CRANDRWYDD Y PERLAU MÂN gan Helen Ramage

MAE yna gwestiynau, rhai yn ddibwys a rhai o bwys mawr, na cheir byth ateb iddynt. Un cwestiwn na chaf fi byth ateb iddo yw beth oedd ymateb Ann Thomas, Dolwar Fach, i'r chwech o lwyau arian a ddaeth ei gŵr, Thomas Griffiths, gydag ef pan briododd y ddau. Cyn y briodas, dim ond llestri piwtar a phren oedd yn Nolwar Fach, a phan fu Ann farw ymhen deng mis, aeth Thomas Griffiths yn ôl i fyw at ei fam ym Meifod a mynd â'r llwyau gydag ef.

Ys gwn i beth a feddyliai Ann o'r crandrwydd newydd hwn ar yr aelwyd: a anwybyddodd hi hwy fel 'darfodedig bethau'r llawr' ynteu eu derbyn fel arwydd o safle teulu ei gŵr ym Maldwyn? Ers oes Elisabeth, yr oedd yn rhaid wrth o leiaf chwech o lwyau arian i roddi statws i deulu.

Pam, yng nghanol prysurdeb bywyd heddiw, y traffertha neb i gasglu llestri arian, gyda'r gwaith glanhau diddiwedd arnynt? (Darnau mân o arian a gesglais i, chwarter canrif yn ôl, dim ond chwenychu llestri arian drudfawr a ellais.)

I droi'n ôl at y cwestiwn, mae llestri a darnau arian gan amlaf yn gain iawn, ac yn cynyddu mewn gwerth, ac nid oes angen glanhau cyson, os cedwch hwy mewn cwpwrdd gwydr rhag i'r awyr eu llychwino. Yn wir, gall eu gor-lanhau ddifetha'r marciau holl bwysig a geir arnynt.

Mae llawer i ddarn arian wedi cael ei werthu dan draed mewn arwerthiant am fod y marciau yn annelwig, oherwydd ysfa rhyw wraig i or-loywi'r darn. Peth doeth ydyw rhoi eich bawd ar y marciau wrth lanhau.

***

FEL Y gwyddoch, yr un marc anhepgor ar ddarn o arian yw'r llew. I ddatrys y marciau eraill mae yna lyfrynnau bach hwylus - er bod marciau'r Swyddfeydd Profi yn ddigon adnabyddus heb lyfr; y rhai mwyaf cyffredin yw llewpard i ddynodi Swyddfa Llundain, angor am Birmingham a choron am Stafford. Tair ysgub o wenith a chleddyf byr (dagr) oedd arwyddnod swyddfa Caer a gaewyd rai blynyddoedd yn ôl.

Mae'r llythyren o'r wyddor sydd ar y darn yn dynodi ei oed a rhaid troi at y llyfryn bach a chwilio am y swyddfa arbennig ac edrych am y llythyren i ganfod yr oed (o 1789 i 1890 ychwanegwyd pen y brenin, neu'r frenhines, a oedd ar yr orsedd ar y pryd).

A'r marc olaf - llythrennau - cyntaf enw’r gwnaethurwr, ac y mae enw enwog yn ychwanegu at y pris, wrth gwrs. Ymhlith y rhai y profwyd eu gwaith yn Swyddfa Caer, ceid dau Griffith Edwards (tad a mab hwyrach?) a Gerrard Jones a Peter Jones. Tybed a oeddynt yn Gymry?

Cawsom brofiad o farciau dieithr unwaith. Prynu wnaethom ni fwg arian yn anrheg bedydd i ferch fach; yr oedd hynny dros ddeng mlynedd yn ôl, ac fe fyddai ei bris yn ddeng waith mwy heddiw. Dangosai'r marciau ei fod o oes Sior y Trydydd, ond yr oedd yna dri marc arall wedi eu crafu o dan ei waelod.

Euthum â'r mwg i dŷ'r diweddar Mr R.T. Pritchard, Bangor, a oedd yn gasglwr arian gwybodus, a gofyn iddo am eglurhad arnynt.

'Mae'r mwg bach hyfryd yma wedi bod yn siop y pôn dair gwaith', meddai. Pwy, tybed, oedd y perchennog, neu'r perchenogion, a oedd yn gorfod gwystlo'r mwg? Ni chaf fi byth ateb i'r cwestiwn yna ychwaith.

Mae'r llestri arian a welwch mewn amgueddfeydd yn adlewyrchu newid mewn arferion cymdeithasol. Pan ddechreuwyd yr arfer, yn yr ail ganrif ar bymtheg, o yfed coffi a siocled daeth siwgiau arian yn boblogaidd. Roedd y ddau siwg yn bur debyg, ond fod gan yr un siocled gaead dwbl.

Meddyliais lawer gwaith yr hoffwn gael siwg coffi â'i glust yn groesgongl i'r pig, ond yr oeddent yn llawer rhy ddrud i mi hyd yn oed chwarter canrif yn ôl.

Siwg arall a edmygais am ei ffurf brydferth oedd siwg clared o wydr pinc â chaead arian addurnol arno; syllais fwy nag unwaith arno mewn ffenestr siop hen bethau - ac ar y pris - ugain punt; dim ond edrych wnes i, a fis yn ôl, edrychais ar gylchgrawn hen bethau, a gweld siwg tebyg, os nad yr un un, am ddau gant o bunnau.

***

A PHAN ddaeth yr arfer o yfed te yn y prynhawn yn ffasiynol ymhlith y merched - arferiad a ddirmygid gan ddynion, gan gynnwys John Wesley - daeth tebot o siwg dŵr poeth arian yn boblogaidd - ac yna decell â lamp oddi tano.

Te heb lefrith oedd hi, a phan ddaeth ychwanegu llefrith yn arferiad, cafwyd pob math o siwgiau llefrith arian.

Hwyrach fod gennych chwi ar y dreser fuwch tsieni â chaead yn agor ar ei chefn i roddi'r llefrith i mewn - a'i cheg yn agored i dywallt y llefrith? Mae siwg o'r un math i'w gael mewn arian hefyd. ond bvddai gofvn i chwi fod yn filiwnydd i allu prynu gyrr o'r gwartheg hynny heddiw.

Mae dysgl siwgr o’r ddeunawfed ganrif yn ddrud heddiw, a gweddol anaml y gwelwch siswrn siwgr o'r un cyfnod – 'torth' o siwgr a geid yn yr oes honno, a rhaid oedd ei dorri gartref. Mae gefel siwgr yn dal yn rhesymol - ond nid oes fawr o gyfle i'w defnyddio heddiw; byddai'n well hwyrach bwrcasu blwch bach arian a rhoi sacharine ynddo i'w gynnig i'ch cyfeillion.

Mae yna sawl math o gadi te bach arian ar gael, a rhai ohonynt yn wythongl, ceir rhai o'r ddeunawfed ganrif hyd at y rhan gyntaf o'r ganrif hon - a gwahaniaeth mawr mewn prisiau oherwydd gwahaniaeth oed. I unigolyn y mae'r rhain wrth gwrs - i'r teulu yr oedd rhai mwy o wahanol fath o bren, â chlo arnynt, rhag i'r morynion ddwyn pinsiad o'r dail drud.

Mae cryn dipyn o lwyau cadi ar gael; rhai go syml a gesglais i ar ffurf rhaw neu ddeilen ond y mae yna rai diddorol am brisiau uchel - mae llwy cadi ar ffurf cap joci, er enghraifft, yn ddrud.

Mae digonedd o lwyau te a choffi i'w casglu, a'r rhai diweddar yn dal yn rhesymol; gwelais hysbyseb ddoe - chwech o lwyau coffi â ffeuen ddu ar ben y goes, o'r flwyddyn 1928 ar werth am ugain punt.

Cawsom lwy siwgr ddiddorol yn anrheg rai blynyddoedd yn ôl; llwy a wnaethpwyd yn 1897 i goffhau trigain mlynedd o deyrnasiad Fictoria, llun ohoni yn y flwyddyn honno ar ben y goes, a llun ohoni pan esgynnodd i'r orsedd ym mhowlen y llwy. Mae llwyau anarferol o'r ddeunawfed ganrif yn weddol brin, fel y llwy dyllog i godi'r dail oddi ar wyneb y te, neu'r llwy hir i dynnu mêr o esgyrn.

***

MAE cyllyll a ffyrc arian yn dal o hyd yn bethau i'r cyfoethog. Pan ddechreuwyd defnyddio ffyrc, dau big oedd i'r fforc, yna daeth tri phig, ac erbyn canol y ddeunawfed ganrif cafwyd pedwar pig iddi. Gyda llaw, bu cryn wrthwynebiad ar y dechrau i ddefnyddio ffyrc; dywedodd rhyw ddyn ceidwadol ei feddwl fod lluchio bwyd i'ch ceg gyda fforc fel taflu gwair gyda phicfforch.

Cyn bod sôn am gyllell gerfio drydan, fe geid dau ddarn bychan i orffwys y gyllell a'r fforch gerfio arnynt; rhai gwydr sydd gennyf fi, ond mae rhai arian i'w cael.

Heddiw, dim ond mewn amgueddfeydd y gwelwch yr hen lestr halen mawr a safai mewn lle amlwg ar y bwrdd yn niwedd y Canol Oesoedd, ac ar ôl hynny, a’ch pwysigrwydd neu eich dinodedd yn eglur oddi wrth eich pellter oddi wrth y llestr mawr. Mae hel llestri halen bychan - rhai ar drithroed, neu rai ar ffurf cragen, yn boblogaidd ymhlith casglwyr a fynn un llestr halen ar gyfer pob gwestai.

Os am i'ch bwrdd yn eich ystafell wely ddisgleirio o arian mae digon o ddewis, gan gynnwys coeden fach i ddal modrwyau. (Prynais un yn rhad flynyddoedd yn ôl, ond ni thyfodd modrwyau arni.) Blychau o bob math i ddal pinnau, a chasgliad o binnau het o ddechrau'r ganrif, poteli perarogl gwydr fi chaead arian, a hyd yn oed gloch fach arian (addurnol ond di-fudd - nid oes forwyn ar gael i'w chlywed a dod â the bore i chwi).

Mae canwyllbrenni arian o'r ddeunawfed ganrif y tu hwnt o ddrud, rhai gyda diffoddwr conigl, a rhai gyda siswrn i daclu'r wig.

Felly hefyd y 'vinaigrette' i gael arogl sawrus i geisio cadw draw bla a haint. Mae lluniau cestyll ar rai, ond welais i erioed lun castell o Gymru. A welsoch chwi?

Er bod cymryd snisin yn boblogaidd, ac yn ddiwydiant bach pwysig ar un adeg - i bobl Ynys Môn 'llwch mân Llannerchymedd' oedd snwff - eto gweddol brin yw blychau snisin arian, ac mae rhai ar ffurf crwban neu lwynog yn gostus.

Mae'r blychau Vesta yn fwy cyffredin; cawsant yr enw oddi wrth y gwyryfon yn Rhufain a gadwai'r fflam i gynnau; mae gennym ddau neu dri go blaen -ond nid oes matsien ynddynt (roedd y fatsien yn ferrach nag un heddiw).

***

PRYNAIS bwrs dyn oherwydd y bais arfau a'r arwyddair sinicaidd a oedd arno - arwyddair Lladin – 'Gobaith, y peth mwyaf twyllodrus o bob peth'. Holais yn ofer am y tarddiad. Mae gennyf bwrs merch fi chadwyn arno, a modrwy ar y gadwyn i gario'r pwrs ar y bys.

Byddai'r bys hwnnw mewn maneg hir â botymau arni, ac felly chwilio fu raid am fach botymau a hefyd declyn ar ffurf siswrn i ledu bysedd y faneg.

Chwiliais yn ofer am bin arian a ddefnyddid i godi sgert laes oddi ar y Ilawr, ond cefais 'chatelaine' i wisgo ar wregys merch; gwisgid ef gan wraig y tŷ wrth fynd o gwmpas ei goruchwylion; yn crogi arno mae siswrn, basged fechan i ddal gwniadur, blwch i ddal pensel, a llyfr bach bach i nodi goruchwylio y diwrnod hwnnw. Arno fe ysgrifennodd ‘picl cymysg, coler, mwslin’, a gofalaf na fyddaf yn chwalu ei geiriau olaf yn y llyfr.

Meddyliais unwaith hel botymau arian – ond maent yn rhy ddrud. A byclau arian wedyn. Nid oeddwn fel y llongwr ar Fflat Huw Puw am 'esgidiau bach i ddawnsio' ond am gael y byclau arian a oedd arnynt, ond ni chefais na bwcl esgid na bwcl ar ben glin hosan.

***

CASGLU pethau di-fudd wnes i meddwch, ie ond hanesyddol ddifyr. Ond mae gennyf un peth a all fod yn ddefnyddiol i mi ryw ddydd – chwyddwydr mawr ag ymyl arian arni a gefais yn anrheg gan fy ngŵr. 1893 yw'r marc arno; os byddaf byw, byddaf ei angen cyn iddo fod yn gant oed, oherwydd can mlynedd a gyfrifir yn oed swyddogol hen bethau.

Hwyrach yr hoffech wybod beth a ddigwyddodd i'r casgliad o fan arian y buom yn eu casglu chwarter canrif yn ôl. Fel y mab afradlon, gwasgerais fy na; nid oedd y gair chwyddiant yn fy ngeiriadur y pryd hwnnw; meddyliais y gallwn dal i brynu am ryw ddwy bunt neu dair yn ôl fy ffansi, a phan fyddem am roddi anrheg go arbennig fe drown at fy nghasgliad bach – potel perarogl mewn cas arian i ferch yn priodi, blwch pinnau bychan i'm merch fedydd, a beth well i'w roi yn anrheg priodas arian na rhywbeth o'r metel hwnnw?

Mae'n rhy hwyr i mi ailgychwyn casglu, ond nid i'r darllenydd hwyrach; cofiwch fod y gair chwyddiant yn sicr o aros yn eich geiriadur.