TROL A CHEFFYL ~ Elis Gwyn â'r Golygydd
SYLFAEN trwmbal y drol, meddai Rhys Roberts, oedd dau wadan mawr o dderw tua phedair modfedd wrth ddwy a hanner o drwch, ac yn taprio i tua dwy fodfedd a hanner yn y blaen a'r cefn. Rhyngddynt yr oedd dau wadan bach, a rhai tebyg ar draws. Derw oedd y gwadnau, ond llarwydd gydag ymyl dderw oedd ochrau'r trwmbal, a'r ochrau wedi eu powltio i'r gwadnau. Talglo blaen ac ôl oedd y prif brennau ar draws y ffrâm waelod. Ar ben dwy o'r powltiau o bobtu yr oedd llygad i ddal ofar-garfanau, ac ar yr ochrau yr oedd dwy ddolen haearn a elwid yn setffon, lle clymid rhaffau llwytho gwair. Ar ymyl flaen y trwmbal yr oedd styllen a elwid yn styllan rech, a fylchid weithiau ar gyfer pen ôl ceffyl mawr. Llenwid caead cefn y drol gyda 'byrddau bach' yn ôl Mr Roberts. I gario gwair neu lwythi tebyg gosodid par o ofar-garfannau ar y trwmbal ac at rai llwythi gellid codi uchder yr ochrau efo dwy astell chwe modfedd o led, y wast racs.
Yn ei weithdy yn Hendre Bach, ar ffin Llŷn ac Eifionydd, daeth y dyddiau gwneud troliau
i ben ers llawer dydd, ond y mae RHYS ROBERTS yn cofio popeth am
yr hen grefft - pob enw a
phob coedyn. Aeth ELIS GWYN yno, nid yn unig i gofnodi enwau'r fro ar bob darn o drol ond
i'w cyflwyno mewn darlun o drol y
fro -
ynghyd â'r ceffyl gwedd ac enwau'r harnais. Buasai gair gan ddarllenwyr o froydd eraill am eu henwau
rhanbarthol hwy am droliau a harnais yn
gyfraniad
gwerthfawr a fawr groesawid.
Yn y tu blaen, i reoli codi a gostwng y trwmbal, yr oedd haearn tyllog, y fran, a bollt haearn ar draws, y loig (clöig), i'w gadw'n ei le.
Dan y trwmbal mae'r cas echel, chwe modfedd sgwâr, a'r echelydd haearn yn gwyro rhyw chwarter modfedd ymlaen fel bod treigl yr olwynion yn canlyn y ceffyl yn naturiol. Bachu'r llorpiau gyda haearn i'r cas echel, a dwy astell yn cysylltu'r llorpiau ar draws, y cledda mawr (yn wastad â blaen y talglo), a'r cledda bach. Yr oedd gan bob gweithdy ei batrwm ei hun i'r llorpiau, ac y mae'r enghraifft a ddefnyddid yno ar gael o hyd yng ngweithdy Hendre Bach. Ar gyfer ceffyl cyffredin caniateid dwy droedfedd rhwng pennau'r llorpiau.
Yr olwynion: 'Job fyddai turnio both; roedd hi'n drwm ar y turn'. Wrth forteisio'r foth ar gyfer y sbôcs, roedd eisiau cantal i'r olwyn - doedd hi ddim yn hollol syth. Wedyn sgantelu'r sbocsan o'r fortais i fyny, ac ewin yn mynd ohoni i'r gamog. Derw fyddai'r sbôcs, `o fonyn y dderwen, mae'r bonyn yn lanach, a rhoi'r sbôcs allan yn y tywydd i sychu'. Rhaid oedd cael wyneb mewnol y foth yn berffaith wastad, 'dyna'r safon gweithio'.
Ffon dro o ganol y foth oedd yn mesur tro'r camogau, a lunnid gyda neddau i fod yn dair modfedd a hanner ar draws, o bren onnen, a’r cylch haearn yn dair modfedd o led. Deuddeg sbocsan, dwy i bob camog, a'r olwyn yn bedair troedfedd a hanner ar draws. (Soniodd Rhys Roberts am un hen saer yn rhoi 13 o forteisiau yn y foth. Yr ateb i'r pos oedd rhoi tair sbocsan mewn un gamog).