CANIADAU GWENT A MORGANNWG ~
Aneirin Lewis a'i drysor mawr

Y DYB gyffredin yw mai un copi yn unig sy'n bod o Caniadau Gwent a Morganwg a olygwyd gan y Parchg. L.J. Hopkin-James (1874-1937). Yr oedd y copi hwn ym meddiant y diweddar Athro G.J. Williams a cheir ef heddiw ymhlith y llyfrau yn ei gasgliad ef yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Y tu mewn i'r clawr blaen ceir llofnod G.J. Williams mewn inc ac ar y tudalen nesaf yn llaw L.J. Hopkin-James mewn pensil: 'L.J. Hopkin James - Llanblethian Vicarage - Cowbridge'. Yna mewn pensil yn llaw G.J. Williams:

Yn Traddodiad Llenyddol Morgannwg (1948), t. 120, cyfeiria G.J.W. at y gyfrol wrth ymdrin â'r cwndidwyr. Meddai: 'Gŵyr darllenwyr Cymraeg fwy amdanynt nag am gywyddau ac awdlau penceirddiaid y dalaith, oherwydd cyhoeddwyd y rhan fwyaf ohonynt yn nwy gyfrol y Dr L.J. Hopkin-James, Hopkiniaid Morgannwg (1909) a Hen Gwndidau (1910). Yn ei drydedd gyfrol, Caniadau Gwent a Morganwg, cynhwysodd amryw o gwndidau'r ail ganrif ar bymtheg.' Eithr ni roddodd unrhyw wybodaeth am y gyfrol er na wyddai neb ond ef amdani!

Credaf mai'r unig ysgolhaig a oedd yn ddigon llygadog i holi yn ei chylch oedd Mr Ffransis G. Payne yn ei adolygiad yn Y Cymro. Meddai: 'Yn y penodau gwir bwysig hyn deuir i adnabod beirdd Morgannwg fel yr oeddynt ac nid fel y mynnai Iolo eu bod. Ond rhwbiais fy llygaid wrth ddarllen ar dudalen 97 (ac eto ar dudalen 143) am lyfr Dr L.J. Hopkin James, Caniadau Gwent a Morganwg. Dylasid fod sgrifennu (sic) nodyn ar y llyfr cwbl anhysbys hwn. Mae'r cyfeiriadau moel hyn ato mor brofoclyd â rhai o gyfeiriadau llyfryddol Iolo ei hun!'

***

YN EI ysgrif ar Edward Dafydd (c. 1600-78?) yn Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940, cyfeiriodd G.J.W. eto at 'lyfr anghyhoeddedig L.J. Hopkin-James, 'Caniadau Gwent a Morganwg' ...'. Pan ymddangosodd Y Bywgraffiadur yn 1953, yr oedd un o'r golygyddion wedi ychwanegu 'sydd yn Llyfrgell Caerdydd'.

Achosodd yr ychwanegiad hwn beth trafferth i lyfrgellwyr yng Nghaerdydd a chryn dipyn o embaras yn swyddfa'r Bywgraffiadur yn y Llyfrgell Genedlaethol! Yr oedd y llyfrgellwyr yn gwbl sicr nad oedd y fath gyfrol yn un o lyfrgelloedd Caerdydd a phan aethpwyd i holi awdur yr ysgrif yr oedd yntau'n gwbl sicr nad ef oedd yn gyfrifol am roi gwybodaeth anghywir am leoliad y gyfrol!

Pan ymddangosodd Iolo Morganwg, Y Gyfrol Gyntaf, yn 1956, eglurodd G.J.W. hanes y gyfrol (t. xvi) a sut y cafodd hi'n anrheg gan Miss Ceindeg Humphreys.

Y mae atodiad i'r stori hon. Yn 1976, yr oeddwn yn digwydd edrych ar silff o lyfrau ail law mewn siop arbennig a gwelais ar feingefn un ohonynt mewn llythrennau aur 'Caniadau Gwent a Morganwg'.

Agorais y gyfrol a gweld ar y ddalen ben gyntaf 'L.J. Hopkin James - Ystrad Mynach Vicarage - Cardiff' a'r un llofnod hefyd y tu mewn i'r clawr cefn. Yr oedd wedi ei phrisio'n £2.50.

Dywedodd y siopwr wrthyf nad oedd wedi gallu lleoli'r gyfrol hon. Gan ei bod ar werth, fe'i prynais, ac felly, y mae dau gopi o drydedd cyfrol L.J. Hopkin James ar gael.