TLDJP YN Y LLOFFT STABAL gan Gruffydd Parry

PRIN IAWN fod y lle yn haeddu'r enw 'llofft' a deud y gwir. Roedd llofftydd stablau y ffermydd mawr fel Bodwrda, Meillionydd a Bodfel yn llefydd moethus iawn o'u cymharu. Wrth gwrs, doedd hi erioed wedi ei bwriadu i fod yn llofft gysgu – dim ond lle i gadw llanast mae'n debyg.

Stabal bach ddwy stôl oedd hi a'r 'llofft' yn ddim ond byrddau llawr ar ddistiau ffawydd coch wrth ben y ceffylau i wneud cysgod iddyn nhw fel 'taen nhw yn cysgu mewn gwely wenscot. Mae hi rhywle o ddeuddeg i bymtheng mlynedd yn ôl erbyn hyn. Ac yr oedd y ddau geffyl olaf wedi'u gwerthu tua phymtheng mlynedd cyn hynny. Dyna i chi ddeg ar hugain o leiaf.

Ond doedd neb wedi bod yn y llofft ers blynyddoedd cyn hynny chwaith. Dim ond lluchio ambell i ddarn o gêr fel tindres a mwnci a grwdan i fyny oddi ar eu traed ar lawr. Y diogi wedi dechrau gafael.

Penderfynu'n sydyn ryw bnawn ei bod hi'n hen bryd ei chlirio hi, a chwilio am ysgol i gael mynd i fyny i weld yn iawn. Tomen o'r union fath o rybish fuasech chi'n ddisgwyl. Hen goediach, ryw bethau fel basgedi gwiail hirsgwar, potel stowt neu ddwy (gweigion), gryd, pot oel fydda ar lorp injian dorri gwair, hen sgidia, pedair potel (lawn) o 'All-in-one Drench'.

Cofio am yr hen wraig o Uwchmynydd ddeudodd y bydda hitha'n corddi hefyd 'tae hi'n cael hwnnw. Camgymryd am 'end-over-end' y fuda ffasiwn newydd yr oedd hi.

***

SYLWEDDOLI fod y cwbwl oedd yma wedi eu gadael fel hyn ers blynyddoedd. Nes dod i'r gwaelod bron iawn a chael hanner sachaid o gêr ceffylau a'r bachau a'r byclau heb fod wedi rhydu a chancro. Ei wagio ar y palmant yn yr haul i gael stydio. Darnau o harnais a rêns a chapiau oedan nhw.

Ond yr oedan nhw wedi eu haddurno. Y pethau cyffredin fyddai'n hongian ar dalcen ceffyl, a'r styds a'r bariau arferol. Ond yr oedd yna ddau beth arbennig. Yn gyntaf, nid pres oedd y rhain ond nicel gwyn. A'r ail, yr oedd yno addurn arbennig fel bathodyn wedi ei osod ar rannau o'r lledrau - ochor y cap a'r blincars. Rhywbeth fel monogram a'r llythrennau L a D ynddo.

Cofio y byddai Taid yn arfer dweud ei fod o wedi prynu gêr ceffylau yn ocsiwn Madryn.

TLDJP oedd y monogram – prif lythrennau enw Thomas Love Duncombe Jones Parry. Yr Hen Syr Love, y bachgen oedd wedi dod i'w oed y flwyddyn y bu farw'i dad yn 1853 ac wedi mynd i grwydro'r cyfandir am flynyddoedd a'i ben yn y gwynt yn hogyn drwg iawn. Yn Sbaen yn arbennig – a bod o fewn ychydig ddyddiau i gael ei ddienyddio dan ddedfryd llys. Ond stori arall ydi honno. A hanes codi Plas Glyn-y-Weddw i'w fam yn Llanbedrog. Ac amryw o rai eraill sydd ar lafar yn Llŷn o hyd.

Dydd Mercher a dydd Iau, Mehefin 29 a 30 1910 y cynhaliwyd yr arwerthiant ym Madryn trwy gyfarwyddyd sgutorion W.C. Yale Jones Parry. Ar dudalen olaf y catalog mae lotiau megis 'A set of black and plated single harness'. Ac yn rhywle oddi ar y dudalen olaf honno yr oedd monogram SF Love wedi cychwyn ar ei daith, dod i sgleinio yn haul Mehefin arall ar balmant concrit o flaen drws stabal wag.