HEN GYFROLAU A'U CYSYLLTIADAU ~
Mae gen i hwn medd Huw Williams

YN OFER y chwilir am enw David Jones (Dewi Arfon) (1833-1869) – y bardd-bregethwr, a'r gŵr a olynodd Eben Fardd fel athro Ysgol 'Ramadegol' Clynnog, - yn y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940. Mae hynny'n gryn syndod, oherwydd buan iawn y sylweddolir wrth fwrw golwg dros y gyfrol o'i weithiau a gyhoeddwyd dan y teitl Gweithiau Dewi . . : (Caernarfon 1873), wedi ei golygu gan ei frawd G.H. Jones (Gutyn Arfon), fod Dewi Arfon yr, englynwr pur fedrus a chywrain.

Yn yr adran sy'n dwyn y teitl 'Dosbarth Diddan a Byrfyfyr' yn Gweithiau Dewi..., tud. 107, deuwn ar draws y sylw a'r englyn canlynol:

Ar gyflwyniad Llyfr Tonau Ieuan Gwyllt, wedi ei rwymo yn hardd, yn anrheg i dad yr awdur, gan gynulleidfa Capel Coch, Llanberis, Ionawr 1861.

Copi Hen Nodiant o argraffiad 1860 o'r Llyfr Tonau Cynulleidfaol, wedi ei gyhoeddi gan J. Roberts (sef Ieuan Gwyllt) yn 'Brecon Road, Merthyr Tydfil', oedd yr anrheg, ac fe'i cyflwynwyd i Hugh Jones, Tŷ-du, Llanberis, 'gan gôr Capel Coch, Llanberis, yn arwydd o'u parch tuag ato am ei lafur a'i ffyddlondeb gyda'r canu am 30 o flynyddoedd'.

Mae'r copi hwn yn awr yn fy meddiant i, ac er na fyddwn yn barod i ddadlau â neb bod Llyfr Tonau Cynulleidfaol (Ieuan Gwyllt) yn gasgliad prin fel y cyfryw, rwy'n trysori'r copi, yn bennaf oherwydd ei gysylltiadau teuluol tra diddorol.

***

FEL EI feibion, Gutyn a Dewi Arfon, roedd Hugh Jones, Tŷ-du' yn fardd ac yn hanesydd lleol, yn ogystal â bod yn gerddor llawn uwch ei gyraeddiadau na’r cyffredin, a phan fu farw’n 82 oed yn 1887, fe ddywedwyd yn y wasg mai ef `oedd blaenor canu hynaf y Trefnyddion Calfinaidd yn Arfon'.

Golyga hyn ei fod wedi codi canu yn y Capel Coch am dros chwarter canrif ar ôl i'r copi o'r Llyfr Tonau Cynulleidfaol gael ei gyflwyno'n anrheg iddo yn 1861, a bod holl gyfnod ei lafur a'i ffyddlondeb mawr gyda'r canu yn y Capel yn ymestyn dros gyfnod o tua thrigain mlynedd.

Wrth edrych ar y copi nodedig hwn o Lyfr Tonau Ieuan Gwyllt, caf fy atgoffa bod y gŵr hynod a fu'n berchen y casgliad o'm blaen i wedi gosod sylfeini ar gyfer canu mawl yn eglwys Capel Coch, Llanberis, dros ddeng mlynedd ar hugain cyn i Ieuan Gwyllt feddwl am symud yno fel gweinidog o Ferthyr Tudful.

***

ROEDD Llanberis (fel Merthyr Tudful o ran hynny) yn 'lle bywiog a chynhyrfus' i fyw a gweithio ynddo erbyn i Ieuan Gwyllt symud i'r ardal ym mis Awst 1865, ac i'r chwarelwyr diwylliedig, cerddgar a oedd yn byw yno, a hefyd i ambell arloeswr canu ysbrydoledig fel Hugh Jones, Tŷ-du, y mae'r diolch am hynny.

Cyn cyfnod gweithgarwch Ieuan Gwyllt yng ngogledd Cymru, ymledodd dylanwad canu godidog Llanberis yn gyflym trwy rannau o Sir Gaernarfon a Sir Fôn, a does dim syndod clywed bod 'cymaint o fynd ar bethau yn Capel Coch' fel y penderfynwyd codi capel arall, - Gorffwysfa, - yn 1867, sef rhyw ddwy flynedd ar ôl i Ieuan Gwyllt symud yno fel gweinidog.

Ni charwn ar unrhyw gyfrif ddibrisio llafur enfawr Ieuan Gwyllt fel 'Apostol Mawr Canu Cynulleidfaol y genedl' yn y ganrif o'r blaen, ond mae'n werth sylwi bod traddodiad canu heb ei ail yn Llanberis oherwydd gweithgarwch arloesol ambell un fel Hugh Jones, Tŷ-du, cyn iddo ef fynd ati i sefydlu Undeb Cerddorol Dirwestwyr Eryri a Chymanfa Ddirwestol Arfon.

Sut gydweithio tybed a fu rhwng Hugh Jones, Tŷ-du, y codwr canu, ac Ieuan Gwyllt, gweinidog eglwys Capel Coch? Er mai rhyw bedair blynedd yn unig a dreuliodd Ieuan Gwyllt yn Llanberis (1865-1869), mae pob lle i gredu bod y cydweithio hwnnw wedi bod yn un eithaf hapus a didramgwydd.

Ac er mai trwy gyfrwng yr Hen Nodiant y byddai Hugh Jones yn codi canu yn oedfaon y Sul, nid oes unrhyw sôn bod Ieuan Gwyllt wedi ei gythruddo trwy geisio poblogeiddio `nodiant gerddorol newydd a dieithr' ymhith aelodau eglwys Capel Coch.

Ac ni pharodd unrhyw syndod ychwaith i drigolion Llanberis bod Gutyn Arfon (mab Hugh Jones, ac awdur y dôn 'Llef ') yn aelod selog o ddosbarth Sol-ffa a sefydlodd Ieuan Gwyllt dan nawdd yr eglwys, a hynny ar gyfer plant ac aelodau rhwng deuddeg a deugain oed!

***

MAE gennyf un rheswm da arall dros drysori fy nghopi o Lyfr Tonau Cynulleidfaol (Ieuan Gwyllt), sef am ei fod wedi cael ei gyflwyno yn y lle cyntaf i ŵr a wnaeth lawer o aberth personol er mwyn ceisio meistroli elfennau cerddoriaeth yng nghyfnod ei ieuenctid yn y ganrif o'r blaen.

Yn ŵr ieuanc yn ei arddegau cynnar, byddai'n arferiad gan Hugh Jones 'groesi’r mynyddoedd o Lanberis i gyfarfod ychydig frodyr ym Methesda, er mwyn ceisio hyrwyddo canu cynulleidfaol'.

Atynt i Fethesda, fe deithiai Robert Williams, Cae Aseth, yr holl ffordd o Ddyffryn Conwy, a thrwy gyfrwng y dosbarth canu a fyddai'n cyfarfod yn hen gapel Rachub bob prynhawn Sadwrn, fe ddysgodd llawer o ddynion ieuanc brwdfrydig ' y grefft o fedru darllen canu wrth notes', er gwaethaf gwrthwynebiad amryw o bobl mewn oed a fyddai'n cysylltu'r canu ag arferion llygredig yr oes!

Beth ynteu a fu hynt y copi o Lyfr Tonau Cynulleidfaol (Ieuan Gwyllt) yn y blynyddoedd cyn iddo ddod i'm meddiant annisgwyl i? Yn ffodus iawn, mae'n bosibl olrhain ei hanes yr un mor sicr a diogel ag y gellir olrhain llwybr Hugh Jones o Lanberis i'r dosbarth canu yn Rachub dros ganrif a hanner yn ôl.

Ar ôl marw Hugh Jones yn 1887, daeth y copi'n eiddo i Gutyn Arfon yn Rhiwddolion, Betws-y-coed, a phan fu farw'r gŵr hynod hwnnw yn 1919, ei berchennog newydd oedd yr Uwch-Arolygydd O. Alun Jones, Conwy.

Ac y mae'n destun diolch bod gan yr uchel swyddog hwnnw o'r heddlu ddigon o ddiddordeb mewn amryw o hen lyfrau cerddorol, a fu'n eiddo i dri aelod o'i deulu cerddgar, i'w diogelu ar gyfer rhai fel fi, yn hytrach na dilyn esiampl llu o ddisgynyddion i hen gerddorion eraill y genedl o'r ganrif o'r blaen, a'u llosgi yng ngwaelod yr ardd!