DYN A DYNNODD EI LUN gan Dewi Williams

I'R RHELYW sydd yn gyfarwydd ag Ellis Owen Cefnymeysydd, atgynhyrchiad y daguerrotype ohono yn ei henaint ar wyneb ddalen 'Cell Meudwy' yw'r llun ddaw i'r meddwl. Y ffaith ddiddorol yw ei fod wedi comisiynu dau o bortreadwyr blaenllaw ei gyfnod i'w ddarlunio mewn olew ym mlodau ei ddyddiau yn Eifionydd.

 

 

 

            Ellis Owen gan William Roose

Gan Mrs Jones Evans, Llanrug mae'r portread arall o Ellis Owen ac yn ôl tystiolaeth y gwrthrych, yr enwog Hugh Hughes Pwllgwichiad a'i peintiodd. Ar gefn y darlun yn llawysgrifen nodweddiadol Ellis Owen fe noda'r canlynol:

 

A portrait of Ellis Owen
Cefnymeysydd
Aged 55 A.D. 1845
His height 6 feet. His weight 215 lbs
Ellis Owen Scripsit
June 3 1846

Nid oes arbenigrwydd i ffrwyth awen Ellis Owen a gorfforwyd yn y gyfrol 'Cell Meudwy'. Cyflawnai swyddogaeth gynhenid y bardd gwlad yn ei ardal trwy gyfansoddi'r coffadwriaethau yn ôl y galw. Ei wir gyfraniad fu'r gwaith gwirfoddol a gyflawnodd fel ysgrifennydd llu o gymdeithasau lleol ac fel dyn angenrheidiol ei filltir sgwâr, Eifionydd, y gellid troi ato am gymorth.

Amlyga'r darluniau elfen o urddas mawr yn ei osgo. Yr oedd trwy linach ei fam yn ddisgynnydd o hen wehelyth y Gesail Gyfarch ac ymfalchïai fod yr Esgob Humphrey Humphreys, Bangor a Henffordd ymysg ei hynafiaid. Yn ei fyr gofiant i'r esgob cyfeiria Ellis Owen at ddarlun ohono 'oedd yn ddiweddar yn y Gesail Gyfarch'. Mae'n sicr fod hyn wedi ei symbylu yntau i gyrchu at y portreadwyr.

Yr oedd John Edwards yn fardd hefyd a dywedir iddo gyfansoddi anterliwt. Yn ôl Carneddog fe losgodd ei "rigymau gwamal" i gyd pan gafodd dröedigaeth, a'i gerdd 'Y Ddau Geiliog' yn Cerddi Eryri yw'r unig un, mae'n debyg, a oroesodd.