YR HEN DDAEARGI CYMREIG ~ Ymchwil Ioan Mai Evans
FUOCH CHI 'rioed yn Tring, wrth ymyl Llundain, lle mae casgliad o ymlusgiaid a chreaduriaid o Amgueddfa Brydeinig South Kensington.Yno yn adran y cŵn, yn sefyll yn dalog a disgwylgar hefo cŵn eraill ar ei silff uwchlaw'r cyfan mae Exhibit D188, presented by the late Mr Walter S. Glynn, in 1932 ... an actual preserved embodiment of the renowned champion Welsh Terrier ... Dim Saesonaeg'.'
Y Daeargi Cymreig a fagwyd ym Mhwllheli sy'n awr wedi ei stwffio yn Llundain
Gan fod sŵn paratoi ar gyfer dathlu canmlwyddiant Clwb y Daeargwn Cymreig yn 1986, rhoddais dro am yno i weld y daeargi ac i dalu gwrogaeth dawel i'w berchen Walter S. Glynn, am iddo ddiogelu peth o'r hen etifeddiaeth sy'n dal yn fyw yn y tŷ acw ac yn llyfu fy nhrwyn bob tro y caiff gyfle; ia…. 'Y ddaeargast ddu dorgoch, a dagai'r 'ffwlbart dugoch', a welodd un o feirdd y bymthegfed ganrif, neu ynte y 'Drwg eu modd, daeargi Môn', gan Tudur Aled.
Ac i ddod yn nes adref at fy ffau innau ym mhen Llŷn yma, at Lewis Daron, o Aberdaron, cyfoeswr â Thudur Aled:
- 'Ceri gael ceirw ag elyrch,
A daiargwn, milgwn a meirch ...
yr union greaduriaid fyddai'n achosi tyndra rhwng fy mam a fy nhad pan âi fy nhad a minnau i hela 'stalwm.
Ond beth am yr enw 'Dim Saesonaeg' ar gi mewn lle fel yr Amgueddfa Brydeinig o bobman? Ond ni wyddai neb ei ystyr beth bynnag, a phan ddywedais wrth un o'r gofalwyr mai 'No English' ydoedd, rowliodd chwerthin a dweud yn ddigon clên fod yn rhaid ei fod yn aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg - gwir iawn, a chan mai ci wedi ei stwffio ydyw, rhaid i minnau gyfarth yn ei le.
Mae 'Dim Saesonaeg' yn sicr yn enw cymwys iawn i hiliogaeth y rhain. Wrth drugaredd mae yna gyfrifon a chofrestrau manwl ar gael yn y Cenal Clyb (K.C.) o'r cŵn bridiog hyn.
Gwyddom i 'Dim Saesonaeg' gael ei ddangos gyntaf mewn sioe ym Mangor fel ci bychan yn 1887, fel y cyntaf o eiddo W.S. Glynn. Fe'i prynodd gan fridiwr a fferyllydd o Bwllheli R.O.Pugh. Enillodd 'Dim Saesonaeg' 28 o dystysgrifau sialens (Challenge certificates) mewn sioeau ledled Prydain.
Enillodd un dystysgrif yn fwy na'i fab 'Cymro o'r Cymry' a ddaeth i'r brig ar dro'r ganrif a chael ei ddewis gan yr arlunydd cŵn nodedig Miss Frances Fairman i ddylunio tystysgrifau at Sioe y K.C. yn 1899.
***
A WIR i chi hyfrydwch pur i mi oedd cael tynnu fy llaw tros ben 'Dim Saesonaeg' am y gwyddwn mai yn naear Llŷn roedd ei hynafiaid, a dyma'r tro cyntaf i hyn ymddangos yn Gymraeg.
Ei daid oedd 'Cwnhingar Don' – Cwnhingar yn enw ar fferm sydd hyd cae neu ddau o Bodfel, a 'Cwnhingar Crab' gan `Yoke House Crab' yn hendaid iddo, a dyma ddechrau Seisnigeiddio enwau'r cŵn.
Daeth yr hendaid oddi wrth un Sion Go o Harlech tua 1854. Nain 'Dim Saesonaeg', ar y llaw arall, oedd 'Vic, Bodfel Bach' . . . Victoria, mae'n fwy na thebyg, a daeth hon i Fodfel o Westy'r Padarn Villa, Llanberis.
Gair am y cymwynaswr Walter S. Glynn, perchen 'Dim Saesonaeg'. Bargyfreithiwr yr hyfforddodd ei dad ef i fod mewn llawn gofal o ochr gyfreithiol cwmni llongau'r Glynn, Lerpwl, y mwyaf o'r cwmnïau yn ei ddydd, ond thalai dim ond y cŵn gan y mab.
Gwyddom fod cyfraniad hwn wedi bod y tu hwnt i bawb yn natblygiad y Daeargi Cymreig.
Drwy garedigrwydd y diweddar Emrys Jones, Cricieth, cefais wybod fod merch i W.S. Glynn, yn ymweld â Chricieth yn achlysurol, a chanddi hi y cefais wybodaeth werthfawr drwy sgwrs a gweld nifer o erthyglau. Byddai hi a'r teulu yn dod o Lerpwl i 'Brynhir' Cricieth, a'r cŵn, y ceffylau, a chorn hela i'w canlyn .... 'I've still got the hunting horn', meddai, 'it was like a circus'.
Hyd y gwn, sylweddolais nad oedd erthyglau ei thad erioed wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg. Erthygl yn sôn am fridwyr cynnar tref Pwllheli, ac yntau ar y pryd yn llanc ifanc a'i fryd ar Gaergrawnt.
Yn sicr, nid oes neb wedi olrhain hanes cynnar y daeargi o 1800 ymlaen mor drwyadl â Walter S. Glynn. Mewn erthygl feistrolgar yn y gyfrol gyntaf, 'Dogs, by well known authorities, 1906, edited by Harding Cox', rhydd sylw i'r anawsterau cynnar mewn cofrestru, gan fod tuedd yn y Cymry i roi yr un enw ar eu cŵn, dros gant ohonynt yn 'Ffan' a chynifer tebyg yn 'Nell'.
Hyn yn f'atgoffa o drafferthion y Dr Thomas Richards, wrth dablu achau stad Cefn Amwlch, lle y digwyddodd yr un peth gydag amlder enwau fel John Griffiths. Dywed W.S. Glynn hefyd mewn man arall mai Pwllheli oedd cadarnle'r brîd, a hawdd yw deall hynny o weld tras 'Dim Saesonaeg'.
Sonia hefyd am y dull o ddangos y cŵn yn un o'r sioeau cyntaf, onid y gyntaf, medd ef, a hynny ym Mhwllheli yn 1884 neu 1885. Roedd ef ei hunan yno, a chyfeiria at Bwllheli fel eu cartref. Rhydd eirda i William Jones, y sadlar, a Rice Owen Pugh, fferyllydd yn y dref, y naill a'r llall wedi cofnodi tras pob daeargi oedd yno, er ei bod yn anodd iawn rhoi trefn arnynt.
Ond tad y brîd oedd y twrna Cledwyn Owen, yn ôl Walter S. Glynn, ac mae'n amlwg ei fod wedi cyfathrachu llawer â'r rhain, oedd tua deugain oed yr amser yma, er nad oedd ef ei hunan ond o gwmpas yr ugain.
Dywed fel y byddai Cledwyn Owen, oedd hefyd yn geffylwr, yn cadw llygad craff ar rinweddau a ffaeleddau cŵn y dref, ac os byddai'r olaf yn boendod iddo, âi i Feirion, Caernarfon, neu Fangor i chwilio am y ci y credai ef a fyddai'n gwella'r stoc. Rhoi'r ci wedyn i rywun ar delerau arbennig ar yr amod fod y ci yn cael rhedeg strydoedd Pwllheli fel y leciai ef ei hun.
***
I DDYCHWELYD at y sioe gyntaf honno ym Mhwllheli fe ddywed hefyd fod y trefniadau yn eithaf cyntefig. Y daeargwn Cymreig wedi eu rhwymo wrth begiau wedi eu curo i'r ddaear, a dau henwr bonheddig, un o Arfon a'r llall o Feirion yn beirniadu. Y ddau wrthi mewn ffordd anghyffredin iawn.
Cludwyd i'r awyr agored ddwy gadair dderw fawr gyda chefnau uchel iddynt ac eisteddodd y beirniaid i lawr yn gyfforddus, ac arweiniwyd y daeargwn fesul un i ymddangos gerbron y ddau, ac aros yno nes y byddent wedi ysgrifennu nodiadau helaeth ar bob un. Dim cyfeiriad o gwbl at gymharu'r naill gi â'r llall.
Eto i gyd, medd Walter S. Glynn, fe enillwyd y prif wobrau gan ddaeargwn digon derbyniol.
0 ystyried ei gefndir Cymreig, cymharol ddiweddar felly ydyw ymddangosiad y Daeargi Cymreig fel ci i'w ddangos mewn sioe. Ci gwerthfawr a hwylus i ddal llwynogod, dyfrgwn, a llygod, ydoedd yn bennaf, ac nid yn unig yr oedd yn ymladdwr ond yn lladdwr yn ddi-feth, serch fod iddo natur dawel a ffyddlon fel ci arffed. Pan ddaeth y cŵn-garwyr i ffansio ei ddangos mewn sioeau, nid oedd ddosbarth iddo fel Daeargi Cymreig.
Mae'r agwedd a'r cyfnod yma yn ei hanes yn dra phwysig ac wedi achosi llawer o ddryswch. Gan nad oedd ddosbarth rhaid oedd ei ddangos yn nosbarth yr 'Old English Black and Tan terrier', neu 'Working terrier' neu 'Any Variety terrier'.
Er mai tua 1859 y ceir y cyfrif cyntaf o sioeau cŵn, y mae profion iddynt gael eu cynnal mewn tai preifat a thafarndai cyn hynny. Felly am rai blynyddoedd roedd cryn gymysgu enwau y dosbarthiadau ac enwau'r cŵn.
Ond ym Mangor y daeth y Daeargi Cymreig i gael ei gydnabod yn ddigon da i ffurfio clwb, a hynny pan aeth tri gŵr amlwg o'r ddinas i ymgynghori â'r K.C. yn Llundain a gwneud achos cryf am i'r brîd gael ei gydnabod drwy ei gynnwys yn Llyfr y Gre (Stud Book).
***
OND pan glywodd bridwyr yr 'Old English Black and Tan' yng Ngogledd Lloegr am hyn, hawliodd y rhain y brîd, ac er mwyn boddhau y ddau cytunodd y K.C. i roi entri fel hyn yn y Llyfr Gre: (Welsh terrier or Old English Black and Tan terrier). Ac fel hyn y bu pethau am flwyddyn a phum mis.
Methodd y Saeson â ffurfio Clwb i'r 'Old English Black and Tan', ac yr oedd yr ysgrifau yn y wasg Seisnig yn ddigon angharedig am y Daeargi Cymreig, a dweud nad oedd hwn yn ddim ond cynnyrch yr 'Old English', ac mae'n rhyfedd y nifer o bobl a lyncodd y sgrwff hwnnw, yn hytrach na gweld paham y methwyd â ffurfio Clwb i'r 'Black and Tan', a phaham yr aeth y brid o fodolaeth, gan i'r K.C. yn 1887 ddileu y teitl o'r llyfrau, a gadael y 'Welsh terrier' ar ei ben ei hun.
Gan y bargyfreithiwr W.S. Glynn y ceir yr ateb, a diau mai ei adnabyddiaeth o'r bridiau cynnar o hen stadau Llŷn ac Arfon a'i helpodd, heb anghofio eu bod yn rhan o Gŵn Ynysfor yn y ddeunawfed ganrif. Sais oedd y bargyfreithiwr, Walter S. Glynn, ond dyma gyfieithiad o'i ymdriniaeth. 'Nid oedd yn syndod i hyn ddigwydd i'r Black and Tan, gan nad ymddangosodd yr un ohonynt erioed mewn sioe fel Old English Black and Tan wedi ei fagu o English Black and Tan, allan o Old English Black and Tan.
'Mae tystiolaeth mai cymysgfa o bob brîd ydynt, gan iddynt ddod i'r amlwg pan na waherddid mewnfridio gan y K.C.
'Mae'n wir iddynt ennill ychydig o boblogrwydd ar y cychwyn, gan eu bod yn cael eu bridio am olygon yn hytrach nag fel cŵn gwaith fel y Daeargi Cymreig.' Onibai am y gŵr hwi ni byddai sôn am 'Welsh terrier.'
***
SEFYDLWYD y 'Welsh Terrier Club', fel y dywedais yn 1886, ac fe ledaenodd y cylch dangos o drefi fel Pwllheli, Caernarfon, Bangor a Phorthmadog i leoedd fel Dulyn, Warwick, hefo sylfaenydd y Clwb o Fangor, W, Wheldon Williams, yn beirniadu, a'r ast 'Bangor Dau Lliw' y Champion cyntaf ymysg y geist yn Sioe Bangor, 1887.
Hoffter o'r brîd yn cyrraedd y cyfandir a'r ast 'Mawddwy Jane Jones' yn ennill ym Mrwsel, 'Sam Brynafon' ci y Cyrnol Hugh Savage o Fangor yn cael ei werthu i India. Cenals Walter Glynn, yn 'Brynhir' Cricieth, yn dod yn amlwg yn sioe fwya'r byd yn Crufts, Llundain, a phâr o'i ddaeargwn yn dod yn orau, ac un ci o'r pâr a dwy ast arall o'r Cenals yn gwneud enw yn America. 'Brynhir' yn dod yn enw ymysg bridwyr y byd, a Walter Glynn ei hunan yn beirniadu hefyd dros y byd, nes i 'Brynhir Ballad' dorri pob record drwy ennill ei 31 thystysgrif Sialens yn Crystal Palace yn 1902.
Ef eto a gyflwynodd 'Gwen' hefo'i cholar arian yn anrheg i Dywysog Cymru ym Mhlas Machynlleth yn 1911, ac wedyn cawn hanes yr Arglwydd Attlee, yn dewis y daeargi Cymreig i roi ar ei arfbais yn lle llewod, llewpardiaid, neu Iwnicorniaid yn ôl yr arfer. Ei reswm dros y dewis, medda fo, am mai'r 'Welsh teriar' oedd ei ffefryn, a'i fod o hefyd wedi bod yn'i bridio nhw, ond nid i'w gwerthu.