YSTRYW CYHOEDDWR gan Dafydd Wyn Wiliam

ARGRAFFWYD cyfrol ddiwinyddol swmpus yn Llannerch-y-medd yn 1863. Chwe blynedd yn ddiweddarach yr oedd yr un gyfrol yn union yn cael ei chynnig i'r cyhoedd gyda theitl ac wyneb-ddalen newydd! A oes enghreifftiau eraill o'r math hwn o ystryw?

Daeth Y Traethawd O'r Cristionogaidd Wirionedd tt. i-xlviii; 1-528 o wasg Wiliam Aubrey – 'Anglesey Printing Office' yn 1863. Cyfieithiad ydyw o gyfrol y Parchg Walter Chamberlain The Christian Verity Stated, a'r cyfieithydd oedd y Parchg Hugh Owen (1822-75 'Meilir'), curad ac wedi hynny ficer Llannerch-y-medd. Noddwyd y gyfrol Saesneg gan John Horrocks Ainsworth, ysw., Moss Bank ger Bolton, Swydd Gaerhirfryn.

Y mae'n amlwg fod offeiriad Llannerch-y-medd wedi cael nawdd yr un gŵr i'r cyfieithiad Cymraeg a chyflwynodd y gyfrol iddo mewn cyfarchiad canmolus yn yr iaith Saesneg. Wele ran ohono:

***

CAWSAI Wiliam Aubrey a Hugh Owen brofiad eisoes o gydweithio gyda'r cylchgrawn misol Y Nofelydd A Chydymaith Y Teulu (1861), y naill yn argraffydd a'r llall yn un o'r golygyddion a bu iddynt barhau i gydweithio gyda'r gyfrol ddiwinyddol. Cwblhaodd Hugh Owen y dasg o gyfieithu'r gyfrol Saesneg i'r Gymraeg ac argraffwyd hi yn gymen eithriadol gan Wiliam Aubrey.

Fe gynhwysa'r gyfrol Gymraeg droednodiadau mewn llythrennau Groeg a Hebraeg a llythyren addurnol ar ddechrau pob pennod. Defnyddiwyd yr un llythrennau addurnol yn o leiaf un arall o gynhyrchion gwasg Llannerch-y-medd, sef Yr Amaethwr A'r Ffariwr (1870).

Rhwymwyd rhai copïau o'r Traethawd a cheisio eu gwerthu ond y mae'n amlwg nad oedd trigolion Cymru a ganmolwyd mor gynnes gan offeiriad Llannerch-y-medd yn rhy awyddus i brynu'r gyfrol.

Er bod Wiliam Aubrey wedi gwerthu ei wasg i Lewis Jones yn 1864, ymddengys iddo ddal ei afael ar Y Traethawd. Ar 24 Hydref 1867 gwerthodd tua 2,250 o gopïau ohono (mewn sheets) i Thomas Gee am chwe cheiniog y copi. Hefyd ymrwymodd i gysodi 88 o dudalennau (5½ sheet) a thalu'r gost o gludo'r teip i Ddinbych. Cytunodd Thomas Gee yntau i argraffu'r tudalennau hyn a thalu am y papur.

***

CYHOEDDWYD y gyfrol yn 1869 gyda theitl newydd sbon – Person Crist, Ac Athrawiaethau Y Grefydd Gristionogol, ac argraffnod gwahanol: 'Dinbych: Cyhoeddwyd Gan Thomas Gee. Argraphwyd Gan W. Aubrey, Llanerchymedd'. At hyn fe hepgorwyd enw Hugh Owen y cyfieithydd, lluniwyd rhagymadrodd newydd ac fe hepgorwyd tt. i-xlviii a 494-514. Ar wahân i hyn, y mae'r gyfrol yn union yr un fath â honno a ymddangosodd chwe blynedd ynghynt.

Sylwer nad yw'r gosodiad 'Argraphwyd Gan W. Aubrey, Llanerchymedd' sydd ar wyneb-ddalen cyfrol 1869 yn gwbl eirwir. Argraffwyd 88 o'r 493 tudalen yn Ninbych. Y mae lle i gredu fod Wiliam Aubrey wedi elwa'n sylweddol ar gern y Sais hael o Bolton!

(Carwn ddiolch i'm cyfaill, Philip Jones, am rannu peth o'i wybodaeth â mi wrth lunio'r nodyn hwn.)