BRETHYN GWLAN...... gan Mari Lewis

Y CWESTIWN cyntaf a ddaw i'ch meddwl efallai wrth sôn am ffatri wlân Brynkir ydyw hyn - paham y sillafir yr enw gyda K a ninnau yn gwybod nad oes lythyren K yn yr wyddor Gymraeg. Dyma'r esboniad yn fyr.

Defnyddir y llythyren K yn yr enw am mai dyna'r modd y byddai enw Plas Brynkir yn cael ei sillafu o'r dechrau. Y Brynkiriaid oedd y tirfeddianwyr lleol, ac o'r enw hwnnw y cymerwyd enw'r ffatri, ac enw'r pentref hefyd, er bod y pentref yn cael ei alw'n awr yn Bryncir.

Rhoddwyd y tir ar gyfer y rheilffordd ar yr amod fod yr orsaf yn cael yr enw Brynkir.

***

Y PETH cyntaf a'm synnodd oedd gweld cymaint o ymwelwyr wedi cyrchu yno o bob rhan o'r byd a'r ffatri mor bell yn y wlad.

Digwyddai fod yn ddiwrnod eithriadol o aeafol ym mis Hydref.

Er hynny roeddwn i yn berffaith gynnes oherwydd yr oedd gennyf wisg o wlanen a wnaed yn y ffatri wlân ym Mrynkir.

Heblaw'r blodau amryliw sy'n harddu'r awyrgylch ger y ffatri wlân, y mae un peth arall a dynnodd fy sylw, sef carreg ar y mur wrth y drws.

Y mae Mr Roy Williams wedi cerfio darlun o hen wraig yn nyddu gyda'r droell hardd ar y garreg. Deallais mai camgymeriad oedd rhoi stôl i mewn yn y darlun. Ddylai'r stôl ddim bod yno. Os ewch i'r ffatri cewch chi roi eich barn ar y garreg wrth y drws. Mabwysiadwyd y darlun yn nod masnach.

***

HOFFWN longyfarch y perchenogion am ddefnyddio cymaint o eiriau Cymraeg drwy'r ffatri i gyd. Yr oedd y peiriannau a'r holl arwyddion wedi cael eu nodi mewn tair iaith, Cymraeg, Saesneg a Ffrangeg.

Defnyddir yr enwau Cymraeg gan y gweithwyr, er enghraifft, anwe, ystof, peiriant, cordeddu, gwau, chwalu, cribo, gwennol, nyddu, dylifo, cenglu, y droell.

Gair a glywir yn aml yno hefyd ydyw'r gair sircwt (vest) a sircotau. Y mae'r gair yma yn dŵad o'r gair sircote yn Ffrangeg, sef rhan o wisg marchogion yr Oesoedd Canol.

***

GWELAIS droell fach gwragedd yr oes o'r blaen wedi ei rhoi i sefyll ar ben y bwrdd yn ymyl y droell fawr sy'n mynd yn ôl a blaen fel tonnau'r môr.

Y mae'r droell fawr yn gwneud gwaith chwe chant o wragedd yr oes o'r blaen gyda'i gilydd. Anhygoel! Sôn am 'spinning a yarn'! Wir, roedd gen i biti dros y droell fach yn gorfod sefyll yn swil ac unig ar ben y bwrdd. Merched fyddai'n nyddu a dynion yn gwau ers talwm.

Wrth edrych ar yr afon sy'n troi yr olwyn ddŵr ers amser maith yn y ffatri daeth dwy linell i'm cof,

Deallais mai enw'r afon ar y Map Ordnans yw Afon Llyn Cwmstradllyn.

Ond, yn lleol, afon Henwy yw hi.

Cynhyrchwyd llyfryn a elwir 'Melin Wlân Brynkir', fel ymateb i lawer o geisiadau am arweiniad i'r Felin Wlân. Mae'r llyfryn yn help i'r ymwelwyr ddilyn y gwaith yn y felin ac i fynd o ystafell i ystafell, heb orfod aflonyddu ar y gweithwyr trwy holi. Ceir hanes cynnar y Felin hefyd - o'r ddeuddegfed ganrif - yn y llyfr sydd wedi ei sgrifennu yn Gymraeg a Saesneg.