CANIBALIAETH AR Y MOROEDD ~
Stori Bedwyr Lewis Jones

'LLOFRUDDIO cyfaill a gorfod bwyta ei gnawd rhag marwolaeth', meddai teitl baled a argraffwyd yn Amlwch gan mlynedd union yn ôl. Dychmygwch werthwr baledi'n bloeddio'r geiriau yna ar ucha'i lais yng nghanol tyrfa farchnad. Roedd yn siŵr o dynnu sylw, ac yn siŵr o werthu'r faled, wrth gwrs.

Tu ôl i'r pennawd roedd un o straeon morwrol mwyaf erchyll ac enwog ei dydd, - stori am yr heldrin dychrynllyd a fu i Capten Dudley a thri o longwyr eraill ar y môr yn ystod haf 1884.

Ym mis Mai y flwyddyn honno hwyliodd y Mignonette o Loegr am Sydney, Awstralia. Llong hwyliau fechan ydoedd, - yacht yn nhermau ein hoes ni. Roedd pedwar ar ei bwrdd, - Thomas Dudley yn gapten, dau longwr profiadol o'r enw Edwin Stephens ac Edward Brooks, a chrwt amddifad o'r enw Richard Parker.

Erbyn dechrau Gorffennaf roedd y llong yn Ne'r Iwerydd, rywle tua Tristan da Cunha. Daliwyd hi mewn storm a suddodd, a gadawyd y pedwar llongwr at drugaredd y tonnau mewn cwch bach, - heb gysgod na dillad na bwyd, - dim byd ond ychydig o rwdins y llwyddwyd i'w hachub o'r llong.

Erbyn yr wythfed diwrnod roedd yn rhaid iddynt yfed eu dŵr eu hunain. Erbyn y pedwerydd dydd ar bymtheg roeddynt ar eu cythlwng yn llwyr, heb ddim. Dau ddewis oedd, - naill ai marw o newyn i gyd, neu ynteu aberthu un yn fwyd i'r lleill gan obeithio y deuai ymwared o rywle yn fuan iawn. Yn y cyfwng hwnnw cytunwyd i aberthu'r llanc.

***

FORE MAWRTH, Gorffennaf 24, 1884 offrymodd Capten Dudley weddi fer, yna trywanodd y bachgen yn ei wddf â chyllell boced a'i waedu i farwolaeth. Casglwyd y gwaed a'i yfed. Ac yna aeth Dudley ati i dorri darnau o gnawd Parker. Am bum diwrnod bu'r tri oedd ar ôl yn `gwledda' - dyna oedd gair Dudley - ar y cnawd. Yna fe'u gwelwyd gan long o'r Almaen a'u hachub. "Claddwyd yr hyn oedd heb ei fwyta o'r bachgen yn y môr gan y Germaniaid," meddai'r adroddiad uwchben y faled Gymraeg.

Pan laniodd Dudley, Stephens a Brooks yn ôl at Falmouth ym mis Medi parodd eu stori gyffro mawr. Cydymdeimlo â'r tri a wnâi'r farn gyhoeddus. Un bai a welid arnynt. Yn lle pigo ar yr ieuengaf a'r gwannaf yn eu plith, dylasent fod wedi tynnu byrraf docyn i benderfynu pwy oedd i farw. Ond oni bai am hynny ni wnaethant, meddid, ond dilyn hen arfer ymhlith dynion môr yn yr oes ddiradio honno.

Nid felly y gwelai'r gyfraith bethau, ac er mawr syndod i Dudley fe'i cyhuddwyd ef a Stephens o lofruddiaeth. Llusgodd yr achos trwy'r llysoedd am saith mis diflas a hir. Mynnai'r amddiffyniad fod cwch y Mignonette tu hwnt i afael cyfraith gwlad. Nac oedd, ebe'r Gyfraith. Roedd Britannia'n rheoli'r tonnau, hyd yn oed yn Ne'r Iwerydd.

Cafwyd y ddau yn euog, - roedd Brooks yn rhydd am ei fod yn dyst dros y Goron. Fe'u collfarnwyd i farw, ond newidiwyd y ddedfryd i gyfnod nominal yng ngharchar a'u gollwng yn rhydd.

***

ROEDD y gyfraith wedi ei dal mewn penbleth ac wedi blera ei ffordd i'r lan. Roedd y baledwr o Fôn mewn penbleth lawn mor ddyrys. Bwriad Duw a waredodd y pedwar llongwr suddodd y Mignonette. Duw â'u cadwodd yn fyw am bedwar diwrnod ar hugain yn y cwch. felly, a barodd achub y tri, er eu bod hwy wedi torri ei ddedfau Ef.

Hugh Roberts - Pererin Môn a fydryddodd y stori ar gân gyfer trigolion Môn, - prydydd lleol na wn i ddim amdano. David Jones oedd yr argraffydd. O 1862 ymlaen hyd 1891, o’i swyddfa yn 14 Stryd Wesla Amlwch, bu ef wrthi'n argraffu llyfrau a llyfrynnau i borthi’r farchnad leol am wybodaeth a deunydd darllen. Gwn am 25 teitl yn dwyn ei enw a chryn 40 o faledi, ond nid oes undim ar restr ei gyhoeddiadau agos mor llachar drawiadol â stori Llofruddio Cyfaill, 1884.

Gyda llaw mae stori'r achos cyfreithiol Regina v Dudley & Stephens newydd gael ei adrodd yn llawn mewn cyfrol gan A.W. Brian Simpson, athro cyfraith Prifysgol Caint, Cannibalism and the Common Law, Gwasg Prifysgol Chicago, 1984, pris £21.25.