SIONCRWYDD FFRAINC AR Y FFORDD FAWR ~
Rhodri Prys Jones wrth y llyw

MAE'N gan mlynedd ers dyddiau cynta moduro medden nhw - ac yn hanner can mlynedd ers dyddiau lansio'r car modur mwya chwyldroadol a gynhyrchwyd erioed.

Wn i ddim sut siâp oedd ar geir 1884 - go gyntefig oedden nhw yn eu dydd siŵr o fod. Ond mi wn i'n iawn sut siâp oedd ar y motor golygus a hawddgar ddaeth o ffatrïoedd Andre Citroen ar y Quay de Javel yn Paris yn 1934 gan fy mod i wedi bod yn berchen ar dri ohonyn nhw yn ystod y deng mlynedd diwetha.

Mae siâp y ceir, y perfformans, a'r miloedd milltiroedd a yrrais i ynddyn nhw wedi rhoi pleser di-ben-draw i mi, a dwi'n dal i ddiodde o'r clwy 'traction mania'.

***

CAR gwahanol iawn i bopeth a ddaethai ynghynt oedd cerbyd M. Citroen. Roedd y corff isel gyda'i adenydd gosgeiddig yn tynnu sylw'n syth. 'Mae o'n edrych fel 'tae'n mynd fel y gwynt pan fydd o'n sefyll yn llonydd' oedd barn un cylchgrawn amdano. A chan ei fod yn gyflym yn ei ddydd ac yn dal y ffordd fel gelen mi dyrrodd Y Ffrancwyr i'w brynu.

Cofiwch chi, doedd y modelau cynta ddim yn berffaith ... mae 'na stori am ddyn garej yn Ne Ffrainc yn dangos y car i gwsmer. Aeth i gornel yn gyflym iawn iawn, ac mi glôdd y llyw fel na fedrai sythu eto. Neidiodd y car oddi ar y ffordd, dros ben dibyn isel i gae, disgyn ar ei bedair olwyn a mynd rownd a rownd a rownd mewn cylch tan i ŵr y garej, yn chwys drabŵd, lwyddo i'w arafu.

"Incroyable!" gwaeddodd ei gyd-deithwyr, "Gwych dros ben! Quel Moteur - mi bryna i un, rŵan".

Y 'Traction' oedd llysenw'r car o'r cychwyn gan ei fod yn 'Traction Avant' - gyrru yn y tu blaen. A dyna paham y llwyddodd o cystal. Gan fod yr inian yn troi'r olwynion blaen (am y tro ar gar gafodd ei gynhyrchu yn ei filoedd) roedd modd llunio corff isel heb `running boards' a heb ffrâm ddur, y 'chassis' bondigrybwyll.

Llu o ddarnau mawr o fetal wedi'u weldio'n sownd yn ei gilydd, tebyg i'r ceir heddiw, oedd corff y car. Doedd dim angen twnnel hir trwy'r car i'r siafft yrru, felly roedd lle (fel arfer) i dri eistedd yn y tu ôl, a thri y tu blaen.

Roedd y ffon newid gêr yn ddyfais od; yn hongian yn gam o ganol y dashfwrdd. Y 'llwy fwstard' fydden nhw'n ei alw fo yn y ffatri.

***

TYFODD y car yn sefydliad cenedlaethol yn Ffrainc. Fe'i defnyddid gan y 'Gendarmerie' - a'r gangsters. Daeth i fri mawr yn ystod blynyddoedd y rhyfel, ac fe'i defnyddid gan arlywyddion a sêr y sgrin fel ei gilydd.

"General De Gaulle...." cyhoedda llyfr yr ydw i'n ei ddarllen ar hyn o bryd  " ... Un tractionniste passionne" - ac wele ribidirês o luniau o "Mon General" wrth lyw ei Draction neu'n agor y drws yn fonheddig i Madame De Gaulle gael dod allan.

Ond treiddiodd y modur i galon y Ffrancwr cyffredin hefyd; yn enwedig yn dilyn anturiaethau gŵr o'r enw Francois Lecot yn 1935. Mewn blwyddyn fe sbardunodd un o'r ceir hyn ar hyd chwarter miliwn o filltiroedd, gan gynnwys gyrru bob dydd o dri y bore tan unarddeg y nos rhwng Paris a Marseilles, ymweld â nifer o brifddinasoedd Ewrop, a chystadlu yn Rali Monte Carlo ar ben hynny!

***

Bu ffatrïoedd Citroen yn cynhyrchu'r Traction o 1934 tan 1957, dros dri chwarter miliwn o geir i gyd, ac amryw byd yn cael eu gwneud yn ffatri Citroen yn Slough ar gyfer y farchnad Seisnig a gwledydd y gymanwlad.

Efallai mai ceir Slough yw'r gore oll gyda'u lledr coch a'u dashfwrdd mahogani, ond maen nhw'n fwy ceidwadol eu diwyg na'r Traction Ffrengig, er mwyn cystadlu yn eu dydd â Riley a'u tebyg.

I mi, mae 'na ryw hud arbennig yn perthyn i geir Quai Javel, a'r ddwy chevron fawr arian ar y pen blaen yn gynllun y gêrs a gynhyrchai Andre pan gychwynnodd o'i ffatri yn Paris cyn dechrau'r ail ryfel byd.

Mae'r car mor Ffrengig â'r Ffrancwyr (er mai Iddew o'r Isalmaen oedd Citroen ei hun) ac mor nodweddiadol Ffrengig â thŵr Monsieur Eiffel.

Roedd 1984 yn flwyddyn yr hanner canmlwyddiant, a bu ralïau mawr yn Paris a Knebworth, ger Llundain. Daeth dau gant o bob rhan o Ewrop i Knebworth ond does neb a ŵyr faint ddaeth i Paris fis Mai diwethaf. Mil? Dwy fil?

Wyddom ni ddim, ond fe achoson nhw'r dagfa draffig fwya welodd y Place de la Concorde ers blynyddoedd lawer a'r heddlu'n dal pawb arall yn ôl i'r 'tractionnistes' gael pasio.

Ac yng Nghymru? Hyd y gwn i mae 'ma saith car yn y gogledd, ac ychydig mwy efallai yn y de, nifer mawr ohonyn nhw fel fy un i, ar hanner eu hail-adeiladu. Trwy gymorth y Citroen Car Club, y Traction Owners Club ac amryw o gwmnïau sy'n darparu darnau sbâr (ac mae pob un darn i'w gael) mi rydw i, yn un, yn benderfynol o fwynhau moduro traction avant am flynyddoedd mawr i ddod. Does hafal iddo, mes amis.