CYFRES Y BRIFYSGOL A'R WERIN gan Rhidian Griffiths

FE WYDDOM bawb na chyflawnir bwriadau cyhoeddwyr bob amser. Dyna i chi gyfres 'Crwydro Cymru', er enghraifft: byddaf i'n bwrw fy ngholled yn fawr na welwyd cyhoeddi ynddi gyfrol arfaethedig Aneirin Talfan, Crwydro Cwm Tawe a Gŵyr, a hyd heddiw erys y darn yna o Gymru heb gofnod yn y gyfres.

Daeth hyn i'm meddwl yn ddiweddar wrth imi sylwi ar daflen o Wasg y Brifysgol, dyddiedig Ebrill 22, 1929, yn hysbysebu Cyfres y Brifysgol a'r Werin. Rhestrir yma 17 o gyfrolau y bwriadai'r Wasg eu cynnwys yn y gyfres; roedd un eisoes wedi ymddangos, y gyfrol enwocaf un efallai, sef Hanes Cymru yn y ddeunawfed ganrif gan R.T. Jenkins (1928).

Gellir adnabod sawl un o blith y rhai a geir yn y rhestr hon, er i rai newid teitl erbyn gweld golau dydd. Daearyddiaeth Cymru oedd enw cyfraniad Iorwerth Peate i'r gyfres, ond fel Cymru a'i phobl yr ymddangosodd yn 1931, am resymau a esbonnir gan yr awdur yn ei ragair i'r gyfrol.

***

OND BETH am y sawl na ddaeth i ben? Ymhlith y rhain gellir rhifo rhai perlau a gollwyd inni. Rhown innau lawer, er enghraifft, am gael Hanes cerddoriaeth yng Nghymru gan J. Lloyd Williams, neu Hanes Ewrop, 1815-1914 gan Ifor L. Evans.

Sylwn i J.R. Gabriel gael gwahoddiad i lunio cyfrol ar Hanes Cymru, 1500-1700. Hwyrach i'r gwaith hwn gael ei drosglwyddo'n nes ymlaen i ddwylo A.H. Dodd, oherwydd y mae yntau'n cyfaddef yn ei ragair i Studies in Stuart Wales (Caerdydd, 1952), fod yr addewid i sgrifennu'r llyfr yn gwasgu ar ei gydwybod ers sawl blwyddyn. Gwaetha'r modd, nis cafwyd.

Mae'n hawdd cydymdeimlo â'r rhai a fethodd, oherwydd pwysau gwaith arall, ddwyn y maen i'r wal. Ond mae'n syndod cynifer o gyfrolau safonol a gwerthfawr a gafwyd yn y gyfres hon. Hwyrach i Wasg y Brifysgol gyflawni ei hamcan i greu "ychwanegiad pwysig a sylweddol at gyfoeth ein llenyddiaeth".

Efallai y bydd o ddiddordeb i ddarllenwyr Y Casglwr gymharu'r rhestr arfaethedig â rhestr o'r llyfrau hynny a gyhoeddwyd. Hyd y gwn i nid ymddangosodd dim yn y gyfres ar ôl 1949, ond os gŵyr rhywun am ragor o gyfrolau byddai'n dda gennyf glywed amdanynt.