YMFUDO O GYMRU A PHETH O'R CYNHAEAF
gan Margot Heywood

DIDDOROL IAWN oedd hanes y wasg yn Llannerch-y-medd gan Dafydd Wyn Wiliam. Mae pamffled a ddaeth i'n busnes llyfrau ni yn ddiweddar o'r wasg yma a does dim sôn amdano yn yr erthygl ar dudalen 13 o rif 21 o'r Casglwr, Nadolig 1983.

Pamffled ydyw o 45 tt., d.d., mewn amlen wreiddiol felen, gyda'r teitl Y Pwlpud Americanaidd, yn cynnwys tair o bregethau, gan Mr Moody, y Parch Henry Ward Beecher, Dr Te Witt Talmage. Llanerch-y-medd: argraffwyd a chyhoeddwyd gan L. Jones. Pris chwecheiniog.

Un eitem yw'r pamffled allan o gasgliad bach ar y pwnc o ymfudo o Gymru yn y ganrif ddiwethaf. Llythyr yw'r eitem hynaf yn y casgliad. Dyma sut mae e'n dechrau: 'Y Cymry sy'n preswylio yn Cambria, Talaith Pensylvania, at ei brodyr, sy'n preswylio'n Nhir Brydain Fawr, yn anfon annerch, frodyr . .' Arwyddwyd yn Beula, Pennsylvania, Medi 22ain 1800, gan Theophilus Rees, William Jenkins ac 20 arall. Pamffled o 8 tt. heb eu torri.

Y broblem yw, ble y cafodd ei argraffu? Ai yng Nghymru ynte Yn America? Mae hwn yn bamffled bach arbennig iawn, rwy'n meddwl. A oes rhywun wedi gweld copi arall tebyg?

Cefais flas mawr ar ddarllen y llythyr. Dywed fod 'tair neu bedair pregeth Gymraeg yn y sefydliad bob dydd cyntaf o'r wythnos, Roedd dros fil o lyfrau wedi eu pwrcasu at lyfrgell gyffredin, a dau gan erw o dir wedi ei osod ar gyfer pregethwyr o amryw farnau 'oll yn byw mewn cariad a heddwch'.

Roedd tir hefyd ar gyfer ysgol. Crefydd, addysg a llyfrau oedd yn cael blaenoriaeth yn Beula (Ebensburgh) yn 1800.

***

PAMFFLED prin arall yw'r Traethawd ar Lafur, Gorphwysdra ac Adloniant y Gweithiwr gan John Hughes o Fangor, Northampton Co., Pennsylvania, gynt o Danygrisiau. Roedd y traethawd yn fuddugol mewn Eisteddfod yn Ffestiniog.

Mae mewn amlen wreiddiol, binc; argraffwyd gan E. Davies, Remsen, N.Y., 1882. 32 tt., ail argraffiad ar gyfer Cymry America. Ar gefn yr amlen mae hysbysiad am Y Cenhadwr Americanaidd, cyhoeddiad misol Cynulleidfaol Cymreig yn America. Mae yna gopi arall o'r Pamffled ym Mhrifysgol Harvard, mae'n debyg.

Yn America, hefyd, yr argraffwyd Barddoniaeth gan Thomas Roberts, y bardd cloff o Amlwch. Nid oedd yn medru defnyddio'i ddwylo na'i draed; roedd yn rhoi pin yn ei geg i sgrifennu. Argraffwyd gan Richards & Jones, 201 Heol William, New York, 1864.

Mae rhai o'r pamffledi yn annog pobl i ymfudo i America ac yn rhoi gwybodaeth am y wlad honno, e.e. dyna'r daith gan y Parch B.W. Chidlaw gweinidog yn Ohio, o Paddy's Run, Ohio, i Efrog Newydd, Awst - Hydref 1839, gan bregethu mewn capeli Cymreig ar ei ffordd.

Mae'n rhoi cyfarwyddiadau i ymfudwyr 'cyn y daith, ar y daith, ac yn y wlad'. Mae'n eu cynghori i baratoi ymborth ar gyfer y fordaith: bara, blawd ceirch, ymenyn, caws a chig; ceir te, coffi, siwgr, triagl, halen a.a. yn Lerpwl. Roedd yn rhaid paratoi ar gyfer 6-8 wythnos. Ail argraffiad, Llanrwst, John Jones, 1840.

***

AETH Henry Rees a Moses Parry i America yn 1839 i ymweld â'r eglwysi yno. Ynghyd â hanes y daith, maent yn rhoi gwybodaeth am yr economi a chrefydd yn yr Unol Daleithiau.

Ar gefn y pamffled mae tabl o gapeli Cymraeg y Methodistiaid Calfinaidd, nifer yr aelodau ac enwau'r gweinidogion. Un o'r capeli mwyaf oedd yn Utica, gyda 110 o aelodau. Roedd dau gapel yn Jackson, Ohio, gyda 150 o aelodau. Y Parch R. Williams o Sir Fôn oedd y gweinidog. Roedd nifer o ymfudwyr o Sir Aberteifi yno.

Sefydliad newydd oedd Jackson ac oherwydd hynny roedd y tir yn rhatach ond lle anial, anghysurus ydoedd. Argraffwyd y pamffled yma yng Nghaerlleon gan T. Thomas, Eastgate Row, 1841.

Taith arall drwy'r Unol Daleithiau yn 1841 a 1842 a ddisgrifiwyd gan Richard Roberts, gyda hanes y wlad, prisiau tir, masnach, mwngloddiau, busnes a hyfforddiant i ymfudwyr. Argraffwyd yng Nghaernarfon, gan P. Evans, 1842.

Cyhoeddwyd pamffled gan y Gymdeithas Ymfudol Gymhedrol Frytanaidd yn disgrifio Wisconsin; mae wedi ei gyfieithu gan David Lloyd a'i argraffu gan Robert Jones, Bangor, 1845.

Nid America'n unig sydd yn y pamffledi hyn. Mae'r Parch R.D. Thomas (Iorthyn Gwynedd) yn rhoi pob hyfforddiant i'r Ymfudwr i Awstralia, Canada a'r Unol Daleithiau, gyda hysbysebion o longau hwylio oedd yn addas. Argraffwyd yn y Drenewydd gan H. Parry, Albion Wasg, 1854.

***

STORI hynod o ddramatig yw hanes loan Marrant, y dyn du, a aned yn Efrog Newydd, 1755, ac a aeth i bregethu'r efengyl yn Nova Scotia yn 1785, ac a aeth i bregethu'r Efengyl yn Nova Scotia yn 1785. Cafodd anturiaethau anghyffredin; bu bron â chael ei losgi gan y Cherokee, ond fe lwyddodd i'w troi'n Gristionogion. Cyhoeddwyd gan y Parch Mr Aldridge. Argraffwyd yng Ngaerfyrddin gan Z.B. Morris, 1818.

A dyna hanes Robinson Crusoe Cymreig, sef hanes mordaith i Awstralia gan Hugh Williams, 'morwr ieuanc o Gaernarfon', a aeth i weithio yn y cloddfeydd aur yn Ballarat ac a gafodd dröedigaeth ar ei ffordd yn ôl i Gymru. Argraffwyd yng Nghaernarfon gan J. Williams, d.d. ond 1857 ar y rhagymadrodd. Mae'r ddau olaf yn wir, yn ddigon bywiog a chyffrous i wneud ffilmiau da iawn ohonynt mi gredaf.