd a dod i Fenis – ar yr Orient Express ei hun.

***

CHYCHWYNNODD y daith ddim yn rhy dda. Roedd y Rheilffyrdd Prydeinig ar streic, a dim amdani ond bws i Lundain a bws ymlaen i Dover. Y fferi oriau'n hwyr yn cyrraedd Ffrainc - rhy hwyr i mi fedru gweld na thynnu llun y trên yn nhywyllwch y cei yn Boulounge.

Cyrraedd fy nghaban goludog a stiward bach yn halio'r bagiau ac yn gwneud y gwely. Tynnu ei lun wrth ei waith.

Yna crwydro'r trwy'r trên i chwilio am ychwaneg o luniau. Y coridorau hirfaith yn orlawn o ferched - wedi eu gorchuddio yn y ffasiwn ddiweddaraf.

Galw heibio i'r bar a sylwi ar y grand piano y llwyddwyd rhywfodd i'w gael i mewn. Ac erbyn i mi gyrraedd y goits ginio (cinio yn £30 y tro, a dwyawr yn hwyr) yr oedd rhai o'r merched a welais wrth y bar eisoes wedi newid eu holl rigins ac yn barod am bryd.

Ond bob tro y codwn y camera i dynnu llun fe guddiai'r merched y naill tu ôl i'r llall, a'r dynion hefyd yn gofalu na welwn eu hwynebau. Yn wir fe guchiodd un gŵr arnaf mewn dull anghyfeillgar tros ben.

Yn flinedig – ac yn flin hefyd dyma fi'n galw am wisgi dwbwl – er mai peth anghyffredin iawn yw i mi yfed dim byd cryfach na lemonêd. Ond wedi i mi ei yfed fe deimlwn yn waeth byth pan fu'n rhaid i mi dalu deuddeg punt am y glasiad.

Dim ond gwely amdani. Ac ar waetha'r broliant a sicrhâi'r teithiwr o esmwythdra'r daith ar draws Ffrainc yn y coitsus hardd (rhai 1920 wedi eu hadnewyddu) yr oedd sŵn yr olwynion ar y cledrau a'r ysgwyd yn gwneud cwsg yn amhosibl.

Gwaeth na'r cyfan, yng nghyffiniau Dijon fe daflwyd fy ngwely a minnau i'r llawr, a dyma'r noson honno wedi ei llwyr ddrysu.

Codi a siafio, ac yn Lausanne coffi i frecwast a phapur newydd i'w ddarllen. Ymlaen trwy ddyffryn afon Rhône, trwy dwnnel Simplon a chyrraedd Fenis o'r diwedd - a diolch byth. Yr oedd fy mreuddwyd am yr Orient Express wedi troi'n nesaf peth i hunllef.

***

YR OEDD Fenis ei hun, pa fodd bynnag, yn medru gwneud iawn am bopeth – y ddinas unigryw, ryfeddol o hardd.

Fe anghofiaf am yr Orient Express, ond y mae yna un profiad arall yr wyf yn dal i'w hela. Y profiad o glywed unwaith eto yr amrywiaeth syfrdanol o sŵn oedd yna yn un o'r gorsafoedd mawr - Carlisle Citadel, dyweder, pan oedd y stêm yn frenin. Trenau'n gwthio'r wagenni i'r cilfachau, yn casglu'r coitsus ar gyfer trên deithwyr fawr. Yr injan fawr ei hun yn ymlafnio i gychwyn dan ei baich, gwich y stêm yn codi fel mae'r olwynion yn dechrau symud yn betrus cyn troi yn eu hunfan cyn i'r gyrrwr roi ail-gynnig arni a chael y tren yn esmwyth ar ei thaith.

Yr unig ffordd y daw'r profiadau yna i mi byth eto yw eu cael wedi eu recordio ar ddisg neu ar dâp gan rywun. Sgwn i a fedrai un ohonoch chi gael gafael ar gopi i mi?