DIOLCH I CHI ~ medd y Golygydd
AR DERFYN yr wythfed blwyddyn o einioes Y Casglwr yr un yw'r neges a'r negeseuau ar derfyn pob blwyddyn. Y diolchiadau yn gyntaf – i gyfranwyr diddan a ffyddlon, ac i'r darllenwyr a fu'r un mor ffyddlon. Bu'r daith tua mil o aelodau yn un werthfawr a pheth braf fuasa ymollwng i ormodedd newyddiadurol ac ymffrostio i ni gyrraedd hynny o nod. Ond er i ni godi'r cylchrediad eleni eto yr ydym yn dal dri dwsin yn fyr o'r mil – carreg filltir yr ydym yn hyderus o'i chyrraedd erbyn mis Mawrth. Buasai ychydig genhadaeth ar eich rhan chi yn help – ond ni chwynir am y gefnogaeth.
Canlyniad eich ffyddlondeb a'ch diddordeb yw y medrwn ddweud wrth wynebu blwyddyn newydd arall y bydd y tâl aelodaeth o ddwy bunt (sy'n ddyledus yn awr am 1985) yn aros yn union yr un faint – ac os gwyddoch am rywbeth arall sydd heb godi yn ei bris yn nrudaniaeth mawr yr wyth mlynedd diwethaf fe hoffem glywed amdano. Y copi yma am ddim i aelodau newydd.
Yr un modd fe erys pris hysbysebu yn wyth bunt y golofn – megis ag yr ydoedd yn y dechreuad. Ac yn wir daeth hysbysebu a phrisio'r llyfrau ail-law nid yn unig yn wasanaeth gwerthfawr i'r darllenwyr, ond o fudd i'r llyfrwerthwyr eu hunain. Peidiwch ag anghofio amdanynt yn eich prysurdeb Nadoligaidd.
Sylwed aelodau newydd y medrant anfon am ddim eu hysbysebion (cymedrol) am lyfrau y maent am eu prynu neu am eu gwerthu.
Fe hoffem gael mwy o lythyrau – mae'n siŵr fod 'na rywbeth yr hoffech ei wybod, neu ei ddweud. Ac fe roddir croeso cynnes iawn i bob cyfraniad gan unrhyw un ohonoch. Mae'n rhaid fod yna rywbeth diddorol yng nghartref – neu ym mhen, pob un ohonoch.