LLONGAU ERAILL TREFECA gan Elwyn Lewis Jones

DROEON fe gefais fy hun yn dyfalu ynghylch hynt 'llongau eraill' Trefeca gynnar yn nyddiau Howel Harris. A'r genedl eleni'n dathlu dau canmlwyddiant a hanner troedigaeth Harris, a'r hyn a honnir oedd dechrau'r Diwygiad Methodistaidd, tybiais nad amherthnasol oedd bwrw ychydig o gofion ar draws rhai o'r cymeriadau llai amlwg a ddaeth o dan gyfaredd ei bregethu a'i berson.

Dylaswn esbonio mai adnod yn Efengyl Marc a'm hysgogodd i sgrifennu am longau yng nghyswllt Methodistiaeth gynnar Cymru "... ac yr oedd hefyd longau eraill gydag ef'. Beth tybed a ddigwyddodd i'r llongau eraill pan ddistawyd y storm o gwmpas llong yr Iesu a'i gyd-longwyr?

A phontio'r canrifoedd ... beth hefyd oedd hanes Evan Moses y teiliwr o Aberdâr ac Evan Roberts y Fforman o Finera a James Pritchard yntau o Lanspyddid ger Aberhonddu a Hannah Bowen o'r Tyddyn yn Oakley Park ger Llandinam, y bobl fach a fentrodd eu cychod bychain i ddyfroedd stormus-grefyddol y ddeunawfed ganrif a mynd i fyw i'r 'Fonachlog' chwedl Pantycelyn. Beth a ddigwyddodd iddynt yn nyddiau ffrwydrol eu harwr diorffwys, ac wedi ei farw hefyd?

"Cymro mwyaf ei ganrif" meddai'r Athro R.T. Jenkins am Howel Harris, ac anodd fyddai anghytuno ag ef. Yn wir gellid dadlau'n ddigon perswadus mai ef oedd Cymro mwyaf unrhyw ganrif. Gellir hepgor manylu arno mewn ysgrif fel hon – fe ŵyr pawb erbyn hyn ei hanes stormus.

Roedd yn ŵr annwyl a swil, yn ddyn caled a chas, yn berson balch a gwylaidd, yn gryf a chyson a gwamal ac oriog. Gŵr llawn o orfoledd dwyfol un diwrnod ac o'r digalondid mwyaf parlysol ddiwrnod arall. Llosgodd ei hun allan mewn gorffwylledd dwyfol a bu farw'n gymharol ifanc, a gadawodd ei farc ar Gymru am byth.

***

OND BETH am y morwyr bach eraill a ildiodd eu cychod ysbrydol i'w ofal cymhleth yn nyfnderoedd terfysglyd y cyfnod? Prin yn wir yw'n gwybodaeth amdanynt er i Harris ei hun adael chwarel o ddefnydd sgrifenedig a dinoethi ei enaid fel na wnaeth neb o'i flaen nac ar ei ôl. Ond er mai tenau yw'r defnydd uniongyrchol am y llongau bychain eraill, eto mae'r prinder hwnnw sydd yn ein meddiant yn ddigon arwyddocaol.

Hannah Bowen o'r Tyddyn felly. Fe ddywed Bob Owen Croesor wrthym mai'r Tyddyn yn ei dyb ef oedd y cartref mwyaf cysegredig yn hanes Methodistiaeth Gogledd Cymru. Yn Oakley Park ger Llandinam y gwelir y tŷ arbennig hwn ac mae disgynnydd i'r Boweniaid yn dal i fyw ynddo.

Anne a Thomas Bowen a'u teulu a roes y nodded lwyraf i Howel Harris yn nyddiau ei bregethu a'i gyni cynnar. Ei letya a'i fwydo a'i ddilladu, a sicrhau moddion teithio trwy roi iddo arian a cheffyl, a'i letya ef a'i gynghorwyr droeon yn y cartref urddasol. A mwy na dim, dwy o ferched y Tyddyn, Sarah a Hannah a ddilynodd arwr eu plentyndod i Drefeca i ofalu am les materol ac ysbrydol y Teulu. A Hannah oedd y ferch flaenllaw a di-nod a gariodd bwysau mwyaf deunaw mlynedd cyntaf y Teulu.

Sonia Harris yn aml amdani yn ei lythyron mewn iaith anwesol-gynnes, fel y gwna llawer o'r mawrion crefyddol a ymwelai â Threfeca o dro i dro, gan gynnwys Pantycelyn a John Wesley. Mae'n o sicr mai hi oedd angor y blynyddoedd cynnar hyn pan oedd y pennaeth ei hun ar ei grwydriadau parhaus.

Wrth gwrs, ni sonia Harris nac Evan Moses na Thomas Roberts amdani yn y termau hyn yn eu dyddiaduron. Ni ellid disgwyl iddynt wneud hynny; merch oedd hi wedi'r cyfan! Peth anghyffredin yn wir fuasai i ddynion Trefeca gynnar gyfaddef fod unrhyw ferch ifanc o'r wlad, a honno'n un o'r Teulu, yn ddigon abl i arwain dynion a gwneud penderfyniadau o bwys!

Ond doedd neb arall yn y Teulu gyfuwch â hi mewn deall a chefndir. Roedd ei theulu'n bobl sylweddol a chafodd fagwraeth fonheddig yn y Tyddyn. Dengys ei llythyron Saesneg ddisgyblaeth llaw gymen ac arddull esmwyth, ac amlygant ddeall a barn merch graff. Yn wir, roedd yn ddigon cryf i groesi Harris lawer tro yn eu hymwneud agos â'i gilydd.

Gallwn ddyfalu am y ferch hon iddi ddioddef yn hir dros y Teulu, gwneud cyfraniad mawr i fywyd Trefeca ac wylo a gweddïo lawer gwaith dros ei harwr, ac ymbil arno i droi ei geffyl yn ôl o Loegr a'r mannau pell eraill a dychwelyd i Gymru a Threfeca i ofalu am y bobl hynny a roisant eu cyfan iddo, yn hytrach nag arllwys ei egni mawr ar draws dychweledigion cenedl estron a oedd eisoes yng ngofal ei gyfeillion mawr John Wesley a George Whitefield.

***

YNA, Evan Moses o Aberdâr a deithiodd Ogledd a De Cymru benbaladr a chael ei erlid yn aml ymron hyd angau lawer gwaith gan y 'mobs' oherwydd ei sêl dros ei Arglwydd nefol a'i deyrngarwch i'w feistr daearol-ysbrydol yn Nhrefeca.

Teithio ffeiriau o Fryste i Gastellnewydd Emlyn, cwmnïa’n frawdol gyda bechgyn ieuainc Trefeca i Iwerddon pan aethant i filwra gyda'r fyddin yng Nghanada, a ffarwelio â hwy am byth cyn iddynt fynd i'w tranc.

Trodd y dyn `crabet' hwn ddegau o eneidiau i gyfeiriad Trefeca, at wres y Teulu, a hynny yn wyneb anghysur Hannah a'r merched yno pan gawsant fod y lle'n mynd yn brinnach o welyau gyda phob dychwelydd a gyrhaeddai. Crwydro a gweithio'n ddiarbed dros ei feistr ac ymrwygo'n aml rhwng yr ofn a'r cariad a deimlai tuag ato.

Carodd Barbara Parry'n hir gan oedi'n bryderus tan i Harris farw cyn mentro'i phriodi. Cadwodd ddyddiadur hefyd, dyddiadur nodweddiadol `grabetlyd' a sych a ffeithiol gan nodi'n bennaf y marwolaethau a'r angladdau mynych yn y Teulu.

Fel Hannah, torrodd yntau ei galon fwy nag unwaith oherwydd disgyblaeth galed a didostur Harris a ffoi fel hithau am noddfa a thynerwch at y Morafiaid ym Mryste, a dychwelyd wedyn yn druenus a llychlyd-edifeiriol at ei feistr. Efe, yn anad neb arall, a fu amlycaf yn arwain rhawd y Teulu wedi marw Harris yn 1773, ac nid bychan o orchwyl oedd hynny.

***

A BETH am James Pritchard o Lanspyddid ger Aberhonddu ac Evan Roberts yntau o Finera a Thomas Roberts eto o'r Plas Bach yn Llansantffraid? Dyna'r dynion a ysgwyddodd y baich gyda Evan Moses a'i helpu i warchod fflam y gannwyll wan a noddi a chwythu'r tân oedd yn prysur ddiffodd.

Sut hwyl oedd ar gychod bregus y gweddill hyn? Digon anodd. Rownd ar ôl rownd o waith dyddiol a chynghori a phregethu a chadw defodau a disgyblaeth lem yr hen feistr, orau a fedrent, dyna oedd eu gwaddol. A thrwm a digalon oedd hynny wedi tawelu o'r ffrwydrwr mawr.

Caru ei gilydd yn frawdol, yn unol â'i orchmynion, a ffraeo a drwgdybio amcanion ei gilydd weithiau. Fe gadwodd Thomas Roberts ddyddiadur Saesneg gan efelychu ei dad ysbrydol, ac am gyfnod cadwodd lygad warchodol dros Beti, unig ferch y Diwygiwr mawr. Wele ryw ychydig o'i sylwadau, a bron na chlywn ef yn ochneidio ar adegau:

Roedd wedi anghofio hefyd fod ei gyfaill James Pritchard yn hawlio eiddo'r Teulu ac meddai . . . "James Pritchard has no power by Mr Harris' will so much as to touch anything whatever that belonged in anywise to this work or accomany (sic) either by consort or without consort. . ."

Cip fechan yn unig ar hynt y llongau bach ar ôl marw Harris yw dyddiadur Thomas Roberts. A beth am Beti hithau, unig blentyn Howel ac Anne Harris a adawyd ar ôl yn Nhrefeca Fach, dolen bwysig iawn yn yr holl ramant? Stori arall yw honno, stori ddiddorol y bydd yn rhaid i rywun ei dweud ryw ddiwrnod cyn i'r darlun fod yn llawn.

Yn sicr bydd llawer cynulliad eleni i gofio gwrhydri Howel Harris a Daniel Rowlands a William Williams, y llongau mawr. Hyderaf nad oes angen ymddiheuro am yr ychydig linellau hyn i gofio am rai o'r 'llongau eraill' a oedd gyda hwy.