DAU DRO YN YR EIDAL ~
Robin Williams yn dilyn ol troed O.M.

FE SGRIFENNODD am fwy nag un siwrnai, ond yn 1887 ar ddannedd deg ar hugain oed, aeth O.M. Edwards ar daith drwy ogledd yr Eidal gan aros yno ddeng mis llawn. Trwy gydol yr amser bu wrthi'n sugno'r wlad a'i hanes a'i chelfyddyd i'w gyfansoddiad, a phan ddaeth ei gyfrol Tro yn yr Eidal o'r wasg yn 1888, cafodd Cymru drysor o deithlyfr.

Fel gŵr a ddarparodd gymaint o ddefnydd darllen i'w genedl, fel hyn y traetha O.M. Edwards am gyflwr y Gymraeg yn ei Ragymadrodd i lyfr Richard Morgan, Tro trwy'r Wig, (1906): 'Y mae wedi bod yn iaith y duwinydd mor hir fel y tybia rhai nas gall fod yn ddim arall. Erys canrif iaith esboniad a phregeth fu bron yn gyfangwbl. Am ganrif cyn hynny bu'n iaith cyfieithiadau crefyddol ...'

Hyder O.M. oedd fod y Gymraeg o'r diwedd yn abl i sôn am adar a choed a blodau. Eto, er cymaint o wybodaeth a roes Richard Morgan yn Tro trwy'r Wig, mae'n rhaid cydnabod fod ei arddull yn nodweddiadol o'i gyfnod, yn gwmpasog ac yn feichus.

Ond nid felly arddull O.M. Edwards o gwbl. Ugain mlynedd cyn iddo ragymadroddi ar gyfer Tro trwy'r Wig, yr oedd ef eisoes yn sgrifennu rhyddiaith anghyffredin o lithrig a chymen. Mewn sgrifennu, fel mewn llawer peth arall yn ei hanes, yr oedd gam bras o flaen ei oes.

***

DYMA rai enghreifftiau o'i ddawn yn Tro yn yr Eidal, gan gychwyn wrth groesi'r Alpau yn y trên ar noson stormus: 'O graig i graig, o dynel i dynel, dros geunentydd diwaelod, a thrwy goed castanwydd heirdd, llithrai'r tren tua'r dyffryn, a boddid ei sŵn gan sŵn y dymestl.' Disgrifia Americanwr 'a gwyneb fel pe buasai wedi ei wneyd o haiarn bwrw'. A Sais 'a'i lygaid glasdwr'. A Ffrancwr yn 'ysgwyd a moesymgrymu fel cornchwiglen.'

Dywed fod y tlodion 'yn heidio at yr eglwysi ym mhob man yn yr Eidal fel adar at ffenestri'r trugarog yn y gauaf.'

Yn oriel Uffizi, Fflorens, wedi'i gyfareddu gan baentiad Titian o 'Flora', mae ymgais O.M.E. i'w ddiffinio'n dra rhagorol: 'Gwyneb dynes, cadwen o flode o amgylch ei dwyfron, gwisg wen yn nofio, – nid prydferthwch angel, ond prydferthwch peth perffeithiach nag angel, prydferthwch gwraig ym mhurdeb a melusder ei natur.'

Mater sy'n cael ei drafod hyd heddiw yw hwnnw ynghylch treiglo enwau lleoedd tramor yn y Gymraeg. Er fod iaith O.M. Edwards yn ddiogel gywir, serch hynny gall treiglo gair tramor greu ffurf od o anghyfarwydd ar brydiau, ex.: 'am Aribaldi'; 'gwelwn Alileo'; 'a Thitian'; 'cyrhaeddasom Bistoia'; 'ym Mologna'; 'aml i ondola du'. Treiglo'n gywir bob gafael, ond yn eithaf camarweiniol.

Diddorol hefyd yw nodi hoffter O.M. Edwards o'r gair `bod' – (am 'human being’, fel petai). Wrth orsaf Pisa, dywed: 'gwelwn dri math o fodau'n disgwyl amdanaf, ac am fy nhebyg.' Wrth Borth San Miniato: 'Yma eisteddai bod mawr budr fel llyffant du'r dennog ...' Gerllaw San Marco: `doi bod carpiog a gwallt fel baich drain ar ei ben .....

***

YN YSTOD yr holl deithio, ni fynnodd O.M. Edwards am un funud anghofio'i fagwraeth Brotestanaidd ac ymneilltuol. Daw'r agwedd honno i'r amlwg yn gynnar ganddo, fel y dengys y sylwadau hyn wrth adael Chambery yn Savoy: 'Yr oedd dwy res o wynebau astud yn y cerbyd yn gwrando, a dwy res arall uwch eu pennau yn edrych dros y cefngor, gwyneb tew eilliedig yr offeiriad yn eu mysg. Byw'n gynnil, canu alawon, a chredu crefydd eu tadau yw eu prif nodweddion.'

Yn Eglwys Ioan Fedyddiwr, Twrin, daw'r rhagfarn eto i'r wyneb: 'gwasanaeth yr offeren ... a'r bobl yn deall dim, ac yn credu pob peth.' Eto, yng Nghapel yr Amdo: 'Ar yr allor y mae'r llian a fu am gorff ein Harglwydd, ac yr oedd mynach tew o'i flaen yn diwyd ruddfan.'

Yn Genoa gwelodd y San Gral (chwedl yntau), a dyma'i farn am y Greal Santaidd: 'Nid ydyw ond darn o wydr gwyrdd, ac nid yw ei hanes ond breuddwyd di-sail rhyw fynach ofergoelus.'

A'i ddisgrifiad o'r mynach Ffransiscaidd yn Fiesole: 'Gwyneb mawr anifeilaidd oedd ganddo, a bonion barf fel eithin llosgedig. Yr oedd croen ei draed yn galed fel troed aderyn. Os oedd hwn wedi myfyrio, nid oedd effaith ei fyfyrdod wedi cyrraedd croen ei wyneb eto.'

Fel gŵr diwylliedig a hanesydd abl, eto yr oedd rhagfarn grefyddol O.M. Edwards yn bur anrasol. Wrth i longwyr Venice gipio esgyrn Sant Marc o eglwys yn yr Aifft a chysegru'r rheini yn y gadeirlan fawr yn y ddinas hynod honno, meddai O.M.E.: 'Taflwyd pob mân seintiau i'r cysgod, a dylifai torfeydd o bob man i weled y bedd sanctaidd, er mawr gryfhad i'w ffydd, ac er mawr les i siopwyr Venice.'

Yna, cafodd afael ar y stori `fod rhyw ddoge, pan mewn mawr eisiau pres, wedi gwerthu Marc bob yn ddarn, liw nos, i'r uchaf ei geiniog.

***

ER FOD O.M. Edwards yn ddigymrodedd wrth drafod y Babaeth, eto y mae elfen achubol o hiwmor yn ffrydio trwy ei osodiadau, weithiau'n fwrlwm amlwg ar yr wyneb, dro arall yn gynnwrf o'r golwg yn y dwfn. Wrth sgrifennu'n alluog am a glywai ac a welai ar y daith, roedd ganddo ddawn i roi tro cynnil yng nghynffon sawl sylw; rhyw fath o frawddeg fforchog, yn debyg i'r un a ddyfynnwyd uchod gyda'r colyn 'er mawr les i siopwyr Venice'!

Am ddinas Genoa, fel enghraifft, mae'n traethu fel a ganlyn: 'Treuliodd ei babandod dan nawdd ei hesgobion, hwy a'i dysgodd i weddïo ar y saint, ac i ymladd â'r Saraseniaid; hwy ddysgodd y ffordd i'w phobl i'r nefoedd ac i'r môr.' (Ceir ergyd o'r ddau faril ganddo yn y fan yna!)

Eto fyth, wedi dychwelyd i'w westy yn Genoa, mae'n disgrifio'r cwmni oedd o'i gwmpas: 'ysgolhaig Almaenaidd melynwallt – glas ei lygaid, budr ei glustiau; cantwr o Italiad, ei wallt du'n disgyn dros ei ysgwyddau, a'i hunanoldeb yn llenwi pob man; Gwyddel ffraeth; Sais bach tyn; a phump o foneddigesau swynol yn chwilio am iechyd a gwŷr.'

Ceir yr un patrwm ganddo wrth grybwyll ei arwr, Galileo Galilei: 'Dysgodd fwy ar ben y Tŵr Gogwydd, heb neb gydag ef ond ei linyn, nag wrth wrando ar athrawon y Brifysgol yn darlithio pethau yr oedd canrifoedd wedi bod yn eu credu, rhai ohonynt yn anghywir, a'r cwbl yn ddiwerth.'

Mae elfen o'r direidus yn ei bendantrwydd, fel y cyfarwyddyd canlynol (sylwer mai O.M.E. ei hunan piau'r italeiddio): 'Rhoddaf yma gyngor i deithwyr, – os rhaid cael cyfaill, boed yn un teneu, ysgafn, hirgoes, amyneddgar, na waeth ganddo pa le i fyned, na waeth ganddo pa beth i'w fwyta, un heb gnawd ac heb ewyllys.'

Mae'r doethinebu sydd yn y paragraff nesaf yn un y talai i'r twrist modern ddal arno: 'Mor fuan y blinir ar weled rhyfeddodau a thlysni, - pyla'r meddwl a gwanha'r cof, â'r mwynhad yn llai a derfydd effaith y golygfeydd gyda'u bod o'r golwg. Peth annifyr ddigon yw bod yng nghanol darluniau byd-enwog, yn rhy lluddedig i edrych arnynt.

***

WRTH ryfeddu at y Piazza dei Miracoli yn ninas Pisa, aeth O.M. Edwards i'r Capel Bedydd rhyfeddol hwnnw lle rnae nenfwd crwn yr adeilad yn derbyn lleisiau o'r llawr gan eu troelli'n donfeddi o'r cordiau hyfrytaf.

Agos i gan mlynedd yn ôl, roedd y gwarchotwr yno'n fodlon arddangos yr effaith leisiol i Owen Edwards trwy ganu pleth o nodau. (Hyd heddiw, mae'r un peth yn union yn digwydd yn yr un un capel.)

Dyma argraff O.M.E., – ac ef hefyd piau'r dyfynodau: 'Y mae adlais o'r tu mewn, ac yr oedd llais melodaidd yr Italiad yn melysu bob tro yr adleisid ef. Wedi "talu am yr eco" troais tua'r Campo Santo, lle'r oedd dyn dall arall, a bendith, a blwch.'

Tra bo "talu am yr eco" yn gyfrwys-ddigri, mae gosod y gair 'blwch' yn fwriadus ar ôl y gair `bendith' yn ddeifiol.

Teithiwr gwybodus a sylwgar oedd mab Coed-y-pry, gyda'r llyfr taith wedi'i fritho gan sylwadau preiffion, lawer ohonynt yn epigramatic a dyfynnu'r frawddeg hon fel enghraifft: 'Nid ydyw unigrwydd adfeilion yn ddim wrth unigrwydd palasau Genoa.'

A'r dyfarniad hwn ganddo wrth drafod arweinwyr amlwg y mudiad a unodd yr Eidal yn 1860: 'Dynion mawr yr Eidal oedd Garibaldi a Chavour a Victor Emanuel; y mae Mazzini'n un o ddynion mawr y byd.’

Sylw gogleisiol yw hwnnw am yr Americanwyr yn mynnu bod gwres yn y gwesty: 'Cwestiwn cyntaf Sais wrth groesi rhiniog ydyw, "Ffasiwn ginio sydd gennych?" Cwestiwn cyntaf Americanwr ydyw, "A oes gennych stof?" '

Wrth ganmol dawn y cerflunwyr i greu harddwch o garreg, gwelodd O.M.E. y posibilrwydd arall hefyd: 'y mae modd gwneud i farmor ddelwi creulondeb yn gystal a phrydferthwch.'

A dyma'i resymeg ar gerdded wrth astudio Fflorens: 'Gwaith Cimabue oedd troi myfyrdod yn waith; gwaith Giotto oedd cysoni bywyd a myfyrdod y fynachlog. Gwaith yn unig oedd yn y gogledd, myfyrdod yn unig oedd yn y de; yn Florence y cyfunwyd y ddau, ac o'r cyfuniad cyfododd y symudiad rhyfedd a elwir yn Renaissance, Atgyfodiad Dysg, y deffroad a roddodd gychwyn i'r Diwygiad Protestanaidd.'

***

DYMA fel y mae'n cawellu'r mynach enwog a losgwyd gan ddinas Fflorens yn 1498: 'Cyn i'r Diwygiad Protestanaidd wawrio daeth hiraeth dros Florence am ei rhyddid a'i moesoldeb; nid oedd wedi eu llwyr anghofio. Llais yr hiraeth oedd Savonarola.'

A hon yw'r ddedfryd ysol ganddo am y Pab Alecsander y Chweched: 'Nid oedd neb a meddwl mor lygredig, nid oedd neb wedi ymwerthu cymaint er arian, nid oedd neb yn gwybod llai am ofn Duw na phrif esgob Cristionogol y byd.'

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng Cymro ac Eidalwr? Fel hyn y gwelodd O.M. Edwards bethau: 'Yng Nghymru, y mae'r ffyrdd, eiddo'r cyhoedd, yn gulion a thruenus; a'r troliau, eiddo personol, yn gedyrn ac o wneuthuriad da. Ond yn yr Eidal, y mae’r ffyrdd yn ardderchog o syth a llydain, tra mae’r troliau’n gregin iawn. Trol gadarn wedi suddo yn y llaid welir yng Nghymru; trol wedi mynd yn dipiau ar ffordd deg welir yn yr Eidal.’ (Diddorol yw’r dweud am droliau'n 'gregin' iawn; gair Penllyn, mae’n rhaid.)

Ond y mae'r peth trymaf heb ei gyffwrdd, sef hanes yr Eidal sydd wedi'i grynhoi rhwng dalennau'r teithlyfr. Ynddo, mae O.M. Edwards yn ei drin a'i drafod ôl a gwrthol, gan dylino'r defnydd cyfoethog sydd o dan ei ddwylo. Daw'r cyfan allan o ffwrn ei feddwl yn dorthau cryno, ac amhosibl yw treulio Tro yn yr Eidal heb ymdeimlo â champ ac â rhemp y wlad ryfeddol honno: Cristionogion, Mahometaniaid, barbariaid; pabau, myneich, tywysogion; goludogion a thlodion; y trugarog a'r dialydd; crefftwyr mewn geiriau a meini a chynfas. (Gyda llaw, ni cheir fawr sylw ganddo, os dim, i gerddorion.)

 rhagddo i ddangos arwriaeth Mazzini, Cavour, Garibaldi; Columbus, Galileo; Petrarca, Dante; hynt Rhufain; pleidiau'r Gwelffiaid a'r Gibeliniaid; teulu'r Medici yn Fflorens, gyda pharagraffau'n bleth-ymhleth am Giotto, Leonardo da Vinci, Michelangelo, Titian a'r rheng anhygoel o'r mawrion hynny o bob rhyw gyfnod.

Daw sôn am Alfieri, Macchiavelli; teulu'r Borgia yn eu cyswllt â Ferrarra; yn Venice, y Doge a gollodd ei awdurdod i'r cynulliad tywyll hwnnw, Cyngor y Deg. Ac nid yw'r uchod oll ond nifer bychan o'r bachau sy'n dal pennod ar ôl pennod gan ŵr galluog yn portreadu siwrnai lachar.

***

DEIRGWAITH o leiaf yng nghwrs y llyfr taith hwn, y mae O.M. Edwards yn datgan ei gred yn dra phendant ynglŷn â deffroad celfyddyd: 'Ond tra'r oedd Rhyddid yn marw yr oedd pob dysg a chelf yn blodeuo'n deg.'(t.109)'Y mae tri pheth yn mynd gyda'u gilydd yn hanes cenedl – colli rhyddid, colli moesoldeb, a'r celfau cain. Creded a gredo, dan lywodraeth orthrymus, a phan fo moesoldeb gwlad yn dechre dadfeilio, y blodeua'r celfau cain.' (t.152). 'Yn ystod can mlynedd teyrnasiad ei dylwyth ef (sef Sforza) dechreuodd Milan wywo mewn ysbryd a nerth. Fel yr eiddew ar furddyn, dechreuodd y celfau cain flodeuo ynddi.' (t.236).