MEDDYG GWLAD A GOFIODD AM YR ENAID A'R CORFF gan D.Tecwyn Lloyd

JOHN Donne sy'n dweud yn un o'i bregethau nad yn ynys iddo'i hunan yw neb ohonom. Yn hytrach, mae plant dynion fel cyfandir a phan gollir un y mae fel petai tywarchen o'r tir yn cwympo i'r môr a'r cyfandir wedyn yn llai o gymaint â hynny.

Colli mwy na thywarchen o fro Uwchaled a ddigwyddodd pan fu farw'r meddyg Ifor Hughes Davies ar Chwefror 8fed eleni; dyn ydoedd nad oedd mynd i oed a heneiddio yn perthyn iddo rywsut.

Gwir, roedd wedi croesi ei bedwar ugain ers tair blynedd ac wedi ymneilltuo o'i ofalaeth lawer blwyddyn cyn hynny, ond ffeithiau amherthnasol oedd rhai fel hyn. Roedd 'Doctor Ifor' gyda ni fel petai wedi ymryddhau o afaelion dyddiau a blynyddoedd.

Pan gwrddais ag ef gyntaf, roedd ar uchelfannau ei brifder, newydd groesi ei ddeugain. Ar y pryd, doedd gen i ddim gwaith rheolaidd (nid y blynyddoedd hyn, cofier, yw'r unig rai a fu'n dlawd a diobaith am waith) ar ôl gadael coleg, ond ddechrau gaeaf 1940 cynigiwyd pum dosbarth W.E.A. imi yn Uwchaled gan bwyllgor Cangen y fro o'r mudiad hwnnw.

Llywydd y Gangen oedd Doctor Ifor a phan ddechreuais arni un nos Lun yn Stafell y Plwy, Cerrigydrudion, roedd ef yno ar ei brysured.

***

GALLAF ei weld y munud yma: gŵr meinaidd, gweddol dal, gwallt brith tonnog, wyneb pryd tywyll, eiddgar, heb ronyn o gnawd sbâr arno, llais ysgafn ond pendant. Hanes Cymru oedd pwnc y tymor a daeth rhwng dwsin a phymtheg o wyrda'r cylch ynghyd.

Roedd yno gynrychiolaeth dda o bobl y llan: David Davies, prifathro'r ysgol ac ysgrifennydd ymroddedig y Gangen - lefftenant y Doctor; Joseff Owen, hanesydd lleol hir ei gof; E.T. Roberts, englynwr; Price White y cemist; Tomos Maelor, siopwr; G.T. Roberts y bancar ... ac wrth gwrs, yr unigryw Barchedig J.T. Roberts.

Tîm da o wŷr cadarn a allai beri i dipyn o ddarlithydd pedair ar hugain oed swilio. Ond ni bu hynny o gwbI ac rwy'n siŵr mai'r Doctor oedd yn fwy cyfrifol na neb am hynny.

Roedd o'n nabod ei adar yn drylwyr ac yn gallu llywio a gogleisio'r drafodaeth nes ei gwneud yn sgwrs ddifyr o gwmpas tân a phawb ar yr un gwastad.

Wrth gwrs, roedd yn wir frodor o'r ardal. Ef oedd y drydedd genhedlaeth o feddygon Bronafallen. Bu ei dad a'i daid yno o'i flaen ond efallai mai ef oedd yr ehangaf a mwyaf amlochrog ei ofalaeth.

A 'gofalaeth' yw'r gair. Gofal am iechyd pobl ei gylch yn gyntaf ond gofal hefyd mewn sawl ffordd arall, anfeddygol.

Dyna'r W.E.A. Yn ystod y blynyddoedd 1940-46, yr oedd cymaint â phymtheg o ddosbarthiadau yn Uwchaled ac am eu bod wedi eu cyd-rwymo'n Gangen, darganfu Doctor Ifor fod gan y Gangen hawl i gynrychiolaeth ar bwyllgor Addysg Cyngor Sir Ddinbych, ac felly y bu.

O dan ei arweiniad ef a David Davies, bu'r Gangen yn cynnal gŵyl ddrama ac eisteddfod helaeth am flynyddoedd ac o 1940-1 ymlaen bu'n cyhoeddi ei chylchgrawn blynyddol ei hun, sef 'Cefn Gwlad'. (Eitem brin iawn i gasglwyr yw set gyflawn o hwn erbyn heddiw!)

***

YN EI dro, bu'n aelod o lawer cyngor cyhoeddus, megis Cyngor Addysg y sir, cyngor rhanbarth y Gogledd o'r W.E.A. a llawer un arall na wn i mo'u henwau.

Roedd ei egni corff a meddwl i bob golwg yn ddiderfyn, canys rhaid cofio fod ei gylch fel meddyg yn ymestyn o Ysbyty Ifan i Fetws Gwerfyl Goch ac nid rhyfedd fod ei ddydd gwaith yn aml iawn yn mynd yn ddydd a nos.

Lawer tro, ar ôl dosbarth yng Nghefnbrith neu Lasfryn y bum yn galw heibio Bronafallen tua deg y nos am baned a sgwrs ac yn cychwyn oddi yno am gartre tua thri o'r gloch y bore ar gefn beic! A'r sgwrs? Wel, am bob math o bethau; hen gymeriadau'r cylch a'u helbulon, hanes teuluoedd a'u cysylltiadau, cip ar ddarpariaethau elusennol Cerrig, ond yn fwy na dim, gwyddoniaeth a datblygiadau diweddaraf byd meddygaeth.

Am mai mater o siawns fu hi na buaswn ar un adeg wedi troi at wyddoniaeth fy hunan, roedd y sgwrs yma yn rhyfeddol o ddifyr imi. Er ei holl brysurdeb, roedd Doctor Ifor yn parhau'n wyddonydd, yn parhau i ddysgu ac am fod ganddo ddawn athro yr oedd yn dysgu rhai eraill.

Byddai'n ymgynghori â labordai meddygol ynghylch ambell achos a driniai; hyd yn oed yn y pedwar degau yr oedd rhai darganfyddiadau cyffrous ac annisgwyl yn digwydd mewn meddygaeth, a mawr fyddai'r trafod arnynt.

A'r oriau mân yn hedfan heibio fel y gwnânt bob amser pan fo'r gwmnïaeth yn unfryd ac yn llwyr gydnaws.

***

LERPWL oedd ei brifysgol a llawer stori ddoniol a glywais ganddo am y cyrsiau yno a'i gyd-fyfyrwyr. Un tro, a hithau'n arholiad terfynol am radd, roedd ffrind iddo'n mawr ofni'r praw ymarferol a osodid ar drin yr Ophthalmoscope, - offeryn i weld i mewn i gannwyll y llygad. Ni allodd erioed gael y peth i weithio.

Daeth yr arholiad a'r praw. Gwysiwyd rhyw frawd i fod yn 'wrthrych' a rhaid oedd dadansoddi beth oedd yn bod ar ei lygad. Gafaelodd y myfyriwr yn yr offeryn ac edrych drwyddo'n bur ddiobaith, ond yn wir, am y tro cyntaf yn ei fywyd fe welodd retina'r 'gwrthrych' yn glir a rhyfeddol drwy'r lens.

0 ddyfnder ei syndod at allu'r offeryn, gwaeddodd yn uchel, 'But this is really wonderfull!' Torrodd yr arholwr ar ei draws yn foddhaus, 'Yes', meddai, 'it’s a unique case. Very good, thank you.' A phasio'n anrhydeddus!

Ni allaf yma gynnwys rhagor o'r storïau a'r gwybodau a gefais ganddo. Wrth lwc, mae Robin Gwyndaf wedi ei recordio ar dâp yn adrodd peth o'i hanes yn Uwchaled a hyfryd yw meddwl y gellir ei glywed yn llefaru eto.

***

FY LLE i yma yw diolch amdano. Bu'n gefn ac yn gymorth i mi yn wastad, heb sôn am gael cryn dipyn o ddylanwad arnaf. Yn Uwchaled, bu'n dywysog.

'Torri ein brenhinbren ni' chwedl un o'r cywyddwyr, fu ei golli ac yn yr oedfa goffa amdano yng nghapel Jeriwsalem, Cerrigydrudion ar Chwefror 13eg, dyna a wyddai ac a deimlai pawb ohonom.

Un peth bach newydd a glywais amdano y diwrnod hwnnw gan Huw, ei fab. Uchelgais ei dad ar un adeg, meddai Huw, oedd bod yn ddewin; h.y. yn gonsuriwr proffesiynol ac mae'n debyg fod ganddo ddawn arbennig i'r cyfeiriad hwnnw! Od.

Ond wedi meddwl, nid mor od ychwaith, a phetaech wedi byw yn Uwchaled a'i adnabod am bum mlynedd a deugain, byddech yn gwybod paham. Tywysog; ie, dewin o dywysog. Braint yn wir fu ei adnabod.

NODYN. Ac y mae gan D. Tecwyn Lloyd ysgrif loyw at un arall o'r 'tywysogion' a gollwyd, sef W.D. Williams, yn y Faner - Gol.