PRIFARDD PENDANT, CYMERIAD, CASGLWR ~
Portread gan D.G.Lloyd Hughes
Un o'r cymeriadau mwyaf lliwgar yn y byd eisteddfodol yng Nghymru yn ystod hanner olaf y ganrif ddiwethaf oedd William John Roberts (Gwilym Cowlyd; 1828-1904). Yr oedd yn gryn awdurdod ar gerdd dafod, yn fardd o fri yn ei gyfnod cynnar. Yn eisteddfodwr pybyr hefyd, fel y gellid disgwyl, ond gwrthwynebai'r duedd i Seisnigo'r ŵyl o'r chwedegau ymlaen ac o dipyn i beth aeth yn ffrae agored rhyngddo a'r arweinwyr.
Mewn gwrthwynebiad i Orsedd Beirdd Ynys Prydain sefydlodd Orsedd Geirionydd yn 1865, ac o dan ei arweiniad ef cynhaliwyd Arwest Glan Geirionydd yn flynyddol yn yr awyr agored ar lan Llyn Geirionydd, nepell o Drefriw.
Fel yr heneiddiai aeth ei syniadau yn fwy eithafol ac yn ei flynyddoedd olaf adweinid Gwilym Cowlyd fel y Prif Fardd Pendant. Yn y swydd honno credai fod ei awdurdod yn ddibendraw, bendithiai bolisiau gwladwriaethol, fel rhyfel y Boeriaid yn Ne Affrica, a choroniad y brenin, Edward VII.
Etholodd luoedd o bobol yn aelodau o'i orsedd, llawer ohonynt, wrth gwrs, yn unol â'u dymuniadau, ond eraill, fel y Tsar a'r Micado, yn hollol fympwyol.
Yr oedd yn awdur amryw o lyfrau, gan gynnwys Bywyd a Gweithiau Ieuan Glan Geirionydd, ei ewythr, ond y prif ddiddordeb ynddo, o safbwynt y cylchgrawn hwn, yw ei waith fel argraffydd a llyfrwerthwr. I ddiben yr ysgrif hon canolbwyntiwn ar yr olaf.
***
YMSEFYDLODD Gwilym Cowlyd fel argraffydd a llyfrwerthwr yn Tŷ Cowlyd, Watling Street, Llanrwst, yn 1863 ac yno y bu hyd 1897. Casglai lyfrau o bell ac agos ac argraffai gatalogau blynyddol o'r rhai a oedd ganddo ar werth. Gwelir enghraifft o wyneb-ddalen catalog 1881 (a gafwyd o'r Llyfrgell Genedlaethol) ar y dudalen hon. Cynhwysa fanylion am dros 300 o lyfrau mewn llyfryn 16 o dudalennau.
Yn ôl barn ei gofiannydd, ('Gwilym Cowlyd' gan G. Gerallt Davies, Caernarfon, 1976) nid oedd Gwilym yn ddyn busnes da. Meddai ar wybodaeth ddiarhebol am lyfrau a llawysgrifau ond byddai'n ofalus i bwy y gwerthai lyfr a phrofiad aml un na enillodd ei ffafr oedd gorfod gadael y siop yn waglaw.
Fel y gellir gweld o 'Walliae Curiosa' mynnai Gwilym fod ei brisiau yn eithriadol o isel ond anodd yw credu fod hynny'n wir. Prin iawn yw'r wybodaeth yn y Wasg Gymreig am brisiau llyfrau ail-law Cymraeg a Chymreig yn ystod y ganrif ddiwethaf: un o'r eithriadau yw hanes arwerthiant llyfrau'r Dr O.O. Roberts, Caernarfon, yn y North Wales Chronicle, 5 Ebrill 1879 lle ceir adroddiad byr.
Un yn unig o'r llyfrau a nodwyd ynddo a geir yn Walliae Curiosa 1881 a hwnnw yw Royal Visits and Progresses to Wales (Edward Parry). Yn yr arwerthiant cafwyd 17 swllt amdano ond disgwyliai Gwilym Cowlyd £1-5-0 ddwy flynedd yn ddiweddarach. Nid yw un enghraifft, wrth gwrs, yn profi dim; ond canmol rhesymoldeb ei brisiau a wnâi'r ysgolhaig, Egerton Phillimore.
Roedd masnach Tŷ Cowlyd yn adnabyddus i rai o wŷr enwocaf Prydain a dosberthid y catalogau i bob cwr o'r ynys, ac i gyfandir Ewrob; deuai archebion o gylch eang.
Gellir cael amcan yn unig o faint y busnes o'r bil a anfonwyd at Egerton Phillimore yn niwedd mis Mawrth 1884. Mewn cyfnod o flwyddyn anfonodd Gwilym Cowlyd werth £140-7-2 o lyfrau, ac hyd yn oed ar ôl i'r prynwr ddychwelyd gwerth £26-18-6 nad oedd eu hangen, a chael gostyngiad o 15% ar y gweddill, yr oedd y bil terfynol dros £96, swm sylweddol iawn ganrif yn ôl.
***
GELLIR dychmygu, fel y datblygodd syniadau unbenaethol Gwilym Cowlyd ynglŷn â Gorsedd Glan Geirionydd, mai dirywio'n raddol fu hanes y fasnach yn Tŷ Cowlyd. Erbyn 1890 ceir awgrym am drafferthion, cwsmeriaid yn prinhau. Cais aflwyddiannus gan Gwilym i werthu llyfrau a llawysgrifau i'r Cymmrodorion; pethau'n mynd yn fain ar Egerton Phillimore, un o'r cwsmeriaid gorau.
Roedd Gwilym hefyd wedi mynd yn flêr ac yn anniben. Yn ôl y Prifathro J.H. Davies, yr hwn a oedd yn ôl pob golwg yn adrodd (yn Collecting Welsh Books, Trafodion y Cymmrodorion, 1940) ei brofiadau yn ystod y nawdegau cynnar, yr oedd siop Gwilym y tu hwnt o fudr, pob llyfr yn dew o lwch a dim sôn fod brws wedi bod yn agos i'r lle.
Mewn ystafell wrth gefn 'y siop y trigai'r perchennog, ystafell a wnâi'r tro fel lolfa, bwyty, cegin, pantri a llyfrgell oll yn un. Pentyrrau uchel o lyfrau ym mhob man a phrin fod lle i blât ar y bwrdd. Mewn cwpwrdd cornel o dan glo y cedwid y llyfrau prinnaf. Prif nod y lle oedd blerwch a budreddi.
Erbyn Tachwedd 1896 roedd sibrydion ar led fod Gwilym am roi'r busnes heibio a mentrodd y Prifathro J.H.Davies cyn belled â Llanrwst i ddewis cyfrolau. Wedi hynny cynhaliwyd arwethiant gan J. Pritchard, Bangor, yn Tŷ Cowlyd wythnos y Pasg, 1897, ac argraffwyd dau gatalog ar wahân, y naill gan y Mri. Jarvis a Foster, Bangor, a'r llall gan Gwilym Cowlyd ei hun. Ceir peth o hanes yr arwerthiant yn rhifyn 1 Mai 1897 o'r North Wales Chronicle sy'n dangos pwy brynodd rai o'r cyfrolau mwyaf nodedig.
Ymhlith y lotiau difyrraf roedd hwnnw a brynwyd am dri swllt a thair ceiniog gan y Parchg. R.P. Williams (? Llandudno) yn cynnwys geiriadur Saesneg-Cymraeg William Evans (Caerfyrddin, 1771) a chopi Angharad Llwyd o gywyddau Dafydd Ddu Eryri, yn frith o nodiadau gan David Samuel, y meddyg llengar.
Am £1-2-0 prynodd y Parchg. O.G. Williams, Ro Wen, Gorchestion Beirdd Cymru (Rhys Jones, 1773) a History of the Island of Anglesey (John Thomas, 1775) wedi eu rhwymo gyda'i gilydd, a chafodd rhyw R. Hughes Feibl Lladin a hwnnw wedi ei lofnodi gan yr Esgob William Morgan am gyn lleied â naw swllt.
Ymddengys mai £5-15-0 oedd y swm uchaf a dalwyd - am 29 cyfrol gyntaf Historical and Archaeological Collections relating to Montgomeryshire and its Borders (Powys Land Club) - a'r isaf tair ceiniog gan y Parchg. E. Davies, Trefriw, am Annals of Tacitus (1662).
Rhaid nodi hefyd mai dim ond chwechweiniog a dalwyd am set gyflawn o Encyclopaedia Britannica gan was ffarm (o'r wlad!). Yr oedd offerynnau cerdd hefyd ar werth, yn cynnwys telyn deir-res, ond ni nodwyd beth a ddigwyddodd iddynt.
***
YN SICR ni lwyddwyd i werthu pob peth a thri mis ar ôl yr arwerthiant trowyd Gwilym Cowlyd o'i dŷ. Cafodd ganiatâd i gadw'r gweddill o'i lyfrau yn seler neuadd y dref yn Llanrwst ac yno yn ystod wythnos y Nadolig, 1899, yr aeth J.H. Davies a chyfaill i dreulio tridiau i olrhain y stoc yn yr hanner tywyllwch.
Prynodd lwyth mawr, digon i lanw fen reilffordd y mae'n debyg. Hyd yn oed ar ôl hynny yr oedd stoc go dda eto'n aros a gadawodd Gwilym hwynt fel rhodd i dref Llanrwst.
Gellir dychmygu nad oeddýnt, ar ôl cael eu hesgeuluso am rai blynyddoedd yn nhywyllwch a lleithder seler neuadd y dref, mewn cyflwr dymunol, a phenderfynodd cyngor y dref werthu'r rhan fwyaf o fewn dwy flynedd i farwolaeth Gwilym Cowlyd; felly y caewyd y bennod olaf ar fusnes Tŷ Cowlyd.