ARGRAFFWYR CAERGYBI ~ Arolwg Dafydd Wyn Wiliam

MENTER oedd i ddau ŵr ifanc, Lewis Jones (1836-1904) ac Evan Jones (1836-1915), dau argraffydd, gefnu ar dref Gaernarfon yn 1857 a sefydlu gwasg argraffu yng Nghaergybi, tref lle'r oedd eisoes ddwy wasg, y naill gan Wiliam Jones (1806-77) yn Ffordd Llundain a'r llall gan deulu Roberts yr almanacwyr yn Heol Stanley. Ni pharhaodd y fenter am ragor na phedair blynedd.

Brodor o dref Gaernarfon oedd Lewis Jones, mab Stephen Jones, crwynwr, ac ymddengys iddo gyfarfod Evan Jones yn swyddfa'r Herald Cymraeg. Brodor o Bennal ym Meirionnydd oedd Evan Jones a daeth i Gaernarfon yn 1856. Ni welais ragor na dau lyfryn a ddaeth o wasg 'E. ac L. Jones' yng Nghaergybi yn 1857 a golyga hynny, mae'n debyg, mai yn ystod ail hanner y flwyddyn honno yr ymsefydlodd yr argraffwyr ifanc yn y dref.

Sut bynnag, yn nechrau'r flwyddyn ddilynol fe ymddangosodd rhifyn cyntaf Y Punch Cymraeg o'r wasg yn Stanley Terrace. Hwn oedd y 'Newyddiadur Pymthegnosol' hynod a phoblogaidd a'i glawr darluniadol yn ernes o'i gynnwys digrif a chrafog. Nid oedd undim tebyg wedi ei gyhoeddi yng Nghymru o'r blaen.

Nid yw enwau'r awduron wrth ysgrifau, nodiadau, rhigymau a lluniau y newyddiadur hwn ond gwyddys fod Richard Evans ('Twrch'), Ceiriog a Chreuddynfab yn eu plith a gellir yn hyderus ychwanegu enw Lewis Jones atynt.

Y mae rhan fwyaf y cynnwys yn fwriadol ogleisiol a dychanol a chyn ei werthfawrogi'n iawn rhaid ymgydnabod â chynnwys yr Herald Cymraeg, Y Faner, y cylchgronau enwadol a digwyddiadau'r cyfnod ym myd crefydd, gwleidyddiaeth a'r Eisteddfod.

Dysgasai Evan Jones ei grefft ym Machynlleth a dychwelodd yno ym Mai 1859 gan adael Lewis Jones i olygu a chyhoeddi'r Punch Cymraeg. Daeth y rhifyn diwethaf o'r wasg ar 2 Chwefror 1861 ac ail-ymddangos am ysbaid, 30 Ionawr - 16 Gorffennaf 1864, a'i argraffu yn Lerpwl.

***

AR 29 AWST 1859 fe briododd Lewis Jones ag Elen ferch Owen a Mary Gruffudd, Cae Crwn, Niwbwrch, yn Eglwys blwyf Caergybi. Ar y pryd pobydd oedd tad y briodferch ond adeg ei bedyddio yn Eglwys blwyf Niwbwrch 31 Mai 1840 fe nodir mai saer ydoedd. Dengys Cyfrifiad 1861 fod Lewis Jones, Cyhoeddwr, Argraffydd a Chyflogwr, a'i briod yn byw yn Stanley Terrace a morwyn yn gweini arnynt.

Er iddo ganolbwyntio ar Y Punch Cymraeg fe gafodd Lewis Jones hamdden i argraffu sypyn o lyfrau a llyfrynnau a dengys y rhestr ar derfyn hyn o ysgrif iddo argraffu a chyhoeddi pum llyfr barddoniaeth, un llyfr crefyddol, cofiant, 'nofel', llyfr i hwyluso cyfrif pres a llawlyfr diddorol i ddisgrifio'r 'Great Eastern' pan oedd y llong honno ym mhorthladd Caergybi. Dengys y cyhoeddiadau hyn fod Lewis Jones mewn cyswllt â nifer o awduron diddorol.

Yn gynnar yn 1861 fe gefnodd Lewis Jones ar Gaergybi a mynd i Lerpwl a chyn bo hir yr oedd ym Mhatagonia. Pan gyhoeddwyd ei gyfrol Hanes y Wladva Gymreig (1898) fe ysgrifennodd `Caernarvon a Chaergybi' ar ddiwedd ei Raglith. A blynyddoedd wedi mynd heibio nid oedd am anghofio ei gysylltiad cynnar ac anturus â thref Caergybi.

CYNNYRCH GWASG LEWIS JONES CAERGYBI

A fedrwch chwi'r darllenwyr ychwanegu at y rhestr?