PEDR FARDD 1775-1845 ~ gan Emrys Jones sy'n paratoi cyfrol newydd o'i holl emynau

MEWN YSGRIF yn Y Drysorfa Awst a Medi 1945 ar achlysur canmlwyddiant marw Pedr Fardd dywed J.R. Morris, Caernarfon "Ni fu neb fel Pedr Fardd yng Nghymru, ac fe erys ei lafur yn hir ... yr oedd yn ŵr o allu ac egni mawr."

Yn ei lyfr Prif Emynwyr Cymru fe roes Evan Isaac wrogaeth deilwng iddo, ac fe ddywed Syr Thomas Parry yn ei anerchiad i Gymdeithas Emynau Cymru "Y mae Pedr Fardd gyda'r mwyaf cymeradwy o emynwyr Cymru."

Os oes angen mwy o gymeradwyaeth a gwerthfawrogiad, pwy well i dystiolaethu na'i gyfoeswr a'i gyfaill Robert ap Gwilym Ddu:

Fe geir yn ei Gywydd annerch i'w gyfeillion Robert ap Gwilym Ddu a Dewi Wyn man ei wreiddiau ac fel llawer alltud arall ei gariad angerddol at Eifionydd:

Fe'i ganwyd yn Tan yr Ogof, Garndolbenmaen ar 17 Medi 1775 yn fab i William Jones neu William Jesus, teiliwr. Roedd William Jones yn ŵr neilltuol, yn ddysgedig a duwiol. Fe gadwai ysgol nos yn Tan yr Ogof ac yno hefyd y dechreuodd y Methodistiaid Calfinaidd bregethu gyntaf, hyn mewn cyd-gysylltiad â Hendre Howel, Cwrnystradllyn. Mae lle i gredu bod William Jones wedi derbyn ychydig o addysg trwy gyfrwng ysgolion Griffith Jones.

Oddeutu 1783, a'r mab yn wyth oed, fe symudodd y teulu i gadw Tŷ Capel Brynengan a godwyd yn 1777, blwyddyn y tair caib yn ôl y Parch Henry Hughes, Bryncir, a ddisgrifiodd Brynengan fel Jerusalem Gwynedd.

Roedd y teulu yn awr oddi mewn i un o ardaloedd mwyaf diwylliedig Cymru a'u cysylltiad yn agos â John Elias, J.R. Jones (Ramoth), Efan Richardson a Robert Jones Rhoslan ym myd crefydd, a Robert ap Gwilym Ddu, Dewi Wyn ac Elis Owen Cefn y Meysydd, ym myd yr Awen.

***

ROEDD William Jones yn fardd bro, yn gynganeddwr ac yn llenor a dyma gychwyn a sail i Pedr Fardd adeiladu arno. Diau fod Eifionydd yn teimlo'r dirwasgiad oedd yn dilyn rhyfel Bonaparte ac yn ugain oed fe aeth Pedr Fardd i Lerpwl i wella'i fyd ac i `ennill 'i fara'.

Ond ei brofiad fu

Dilynodd ei grefft fel teiliwr, bu'n glerc mewn swyddfa ac yn ysgolfeistr. Fe ddywed ei nai Nicander mai braidd yn wan oedd ei ddisgyblaeth yn yr ysgol ond er hynny roedd yn boblogaidd yn neilltuol felly gan aelodau yr Ysgol Sul.

Yn 1799 yn dair ar hugain oed codwyd ef yn flaenor yn Pall Mall, capel cyntaf yr Hen Gorff a agorwyd yn Lerpwl yn 1787. Fe arweinid yr Eglwys gan Daniel Jones mab Robert Jones Rhoslan a Samuel Jones ei frawd.

Gŵr llym ei gerydd a'i ddisgyblaeth oedd Samuel Jones ac am ryw reswm yn nechrau'r ganrif fe ddiarddelwyd Pedr Fardd er bod mwyafrif yr aelodau yn teimlo bod y ddisgyblaeth yn rhy lem. Mae'n amlwg mai dyma farn y mwyafrif canys ymhen dwy flynedd ailddewiswyd Pedr Fardd yn flaenor.

Dywed un o'i gyfoedion amdano mai ef oedd y galluocaf o'r blaenoriaid, ac er mai siaradwr lled afrwydd oedd.

Nid gormodiaith yw dweud mai ef oedd y galluocaf o holl aelodau Pall Mall. Wedi ei ailethol gyda dau arall fe'i holwyd yn fanwl, a dywedir yn yr adroddiad, "cafwyd hwynt oll yn dra chrynedig, oddigerth Peter Jones; lled hyf a siaradus oedd ef, ac nid more fodd longar y cafwyd ei attebion ynghylch Cyffes Ffydd ein Corph."

Mae Owen Elis Roberts yn ei ddarlith i Gymdeithas Eglwys Fethodistaidd Cymru yn lled-awgrymu mai dyma'r adeg yr ysgrifennodd ei emyn adnabyddus:

FE ysgrifennodd lawer i'r cyhoeddiadau Cymreig megis Goleuad Cymru a Seren Gomer a hefyd nifer o lyfrynnau ac fe gydnabyddir mai 'Y Catecism Ysgrythyrol' at wasanaeth yr ysgolion Sul oedd, yn ôl un awdur parchus, 'y dernyn cywreiniaf a welodd yn Gymraeg' ac fe'i cyfieithwyd i'r Saesneg fel y Scripture Compendium.

Fe fu hefyd mewn ymrafael â'r beirdd cenedlaethol ac yn ei awdl 'Cwyn y Bardd' fe ymddengys y canlynol uwch yr Awdl.

"Yn y flwyddyn 1815, pan ymosodwyd yn greulon arno gan liaws o feirdd yn Seren Gomer; gan fygwth ei droi allan a'i ddëol o gymdeithas yr awen, oherwydd iddo (fel yr haerent) ammharchu coffadwriaeth a chymeriad moesol y diweddar fardd T.E. o'r Nant." Roedd Jac Glan Gors yn un o'r erlidwyr fel y dengys y cwpled

Mae'n amlwg iddo deimlo i'r byw, ond ystyria'r cyfan yn genfigen:

***

FE gyhoeddodd ei farddoniaeth mewn cyfrol fechan yn 1823 o dan y teitl

Mel Awen
sef
Gwaith Awenyddol Peter Jones
o Lynlleifiad neu Pedr Fardd

Ynddo ceir anerchiadau barddonol gan Gutyn Peris, Robert ap Gwilym Ddu, Thomas Gwynedd, Ellis Owen Cefn y Meysydd ac amryw eraill.

Dywedir nad oedd ganddo 'awen fawr' ond fel y dywed J.R. Morris "Mae'r holl waith cynganeddol yn y llyfr hwn (Mel Awen) yn gyfryw ag y gall cyfangorff y genedl ei ddarllen a'i ddeall heb gynorthwy geiriadur ... ac y mae yma raen a chywreinrwydd mwy nag eiddo'r mwyafrif o'r beirdd."

Fe'i hystyrid gan ei gyfoedion, yn neilltuol felly ei gyfeillion o Eifionydd, ei fod yn fardd o safon, yn feistr ar iaith a chynghanedd heb i'r naill fod yn rheoli'r llall.

Yn ei gywydd coffa i Robert ap Gwilym Ddu fe gyfeiria loan Madog ato fel hyn:

Dyna gipdrem ar Pedr Pardd yn Lerpwl yn ei Gapel, ac ymysg ei gyd feirdd.

Mae'r mwyafrif o emynau Pedr Fardd ar gof a chadw y genhedlaeth sydd yn prysur ddiflannu, ond prin yw gwybodaeth ein cenhedlaeth gyfoes o fawredd ei waith. Oni ellir ei roi ar yr un gris â Phantycelyn, mae'n agos iawn iddo.

Yng ngweithiau Pedr Fardd mae rhyw gyfriniaeth syfrdanol, ond eto fe geir tipyn o athrawiaethu, efallai peth o'r 'Cyffes Ffydd'. At hyn oll fe sylweddolir maint y rhyfeddu a syndod yr emynydd pan mae'n canmol 'y Gras' – prif destun ei ganu.

Mae awgrym ei fod yn efelychu Pantycelyn ond nid yw hyn yn creu syndod. Mae ychydig o Bantycelyn yn ei emyn:

***

YN FFODUS fe gyhoeddodd Pedr Fardd ei holl emynau yn 1830 sef Crynoad o Hymnau – cydymaith i'r Ysgol Sabothol.

Yn ei gyflwyniad fe ddywed "yn nghyfansoddiad y rhai ni ofelais i ddim am gywreinrwydd barddonawl, a seiniau clymedig a chynganeddawl; ond, yn hytrach am synwyr ac eglurder ymadrodd".

Mae hyn yn eglur yn ei holl waith ac eithrio un Emyn, sef rhif 14:

Mae hwn yn emyn wyth pennill ac mae cynghanedd sain ym mhob dwy linell ond bod un eithriad yn y llinellau canlynol:

Fe awgrymwyd mai y darlleniad cyntaf oedd

Mae'r uchod yn gynghanedd sain berffaith, ond yn y 'Crynoad' y cwpled digynghanedd a geir.

Yn ei gasgliad o emynau 1847 mae Gwilym Hiraethog yn rhoi un llinell arall yn wallus, sef:

Llonyddodd Iesu'r dig, do ddig ei Dad.

Nid fel yna y mae yn y Crynoad, ond yn gynganeddol gywir:

Llonyddodd Iesu'r dig, do dig ei Dad.

Drwy drugaredd mae'r Crynoad wedi rhoi yr Emynau fel y cawsant eu cyfansoddi, a rhaid cyfaddef nad oes dim llawer o newid wedi bod. Dywed Syr Thomas Parry yn ei ddarlith mai'r ymyriad mwyaf oedd gadael pennill neu ddau allan a thrwy hynny, yn aml dorri ar rediad meddwl y Bardd.

***

YMYSG ei weithgareddau roedd ei waith yn hybu Cenhadaeth Dramor y Cyfundeb ac yn y Crynoad fe geir amryw o emynau cenhadol, y mwyaf adnabyddus yw:

Yn ddiddadl, mae'n un o'r mwyaf o Emynwyr y Diwygiad mawr, ond rhaid cofio bod eraill yn canu am yr Iawn, a dyma un enghraifft a godais o lawysgrif – gwaith gwerinwr:

Pwy tybed oedd y gwerinwr a gyfansoddodd y pennill yna?