DOWCH I BORT CAERLEON gyda Harri Pritchard Jones
A GLYWSOCH chi erioed am Bort Caerleon? Na, nid rhyw Bort Meirion o le ydi o, er ei fod yn greadigaeth un dyn. Mae ynddo bobl o amryfal gefndiroedd mae'n wir, ond pobl gyffredin ydyn nhw, yn ddu a gwyn, yn wych a gwachul.
Ym Mhort Caerleon mae yna gapel Bedyddwyr Cymraeg, eglwysi Anglicanaidd a phabyddol, ynghyd â phobl sy'n cadw Ramadan. Yn sicr ddigon, porthladd ydi'r lle, a llongau megis y Star of Benin yn cysylltu'r lle â henwlad sawl un o'i thrigolion.
I roi rhyw glem ichi, mi ddweda' i fod yna dafarn o'r enw The Prince of Wales's Feathers, ac mai creadigaeth Cymro o awdur ydi Port Caerleon, mewn llyfr prin sy'n dwyn enw'r dafarn yna. Er ei lleoli yn Lloegr fwy neu lai, mae'n amlwg i'r cyfarwydd mai Tre-Bute, yn ardal y dociau yng Nghaerdydd sydd dan sylw.
***
YN y llyfr ei hun, ychydig o newid sydd ei angen ar enwau'r llefydd ichi fedru mapio ardal Tre-Bute a Thre-Adda ac ati'n weddol fanwl. Mae Maes Loudon yno fel Maes Lothian a Heol Arran ydi un Bute, ond mae Heolydd Llysfaen a Llanbradach yn eu lle megis.
Does yma ddim Cymraeg, na hyd yn oed Saesneg, rhwng dynion ym Mhort Caerleon, ond mae yna ddynoliaeth gynnes – ar y cyfan, a dewrder digon Kate Robertsaidd a stoig wrth wynebu troeon yr yrfa.
***
Yn wahanol i fyd nofelwyr bogeiliol y pumdegau, dydi rhyw ddim wedi mynd bron yn unig gyfrwng ymwneud pobl â'i gilydd.
Ond ar y cyfan mae'r cymeriadau a greodd David Mathew, awdur y nofel, o ba gefndir bynnag y bônt, prun a ydyn nhw'n llongwyr neu'n buteiniaid, yn fenthycwyr pres neu'n dafarnwyr, yn esgus o arwr rhyfel yn yr awyrlu neu'n ferch ifanc hygoelus, mae'r rhain i gyd ag elfen o'r ysbrydol, hyd yn oed o'r crefyddol, yn eu natur.
Dyna ddŵad â ni'n dwt ac yn daclus at awdur y gyfrol. Peth digon od ydi cael nofel o law Archesgob - hyd yn oed un Pabyddol! Ond dyna oedd David Mathew. Mwy rhyfeddol ydi'r ffaith iddo ddewis sgwennu am longwyr a phuteiniaid ac ati, yn enwedig o gofio iddo fod yn ddarlithydd mewn Hanes yn Rhydychen, ac iddo sgwennu llyfrau ysgolheigaidd ar bynciau megis 'The Reformation and the Contemplative Life' a 'Scotland under Charles I.'
Ond craffer ar deitlau cyfrolau eraill o'i eiddo: 'The Celtic People and Renaissance Europe', 'The Naval Heritage', 'Ethiopia' yn ogystal â dwy nofel arall, un wedi ei lleoli yn Affrica a'r llall yn Firenze (Fflorens), yn rhan o'r drioleg sy'n cynnwys 'The Prince of Wales's Feathers'.
***
FEL rydych chi'n gweld, rhyw fath o Gymro wedi crwydro oedd David Mathew; wedi crwydro'r byd ac, megis Graham Greene, yn troi pob dŵr i'w felin lenyddol. Fe'i ganed yn 1902, ond ŵyr neb ymhle. Ymunodd â'r llynges yn ddeuddeg oed, adeg y Rhyfel Mawr. Ymlaen wedyn o Dartmouth i yrfa ddisglair yn Balliol, ac yna ymdeimlo â galwedigaeth i fod yn offeiriad Pabyddol. Fe'i hordeiniwyd yn 1929, a bu'n gurad yn Eglwys Gadeiriol Dewi Sant Caerdydd o 1930-40. Dyna pryd y daeth i adnabod Port Caerleon. Aeth i Lundain i fod yn gaplan prifysgol, ac wedyn yn Esgob Cynorthwyol San Steffan.
Bu'n ymwelydd Apostolaidd ag Affrica, yn enwedig Ethiopia, ac yn brelad uchel yn Bengal, a dyna ymgyfarwyddo â chefndir pell neu agos cymaint o'i blwyfolion gynt yng Nghaerdydd. Cafodd fwy o brofiad perthnasol ar gyfer llunio nofel amdanyn nhw pan fu'n Archesgob i'r lluoedd arfog o 1954-63, ond yr oedd y gwaith wedi ei gyhoeddi eisoes yn 1953.
Derbyniodd David Mathew anrhydeddau lu yn ei yrfa academaidd, a phe bai wedi pregethu mewn capel Cymreig, diau y gwelid M.A. (Oxon), D.Lit., L.T.H.D., F.S.A., F.R.S.L. ar ôl ei enw! Bu'n ddarlithydd Ballard Mathews ym Mhrifysgol Cymru yn 1952, ac efallai mai dŵad yn ôl yma bryd hynny a'i ysgogodd i sgwennu neu i orffen The Prince of Wales's Feathers.
Ond yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, yr enillodd ei ddoethuriaeth mewn llenyddiaeth yn 1933, blwyddyn fy ngeni innau, ac yn y coleg lle'r oeddwn i'n fyfyriwr pan gyfarfûm â Séan Mac Reamoinn, ac yntau'n rhoi copi o'r llyfr imi.
***
AR gyrion Caerdydd yr oedd gwreiddiau David Mathew, o deulu Mathew Llandaf, Radyr a Chastell-y-Mynach. Bu aelodau o'r teulu, chwedl y Bywgraffiadur, yn 'dal swyddi stiwardiaid a senesgaliaid yn ystod y 14eg g. dros arglwyddi Seisnig a oedd yn absennol o Gymru; yr oeddent o'r un llinach â Lewisiaid y Van, Caerffili ac yn deillio, yn ôl achau'r 15eg g., o Gwaethfoed Fawr, Ceredigion.
Yr oedd Syr David Mathew (fl. 1428-84), mab i un o bleidwyr Owain Glyndŵr, yn un o ddilynwyr teulu Neville ac yn flaenllaw ym mhlaid yr Iorciaid.' Bu dwy linach i'r teulu wedyn, er mynych gyd-briodi rhyngddyn nhw, un yn frenhinwyr a'r llall 'llinell Radyr yn wastad, yn wleidyddol, ac weithiau yn bur weithredol, yn Gatholigiaid,' ac iddyn nhw berthynas ag Iwerddon lle y delid tir. Yn 1783 crëwyd Francis Mathew yn Arglwydd Llandaf ym mhendefigaeth Iwerddon. A deuthum ar draws ffaith arall a'm cysylltai â theulu'r awdur, sef i aelodau llinach Castell-y-Mynach i'r teulu etifeddu, trwy briodas, ystâd Castell Hensol, lle bûm i'n byw ac yn dechrau hel fy nhaclau i geisio sgwennu am Bort Caerleon chwarter canrif ar ôl i David Mathew gyhoeddi The Prince of Wales's Feathers.