CYMRAEG CYMRY'R GORORAU ~
M.Selyf Roberts ar etifeddiaeth Croesoswallt
UN O nodweddion tref Croesoswallt yw trymder y drafnidiaeth a red drwyddi, ac eto i gyd nid oes ond un groesffordd lle ceir goleuadau traffig. Dywedir bod oddeutu ddwy fil o blant yn croesi'r gyffordd honno, naill ai mewn car neu fws neu ar droed, ddwywaith bob dydd, a'r rheswm yw fod wyth ysgol o fewn chwarter milltir iddi. A'r enwocaf ohonynt, mae'n siŵr, yw'r Ysgol Ramadeg.
Gelwir hi heddiw yn Oswestry School eithr deil trigolion y dref i gyfeirio ati fel 'y Ramadeg', a da yw hynny oherwydd hi oedd yr ysgol ramadeg rad gyntaf yng Nghymru, a'r ail ym Mhrydain. Nid pawb sy'n gwybod am yr ysgol hon, fodd bynnag, sy'n gwybod am fri Croesoswallt dros flynyddoedd maith fel canolfan addysg, a llai fyth a ŵyr gynifer o enwogion a dderbyniodd o leiaf ran o'u haddysg yn y dref, ac yn eu plith nifer mawr iawn o Gymry nodedig.
Cymro o'r enw David Holbache – ie, Cymro er gwaethaf ei enw – a sefydlodd yr Ysgol Ramadeg Rad tua'r flwyddyn 1417, ac y mae'r adeilad gwreiddiol i'w weld o hyd ar draws mynwent yr Eglwys. Y mae wedi ei atgyweirio'n ddiweddar i wneud bwyty ac amgueddfa ddoliau, ond gwnaed y gwaith gan un o drigolion ifanc y dref a chanddo ddigon o grap ar hen bethau i drwsio ac adnewyddu yn hytrach na newid.
Erys trawstiau'r hen adeilad, a gogwydd y ffenestri, a gwelir lle naddodd rhai bechgyn eu henwau ar fainc neu drawst - un ohonynt yn dyddio'i enw'n gynnar yn yr ail ganrif ar bymtheg.
Yn 1657 diswyddwyd y prifathro am ei ddaliadau gwleidyddol a phenododd y dineswyr, yn ôl cyfarwyddyd Cromwell, John Evans, mab i glerigwr o Benegoes, i'w ddilyn. Yr un John Evans oedd hwn ag a briododd weddw Vavasor Powell, ond erbyn hynny roedd wedi colli ei swydd yn yr ysgol a'r cyn-brifathro wedi ei dderbyn yn ôl.
***
DICHON mai sgolor mwyaf disglair yr ysgol hon oedd Edward Lhuyd, y botanegwr, ac yn ddiweddarach daeth yn athro yno. Digwyddodd hyn i ddau Gymro arall hefyd, sef William Worthington, a ddaeth yn ficer Llanrhaeadr ym Mochnant, lle mae coflech iddo, a Stephen Donne, a ddilynodd ei dad, James Donne, yn y swydd. Dywedir mai James Donne a fu'n gyfrwng, yn fwy na neb, i osod yr ysgol ar seiliau cadarn ac ennill iddi enw da ar hyd a lled y wlad.
Pan oedd Goronwy Owen yn gurad yn y dref bu yntau ar y staff. Efallai fod a wnelo'r ffaith iddo briodi Elen Hughes, merch i fasnachwr pwysig yn y dref, iddo gael gwaith yn yr ysgol ac ychwanegu ychydig at ei incwm.
Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach yr oedd Dafydd Ionawr yn athro yma, dan Tisdaile, ei gyn-brifathro pan oedd yn Wrecsam.
Ymhlith y Cymry enwog a fu'n ddisgyblion yr Ysgol Ramadeg ceir Humphrey Humphreys, Esgob Bangor, a Henffordd wedi hynny, hynafiaethydd o fri a gŵr o flaen ei amser mewn trefnyddiaeth eglwysig. Cyflwynodd William Wynne ei gyfrol ar hanes Cymru iddo, ond gwell arwydd o'r parch a oedd iddo yw fod Ellis Wynne wedi cyflwyno iddo ei Rheol Buchedd Sanctaidd.
I'r ysgol hon yr aeth Morris Kyffin a'i frawd Edward, y ddau'n enedigol o Groesoswallt, a'r tebyg yw mai yma hefyd yr anfonodd Rhys Cain ei fab Roger oddeutu'r flwyddyn 1594.
Nid yng Nghymru y bu dylanwad John Rhaeadore Jones, un arall o'r ysgolorion. Aeth yn rhyw fath o brentis meddyg i Lanfyllin, ond gorffennodd ei yrfa yn un o brif feddygon Ysbyty'r Middlesex yn Llundain. Dramor o Gymru y bu bri gŵr o'r enw Mesac Thomas, un arall o ddisgyblion yr hen ysgol, a ddaeth yn esgob cyntaf Goulburn, N.S.W., Awstralia.
***
TEG FOD unrhyw un, wrth sôn am le blaenllaw addysg yn y dref hon, yn nodi'n bennaf yr Ysgol Ramadeg Rad, ond nid hi yw'r unig ysgol a wnaeth iddi ei hun. Tua chanol y ganrif ddiwethaf yr oedd yng Nghroesoswallt ysgol breifat o bwys, ond ychwanegwyd yn ddirfawr at ei llwyddiant a'i henwogrwydd gyda dyfodiad Owen Owen yn brifathro yn 1878. Hon yw'r ysgol y daethpwyd i'w hadnabod yn ddiweddarach fel Ysgol Uwchradd, gan ddenu ysgolorion o bob rhan o'r wlad.
Yr Owen Owen hwn a benodwyd yn Brif Arolygwr cyntaf Bwrdd Canol Cymru - y C.W.B. y bu cynifer ohonom yn wynebu ei arholiadau ers talwm. Nid wy'n sicr nad i'r ysgol hon yr aeth y Parch Thomas Charles Williams, Porthaethwy, am gyfnod byr.
Yr oedd dau neu dri o ysgolion preifat eraill yn y dref, braidd yn debyg i'r 'Dame Schools', ac i ysgol felly a gedwid gan un Miss Ellis yr aeth Walford Davies yn fachgen bach cyn mentro i fywyd llai cysgodol ysgol Owen Owen, er nad oedd yr ysgol honno ddim ond ychydig ddrysau o gartref y Daviesiaid yn Willow Street.
Yn 1676 penodwyd James Owen yn gaplan i Mrs Baker, Swinney, a chanddo ofal am gynulleidfa Ymneilltuol yn y dref, ac ymhen llai na phymtheng mlynedd agorodd Academi yng Nghroesoswallt. Rhaid fod i hon eto enw da oherwydd tybiodd John Evans, prifathro'r Ysgol Ramadeg, ei bod hi'n ddigon da i anfon ei fab John at James Owen i gael gwersi.
Y John Evans hwn a ddilynodd y Dr Daniel Williams yn Bishopsgate, y gŵr y daeth arian o'i stad i sefydlu'r ysgol adnabyddus yn Nolgellau a ddug ei enw.
***
OND AGOS i ganrif yn ddiweddarach nag academi James Owen ddaeth i Groesoswallt academi arall, y tro hwn dan ofal gweinidog gyda'r Annibynwyr yn y dref, gŵr o'r enw Edward Williams. Fel ysgol y cychwynnodd hon i ddechrau, ond yr oedd Edward Williams wedi bod yn Academi'r Fenni ac yn awr yn arfaethu datblygu'r ysgol yn academi debyg i honno.
Pan symudodd Benjamin Davies o'r Fenni gwahoddwyd William i ddychwelyd yno i gymryd ei le. Dywed lawer am braffder Edward Williams a chryfder ei gymeriad, neu ei berswâd, iddo argymell symud yr Academi o'r Fenni ato ef i Groesoswallt, a dyna a wnaed yn 1782, a bu ffyniant mawr arni am naw mlynedd.
Yr oedd y pwyslais ar y clasuron, wrth gwrs, ac nid rhyfedd fod John Roberts, Llanbrynmair wedi dyfod yno i ddysgu Lladin. A lwyddodd i wneud hynny yn yr ychydig fisoedd y bu gydag Edward Williams, nid oes sicrwydd.
Daeth terfyn tymor Edward Williams yn y dref pan dderbyniodd alwad i fod yn weinidog Carr's Lane, Birmingham.
Roedd Wiliam Llŷn yn byw yng Nghroesoswallt am ddeng mlynedd cyn ei farw yn 1580, ac yno y claddwyd ef, a'r pryd hynny roedd Rhys Cain yn cael gwersi barddol ganddo. Roedd gan yr hen ŵr ddigon o feddwl o Rhys i adael ei lyfrau iddo. Deuai Morris Kyffin yntau at Wiliam Llŷn am wersi, a hawdd yw dychmygu i'r tri ohonynt gael ambell seiat flasus yng nghwmni'i gilydd. Dau ddisgybl da i'r hen ŵr, a gresyn na fuasai wedi byw i weld cyhoeddi campwaith Morris Kyffin, Deffyniad Ffydd Eglwys Loegr.
Bu Rhys Cain yn hyfforddi Robert Vaughan, Hengwrt am beth amser, a thybir iddo dreulio peth amser yn y dref.
***
BRODOR o Rydycroesau oedd Charles Edwards, awdur y Ffydd Ddiffuant, un o gampweithiau rhyddiaith Gymraeg. Cafodd fywoliaeth yn Llanrhaeadr ym Mochnant am gyfnod, a phregethodd lawer yn y cylch mewn tai trwyddedig, a gwasanaethu fel gweinidog tua therfyn ei oes.
Daeth Jenkin Evans i fugeilio'r Annibynwyr yn y dref gan ddilyn James Owen pan symudodd hwnnw i Amwythig. Pregethwr o gryn fri oedd Jenkin Evans, a Mathew Henry a draddododd y bregeth yn ei angladd: talu'r gymwynas yn ôl, efallai, am i Evans gyfieithu ei Gatecism i Blant.
Yn 1842 daeth Humphrey Gwalchmai'n weinidog gyda'r Presbyteriaid, ac yng Nghroesoswallt y bu farw bum mlynedd wedyn. Y mae un peth yn nodedig amdano, sef iddo fynd yn fethdalwr a'i wahardd rhag pregethu.
Yr oedd gynt yn ŵr gweddol dda ei fyd, ond collodd arian lawer mewn rhyw fenter ynglŷn â gwaith plwm Tylwch. Aildderbyniwyd ef i'r weinidogaeth, fodd bynnag, a bu'n was da i'w enwad, gall olygu Yr Athraw am rai blynyddoedd, sef mam Y Traethodydd.
Un o'r pregethwyr a'r darlithwyr mwyaf poblogaidd ac adnabyddus o amgylch y fro oedd Robert Ellis, 'Cynddelw'. Gweinidogaethodd gyda'r Bedyddwyr yng Nglyn Ceiriog o 1838 hyd 1842, ac ar daith bregethu yn Nyffryn Tanat y bu farw'n sydyn yn 1875.
Saif tri enw o blith y gweinidogion Wesleaidd a wasanaethodd yn y dref. Y mwyaf, heb os, oedd John Evans, 'Yr Eglwysbach' fel y'i gelwid. Ni bu yma'n hir, ond y bore'r ymadawodd â'r Mans yn Ffordd Victoria, ni châi fynd cyn iddo bregethu i dyrfa enfawr oddi ar stepan y drws.
Ymddeol i Groesoswallt a wnaeth Gwilym Lleyn, gyda'r bwriad o weithio ar ei Lyfryddiaeth Y Cymry. Diau iddo wneud hynny, ond ni chyhoeddwyd y gwaith hyd bedair blynedd ar ôl iddo farw.
Yr olaf o enwogion y weinidogaeth Wesleaidd yn y dref oedd Cadvan.