LLYFRAU GWIW GLYNLLIFON gan John Roberts (Groeslon)

MAE ARNA' I ymddiheuriad i hen deulu Glynllifon. Am ryw reswm – wn i ddim pam – feddyliais i erioed eu bod nhw'n rhai â diddordeb mewn llyfrau. Ond mi wn i'n well erbyn hyn.

Nid yn unig am fy mod i unwaith wedi gweld pentyrrau o hen gyfrolau wedi eu rhwymo o bethau pwysig fel The Strand Magazine, The Quiver a'r London Illustrated yn yr atig yn y Plas, ond oherwydd Yr Arwerthiant. Yn 1932 y cynhaliwyd Yr Arwerthiant, yn dilyn marwolaeth yr Onorybl Frederick Wynne. Ac y mae'r Catalog gen i.

Ddydd Sadwrn, Awst 11, am 11.00 yr oedd y llyfrau i'w gwerthu. (Roedd popeth pwysig wedi ei werthu o ddydd Mawrth ymlaen.) Aeth pawb oedd â diddordeb mewn llyfrau i'r Marcî arbennig y tu ôl i'r 'Tenants' Hall' lle roedd 360 o lotiau i'w cynnig. Yn eu mysg yr oedd un cyfaill a phensil yn ei law i nodi ar ymyl y ddalen beth a dalwyd am rai o'r llyfrau.

***

NI wastraffwyd amser ar y 131 cyntaf - cymysgfa o lyfrau addysgiadol, crefyddol ac athronyddol. Roedd pethau gwell i ddod. Oherwydd y mae'n amlwg fod teuluoedd yr Arglwyddi Niwbwrch yn ymddiddori yn y pethau hynny a elwir yn 'country sports' - rhestrir llawer o gyfrolau yn ymwneud â saethu, hela, ceffylau, pysgota, cŵn a chyffelyb ddiddordebau.

Er enghraifft, aeth Coaching Days and Coaching Ways (Tristram) am 38/- (dwy gyfrol; un am 1894 a'r llall am 1898), ac aeth Game Laws of England (Neville) am £1. A chofiwn mai 9 ceiniog ydi gwerth £ heddiw o gymharu â £ 1932. Cafwyd £1.15.0 am Badminton Library, Hunting, Shooting, Driving and Riding, Polo. Ond efallai fod hyn i gyd yn dweud mwy am y prynwyr nac am y Teulu, oherwydd 10/- yn unig a gafwyd am Adams' Horsemanship, 1805, Vols I II III (ills.).

le, gresyn i'r gŵr a'r bensil flino ar farcio prisiau. Tybed faint dalwyd am Lot 159 – English Atlas, 1787, Samuel Bowen? Gwn fod Map of North Wales, 1797 a chwech arall o siroedd y gogledd wedi mynd am 26/-.

***

DARLLEDWYD rhaglen radio ddiddorol ddechrau Mehefin yn sôn am fywyd Maria Stella Petronella, yr eneth 13 oed a ddaeth yn wraig i Syr Thomas Wynn, Glynllifon, yr Arglwydd Newborough cyntaf, ac a honnai ei bod yn aelod o deulu brenhinol Ffrainc. Bu darlun olew ohoni yn y Plas flynyddoedd yn ôl; i ble'r aeth o tybed?

Teulu nodedig oedd Glyniaid Glynllifon (a'r Wyniaid ar eu holau, i raddau llai). Bu Thomas Glyn yn Llywydd Castell Caernarfon, a'i frawd Syr John Glyn(ne) yn Gofiadur Dinas Llundain ac yn Arglwydd Brif Farnwr dan Cromwell a than y Brenin Siarl II. Tipyn o gamp! Disgynnydd iddo ef, Catherine Glyn o Benarlâg, oedd gwraig W.E. Gladstone.

Bu eu disgynyddion yng Nglynllifon, y Wyniaid, hefyd yn amlwg ym mywyd cymdeithasol a llywodraethol Sir Gaernarfon, ac nid syndod felly oedd gweld llyfrau fel General Statutes, Victoria, 9th & 10th – 45th & 46th ar y silffoedd, ac yr oedd diddordebau ehangach y teulu yn dod i'r amlwg yn y llyfr Plans for the Improvement of the Port of London.

Ac yn sicr yr oedd arnynt wir angen troi at Stone's Justice Manuel (Kennet 1899 a Dingle 1926).

***

A BETH am lyfrau ysgafn i ddiddanu dyn wedi diwrnod prysur yn y Llys neu'n ymlâdd wrth hela'r geinach?

Wel, fe welwyd Handbook of Needlework yn yr arwerthiant ynghyd â Old English Ditties a Songs of Scotland. (Ble mae Brinley Richards a'i Songs of Wales tybed?) Gallaf ddychmygu rhai o'r gwŷr bonheddig yn eistedd yn y Smoking Room ar noson oer yn y gaeaf yn pori yn Memoirs of Jacques Casanova (Vols 1-12) neu Confessions of Jean Jacques Rousseau, with etchings by Hedouin (Vols 1 and 2).

Ac yn y Drawing Room, byddai'r merched yn darllen Popular Games of Patience neu The Flower Garden, Orchard and Greenhouse, M'Intosh, gan droi weithiau, efallai, i weld beth a ddywedid yn Restitution of Decayed Intelligence, Richard Verftegan, Antwerp, 1605.

Ond beth am lyfrau Cymraeg? Wedi'r cwbl y mae coes Cilmyn Droed-ddu ar yr arfbais yn dynodi hynafiaeth Cymreig y teulu. Chwiliais yn ddyfal – do, darllenais y Catalog yn fanwl, – gan aros yma ac acw i synfyfyrio uwchben teitlau fel A Summary of All the Religious Houses in England and Wales, James Knapton, 1717, oedd yn siŵr o fod yn llyfr pwysig iddynt.

Symud wedyn at Costume of the Original Inhabitants of the British Islands, etc., Aquatinted plates. (Beth oedd yr 'etc.' tybed?) Efallai yn wir, meddyliais, fod darlun o wisg Cilmyn ei hun yn y llyfr hwnnw.

Ac o'r diwedd fe welais un. Llyfr Cymraeg go iawn, a'r unig gyfrol felly yn yr Arwerthiant Mawr i gyd. Dr Parry: Black Letter Welsh Bible, 1620.